Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Yr Ogofau
← Cymeriadau Enwog Caio | Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau gan William Davies (Gwilym Teilo) |
Afon Cothi → |
"YR OGOFAU."
FOD hen weithiau aur yn Nghymru sydd ffaith sydd yn awr yn cael ei haddef gan bawb. Y mae enwau megys Gelli-aur, Melin-yr-aur, Troed-yr-aur, a rhai cyffelyb, yn sicr o fod yn dwyn cysylltiad â hwynt. Mae llawer iawn o grybwyllion gan y cyn-feirdd yn nghylch llawer o bethau a wnaethent o'r aur, &c. Mae yn amlwg ei fod yn ymarferiad cyffredin i wisgo aur-dorchau gan ein tywysogion, a chadywyddion ein byddinoedd, yn amser Aneurin (bardd a flodeuodd yn y 6ed ganrif.) Pan yr oeddynt yn myned i ryfel, gwisgent hwynt am eu gyddfau, fel arwydd o anrhydedd, dylanwad ac awdurdod. Dywed Aneurin:—
"Try wyr a thriugait a thrichant eur-dorchawg."
Mae rhai o'r torchau hyn i'w gweled yn Dolau Cothi yn awr.[1] Sonia Llywarch Hen hefyd am ei gadagryf ddewrion-feib fel yma:—
"Pedwar mabarugaint a'm bu,
Eur-dorchawg tywysawg llu," &c.
Cawn hanes fod y Cymry hefyd (heb i ni ymhelaethu dyfynu o weithiau y beirdd, megys Owain Cyfeiliawg, &c., ar hyn o bryd yn mhellach,) yn addurno y medd-gyrn, y rhyfel-gyrn, yspardynan, tarianau, a'u gwisgoedd, a thrwsiadwaith o aur. Gellir casglu oddiwrth hynyna fod y Cymry yn gyfoethawg iawn yn y mŵn gwerthfawr hwn. Fe drethodd y Rhufeiniaid ein cenedl yn drwm iawn yn amser y brenin Cynfelyn (Cunobelinus,) a chawn mai mewn bathodau aur (gold coins) yr oeddynt yn ei thalu. Y mae rhai o'r bathodau hyn ar gael yn awr, y rhai sydd yn dwyn enw "Cynfelyn" un ochr, a'r gair Tascio, ysef taxing neu "dreth," ar yr ochr arall. Dywed Tacitus, yr hanesydd Rhufeinig clodfawr, yn hanes bywyd Agricola, tudal. 12, "Fert Britannia aurum et argentum et alia metalia, pretium victoria." Dyma dystiolaeth benderfynol ar y pwngc, er fod Caisar yn dyweyd mai arian, "prês," a "thyrch heiyrn," oedd gan y Cymry; ond y mae yn well genym ni gredu Tacitus yn hyn o bwnge na'r brenin!
Y mae Cynwyl Gaio, fel y crybwyllasom eisoes, yn cael ei henwogi gan yr Ogofau ysplenydd sydd yn ei hymyl, fel rhai oeddynt yn welyau i'r aur. Yma, mae yn debyg, yr oedd California Cymru, a dyma lle yr oedd ei chloddfeydd helaethaf a godidocaf.
Yn ystod arosiad y byddinoedd Rhufeinig yn Nghaio, y mae yn sicr weithian mai eu gwaith hwy yno ydoedd cloddio aur. Yn ei erthygl gampus ar "Gloddfeuydd aur cyntefig y Cymry," o waith y dysgedig Barch. Eliezer Williams, yr hon sydd yn argraffedig yn "Williams's English Works," a'r hon yn wreiddiol a ymddangosodd yn y "Cambrian Register,"[2] fe ddywed fod yr enw "Cynwyl" yn deilliaw o cyn, first, and gwyl gwylio, to watch or to be vigilant; dywed ei bod yn safle a feddianwyd gan advanced guards Caius; ac ebe fe, "It is probable that the advanced guard of the Britons was stationed at Cynwyl Elved (the advanced post of Elved,) a place situated a few miles to the south of Caio." Dywed fod y Gauliaid, yr Elfetiaid, a'r Britantiaid yn un bobl. Gellir casglu hefyd, oddiwrth gyfeiriad y bardd Llywarch Hen, fod Cynwyl ac Elfed yn orsafoedd o bwys; dywed "Cyfarwyddom ni cam Elfed." "Let us be guided onward to the plains of Elved." Mae y ffeithiau hyn yn profi yn ddiameuol mai yr hyn a gadwodd y Rhufeiniad cyhyd o amser yn Nghaio, ydoedd gwerthfawrogrwydd y mwn aur a lechai yn yr Ogofau. Mae y meddwl hwn yn taflu goleuni ar y gofyniad naturiol-"I ba ddyben yr oedd y Rhufeiniaid yn amddiffyn Caio a chaerau mor gedyrn?" Gwelir yn eglur yn awr mai er dal meddiant hollol o'r Ogofau. Rhaid fod y mwn yn un gwerthfawr,[3] cyn iddynt gloddio y fath ogofeydd eang, a gwneyd y fath dramwyfeydd tanddaearol rhyfedd, y rhai sydd yn syndod i holl wyddonwyr y deyrnas i'w gweled. Os cywir y cofiwn, y mae nifer yr Ogofau yn wyth. Y mae rhai wedi tramwyo i mewn iddynt mor bell a haner milldir; ond bernir nad oes neb wedi cyrhaeddyd eu man eithaf. Nid oes dadl na fuasai y Rhufeiniaid wedi tan-gloddio y mynydd i gyd! Dyna feiddgarwch! tyllu i mewn i galon y creigiau, heb gymhorth na "gun cotton" na phylor! Y mae hofferynau i'w canfod yn awr yn nghreigiau anferth yr Ogofau! Wedi teithio i mewn iddynt, yr ydym yn dyfod o hyd i ystafelloedd eang-fawr, i golofnau ysplenydd wedi eu cerfio o'r creigiau, ac uwchben y mae eu nen yn ymddysgleirio fel y grisial tryloywaf, nes y mae goleuni gwanllyd y ganwyll yn eu dangos mewn gwahanol liwiau, megys rhai prydferth yr enfys, yr hyn sydd yn creu braw drwy'r fynwes, gan eu harddunedd mawreddog, a'u gwychder ysplenydd. Mae nant fechan i'w chlywed obry! obry! megys yn nyfnderoedd y ddaear, yn berwi fel crochan, nes y mae ei hadsain yn dragywyddol furmur, yn adseinio yn yr Ogofau, o graig i graig—o glogwyn i glogwyn—nes creu dychryn nid ychydig ynom. Dywed Mr. Smyth, M.A., yn ei "Memoirs of the Geological Survey of Great Britain, and of the Museum of Economic Geology," 1. page 480, (Gwel hefyd "Archæologia Cambrensis," vol 1. iii series, page 800,)—"The majority of the workings, extending to a considerable depth for some acres over the side of the hill, are open to the day, or worked as usual in the early days of mining, like a quarry, and the rock through which the lodes run, a portion of the lower silurian rocks, is in many cases exposed, and exhibits beds much contorted and broken, though having a general tendency to dip northward. Here and there a sort of cave has been opened on some of the quartz veins, and in some cases has been pushed on as a gallery, of the dimensions of the present day, viz. 6 or 7 feet high, and 5 or 6 feet wide; and among these, two of the most remarkable are kept clear by Mr. Johnes, and, being easily accessible, allow of close examination. The upper surface of the hill is at this, the south-western extremity of the workings, deeply marked by a trench running north-east and south-west, similar to the excavations technically called open casts, where the upper portion of the lodes were in very early times worked away; and when it was afterwards found disadvantageous to pursue the lode in this manner, a more energetic and experienced mind must have suggested the plan of driving adit levels from the north face of the hill through the barren rock, in order to cut the lode at a greater depth than it could be otherwise reached; and the perseverance in driving 170 feet through the slate, in each of the levels in question, was no doubt based on a sufficient knowledge of the continuous nature of the mineral lode."
"Subsequently follows a parallel between the Gogovau and the extraordinary hill called Cstate, at Verespatal, in Transylvannia, within the confines of Dacia Ulterior, where the grand arches and roomy tunnels, wrought in hard sandstone and porphyry, by that enterprising people, the Romans, throw into the shade the puny works of their followers, and prove that the art of extracting gold from quartz, even when invisible to the naked eye, was then understood."[4]
Y mae y dyfyniadau blaenorol yn ddysgrifiad cywir sefyllfa bresenol yr "Ogofau."
Mae y fynedfa i'r Ogofau mewn man pur ryfeddawl. Y mae pant mawr yno, a darnau o hen greigiau aruthrol yr olwg arnynt, yn ymddangos fel hen olion castell mawreddig, neu amddiffynfa gadarn a dyrchafedig. Mae yn eithaf amlwg fod y lle hwn wedi bod ryw amser yn cael ei ysgwyd gan ddaeargrynfâu arswydus.
Dywed Mr. Williams yn mhellach, "Fe ddywed Pliny yn ei Hanesiaeth Naturiol, ei fod yn arferiad cyffredin gan y milwyr Rhufeinig, pan yn sefydlog yn y taleithiau Yspaenig, i gloddio mynyddau cyfain pan y tybient eu bod yn cynwys y mwnau gwerthfawr. Eu bod yn arwain cŵrs afonydd, ac yn eu gosod i ddylifo i waered dros oredau anferth, nes y byddai holl nerth y peiriant naturiol ac anorchfygol hwn yn chwareu ar droed neu wadn y mynyddau a gloddient, nes eu llwyr ddadwreiddio!" Dyma bobl ryfedd, onide! Yr oedd ganddynt oredau a chynlluniau ereill, y rhai oeddynt yn atal y tywod a'r rwbal rhag myned i waered gyda'r llif, yr hwn a sifient drwy ograu, megys ag y maent yn y dull presenol yn y wlad hon, gan wasgaru yn rhwydd felly yr aur oddiwrth y defnyddiau diwerth eraill, sorod, &c. Y mae hanes cyffelyb am y Rhufeiniaid, pan yn gorsafu yn ymyl mynyddau a gynwysent aur, neu ryw fwnau gwerthfawr ereill, gan Rollin yn ei “An— cient History."
Y mae yn ymddangos fel peth diamheuol, mai gweithrediadau o gyffelyb natur i'r rhai a enwyd oedd yn cael eu dwyn yn mlaen ganddynt yn Ogofau Cynwyl Gaio. Ac y mae yn fwy na thebyg fod yr afon fechan sydd i'w chlywed yn murmuro yn awr yn yr Ogofau hyn, wedi bod yn gwasanaethu arnynt, megys y sylwasom uchod ar y defnydd a wnaent o afonydd, pan y byddent yn gyfleus. Y mae i'w weled yn awr, yn agos i'r man lle tardda y Cothi, olion rhyw fath o dwmpath mawr, neu "mole,"—yr hwn, y mae yn debyg, oedd yn andwyo yr afon o'i chŵrs naturiol, neu arferol. Y mae ffordd yr hen ddwfrlwybr (aqueduct) i'w ganfod yn eglur yno yn awr, ac y mae olion yn ymddangos hefyd, y rhai a roddant ryw gipdrem i ni feddwl am y nerth gyda pha un yr ymarllwysai y llif i waered. Yr oedd dwfr, wedi ei gyfyngu felly, yn grych anwrthwynebadwy, ac yn ddigon nerthol i ddysgubo y cwbl ymaith o'i flaen. Y mae y pwll mawr, yr hwn a ffurfiwyd gan ei ddyfrgwymp, ac a elwir "Pwll Uffern Gothi," yn dangos yn eglur i ni gyda pha nerth y disgynai y dyfroedd dros y graig. Barna yr un awdwr dysgedig eto, fod y camlas (canal,) olion pa un ydynt i'w canfod ar y bryn sydd gyferbyn a'r Brunant, yn sicr o fod filltir uwchlaw i wely yr afon o ba un ei codwyd! Oddiyma yr oedd yn cael ei arwain yn gornant i'r man uchelaf, yn union uwch ben cloddfeydd mwnawl yr Ogofau! Atelid ei gŵrs wed'yn, a chrynhoid ef i ddyfr—gronfa (reservoir) anferth, er iddo gasglu ei nerth, cyn ei ollwng i ymarllwys ar draws y cloddiau islaw! Pan nad oedd angen y dwfr hwn arnynt, yr oedd yslyw (sluice,) megys ag y barna Williams, ar yr ochr arall i'r ddyfr—gronfa, lle y gollyngid ef i ddiangc, gan ei arwain drwy ffôs (dyke,) olion pa un sydd i'w gweled eto yn ymyl Caio, lle yr ymarllwysai i nant fechan, yr hon, yn mhell islaw, sydd yn cymysgu ei dyfreedd â rhai y Cothi.
Ar lanau y camlasau hyn, yr oeddynt yn adeiladu melinau a pheiriannau defnyddiol ereill, y rhai a gedwid i weithio drwy nerth y dwfr a dynwyd yn wreiddiol o'r afon! Dyna oedd "Melin y Milwyr," am yr hon yr ydym wedi son yn barod. Ystyr yr enw Milwyr ydyw mil o wŷr (1000 men.) Tybir fod pob rheng, megys ag y maent yn awr, yn cynwys mil o wŷr. Yr ydym yn cael fod hen olion melinau, o gyffelyb waith, i'w cael yn mhob man lle y bu y Rhufeiniaid yn gorsafu. Y mae hefyd ryw bethau cyffelyb i'w gweled yn yr Amerig Ddeheuol. (Gwel "Williams's English Works," p. 165.) Dywed yr un awdwr, tudal. 154, fod llawer o drigolion plwyf Caio yn tybied eu hunain yn olafiaid i'r Rhufeiniaid; dywed hefyd eu bod yn ymfalchio yn hyny, ac fod enwau Rhufeinig yn beth cyffredin yn eu mysg. "Y mae person yn awr (ebe fe) yn fyw, yr hwn sydd yn dwyn yr enw Paulinus, ond y mae y presenol Baulinus, yn lle bod yn llywyddu byddinoedd, ac yn trais-ruthro ar deyrnasoedd, yn gweithio fel dydd-weithiwr, ac yn byw yn ddigon ymfoddlongar yn ei fwthyn!"
Y mae maen mawr yn ymyl y fynedfa i'r Ogofau, yn tynu ein sylw, gwyneb pa un a ddengys ei fod wedi ei gafnu mewn pedwar neu bump o fanau. Barna Mr. Smyth (Gwel "Archæologia Cambrensis," p. 300) mai ar y maen hwn yr oeddynt yn tori y mŵn, fel y gallent yn rhwydd ei ddosparthu oddiwrth y rwbal a'r sorod. Ond cofnoda Williams eto, yn ei weithiau ysplenydd, tud. 155, yr hen chwedl a ganlyn yn nghylch y maen hwn:—
"Yr oedd pamp o saint ieuaingc ar eu pererindod tua chreirfa (shrine) Ty Ddewi, ac yn herwydd en bod yn flinedig ac yn newynog ar eu taith, hwy a orweddasant, ac a orphwysasant en penau ar yr hen glustog fawreddog hon. Fe gauodd cwsg eu llygaid yn fuan, fel na allent ddala allan yn mhellach, drwy rym eu gweddiau, gynllwynion eu gelynion. Fe döwyd y nen yn fuan â chymylau gordduon, fel y collwyd pob gwrthddrych yn nghysgodion y nos dywyllaf. Yr oedd y taranau yn rhuo, y mellt yn llechedenu, a'r gwlaw yn disgyn i waered yn llifeiriant chwyrnwyllt. Fe gynyddodd yr ystorom nes yr ymsythodd holl anian gan yr oerfel, ac fe deimlodd hyd yn nod duwioldeb a thosturi ei effaith rewol. Fe drodd y gwlaw yn gesair anferthol, y rhai a yrwyd gan y gwynt yn chwyrnwyllt a chyda nerth mawr yn erbyn penau y pump pererin blinedig, nes sicrhau eu penau wrth y glustog, olion pa rai ydynt y pum' twll sydd yn awr i'w gweled yn y maen. Wedi cael eu cludo mewn llawenydd gan y swynwr oedd yn meddiannu yr Ogofau yn y bryniau hyn, hwy a guddiwyd yn un o'u celloedd mwyaf dyogel, yn mha le y cadwynir hwynt gan annhoredig gadwynau swyngyfaredd, hyd nes bydd yr esgobaeth wedi ei bendithio âg Esgob duwiol."
Y mae traddodiad hefyd fod Owen Law Goch yn gorwedd dan effaith swyngyfaredd yn Ogof Merddin, a phan ei dihunir y daw y Cymry eto yn berchenogion ar yr ymerodraeth a gollasant, ac y cânt berffaith oruchafiaeth ar bob cenedl a fyddo yn fwy anwybodus, ac yn fwy anfoesawl na hwynt-hwy.
Yr ydym yn gwybod am amryw o Ogofau y dywedir fod "Owain Law Goch" yn huno ynddynt, megys Ogof Pant-y-Llyn, yn ymyl Llandybie, yn mha le, er's amryw o flynyddoedd yn ol, y deuwyd o hyd i bedwar ar ddeg o ysgerbydau (skeletons) dynion. Gwel ddarlun o honynt yn "Dillwyn's Swansea."
Y mae y chwedl ddifyrus a ganlyn yn cael ei choffa gan ein hawdwr eto:—
"Yr oedd ymdeithydd unwaith yn ymweled â'r gymydogaeth enwog hon, a phan oedd ar gefn ei arweinydd yn croesi y Cothi, yn agos i'r 'Mole' y soniasom am dano eisoes; ond cyn myned haner y ffordd dros y llifeiriant, i lawr yr aethant dwmbwl—dambal! Ond gan mai tric 'planedig' ydoedd, yr oedd yno wrth gwrs gyfaill i'r arweinydd wrth law i estyn cynorthwy i'r ymdeithydd, a'i dynu i dir sych yn ddyogel." Yr oedd hon yn ffordd ysmala, ac yn wir, ar ryw ystyr yn beryglus, i dynu arian o logell y dysgedigion a'r hynafiaethwyr diniwaid a fyddent yn talu eu mynych ymweliadau â chymydogaeth yr Ogofau. Gan fod yspryd prydyddu yn teyrnasu yn y gymydogaeth, wrth gwrs, ni chawsai joke mor ddigrif fyned heibio heb ei chofnodi gan yr awen. Y mae yr hynafiaethydd a fu ar gefn yr arweinydd yn y "Votas" yn cael ei gynharú i fuwch, yr hon sydd yn atal ei llaeth hyd nes y GWLYCHIR ei thethau! Ah! dyma y secret, yr oedd y gŵr yn un cybyddlyd, ac yn cadw ei law megys ar ei logell, rhag rhoddi gormod i'w arweinydd am y drafferth o fyned ag ef oddiamgylch i ryfeddodau yr ardal! Dyma yr englynion, os gellir eu galw yn englynion hefyd,—
"Wyr! dyma frodir hyfrydion,—gwalchod |
Gwlych y deth, y gwalch uchel, |
Englyn arall:—
"Gwr am chwech trwy afon fechan,—ddyg ddyn, |
Yr oedd yr ysgrifenydd yn dysgwyl cael rhyw awgrym yn nghylch yr Ogofau yn y "Cambrian Triumphans," "Liber Landavensis," y "Iolo MSS.," neu yn "Camden's Britannia," ond yn hyn fe'i siomwyd. Mr. Williams ydyw yr unig hynafiaethydd ag sydd wedi taflu ei enaid megys i'r testyn; ac mae yn rhaid cyfaddef, na fuasai genym ddim (ond ffiloreg rhai o "Ysgol y bendro," efallai) o bwys ar lawr, yn nghylch y lle rhyfedd hwn, oni buasai ef. Dylasem ddyweyd hefyd fod yr ysgrif sydd ar feddfaen Maes Llanwrthwl i'w gweled yn "Camden's Britannia." Fe gafwyd careg yn ymyl y Black Cock, ar fynydd Trefcastell (gwel "Williams's Works," p. 154,) yn dwyn yr ysgrif "Poenius Posthumus." Dywed ef fel yma (a chyfeiria at Annals of Tacitus, book 14, chap. 37,) "Poenius Posthumus, who had disgraced himself by his irresolution and misconduct, (i. e. during the absence of the Roman Army on the expedition to Anglesey, when the indignant Britons put several Roman garrisons to the sword, and Paulinus, on his return, gained a complete victory over them,) was so mortified by his success, and so chagrined at the contempt in which he was held by the legion, whose military lustre he had sullied, that he added to his other imprudent deeds, the most unjustifiable of all actions, that of laying violent hands on himself." Yr ydym yn barnu mai yr un maen ydyw hwn ag a ddysgrifir gan Jones o'r Derwydd, yn ei "History of Wales," cerflun o ba un sydd i'w weled gan Theo. Jones, yn ei "History of Brecknockshire," ac ei fod yn dwyn arno yr hyn a ganlyn, "Imp. Cassiano," "Imperatori Domino Nostro Marco Cassiano Latino posthumo pio felici Aug." Mae yn rhaid i ni gyfaddef fod y tipyn gwybodaeth o'r Lladinaeg sydd genym wedi ei dirwyn i'r pen wrth geisio chwalu ystyr y llinellau yma. Gan mai yn yr un fan y cafwyd y cerig, mae genym le i feddwl mai yr un ydynt. Ond sut y mae un yn "Ponius Posthumus," a'r llall yn "Posthumo Pio," sydd yn ein dyrysu; pe baem ni yn cael cyfle i weled yr ysgrif wreiddiol, gallem wed'yn benderfynu pa un sydd yn iawn. Dywed Jones, yn rhagymadrodd ei History of Wales, i'r maen hwn gael ei symud gan ryw "Vandal" o Drefcastell, a'i fod yn mur Parc Dinefwr. Yr ydym wedi gwneyd ymchwiliadau am dano yno, ond yn aflwyddiannus. Symudwyd ef, ebe fe, yn y flwyddyn 1769.
Yn mhlith pethau ereill sydd o bryd i bryd wedi eu darganfod yn Nghaio a'r ardal, y mae dwy wddfdyrch aur (gold torques) wedi eu cael ar dir y gwladgarawl J. Jones, Ysw,, Dalaucothi. Y mae yn meddiant y boneddwr hwn faen gwerthfawr a elwir Amethyst, ynghyda bust (intaglio) o'r dduwies Diana. Cafwyd hefyd yn y flwyddyn 1792 dair mil o fathodau copr, ac yn eu plith yr oedd rhai o amser Gallienus, Solina, ac o'r deg-ar-hugain gormesdeyrn ereill. Y maent yn'dyfod o hyd i rywbeth yma yn barhaus, yr hyn sydd yn brawf anwrthwynebol fod y Rhufeiniaid wedi bod mewn rhwysg a mawredd yma yn y canrifoedd a aethant heibio. Nodwn yn y fan yma eto, fod y "Gododin" yn llawn o gyfeiriadau yn nghylch yr "aur dyrch." Nid oes un ddadl nad cyfeiriadau at yr addurniadau, megys llun eryr, llew, neu darw, a grogai ein tywysogion gynt am eu gyddfau, ydynt y rhai a ganlyn, a rhai cyffelyb:—
"Eryr Pengwern, pell gelwid heno;
Ar waed gwyr gwelid."
"Tarw trin, rhyfel adwn."—LLYWARCH HEN.
Yn awr, ni a awn rhagom i wneuthur rhai sylwadau ar yr AFON COTHI.
Nodiadau
golygu- ↑ Gwel Attodiad.
- ↑ "C. Register," vol. iii. p. 31. Published in 1818, and dedicated to the Rev. Thos. Beynon, Archdeacon of Cardiganshire.
- ↑ Y mae Syr Joseph Banks yn barnu mai cloddfeydd aur oeddynt.
- ↑ "The Geological Survey," ebe Mr. Smyth yn mhellach, "discovered, however, a specimen of free gold in the quartz of one of the lodes, and thus corroborated the evidence which tended to prove that the mines were worked for gold."
- ↑ Armel, Armael,—Second milk.