Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Yr hen dy ger gwaith y Gyfarthfa
← Gwaith y Gyfarthfa | Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf) |
Gwaith Penydaren → |
YR HEN DY GER GWAITH Y GYFARTHFA—ELW ETIFEDDION BACON, A CHYNLLUNIAD Y GAMLAS.
Cafodd y Gyfarthfa yr enw oddiwrth hen amaethdy a safai lle mae y gwaith, ger yr hwn le yr adeiladodd Bacon dy iddo ei hun, o ymddangosiad gorwych mewn cydmhariaeth i'r hyn oedd adeiladau yn gyffredin yr amser hwnw, yn enwedig yn nghyffiniau Merthyr Tydfil. Ond er i hwn fod yn drigfan addurnol un amser i Bacon a'i olynwyr, y mae bellach mewn cyflwr gresynus, wedi ei anurddo gan y mwg a'r llwch a godai gyda'r gwynt, a'i rodfeydd fuont unwaith yn heirddwych, ydynt bellach yn ffyrdd i gludo pethau tua'r gwaith ac oddiwrtho. Bu yr adeilad hwn yn drigfan y Crawshays hyd adeiladiad y castell, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr.
Pan ymadawodd sylfaenydd cyntaf y gwaith hwn oddiyma, yr oedd ganddo i amodi a Mr. R. Hill, am y tiroedd perthynol i Iarll Plymouth, yn gystal ac ag R. Crawshay, Ysw., am y tiroedd perthynol i'r Gyfarthfa; ac oddiwrth y ddau le hyn y deilliodd y swm o £10,000 yn y flwyddyn dros lawer o flynyddoedd i etifeddion Bacon, yr hyn oedd yn elw oddiwrth ei gytundeb blaenaf a'r tir-feddianwyr. Nid oedd ganddo ef yr un hawl yn Ngwaith Penydaren na Dowlais. Gelwir Gweithiau y diweddar Anthony Hill, Ysw., yn Weithiau Plymouth, oddiwrth deitl perchenog y tiroedd lle y safant. Ac os ydym o dan rwymau i gydnabod Mr. Bacon fel cychwynydd ac achosydd y gweithfeydd mawrion hyn, a'r dref frys-gynyddol hon sydd wedi ei thaflu i fyny megys gan ddamwain, i Iarll Plymouth, yn nghyd a Mr. Tait, Lewis, a Mr. Guest, o Ddowlais, Richard Crawshay, Ysw., Cyfarthfa, ac Humphreys, Penydaren, yr ydym yn ddyledus am gynllunio y gamlas sydd yn awr o Waith y Gyfarthfa i Gaerdydd. Dywedir mai yn meddwl un o'r Humphreys y cafodd hwn ei gynlluniad ar y dechreu; ond beth bynag am eirwiredd y gosodiad, rhoddodd Iarll Plymouth ei enw yn flaenaf, yn cael ei ddilyn gan y boneddigion a enwasom, yn nghyd ag ereill o berchenogion tiroedd yn y plwyf, wrth ddeiseb i fyned i'r Senedd er ymgeisio at gael y cynllun i weithrediad, yr hyn a gymerodd le y 4ydd dydd o Chwefror, 1790; a llwyddasant yn eu hamcan y tro cyntaf, y 19eg o fis Ebrill dilynol. Yr ail waith, y 23ain o'r un mis, a'r waith olaf, Mai y 6fed, yn yr un flwyddyn, a dechreuwyd tua di wedd Mehefin canlynol. Gan fod llawer, os nad y rhan fwyaf o'r arian wedi eu tanysgrifio yn barod gan yr arglwyddi a'r haiarn farsiandwyr, nid oedd un anhawsder ar y ffordd, yn lluddias ei orpheniad buan, fel y daeth i derfyniad yn y flwyddyn 1798; croesir ef gan tua 40 o bontydd, ac y mae ynddo tua'r un nifer o locks, y rhai a wnant ei ddyrchafiad yn Merthyr i fod yn 568 o droedfeddi, a phum modfedd uwchlaw ei gychwyniad yn Nghaerdydd. Wrth Bont-y-rhun y mae peiriant a wnawd ar y cyntaf gan un James Watt, at godi dwfr o'r afon Taf i ddiwallu y camlas. Yr oedd gallu yr hen beiriant i godi deg tunell y fynyd, tra y mae gallu yr un peesenol i godi cymaint arall yn yr un amser. Mae yn beirianwaith yn gystal ag adeiladaeth ragorol, ac yn weddnodiad cywrain o allu meddyliol ac arianol. Wele ddesgrifiad y bardd, Ifor Cwmgwys, mewn englynion a fuont yn fuddugol mewn eisteddfod yn Troedyrhiw:—
"Mae agerdd beiriant, myghardd, bery—' n glod
I feib glew y Cymry
Wrth Bont'rhun, trwy nerth ban, try
Hen Daf fwyn red i fyny.
Ager, gan gynddeiriogi—a red
Am le rhydd trwy'r gwythi,
A'r aer ddyfr roer i'w ddofi,
Gauer o'i mewn-mae grym hi.
Unwaith egyr ei thagell—o'r llyn dw’r,
Ei llond dyn i'w phibell;
Symud bob mynud mae'n mhell
O gant hon ugain tunell.
I mewn tyn gymaint a all—o'r tew
Ddwfr Taf yn ddiball;
Yf un llif, denfyn y llall
I'w boeri'r wyneb arall.
Sugno a gwthio'n gyweithas—o'r Taf
Mae ddwfr tew ac atgas,
Yn donau brwnt, duon, a bras,
A'u hymlid tua'r camlas.
Enw ei lluniwr, er ein lloniant—welir
Ar gymalau'r peiriant,
Mae'n bur yn mesur o'i mant,
I ni gân ei ogoniant."
Costiodd y gamlas £103,600.