Traethododd fy nghalon bethau da
Mae Traethododd fy nghalon bethau da, yn emyn gan awdur anhysbys.
Traethododd fy nghalon bethau da,
Fy Brenin gwna fyfyrdod;
Fy nhafod fel y pin y sydd
Yn llaw 'sgrifenydd parod.
Uwch meibion dynion tecach wyt,
Tywalltwyd rhad i'th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
Ei fendith byth a'i radau.
Grwregysa'th gleddyf ar dy glun,
O! gadarn Gun gogonedd,
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
Mewn llwydd a llawn orfoledd.
Dy lân orseddfainc, O Dduw fry,
A bery i dragwyddoldeb;
Awdurdod dy deyrnwialen sydd
Mewn nerth, a rhydd uniondeb.