Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Hanesiaeth gyffredinol
← Terfysgoedd 1800, 1816, 1831 | Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf) |
Yr Eglwys Wladol Dechreuad a chynnydd Ymneillduaeth → |
HANESIAETH GYFFREDINOL
Wedi i'r ystorm aflwyddianus hon fyned heibio, a'r cleddyf gael ei roddi yn y wain, duwies rhyddid a heddwch gwhwfanu eu banerau yn awelon tyner y dydd uwchben y gweithiau a chartrefleoedd y meistri, aeth pethau yn mlaen yn llwyddianus fel cynt; ond heb enill yr un fantais i'r naill na'r llall o'r pleidiau ymrysonawl. Ac os enillwyd rhywbeth, oerfelgarwch a gelyniaeth ddiymwared oeddynt y cyfryngau a ddangosir gan y nail! a'r llall tuag at eu gilydd. Ond rhaid i ni adael hyn yn bresenol, a throi ein hwynebau yn ol i'r flwyddyn 1815, er mwyn rhoddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir o gynydd y lle. Nid oedd yma y pryd hwnw ond 23 o dafarndai yn y cwbl, 1 darllawdy, 12 o faelfaoedd, 5 cigydd, I swyddfa argraffu, 2 oriorydd, a 2 ariandy. Erbyn 1863, yr oedd yma 305 o dafarndai, a 99 o'r rhai hyny a thrwyddedau i werthu gwirodydd poethion, 8 darllawdy, 161 0 fuelfaoedd, 2 ariandy, 5 swyddfa argraffu, a 54 o gigyddion.
Yn y flwyddyn 1802, cafodd Merthyr yr anrhydedd o roesawi Arglwydd Nelson, yn nghwmpeini yr Arglwyddles Hamilton, ciniawodd yn y Star, a rhoddodd gini rhwng y gwyddfodolion iddynt gael yfed iechyd da iddo yn yr iaith Gymreig: yn y cyfamser pan oedd yn edrych drwy y ffenestr, adnabyddodd ddyn o'r enw William Ellis, yr hwn a'i gwasanaethodd ar y mor, galwodd arno wrth ei enw, a rhoddodd gini iddo yntau, iddo gael yfed iechyd da idd ei hen feistr. Teimlid cryn ddyddordeb gan drigolion y lle yn ymweliad y mor-ryfelwr enwog hwn, ac i'r dyben o ddangos hynny pan oedd Nelson yn myned heibio, taniasant gyflegr ger yr odynau calch, yr hyn yn anffodus a ddygwyddodd fod yn achos marwolaeth i fachgenyn bychan oedd llaw; o'r herwydd hyn teimlodd yr Arglwyddes yn wir ofidus, fel y rhoddodd £8 i'w berthynasau tuag at dreuliau ei gladdu yn anrhydeddus. Ymadawodd Nelson oddiyma yn orfoleddus, ond i beidio dychwelyd mwy, oblegyd yn mhen tair blynedd syrthiodd yr arwr rhyfedd hwn yn mrwydr fythgofiadwy Trafalgar.
Yn amser ein rhyfeloedd a'r gormeswr Bonaparte y 1af, yr oedd byddin o wirfoddolion ar Gefn Coed-y-Cymer, i'r dyben o fod yn barod pan fyddai galw arnynt fyned i'r maes yn erbyn y Ffrancod. Ac fel y mae plant yn dueddol i efelychu y pethau fyddont yn denu mwyaf ar eu sylw, arferai plant yr ysgolion ag ereill ymffurfio yn fyddin i ddynwared y fyddin wirfoddol y soniasom am dani. Wedi Mr. R. Crawshay glywed am, neu weled y fyddin ieuanc hon, rhoddodd wahoddiad iddynt ddyfod o flaen ei dy ef i ddangos en hunain gyda'u harfau coed, a gyfrifant hwy yn delweddu arfau angenol y milwr. Ac yn ol i'r dydd penodedig ddyfod, gorchymynodd iddynt wneyd eu ffug-ymladdfa, yn yr hyn y cafodd gryn ddyfyrwch a dyddordeb fel y rhoddodd iddynt yn helaetho fwyd a diod, yn nghyd a gini o arian idd eu rhanu rhyngddynt am eu gwrhydri.
Castell Crawshay a adeiladwyd yn y flwyddyn 1825, yn y man y safai yr hen amaethdy hwnw oedd yn myned dan yr enw Bryn-cae-Owen. Mae iddo 365 o ffenestri, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn, am hyny, difuddiwyd ei berchenog o hono yn ffafr y Goron, hyd nes iddo wneud rhyw gydnabyddiaeth a'r llywodraeth am yr hyn a ystyrient yn drosedd. Costiodd ei adeiladu £30,000 ac y mae yn anrhydedd i'r ardal a'r wlad ei arddel; oblegyd y mae wedi ac yn bod yn artref achlysurol i ddynion a godasant o ddinodedd i fod yn mhlith y dynion cyfoethocaf a fedd y deyrnas, a'r cyfoeth hwnw, gan mwyaf, wedi ei gloddio allan o berfeddion y creigiau a gylchynant Merthyr Tydfil. Ar yr 21ain o Fai, 1846, dydd priodas Robert Thompson Crawshay, Ysw., yr oedd y castell wedi ei wisgo yn ei ogoniant, gyda gwyrdd-ddail a phob blodeuwaith addurnol a allasai y meddwl dynol, mewn byr amser ei gynllunio. Gwaith y Gyfarthfa wedi sefyll—maelfaoedd cymydogaethol oll yn nghau, a miloedd o ddynion, o Ferthyr i Droedyrhiw yn aros i'w weled ef a'i gymhares, fel y gallent gael hamdden i'w croesawi à banllefau, nes oedd glenydd yr hen Daf yn diaspedain.
Tua phedair blynedd yn ol, cymerodd mawr orfoledd le eilwaith mewn cysylltiad a'r lle hwn, pan adnewyddwyd prydles y Gwaith. Try-oleuwyd y dref a'r gymydogaeth gan ganwyllau a nwy, a rhoddwyd amryw areithiau grymus, a bloeddiadau gorfoleddus i'r perchenog William Crawshay, Ysw, Caversham Park, Llundain, yr hwn sydd yn awr mewn gwth o oedran, a phan gwnaeth ei ewyllys yn ddiweddar, dywedir ei fod yn werth myrddiwn a haner o bunau.
Cafodd y lle hwn hefyd yr anrhydedd yn ddiweddar o roesawi yPrince of Orange,pan ar ei daith drwyGymru.
Eto, at y cyfarfodydd mawreddog sydd wedi cael eu cynal yn Merthyr, ar wahanol adegau ac achosion, gwnawn goffa yr un mawreddus a gynaliwyd yn nhy'r farchnad,tua thair blynedd yn ol, pryd y pregethodd y Parch. C. H. Spurgeon i dorf o amryw filoedd o wrandawyr astud ac ystyriol; a diau у siaredir am y cyfarfod hwn yn mhen canrif eto, fel peth neillduol hanesiaeth yn y lle.
Yr oeddem yn awr wedi dilyn, nes oeddem o flaen ein hanes; oblegyd yn y flwyddyn 1849, ymwelwyd a'r lle hwn gan y geri marwol, ac ysgubodd oddiyma i'r byd mawr tragywyddol y nifer syn o 1,432 ' Nid oedd nemawr dy yn dianc heb brofi pwys y fflangell geryddol hon! Yn fynych byddai dau neu dri yn cael eu cymeryd yn glaf yn yr un teulu, a hyny ar yr un pryd, heb ond yn anaml un yn gwellhau. Cludid rhai ar gerti, tua'r gladdfa, o ganol gruddfanau ac ocheneidiau torcalonus y gweddwon a'r amddifaid, tra byddai ereill i'w clywed yn ymdrechu yn y bangfa olaf, dan ddirdyniadau arteithiol brenin braw! Diblantwyd torf o Racheliaid, a chymerwyd llawer gwr o fynwes ei wraig, a gwraig o fynwes ei gwr, a'r ddau yn aml oddiwrth eu rhai bychain, yn analluog i wneud drostynt eu hunain! Dyma'r amser y gwnawd mynwent ar Bant-coed-Ifor; o herwydd nad oedd caniatad, na lle i'w claddu yn un o fynwentydd y dref. Hyn fu yn llawer o'r achos i ddwyn y Bwrdd Iechyd i Ferthyr Tydfil, yr hyn a gymerodd le yn 1851; ac er fod perchenogion tai yn cael talu yn ddrud tuag ato, mae wedi gwneud gwelliantau rhyfeddol yn y 10 mlynedd diweddaf, yn nghynlluniad tai, a glanhad heolydd, fel y mae mewn gwell sefyllfa, er lles iechyd y preswylwyr, nag y bu er ys ugeiniau o flynyddoedd. Un o'i brif hynodion, yn y tair blynedd diweddaf, ydyw gosod ffordd i gludo dwfr o Daf fechan i Ferthyr, &c.; mae ar waith yn awr i gario dwfr i Abercanaid a Throedyrhiw, a diwalla yn bresenol y rhifedi o 1,500 o dai, rhwng Dowlais, Penydaren, a Merthyr. Cynwysa y cronbwll, a wnawd yn Cwmtaf-fechan, tuag at ddiwallu y lleoedd a enwasom, yr ystorfa o 60,000,000 o droedfeddi cyfuddol o ddwfr. Costia y Gweithiau Dwfr yma, erbyn eu gorphen, y swm 0 £80,000, ac mae treuliau blynyddol y Bwrdd Iechyd yn Merthyr tua £2,000, a'r symiau hyn yn cael eu casglu trwy drethoedd oddiar berchenogion tai, &c., yn mhob man trwy'r plwył. Cariwyd y Gweithiau Dwfr yn mlaen o dau arolygiaeth Mr. John Lewis, Cymro serchog a charedig.
Nid ydyw Merthyr Tydfil wedi ei chorffori yn dref hyd yn hyn, ond pe buasai y diweddar Syr John yn cael byw i ddwyn ei gynlluniau a'i amcanion i derfyniad, diau y buasai wedi llwyddo i wneuthur hyny cyn yn awr. Ond nid ydyw yn ol yn ei manteision i nemawr dref yn Nghymru. Medda ei maelfaoedd harddwych a rhadlawn—ei masnachdai prydferth a chyfleus—ei ariandai—a'i llythyrfa, o'r hon y rhenir llythyrau ddwy waith yn y dydd, ac y derbynir rhai i mewn ac y trosglwyddir rhai allan i bob parth o'r byd adnabyddus; y derbynir ac y trosir arian, &c.Medda hefyd ar Lys y man-ddyledion, yn nghyd a Llys yr Ynadon. Enwau y rhai fuont yn gwasanaethu yma sydd fel y canlyn:—Richard Crawshay, Ysw., Vicar Maber, Bruce Price, Ysw., Syr J. J. Guest, Jones, Ysw., Hill, Ysw, Thomas, Ysw., Henry Awstin Bruce, Ysw., Fowler, Ysw., a'r rhai hyn, gan mwyaf, yn ddynion tra chymeradwy ac addas i'w swyddau pwysig a chyfrifol. Medda hefyd ar fwrdd Undeb,[1] i'r hwn y dewisir dau aelod yn flynyddol, o'r plwyfau undebol, i wasanaethu, yn nghyd a tua haner dwsin, neu ychwaneg, o'r plwyf hwn.
Gorphenwyd y Tyloty perthynol i'r undeb yn Merthyr, yn y flwyddyn 1853, a chymerwyd tylodion i mewn iddo ar yr ail wythnos o fis Awst, yn yr un flwyddyn. Eu rhifedi, yn ol y cyfrifiad diweddaf, 1863, yn nghyd a'r rhai yn derbyn tâl tu allan, oeddynt 1786, a 51 o grwydriaid (tramps). Treuliau blynyddol y Tyloty, yn mhob cysysylltiad sydd yn cyrhaedd y swm o £28,000, y rhai a wneir i fyny trwy drethoedd, yn amrywio o swllt i un geiniog ar bumtheg y bunt ar berchenogion eiddo yn mhlwyf Merthyr; a'r symiau blynyddol a godir yn y plwyfau ydynt yn yr undeb sydd fel y canlyn Merthyr, £4,188, Aberdar, £2,513, Gelligaer, £787, Vaenor, £173, Penydaren, £172, Rhigos, £80. Yr oedd yr hen gyfaill Richard Williams, alias, Dic Dywyll, wedi dyweyd mewn gan broffwydoliaeth o'i eiddo am adeiladu Tyloty yn Merthyr, fel y canlyn :
"Bydd hwch y Crown yn dyrnu haidd,
A Beni'r gwaudd yn geffyl,
Cyn delo Workhouse byth i ben,
O fewn i Ferthyr Tydfil."
Llefarodd y geiriau uchod oddiar fod llais y wlad yn ei herbyn; ac yn wir, nid ydyw yn hollol ddystaw eto, am y dygir aml achwyniad yn erbyn camymddygiadau yr arolygwyr at y tylodion.
Gresyn i neb o'r uwchradd edrych yn isel a sarhaus ar ddyn neu ddynes, hen neu ieuanc, o herwydd ei dylodi! Dyn yw dyn er hyn oll.
Mae Merthyr wedi bod yn fagwrfa i amryw gerfwyr ac arlunwyr tra enwog. Yo mblith y cerfwyr cofnodwn Mr. Joseph Edwards; ymadawodd o'r lle hwn i drigianu yn Llundain. Mr. Joseph Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c. ; yr oedd yn fud a byddar; bu farw yn mis Mawrth, 1844, yn 52 mlwydd oed. Mr. Penry Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c; ymadawodd o'r lle hwn am Rufain, lle mae wedi treulio degau o fynyddoedd. Hefyd, Mr. J. Harrison Mr. Shaw, llunwyr ac arlunwyr, &c., a Mr. William Jones, cerfiwr.
Mae yn Merthyr hefyd amryw gyfreithwyr tra enwog: yn eu plith nodwn C. H. ac F. James, Simons, Morgans, Smith, Plews, &c., yn nghyd ag amryw ereill ag sydd yn troi mewn cylchoedd gwahanol, megys Harris, Lewis, &c. Hefyd, mae yma amryw feddygon medrus, megys Davies, Dyke, James, Erie, Pritchard, &c. Mae yma bellach heolydd da, yn nghyd ag amryw restrau o adeiladau gwych a adeiladwyd yn ol cynllun y Bwrdd Iechyd, y rhai ydynt i'w canfod yn Thomas Town, &c. Hefyd, nid ydyw yn ol yn ei chyfleusderau i deithwyr gyda cherbydau, yn cael eu tynu gan geffylau i bob parth o'r wlad lle nad oes cledrffordd yn arwain yno yn unionsyth. Rhoddir cyfleusdra bob boreu dydd Llun gan gerbyd yn rhedeg oddiyma heibio Trecastell, Llanymddyfri, Aberystwyth, ac Aberaeron, gan ddychwelyd yn ei ol bob dydd Gwener i Ferthyr. A chynygir cyfleusderau bob dydd i deithwyr rhwng Merthyr, Sirhowy, Nantyglo, Tredegar, Abergaveny, &c., heblaw y rhai sydd bob amser yn gweini ar y cledrffyrdd, y Taff Vale, y Vale of Neath, yn nghyd a'r Merthyr and Brecon Railway, a thua chwech o gledresau teithwyr allan bob dydd o orsaf y Taff Vale Railway i'w gwahanol gyfeiriadau; a daw yr un nifer i mewn. Cynygir hefyd dri chyfleusdra yn ddyddiol i fyned a dyfod gyda'r Vale of Neath Railway, yr hon a agorwyd i Ferthyr ar y 27ain o Chwefror, 1853. Ac ychwanegir manteision y lle hwn eto pan orphener y Merthyr and Brecon Railway, yn nghyd a'r Merthyr and Abergaveny Railway.
Eto, at y manteision a enwyd, mae yma bob math o gymdeithasau ag sydd fuddiol a llesiol i ddyn; yn eu plith gwnawn enwi yr Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, Dyngarwyr, yr Urdd Frytaniaid, a Budd Gymdeithasau.
Gall dyn fyned oddiyma am un o'r gloch yn y prydnawn, a chyrhaedd Llynlleifiad erbyn amser swper yn yr hwyr. Mae trefi mawrion Cymru a Lloegr megys yn gymydogion i'r lle hwn oddiar pan unwyd cledrffordd y West Midland Railway a'r Taff Vale, yn Mynwent y Crynwyr, yr hyn a gymerodd le ar y 25ain o Ionawr, 1858; ac agorwyd y gledrffordd i Fynwent y Crynwyr o'r Mountain Ash, i drafnidaeth yn unig, ar y 14eg o Dachwedd, 1863.
Ar brydnawn, yn y flwyddyn hon, 1863, talasom ymweliad á mynwent hen Eglwys St. Tydfil i'r dyben o gael rhai o'r dyddiadau hynaf o'i mewn; a llwyddasom i ddyfod o hyd i un goffadwriaeth tu fewn i furiau yr eglwys, a'r dyddiad o 1758, ac un arall, tu allan, yn ymyl y mur, ar yr ochr orllewinol i'r fynwent; ar gareg lwydaidd wedi ei darnio yn ddau, yr oedd y dyddiad o 1740. Parodd hyny i mi gofio am benillion "Bedd y dyn tlawd," gan Ioan Emlyn, pan yn dyweyd
Mae'r garreg arw a'r ddwy lythyren
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw ;
A phan ddelo Sul y blodau,
Nid oes yma gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysiau
Ar lwm fedd y dyn tylawd
Anhawdd i ymwelydd osod troed i lawr yn y fynwent hon heb sangu uwch llwch rhyw fod dynol a fu unwaith mor iach ac hoenus a ninau, a'r rhan amlaf o'r rhai hyny oeddynt frodorion o'r plwyf hwn. Wrih sylwi uwch y gladdfa hon gellir ffurfio rhyw ddirnadaeth wanaidd o'r trychineb a'r galanas mae'r gelyn olaf wedi ei wneud ar y teulu dynol, fel ag y mae yn anhawidd ymgadw rhag tori allan i wylo uwchben y dorf ddystaw sydd yma yn gorwedd er ys canoedd lawer o flynyddoedd yn tawel huno. Gellid meddwl wrth olwg rhai o'r beddau fod angeu wedi ysgubo i'r byd tragywyddol yr oll o berthynasau amryw o feirwon y fynwent hon, neu mae meithder amser wedi rhoddi caniatad i ddwyn angof i mewn i law ddirgelaidd anian i wneud y beddau yn gydwastad a'r llawr, a phlanu arnynt wyrdd-lysiau i roesawu gwlith y nen, i addurno'r fan y gorweddant. Wrth gerdded yn ol ac yn mlaen yn eu plith, yr oedd penill, o gyfieithad yr enwog Davies, Castell Howel, o'r "Grey's Elegy," yn taro ar ein meddwl
"Yma gorwedd yn y graian
Efallai lawer fuasai'n llawn
O wir rywiog flamiau'r awen
A phrydyddol ddenol ddawn,
Dwylaw allasent lywio teyrnas
A theyrnwialen ar ryw thrôn,
Dawn a dwylaw diwniai'r delyn
I lesmeiriol dyner dôn."
Gadawn y lle hwn yn awr, a chymerwn ein cyfeiriad i lawr tua Throedyrhiw, Wrth fyned allan o'r pentref, yr ydym yn croesi'r clawdd a wnawd yn yr amser y cychwynodd Mr. Richard Hill ei Weithiau tuag at eu diwallu a dwfr. Uwch ein pen mae pont y gledrffordd ogwyddol sydd o Ddowlais i'r Taff Vale, dros yr hon y buwyd yn cario teithwyr am rai blynyddoedd hyd nes i ddamwain ofidus gymeryd lle trwy i'r rhaff dori, a gollwng rhyw nifer o gerbydau i fyned yn deilchion, yn nghyd a thri neu bedwar o deithwyr gyfarfod a'u hangeu disymwth. Dros hon yn bresenol y trosir trafnidaeth Dowlais a'r Taff Vale. Ychydig yn is i lawr, ar yr aswy i'r brif- ffordd, mae hen dy Mr. Hill, yr hwn oedd yn dafarndy er ys 50 neu 60 mlynedd yn ol. Yn is i lawr eilwaith, yr oedd tafarn tua'r un amser yn y ty lle y bu D. Joseph, Ysw., arolygwr Gweithiau Pentrebach. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae i'w weled Cwmcanaid. Cafodd yr enw oddiwrth felin-ganu fu yn y lle. Cyn yr amser hwnw arferid ei alw yn Cwmyglo, am mai yno, yn ol pob tebyg, oeddid yn arferol o gael glo yn yr hen amser. Abercanaid, neu Abercaned, sydd bentref bychan, wedi derbyn ei enw oddiwrth aber, lle ymuna yr afon Caned a'r afon Taf. Mae y lle hwn yn ddarnodiad o ddiwydrwydd yr 20ain mlynedd diweddaf. Yn ei ymyl mae glo bwll y graig, perthynol i Mr. William Rees, ac y mae yma amryw o lo byllau ereill, megys y Waunwyllt, perthynoj i Jenkins, Gethin, a Chastell-y-wiwer, &c., i'r Crawshays. Cymerodd tanchwa echryslawn le yn nglo bwll y Gethin ar y 19eg o Fawrth, 1862, pryd y collodd 49 o ddynion eu bywydau, ac y gwnawd lluaws yn weddwon ac amddifaid. Tuag at gynorthwyo y cyfryw yn nydd trallod ac helbul, casglwyd swm dda o arian trwy haelioni a charedigrwydd boneddigion a boneddigesau yr ardaloedd cylchynol. Perthynai yr oll o'r Gweithiau glo hyn, sydd ar diroedd Arglwydd Dynevor a Richards, 'i'r Crawshays, Gyfarthfa, a chludid y glo oddiwrthynt tua'r Gwaith dros gledrffordd a wnawd yn ystod y 10 mlynedd diweddaf. Troedyrhiw, fel Abercanaid, sydd bentref tra chyfleus a phrydferth, wedi neidio i fodiant yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, trwy fod y Gweithiau glo a enwyd, yn nghyd a glo bwll a agorwyd ar y Dyffryn gan y diweddar Mr. Hill, yn gyfleus iddo . Nid oedd yma cyn y cynydd diweddar oni nifer fechan o hen dai, sef tai Castell-y-wiwer, Pen-y-cwar, a Phont-y-rhun, yr hon a dderbyniodd yr enw, yn ol yr hyn a allwn farnu, oddiwrth Rhun Dremrudd, brawd Tydfil, a mab Brychan Brycheiniog. Un o'r tafarndai cyntaf ger y lle hwn oedd yr hen Harp, ond y mae amryw o honynt уп у lle yn awr, yn nghyd ag amryw faelfaoedd prydferth; ac ar у lle ysaif un o honynt yn awr, sef maelfa Mr. Sharp, yr oedd melin at falu yd ffermwyr y gymydogaeth, &c.; ac yn y ty perthynol i'r felin hon, yr arferai yr ymneillduwyr yn yr ardal ymgynull i addoli yn yr hen amseroedd; ond y mae gwawr rhagluniaeth wedi ymagor bellach uwch ei ben, fel y mae ynddo yn bresenol gystal ac mor gyfleus lleoedd i addoli ag sydd gan neb pentrefwyr yn Nghymru. Medda amryw dai ag sydd yn addurn i olwg y lle, sef eiddo E. W. Scale, Ysw., W. R. Smith, Ysw., L. Lewis, Ysw., ac ereill. Medda boblogaeth o 3,500.
GOLYGFA FOREUOL AC HWYROL AR FERTHYR A'I GYFFINIAU ODDIAR UN O'R BRYNIAU CYFAGOS.
Gyda bod arwr y dydd yn estyn o eithafoedd y dwyrain i dori ar ddystawrwydd y cyfnos, gwasgarai y nifwl a'r tarth i roddi ail gyfle i ddyn ganfod anian yn ei gwisgoedd amryliw a gogoneddus, yn nghyd a duwies celf yn marchogaeth ar adenydd ager allan o safleoedd y gwahanol gledrffyrdd, a'r llall yn dyfod i mewn yn ei nerth a'i rhwysgfawredd fel pe am herio nerth yr oll o breswylwyr y dydd; a'r afon Taf yn ddysglaer ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, dros wastadedd paradwysaidd y Dyffryn, tra mae mwg peirianau a ffwrnesau, yn nghyd a mwg miloedd o dai yn esgyn i fyny yn unionsyth tua bro asur. Gwelid dynion wrth yr ugeiniau, yn wyr traed, marchogion, a cherbydwyr, yn brysio yn mhob cyfeiriad; a chlywed cloch yr Eglwys yn rhoddi cnul oernadol i arwyddo marwolaeth rhywun, tra byddai'r awrlais su rhifo'r oriau, a thwrf syfrdanol olwynion masnach yn taro'n ddiorphwys ar y glust. Yn y nos, wedi i emrynt y dydd gauad ar ein gwlad, a mentyll y ddunos ei hamdoi i ddwyn dystawrwydd pruddaidd dres goedwigoedd, glynau, a mynyddoedd, gwelid mil a mwy o fân oleuadau yn gwingo yn mhob cyfeiriaifiachiadau rhuddgochion a brochus yn dyrchafu o eneuau yr amrywiol ffwrnesau—dynion i'w gweled yn ol ac yn mlaen rhyngom a goleuni y tanau a'r fflamiau—swn morthwylion ac olwynion, yn nghyd ag ambell screch oernadol gan y llifau, a thwrf dwfnddwys y peirianau yn clecian yn ddiarbed ar y glust, fel y gellid meddwl fod Vulcan-gof-duw dychymgol y Groegiaid wedi cynull ei alluoedd i'r un man er mwyn dychyrynu teithwyr ac ymwelwyr. Gwelir goleuni y Gweithiau hyn yn taro ar yr wybren ddeg neu bumtheg milltir o'r lle, am hyny, nid rhyfedd i'r golygfeydd mawreddog hyn gynhyrfu plant yr awen ydynt wedi cael eu tynu drwy bair Ceridwen, i ganu yn y dull a ganlyn—
"O'i thywyll weithfeydd eang,
O ddyn byw! Clyw, clyw y clang;
Goleuni'r ffwrnesau drwy'n hoff fro isel,
Hed yn llif rhuddaur dros gaerau'r gorwel;
Mynwes y nefoedd o'i mewn sy'n dân ufel;
Gloewodd y tywyll wagleoedd tawel;
Hwynt yn awr ynt un oriel--lewyrchus,
O'r bryniau iachus i'r wybren uchel."
Edrych ar y drych eirian—rhyw ddunos
Arddun yw'r olygfan;
Ail ydyw'r fflamwawr lydan
I urddas dinas ar dan, —Dewi Wyn o Esyllt.
"Y llifiad irad yrodd—yn wyllt
Hen alltud ddychrynodd;
Ac yn ei fraw, draw fe drodd;
O'r adwyth blin y rhedodd.
Rhedodd oddiwrth y rhodau—echrys
Mewn dychryn yn fuan,
A gwedd hyll; gwaeddai allan,
O wyr, dewch ! Mae'r byd ar dân."—R. Williams
Nodiadau
golygu- ↑ Bu Plwyf Llanwono yn yr undeb, ond tynodd yn ol yn ddiweddar