Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Cyfoeth Mwnawl y Plwyf

Gwaith Plymouth Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Golygfa Ddychymygol ar y Lle Bedair Canrif Yn Ol

CYFOETH MWNAWL Y PLWYF

Anturiwn ddyweyd nad oes nemawr o blwyfau yn Mhrydain Fawr, os oes yn y byd, le o'i faintioli mor gyfoethog a phlwyf Merthyr Tydfil. Ymffrostia rhai yn nghyfoeth yr еuraidd wledydd pellenig megys Nova Scotia, Columbia Brydeinig, California, ac Australia. Ond anturiwn yn hyf ddyweyd na fedda y naill na'r llall o'r lleoedd a nodasom fwy o gyfoeth na phlwyf Merthyr Tydfil. Ac er cymaint y gweithio sydd wedi bod ar y mwnau hyn yn y can mlynedd diweddaf, nid ydys eto ond megys dechreu agor y cilddorau iddynt, fel y gellir dywedyd yn hyf nad oes ond prin un ran o bump eto wedi ei gweithio yn y plwyf. Ac i'r dyben i'r darllenydd gael mantais deg i ffurfio barn am fawredd y cyfoeth sydd yn guddiedig yn nghronbilau ei greigiau, ni aroddwn fraslun o honynt yn iaith yr estroniaid sydd tu draw i Glawdd Offa.

Felly, gwelwn y bydd llawer o genhedlaethau wedi cicio sodlau eu gilydd dros ddibyn amser cyn y bydd i'r darn olaf o'r gwythienau a enwasom gael ei godi i oleuni haul. Er i un hen wreigen oedd yn byw rhywle tua Phant-y-waun ryw ganrif a haner yn ol, fawr achwyn ar y drafferth oedd arni hi ac ereill y pryd hwnw i gyrchu glo o Daren-Penallta, ger Ystrad Maenarch,i Bant-y-waun, a manau ereill yn y plwyf. Ond yn mhen rhyw dymor o amser bu rhaid tynu ei hen fwthyn i lawr i'r dyben o gael gweithio glo odditano, oblegyd yr oedd o fewn chwech troedfedd i gareg ei haelwyd! Yr oedd hyn yn ffaith na fuasai yr hen ddynes yn debygol o'i chredu pe buasai rhywun yn ei hysbysu iddi.

Eto, rhoddwn enwau rhai o'r Gweithiau glo drwy'r plwyf, yn nghyd a'u perchenogion.

Enwau y Gweithiau. Perchenogion.
Cwmbargoed Cwmpeini Dowlais,
Rhôs Las Cwmpeini Dowlais
Penydaren Cwmpeini Penydaren
Lefel Meredydd William Meredydd
Gethin Crawshay, Ysw.
Graig William Rees
Castell y Wiwer Crawshay, Ysw.
Troedyrhiw Mr. Thomas
Troedyrhiw Lefel E. Brown
Danyderi Samuel Thomas.
Hafod Tanglws[1] Crawshay, Ysw
Perthigleision Benjamin Davies.

Hefyd, mae yn Nhroedyrhiw gwarelau meini o'r fath oreu. Cafwyd llawer o geryg o'r lle hwn tuag at adeiladu yn Merthyryn yr ugain mlynedd diweddaf. Perthynai cwarel Tyntal-dwm, pan oedd gweithio ynddo bumtheg mlynedd yn ol, i Llewellyn's y Begwns. A'r rhai Castell-v-wiwer, i'r ddau Gymro adnabyddus, W. Davies a John Llywellyn. Bernir fod gweithio glo i wneuthur tanwydd mewn ymarferiad yn y plwyf hwn tua'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg. Darganfyddodd Clarke, wrth wneud ei ymchwiliadau yn ddiweddar, olosg glo mewn ryw ran o adfeilion Castell Morlais; ond nid oes unrhyw sicrwydd o ba le y cludwyd ef yno. Barnai rhai ei fod yn cael ei weithio yn Cwmyglo mor foreu ag unrhyw fan yn y plwyf. Ond nid ydyw hyny yn amgen na thraddodiad na ellir yn hawdd ymddibynu arno mai hwn oedd y lle cyntaf ei gweithiwyd yn y plwyf. Ond i'r dyben o roddi hysbys rwydd i'r oesau a ddel, ni a gofnodwn rai o'r lleoedd cyntaf y gweithiwyd glo at wasanaeth y wlad yn gyff redinol.

Cwmyglo, Cwmdu, ger Troedyrhiw, lle bu yr hen lysieu-feddyg enwog, adnabyddus wrth yr enw Abram y Doctor yn byw.

Coedcae, Tyntal-dwm, Craig-tir-y-Cook, a gwythien Shan-Wil-bach, yr hon ydyw yr isaf yn y plwyf ag y bu gweithio arni. Ysgubwyd olion y gwaith bychan hwn oedd ar gyfer godreu Ynys-pont-y-gwaith pan y gwnawd cledrffordd Dyffryn-Taf, tua'r flwyddyn 1841. Cafodd yr enw oddiwrth hen wreigen a fu yn byw, ac yn gwerthu glo o'r lle hwn, tua phedwar ugain mlynedd yn ol. Bu merch iddi o'r enw Ann yn briod a dyn o'r enw Thomas Owen, yr hwn oedd yn bysgotwr enwog, ac yn cadw tafarn yn mhentref y Nantddu, yn ngodreu y plwyf hwn, oddeutu haner can mlynedd yn ol, pan nad oedd ond un ffordd dramwyol i deithwyr rhwng Merthyr a Chaerdydd; a'r ffordd hon, yr amser hwnw, yn arwain heibio drws eu ty, fel yr oeddid yn arfer sefyll yma i gymeryd ymborth ac ychydig seibiant.

Y fath yw cynydd a mawredd masnach yn y plwyf hwn, a hyny ar gyfrif ei gyfoeth mwnawl, fel mae y tyddynod oeddynt yn cael eu rhentu am ddeg neu ddeuddeg o bunoedd er ys canrif yn ol, yn cael eu rhentu yn awr, gyda yr un rwyddineb, am £50, neu £60 yn y flwyddyn. Cafodd hen daid i'r awdwr gynyg ar dyddyn Ynys Owen am £13 yn y flwyddyn, cyhyd ag y buasai careg yn afon Taf! Ond yr oedd mor ddall a methu gweled nad oedd hyny yn llawer na allasai wneud o hono. Tir Pencraig-daf a brydleswyd tua'r amser hwnw am £29 yn y flwyddyn, a phan aeth yr amod weithred hono allan, er ys ychydig mwy amser yn ol, codwyd ei rhent flynyddol i £104. A diau fod llawer o'r cyffelyb ar hyd a lled y plwyf a allem gofnodi, ond caiff y rhai yna wasanaethu yn enghreifftiau o rai ereill ag y mae y mwnau wedi bod yn achosion i beri y cyfnewidiad hwn.

Mae mawr a rhyfedd ddoethineb, yn gystal ac holl wybodaeth ac hollalluawgrwydd yn cael ei amlygu yn yr adnoddau gwerthfawr hyn gymaint ag un peth is haul! Pan oedd y boblogaeth yn anaml, nid oedd yr angen gymaint, ac nid oedd wedi taraw i feddwl neb am y trysorau mawrion oedd Saerniwr mawr y greadigaeth wedi ei osod o fewn hyd cyrhaedd dyfais a gallu bod rhesymol! Ac wedi gosod yr arwres anian i daenu ei chwrlid gwyrddlas drostynt i'w haddurno! Pwy mor ffol a'r anffyddiwr?

Yn awr brysiwn yn mlaen i draethu ar y pethau canlynol.

Nodiadau

golygu
  1. Gall mai oddiwrth sant a gydoesodd a Tydfil, yn yr ardal hon, y derbyniodd yr enw.