Tri Wyr o Sodom a'r Aipht

Tri Wyr o Sodom a'r Aipht

gan William Williams, Pantycelyn

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Williams, Pantycelyn
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y nofel Gymraeg
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Nathaniel Cynhafal Jones
ar Wicipedia

Mae'r testun wedi ei echdynnu o Gweithiau Williams Pant-y-Celyn, Cyfrol II golygwyd gan Nathaniel Cynhafal Jones, Treffynnon, 1891.

Hanes Bywyd a Marwolaeth
Tri Wyr o Sodom a'r Aipht,

Y FAN HEFYD Y CROESHOELIWYD EIN
HARGLWYDD NI:

SEF

Avaritius, yr Awyddus; Prodigalus, yr Afradlon;
a Fidelius, y Cristion

,

MEWN DULL O YMDDYDDAN RHWNG

Cantator y Bardd, a Phercontator yr Holiedydd,

AT BA UN Y CHWANEGWYD

MARWNAD I BOB UN O'R TRI,

Lle, yn niwedd yr olaf, mae CANTATOR yn dymuno cael gras
a ffyddlondeb FIDELIUS; yn gweled, wrth bob arwyddion, ei
ddyddiau ei hunan yn agosau, yn galaru ei anffrwythlon-
deb; ac yn cymeryd rhydd-did, wrth olwg ar fyd arall,
i geryddu a satyriso ychydig ar ei frodyr o bob enw,
am rai pethau anaddas yn ei dyb ef: ond yn y
diwedd yn troi i mewn iddo ei hun, ac yn addef
ei ragoriaeth mewn annheilyngdod i bawb
o honynt


AT PHILO ALETHES, FY ANWYL.

COFIO a wnaethum, ar ol ein cyfarfod diweddaf, am y geiriau a ddywedasoc hyn nghylch yr angenrheidrwydd o fod dyn Duw yn berffaith yn mhob gweithred dda. Gweled yr wyf finau yn fwy eglur yr awr hon nad oes nemawr o broffeswyr wedi eu ffurfio i ddelw y Testament Newydd, ac wedi derbyn ei ysbryd a'i oleuni, ei symlrwydd a'i ddoniau, a phrofiadau tumewnol o bethau Duw, yn gystal ag ymddangosiad allanol. Oh, cyn lleied sydd yn difrifol filwrio yn erbyn balchder, hunan-dyb, gau ddybenion, nwydau tanllyd, chwantau drwg, a holl egwyddorion ereill yr hen greadur! Mae eisieu gras a fyddo yn dysgleirio yn mhob rhan, ac yn gwneud credadyn yn mhob galwad ac amgylchiad yn halen y ddaear.

Ac wrth weled hyn y daeth arnaf chwant darlunio sant yn y fath ddoniau, grasusau, profiad ac ymarweddiad ag y mae Pedr, Iago, Jude, ac Ioan yn ei osod ef allan; sant wedi ei dynu trwy holl epistolau Paul, heb gael ei ddryllio gan yr un o honynt. Ni wnes gynyg, fy ffrynd- Philo Alethes, i wisgo milwr Duw yn yr holl arfogaeth dan yr enw Fidelius, am mai lle pob credadyn yw bod yn ffyddlon i'r Hwn a'i galwodd. Ac eilwaith, gweled tynfa gyffredin dynion ar ol y byd hwn, yr awydd didor i gasglu cyfoeth, gan dlawd cystal a chyfoethog, rhieni cystal a phlant, yn nghyda'r celwydd, hoced, anudoniaeth, trais, gormes, a thrachwant a arferir i'r dyben hyn, a berodd im' osod allan fywyd a marwolaeth Avaritius; rhag ofn, trwy dewi fyth, i deulu y ffydd bleseru yn y gau lwybr, a myned o drigolion Seion o'u dinas eu hun i fyw i ganol Sodom, a chwenychu golud yn fwy iddynt eu hunain a'u plant na'r gwir gyfoeth. Gweled hefyd yr afradlondeb sydd heddyw yn Nghymru ragor na gwledydd yr India, wnaeth i mi roi darlun Prodigalus, yr hwn, trwy ei afradlondeb, a dynodd arno ei hun amryw glefydau, y rhai yn y diwedd a'u dygasant i'w fedd, ac a orlwythodd ei gydwybod âg euogrwydd a dychrynfeydd arswydlawn erbyn wynebu byd arall. Pa un a fydd bywydau y rhai olaf hyn yn rhybudd, Duw a'i gŵyr,-nac eiddo Fidelius yn esiampl chwaith; ond dymuno 'r wyf fendith ar naill fel y llall Os clywi neb yn gofyn paham na roiswn edifeirwch gwely angeu i Avaritius a Prodigalus, ateb-Am mai dyben hyn o lyfryn oedd dangos mor echrychus y bydd diwedd y rhai hyny sydd yn byw a marw yn eu pechod, heb adnabod Duw yn NGHRIST. Ond y sawl sydd yn cael edifeirwch i fywyd mae gwahanol oleuni, ysbryd, ac effeithiau ar eu dyddiau diweddaf nag sydd ar yr eiddo Avaritus a Prodigalus. Bydd wych.

Dy anwylaf frawd,

W. W.





Hanes Bywyd a Marwolaeth
Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.

MYFI, Cantator y bardd, wedi teithio rhanau pellaf y byd, i yspïo rhyfeddodau mwyaf y greadigaeth, i ddal sylw ar gelfyddydau cywreiniaf dynion, ac yn enwedig i ymofyn am foesau, ymarferiadau, a rhinweddau plant Adda; a gweled y gwahaniaeth tymerau, dealltwriaethau, a thueddiadau y naill oddiwrth y llall, a ddaethum o'r diwedd i dir Ham, gyfenwid gwlad yr Aipht, lle bu mawrion weithedoedd Duw yn y dyddiau gynt. Mi a arosais yno amryw flynyddoedd, ac nis gwelais mewn man o'r ddaear fwy o ryfeddodau Duw, na gweithredoedd enwog dynion; ond mae fy awen yr awrhon yn fy arwain i redeg heibio iddynt oll, ac (am i mi gyfarfod â chwi, fy hen gymydog Percontator,) i fynegu rhywbeth ag a all fcd yn fwy adeiladol i chwi; a fy mrys sydd gymaint i hyn, nas caf odfa i'w osod ef allan ar gân.

PERCONTATOR.—Mae arnaf fi fwy o frys i glywed pot newyddion, ac yn enwedig am rinweddau, moesau, a bywyd meibion dynion; ond anhawdd genyf i gredu y gellwch roi i mi un newydd da o wlad mor ddrwg, ac y gellwch adrodd am un gwr rhinweddol yn mysg cenedlaeth mor elyniaethol i bobl Dduw; ond fel y gellir ar rhyw ddamwain gael mêl yn ngheudod llew, fe allai i chwi ffeindio yno rai ag oedd yn ymofyn am fynydd Seion; rhai o bosibl o'r hen Israeliaid a arosasant yn ol yn y dyddiau gynt, ac a ddihunasant yr awrhon yn nyddiau olaf y byd i deithio yr anial mawr tua'r Ganaan ddymunol. Ond ewch rhagoch, mae'm hysbryd yn gruddfan am y newydd.

CANTATOR.—Yr hyn sydd genyf, ynte, i adrodd i chwi yw bywyd a marwolaeth tri o wŷr o'r wlad hono, o wahanol ddull eu bywyd, a mwy gwahanol eu marwolaeth ; ac er eu bod yn yr un gymydogaeth, eto pell oeddynt o ganlyn yr un ffordd: nid oeddynt yn ymbleseru yn yr un pethau; nid yr un bobl oeddynt yn eu caru, nid yr un lleoedd oeddynt yn ymhyfrydu ynddynt, nid yr un pwnc oeddynt yn ei ddwyn yn mlaen, na'r un difyrwch oedd ganddynt; eto dau o honynt oedd o'r un ysbryd, yr un dyben, a'r un gwaith, a therfynasant eu siwrnai yn yr un lle; ond y llall oedd yn amrywio mewn gwaith, dyben, ysbryd, ac egwyddor. Enw un oedd Avaritius, a gyfenwyd felly oddiwrth ei awydd gwyllt am gyfoeth; enw y llall oedd Prodigalus, am ei fod yn annghyffredin afradlon, ac yn gwneud duw o'i fol; ond y trydydd a gyfenwid Fidelius, ac efe oedd Gristion.

PERCON.—Dechreuwch, ynte, adrodd bywyd Avaritius; canys y mae llawer iawn o rai yn fy ngwlad inau yn haeddu yr enw, er eu bod yn myned yn fynych tan yr enwau o hwsmyn da, gwŷr call, pobl onest; a hwy yw y rhai mwyaf parchus o fewn ein bro ni y dydd heddyw. Ond ewch rhagoch.

CANT.—Yr Avaritius hwn oedd o dylwyth Nabal y Carmeliad, yr hwn a ballodd ychydig fara i frenin Israel pan oedd efe a phedwar cant o wŷr mewn caledi mawr o eisieu lluniaeth; ac fe'i lladdwyd ef gan DDUw am ei gybydd-dod a'i galon-galedwch i eneiniog yr ARGLWYDD. Efe a anwyd yn nhir Sodom, lle yr oedd trachwant yn llifo fel afon yr Aipht, ac fe ddaeth i fyw yma mewn ymchwil am gyfoeth. Ac nid hir y bu ef heb gael ei ddymuniad; canys er bod ei ddechreuad yn fychan, eto ei ddiwedd a gynyddodd yn ddirfawr ei anifeiliaid a luosogasant fel anifeiliaid Job, a'i aur fel aur Cresus; ei dyddynod a gysylltwyd y naill at y llall, nes cael dan ei draed dir heb fesur, a'r tlodion yn gruddfan o eisieu lle; nid oedd mewn amldra defaid, geifr, gwartheg, ac asynod gyffelyb iddo yn holl dir yr Aipht. Yn fyr, pob cyfoeth a redodd iddo fel afonydd yn rhedeg i'r môr mawr; a phe buasai byw ond ychydig flynyddau yn rhagor, fe ddaethai i fod yn arglwydd ac yn ben ar y drydedd ran o'r wlad eang hono.

PERCON.—Ond pa fodd y daeth ef iddynt? pan dywedasoch fod ei ddechreuad ef yn fychan. Ai trwy gynildeb bwyta, yfed, gwisgo, neu trwy ddiwydrwydd, codi yn foreu, a myned yn hwyr i gysgu?

CANT,—Nid cymaint trwy un o'r rhai hyn a thrwy ei awydd didor am gyfoeth; ei gyfrwysdra rhyfedd i dwyllo, ei ddichell anorchfygol yn mhob bargen; fel yr oedd mwy na'r naill haner o'i gyfoeth yn lladrad oddiar y gweiniaid, y rhai sydd y dydd heddyw wedi cymeryd adenydd ac ehedeg ymaith, na wyddus yn iawn i ba le; ond bod eu rhwd hwynt yn ei ysu ef fel tân yr awr hon, ac a bery felly byth mwy. Gwir yw nad oedd ei fwrdd ond tlawd ac unig; unrhyw ymborth trwy gydol faith y flwyddyn, a hwnw yn hen, yn galed, ac yn wydn; nid oedd na grym nac ysbryd yn ei ddiodydd, na neb dyeithriaid o ŵyl i ŵyl, nac o leuad i leuad yn profi o'i win nac o'i fara; ei wisgoedd oedd yr un a'r rhai trafferthus, a'u lliw yr un a chnu y ddafad; nid oedd na chrydd na theilwr yn cael ond y rhan leiaf o'i drysorau; a ffoi yr oedd ef rhag siop y marsiandwr fel rhag ffau y llewod; a phob dull newydd ar wisgoedd oedd mor ddyeithr iddo ag i'r Negroes pellaf yn nhiroedd y Deheu; ac eto, meddaf, nid cymaint trwy y pethau hyn y chwanegodd ef ei gyfoeth, nac ychwaith trwy eithaf diwydrwydd, yr hyn yr oedd mor hynod ynddo fel nad oedd ei gyffelyb yn ngwlad yr Aipht. Ei deulu nid oedd yn cysgu ond ychydig oriau trwy gydol haf a gauaf; eu hysgwyddau oedd wedi crymu tan yr iau; oerni y gauaf a gwres yr haf oedd wedi gwneud eu crwyn yn galed fel lledr, a'u lliw fel lliw saffrwn; er mai nid cymaint, meddaf, trwy y pethau hyn yr oedd efe yn cynyddu, eto yn mlaen yr ydoedd yn myned, trwy dyru golud yn nghyd oddi yma ac oddi draw, a'i ysgubo at ei gilydd fel graian yr afon. Ei ddyfais faith a wnai elw o ddyn ac o anifail; fe droai dom yr heolydd yn arian, a'r ceryg yn aur melyn. Dysgwyl yr oedd efe gwymp y tlodion fel llew yn dysgwyl am ei ysglyfaeth, a'i lygaid a dremient ar y tlawd i'w gael ef i'w rwyd. Os tir yr amddifad a'r weddw fyddai wedi ei wystlo, fe wnai ei oreu am ei nyddu i mewn i'w we ei hun; os gallai ond gyru ei fys i mewn, sicr fyddai o yru ei law yno hefyd; a'i grafangau ef oedd fel crafangau llew—ni chollai ei afael er dim, ac nid oedd a ddygai'r ysglyfaeth o'i law ef. Trwy weniaith celwydd, geiriau teg, ac ymadrodd dengar yr ysbeiliodd ef amryw o'u bywioliaethau; ei anifeiliaid ef a werthid i'r gweiniaid at eu gwerth dauddyblyg, a'r tlawd oedd yn ofni gweled dydd y taliad; yr iau oedd yn rhy drwm, a'r baich yn methu ymadael â'r ysgwydd; ac yn lle eu tynu o'u cyfyngdra, fe a'u prynai hwynt yn eiddo iddo ei hun, trwy dalu y ddyled i bawb o'u gofynwyr, fel y cai ef y tlawd hwnw, ei wraig, a'i blant yn gaeth-weision iddo ei hun; a'i dŷ a lanwyd o'r fath drueiniaid a'r rhai hyn, fel ychain gwaith, yn wastad tan yr iau, neu fel yr asen yn feunyddiol yn dwyn ei phwn, heb neb i achwyn wrtho, na neb i'w cysuro yn eu gofid.

PERCON.— O orthrymwr di-gywilydd! A oedd un gydwybod yn fyw ynddo?

CANT.—Na soniwch am gydwybod, nis clywodd erioed mo'i llais nes ydoedd ar wely angeu; onide gwrandewch ar un yn rhagor o'i ddichellion awyddus ef fel y dygodd ef, un tro, ŵr gonest gwirion, ag oedd o'r blaen yn byw yn gynes, i fegian ei fara. Enw y gŵr oedd Honestus, ac yr oedd efe yn berchen defaid, gwartheg, gweision, a morwynion tŷ; ond nid aml oedd mewn arian ac aur, yr hyn fu achos i'w droed ef gael ei dal yn y rhwyd. I'r gŵr hwn y gwerthodd Avaritius fustach am driugain darn o arian bathol; Honestus a gynygiodd yr arian yn yr amser appwyntiedig, ond nis derbyniai Avaritius hwynt heb eithaf llog; yr hyn pan nacaodd Honestus am nad oeddent addawedig, ac am nad oeddent ganddo i'w talu, Avaritius yn ddioed a osododd achwyn arno, ac a'i dygodd o flaen brawdleoedd at y swyddogion uchelaf, ac a honodd y ddyled yn ddauddyblyg, gan ddwyn gau dystion i dyngu y cam yn iawn; a'r treial a redodd o ochr Avaritius, am fod gwobrwy, trais, a derbyn wyneb yn enill gyda swyddogion uchel, nes oedd Honestus erbyn hyn, rhwng dyled triphlyg Avaritius a thraul cyfraith dros amryw filoedd, wedi myned dros bum' cant darn o arian mewn gofyn, yr hyn oedd gymaint ag a dalai efe yn y byd. Yna Avaritius a anfonodd oddeutu ei holl gymydogion, ei ddeiliaid, a phendefigion y wlad i erfyn nas rhoddent un hatling yn fenthyg i Honestus, yn yr hyn buont oll yn ffyddlon rhag anfoddloni Avaritius; a'r canlyniad oedd danfon y ceisiaid i ddwyn ymaith yr oll a feddai, cymeryd yr ychydig dir ag oedd arno i'w feddiant ei hun, a'i wneud ef fel ereill yn dlawd ac yn angenus A rhagor hefyd, canys fe garcharodd Honestus dan rith fod rhan o'r ddyled heb ei thalu; ac ar ol aros yno hir ddyddiau, ei wraig a'i blant yn cardota bara, Honestus a glafychodd yn y carchar o newyn, anwyd, noethni, ac a fu farw, ac yntau yn etifedd o'i holl feddiant.

PERCON.—Fe ddaw dydd y chwyda efe hwynt i fyny, ac y byddant fel plwm brwd yn ei goluddion, yn ei losgi yn oes oesoedd; ac y melldithia yr awr y chwenychodd efe i ddifa y dyn gwirion hwnw.

CANT.—Mae yr awr hono wedi dyfod arno ef, canys fe aeth i'r farn fawr er ys dyddiau; ac y mae efe yn ofni, yn crynu, yn duo, ac yn ysgyrnygu danedd mor danbaid y dydd heddyw ag y byddai yn rhy ofnadwy i edrych arno. Ond nid oedd hwn ond un o lawer a ddiwreiddiodd ef, ac nid oedd efe yn ymgeleddwr i un dyn byw; canys er bod ganddo amryw dan enw cyfeillion, ac yn caru cael ei alw yn gymwynaswr da iddynt, ac yn cymeryd arno amddiffyn y gweiniaid, a bod yn rhwysg i'r weddw a'r amddifad; eto treisio ei ffryns yr oedd Avaritius fel ei elynion—treisio ei ddeiliaid, treisio ei weision, treisio ei gaethweision; canys trais oedd ei fara beunyddiol ef. Ni byddai y gyflog lawer pryd ond haner cyfiawnder, a'r taliad yn fynych yn llai na'r addewid; ac nid oedd treth, toll, na gwestfa na lynai rhyw swm fychan o honi wrth ddwylaw Avaritius.

PERCON.—Ond pa fodd yr fodd yr oedd efe yn cael gweision, deiliaid, a neb cyfeillion iddo, pan yr oedd yn eu maeddu a'u gorthrymu fel hyn?

CANT.—Ei gyfrwysdra ef oedd mor fawr, fel y denai lawer i'w rwyd: gweniaith a geiriau teg ddenai rai; ofn ac arswyd weithiau ereill ; addewidion cryfion am rhyw bethau mawrion i'w mwynhau dwyllai un yn was neu ddeiliad; ac awydd i barch ac enw hudai un arall i'w wasanaethu ef; ond os fyth y cyflawnid un o'r addewidion hyn, cant i un nad o foddion rhai ereill y caent eu cyflawni. A'i ddichell ef oedd mor fawr, a'i ddyfais mor fyw, fel y gwnaeth i ereill rai prydiau dalu am fedi ei faesydd ef. Efe a berswadiodd Ineptus i'w wasanaethu ef ddwy flynedd am ei helpu ef i swydd ardderchog ag oedd yn dwyn i mewn ddau can' dryll o arian yn y flwyddyn; ond cyn cael y swydd hono, gorfu ar Ineptus dalu haner yr elw hwnw iddo ef ei hun, a thyngu na chai neb fyth wybod y cyngrair. Yr oedd ei arian wedi taenu ar fôr ac ar dir; ni ddeuai llog cyfreithlon à haner digon o elw; ond fe wasgarodd ei dda rhwng y marsiandwyr, fel yr oedd ei drysorau yn fynych yn dyblu erbyn diwedd y flwyddyn. Cadw ei aur yr oedd ef tuag at ddysgwyl dydd drwg ar y tlodion, fel y byddent yn fara iddo. Yr anifeilaid ag oedd efe yn eu gwerthu i'r gyrwyr a werthai ar bris dauddyblyg; ond er mwyn cael elw triphlyg oddi wrthynt rhoddai arian hefyd yn fenthyg iddynt tros y tymhor hwnw, ar eu dyblyg log; ond ar yr amser appwyntiedig y byddai Avaritius yn dysgwyl fel llew yn ei ffau am ysglyfaeth, am ddifa y cwbl yn mherchen y gyrwr tlawd hwnw; canys âi yn fynych i'w gyfarfod ef daith tri diwrnod, ac a fynai ei holl ddyled yn yr un taliad, gan ei ysbeilio ef, a thrwy hyny ei holl gymydogion gartref ag oedd wedi gwerthu iddo fel yntau. Ac felly ei arian benthyg ef, a'u llog dwbl, toreithiog, yn nghyda gwerth ei anifeiliaid mawr-bris, a'u cymeryd ymaith ar unwaith, oedd yn gwneud cod y gyrwr hwnw yn wag i'r gwaelod, a'i wyneb yn wlyb o ddagrau, ei gelwrn yn llwm o flawd, a'i ysten yn sych o olew; a'i holl gymydogion yn gruddfan am y golled. Mil o ffyrdd oedd gan y gŵr awyddus hwnw i ddyfod â'r geiniog i mewn, a dwy fil o ffyrdd pan y deuai i'w chadw hi rhag myned allan. Os yn y gwindy yn gwneud bargen, nid oedd efe yn talu am ei gwpaneidiau gwin; os yn y wledd yn bwyta, fe wnai trwy ryw dwyll neu ddichell i arall dalu; ac yn ei holl ymdrin â'r byd, ar gefn y tlodion yr oedd efe yn byw. Nid oedd fawr yn begian arno ef, ond yr oedd ef yn begian ar bawb; ac nid âi un achos trwy ei law ef heb wobr a rhodd uwchlaw haeddiant yr achos. O swyddau a lleoedd yr oedd aml olud yn cludo iddo; ni phleidiai achos y gwan, na dwyn tyst o blaid y cryf, heb iro ei law â rhyw swm o'r mammon annghyfiawn. Anudoniaeth oedd un o'r pethau mwyaf ag oedd yn cryfhau ei freichiau yn erbyn yr amddifad, ac a'i rhoddai i enill y treial ar gam er dinystr i amryw o wirioniaid y wlad. Yn fyr, yr oedd efe wedi dysgu myrddiynau o ffyrdd i gasglu cyfoeth, oll yn ddrygionus, yn ddichellgar, ac yn annghyfiawn; nid oedd ei feddyliau yn rhedeg ond ar olud anwadal y byd hwn; nos a dydd yr ymestynai am dano, nis gadawai ffair na marchnad heb chwilio am elw; mewn mor a thir yr ymofynai am drysor; ei dafod oedd yn llefaru am y peth, ei glustiau yn gwrando newyddion am le i dreisio y gwirion, ac i lwyr fwyta yr amddifad; ei draed oedd yn cerdded i'r lle y b'ai y gelain, a'i ddwylaw oedd yn taer ymafaelu am yr ysglyfaeth. Fel hyn y treuliodd ei fywyd, nes ydoedd rhyw faint dros ganol oed, heb feddwl mwy am farwolaeth na'r anifail mud, nac ystyried pa ddyn a'i mwynhäai ar ei ol ef. Boddi yr oedd mewn tywyllwch ac anwybodaeth am gyflwr ei enaid; nis meddyliodd am farw nes oedd gerllaw iddo-ie, yn ei fynwes. Pum' deg o flwyddau ydoedd ef pan ddaeth brenin y dychryniadau i mewn dros ei drothwy; yn ddyeithr iawn ac mewn gwisgoedd anhebygol y dringodd i fyny i erchwyn ei wely ef; ac nis credodd y bydol-ddyn mai efe oedd ef nes oedd ar ei daro â'r ergyd marwol. Fe'i galwodd ef yn anwyd, yn beswch, ac yn ddolur bychan yn ei ysgyfaint, ac nad oedd berygl oddiwrtho; nid oedd amheuaeth ganddo nas ffoai efe yn mhen ychydig ddyddiau; gronyn o wres a chwys, i'w dyb ef, a'i gwellhäi o'r cwbl; eto y poen oedd yn myned yn fwy-fwy, ac angeu yn eonach, eonach, nes o'r diwedd gorfu ar Avaritius druenus anfon am physygwr, oddiwrth ba un nid oedd fawr gysur na gobaith. Yn awr dyma yr holl berthynasau yn cydgyfarfod, yn ymbil am ran o'r meddianau annghyfiawn neiaint, cefnderwyr, cyferdderion, tlodion, a chyfoethogion, hen ac ieuaingc, yn dorfeydd ac yn finteioedd, yn amgylchu y gwely; ac angeu mor bell o ymadael fel yr ydoedd yn ymafaelu yn gryfach. Moes i mi, moes i minau, oedd llais yr holl geraint; y tlodion yn gruddfan ac yn wylo am eu rhan; a'r cyfoethogion hwythau yn eu cilgwthio ymaith, gan gynyg dwyn yr holl ysglyfaeth i gyd yn eiddo iddynt eu hunain. O'r diwedd danfonwyd am hen garl i wneud yr ewyllys ddiweddaf; ac yn awr ystyriwch pa. gyfyngder oedd ar enaid y dyn truenus hwn dan y fath amgylchiad anobeithiol. Cydwybod yn gwaeddi yn groch, fel arthes wedi colli ei chenawon, ac yn rhuo saith mwy na llew fyddai yn ngolwg ei ysglyfaeth; yn galw i gof iddo ei holl drachwant, trais, gormes, a chelwydd; yn rhifo yn ei wyneb bob gweithred o anonestrwydd a wnaeth efe erioed. Dyma yr awr wedi dyfod o'r diwedd y daeth pob ceiniog annghyf. iawn, pob hatling a ddygwyd o drais, pob dryll arian enillwyd o drachwant, i waeddi am ddial yn erbyn y trachwantwr. Pob anifail, pob dodrefnyn tŷ, a phob gwisg a ddygwyd oddiar y tlodion, oedd yn crio allan dial, dial, dial! Cwyn y tlawd a'r angenog oedd y dydd heddyw fel mynydd o bres rhyngddo a phresenoldeb Duw. Cwrlid a gwrthban yr amddifad a gymerodd efe ar wystl a ddylasai ei roi yn ol cyn machludo haul, ond a gadwodd efe yn feddiant iddo ei hun, oedd heddyw yn gwaeddi am farn yr ARGLWYDD ar y gorthrymwr. Eu cnawd hwy a oerodd yn eu gwelyau, ac a fagodd glefydau a droisant allan yn angeu, ond yn awr yn gwaeddi am wres anniffoddadwy i grasu i fyny gnawd y gormeswr, nes y byddai yn ulw. Wele ynte, druenusaf ddyn, dan yr holl wasgfeuon hyn yn gwallgofi, yn wban, ac yn rhincian danedd cyn yr amser, yn methu cael gan ei ysbryd ofnus i ymadael â'r byd, eto yn gorfod, heb flas na chalon, wneud ei ewyllys ddiweddaf, mor derfysglyd, mor annyben, ac mor ddifudd, fel pe buasai ewyllys un o dylwyth y bedlam. Ond digon tebyg fod Duw y nef wedi melldithio ei foddion, ac fel nas cafodd ef eu mwynhau hwynt yn fyw, felly nas cafodd ef eu trefnu hwynt yn ei farwolaeth ac nid i'r sawl y mynodd efe, ond i'r sawl a welodd Duw fod yn dda y rhoddwyd hwynt. Pe buasech chwi yma, fy hen gyfaill Percontator, buasai eich gliniau yn crynu y naill wrth y llall i weled dyn heb fedr, heb ffydd, heb ras, na chariad, ond yn unig o ofn marw, yn ceisio dringo i fyny at DDUW—yr hyn oedd y pryd hwn mor anhawdd iddo a phe cynygiasai fyned i'r lleuad; i weled dyn heb lygad yn ceisio edrych, heb law yn ceisio ymaflyd, ac heb dafod yn ceisio bloeddio tua'r nef.

PERCON.—Cant i un iddo foddloni ei dylwyth â'i feddianau.

CANT.—Mor belled oddiwrth hyny, fel y gyrodd ef hwynt ben—ben—rhai i lidio, rhai i genfigenu, rhai i gyfreithio y naill yn erbyn y llall; canys mor annhrefnus y cyfranodd ei feddianau, fel nad oedd y cwbl well na gwallgofrwydd. A pha fodd y gallasai wneud yn well, tan y fath ofnau digymar, y fath ddychrynfeydd cydwybod, a'r fath aethau marwolaeth ag oedd wedi ei berchenogi ef y pryd hyny? Terfysgiadau ei enaid ef oedd fel tonau y môr, yn rhuo yma a thraw, heb gael un gronyn o lonydd; dychryn ac ofn marw, a chwant byw, oedd fel gwyntoedd ystormus yn ysgwyd trwy bob cwr o'i galon; ac fel na wnaeth ddaioni yn ei fywyd, felly hefyd yn ei farwolaeth ni chai wneuthur; fe ymadawodd fel yr ynfyd a'r annoeth: i'r rhai cyfoethog y chwanegodd gyfoeth; ond y tlodion nis cawsant achos i'w fendithio ef; ac amryw sy'n tybied nas pery ei feddianau yn hir yn y dwylaw y rhoddodd efe hwynt, am fod llawer iawn o felldithion yr amddifaid yn gorphwys arnynt. Mae y gweddwon heddyw wedi gweled eu gwyn,[1] ac yn ei angladd nid oedd neb yn wylo; ni roddwyd ochenaid gan ddyn byw wrth ei ddodi ef yn y ddaear; y ddaear ei hunan oedd wedi blino arno; baich oedd efe i DDuw a dynion, a'i enw a annghofiwyd yn mysg y byw; ac nid oes y dydd heddyw flas son am dano: ond O, druenus gyflwr ei enaid! Pa le mae ? Nid yn gorfoleddu mewn trais, nac yn chwerthin ar ben dagrau yr amddifad, fel cynt; nid yn cludo arian fel graian i mewn i'w drysorau; ond yn absenoldeb y Duw byw yn wylo o wres, ac yn rhincian danedd o oerni; yn dyoddef poenau na ŵyr natur ddim am danynt; yn mhell, pell tu hwnt i derfyn gobaith; yn rhwym i ateb yn y dydd mawr, ac yn gwybod y farn a roir y dydd hwnw arno, ac yn arswydo rhag ei dyfod. Pan godir ei gorph o'r bedd i gael rhan o'r poenau angerddol a barotowyd i'r rhai a gasaodd DDuw yn y byd hwn, tân fydd ei wely ef yn oes oesoedd; screchfeydd damnedigion a chythreuliaid fydd y beroriaeth a swnia yn ei glustiau ef byth mwy; ni wel efe byth mo'i artref, ac ni adnebydd ef y tai a adeiladodd â thrysorau trais; trachwant a baentiodd ei ffenestri â fermilion gynt, ac awydd a grynhodd ei olud; heddyw fe'i gwasgarwyd i le ni ŵyr efe; ereill sydd yn trigo yn ei ystafelloedd, ac ereill sydd yn mwynhau holl ffrwyth ei lafur. Son am dano sydd anhyfryd—dileir ei enw o dir y rhai byw. Ac O na roddid colofn o bres yn agos i'r tŷ hwnw y bu efe yn trigfanu ynddo, yn arwydd i'r fforddolion oll fod ei ffordd ef tua dystryw, ac mai ei diwedd hi yw marwolaeth. yn arwain

PERCON.—O!'r fath dorfeydd o bob rhyw ddynion, pob gradd, pob oedran, pob llwyth, pob teulu sydd wedi cael eu gwenwyno â'r ysbryd hwn trwy y byd; er bod gair y bywyd yn gwaeddi allan mai hawsach i gamel fyned drwy grai y nodwydd ddur nag i'r goludog fyned i mewn i deyrnas DDUW, yr holl fyd sydd eto awyddus am gyfoeth—rhed dynion ar fôr ac ar dir am y cyntaf at y mammon annghyfiawn; y marsiandwr a rydd ei fywyd i drugaredd y tonau er mwyn dwyn da yr India yn ol i'w wlad ei hun; y mwnwr a gloddia i ddyfnder y ddaear, ac a edy rydion o greigydd heb rifo uwch ei ben, i gael allan yr arian gloewon o'u carcharau saith dyblyg. Y Negroes duon a soddant mewn dyfroedd dyfnion yn noeth, i gasglu graian yr aur o rhwng y llaid, ac yn fynych a gollant eu bywydau wrth gasglu golud; y toddydd sydd yn gwylied wrth y ffwrnes nos a dydd heb roi hûn i'w amrantau, a'i gnawd yn toddi fel bloneg gan wres y tân, er mwyn pentyru arian nas gŵyr pwy a'u meddiana; yr hwsmon, y porthmon, y siopwr, a'r crefftwr sydd mewn cyngrair i geisio ysgubo aur yn nghyd, ac fel pe baent am y cyntaf i ymgyfoethogi. Un dyn yn ysbeilio ei gymydog, ac yntau yn ysbeilio arall; ac felly o'r pendefig i'r begar—pawb sydd yn treisio am gyfoeth. Y mab gweddw sydd yn hela am waddol yn fwy nag am y ferch ei hunan; y gwŷr priod sydd yn caru cyfoeth fel eu gwragedd; yr henaint ar lan y bedd, a'u penau yn fwy gwyn na'r eira, sydd yn brefu am olud i ereill, heb iawn adnabod pwy ydynt. O!'r fath dorfeydd dirif o ddynion sydd â chwant arnynt fod yn gyfoethocach nag y maent ! Och! DDUW, pa beth fydd diwedd hyn ? Ond mi ddymunwn arnoch, fy hen gyfaill Cantator, i wneud Marwnad i Avaritius—mi wn i chwi wneud y fath amryw weithiau i ddynion cyfiawn a da, ac mae eich gwaith wedi bod yn fuddiol iawn; ac fel mai da yw adrodd a chanu bywyd ffydd y duwiol, felly da hefyd yw adrodd a chanu drwg fywyd yr annuwiol, er rhybudd i'r sawl sydd eto yn ol i ddysgwyl a wel Duw fod yn dda ryw awr, trwy rybuddion o'r fath, i alw y cyfryw allan o gyfeiliorni eu ffyrdd. Anhawdd oedd cael un yn y dyddiau gynt ag oedd yn fwy awyddus na Zacheus; eto gras y nef a ymaflodd ynddo, ac a roddodd iddo galon newydd, yr hon oedd mor ewyllysgar i'w rhanu hwynt rhwng y tlodion ag oedd efe i'w casglu hwynt yn nghyd trwy drais. Rhowch, fy nghyfaill, ychydig eiriau ar gân am Avaritius, yn rhybudd i ereill rhag myned i'r ffordd enbyd hono.

CANT.—Mi gyflawnais eich dymuniad fel y medrais cyn i chwi ei osod ger fy mron.

PERCON.—O, gadewch im' ei chlywed!

MARWNAD AVARITIUS

B'LE heddyw mae 'th drysorau, ti druenusaf ddyn?
Pwy sydd yn cadw 'th godau a'th filiau wrth ei glin?
Pwy bia 'th feusydd meithion, a'th neuadd ddysglaer, lân?
A ge'st ti wybod hyny gan ryw un yn y tân?

Dy gyfoeth a'th adawodd; am d'enw nid oes son:
Mae ereill yn gwasgaru a gesglaist ti trwy boen.
Dy awydd a'th orthrymu, dy drais a'th dwyll yn nghyd,
A gofir, a ddanodir, ganlynir gan y byd.

Llosgfeydd o dân tragwyddol yw 'th wely heno a'th nyth,
Yn lle dy balas cadarn meddyliaist drigo fyth;
Ellyllon hyll uffernol sy'n gwawdio 'th boenau a'th loes,
Am gadw 'r tlawd heb wrthban i orwedd tano 'r nos.


Pob trais, pob twyll, pob dirmyg a wnaethost yn y byd
Sy'n awr yn neidio i'th wyneb, yn dy archolli 'nghyd;
A wnest o gam âg ereill, er cymaint oedd dy fri,
Mae Satan, 'n ol dy haeddiant, yn talu 'n ol i ti.

B'le heddyw mae dy obaith? Nid oes ond dychrynfäu,
Trwy eitha' dy 'mysgaroedd, yn nyddu ac yn gwau;
Fe, ofn, yw dy gwmni, a'r ofn hwnw sydd
Yn poeni am farn aeth heibio, a phoeni am farn a fydd.—

Saf yna 'n ol dy haeddiant i ddyoddef eithaf llid,
Nid oes ar neb dy eisieu ar wyneb maith y byd;
Mae gormod yn dy ganlyn, a hwy ddont i'r un lle,
Yn unig oni etyl effeithiol ras y ne'.

Ac er dy fod yn farw, mae awydd eto 'n fyw;
Mae awydd yn mhob calon yn groes i anian Duw,—
O Eden daeth hi allan; yn uffern mae ei nyth;
Ac y mae 'n arwain miloedd i boeni yno byth.

O doed y nefoedd oleu i sefyll draw o flaen
Y miloedd sydd yn rhedeg yn awr tuag uffern dân;
Deffroed yr Ysbryd grasol y dorf aneirif fawr
Ag sydd, fel Avaritius, yn myn'd i'r tân yn awr.

Dewch yma, feibion Adda, anfeidrol dorf yn nghyd,
Ag sydd â'ch holl ddifyrwch o fewn daearol fyd;
Edrychwch 'n ol eich trachwant draw, draw, ar ddiwedd hyn,
A gwelwch un o'ch brodyr yn berwi yn y llyn.

Deffrowch, a dwys alerwch, can's heddyw ydyw 'r dydd,
Pob rhyw addewid bwysig am heddyw 'n unig sydd;
Ni ro'wd o fewn y Llyfr am 'fory air erioed,
Ac f'allai er ich' ddysgwyl nad oes un 'fory 'n bod.

O gwelwch y gwahaniaeth rhwng Lazar sy'n y ne',
Yn nghôl a mynwes Abra'm yn hyfryd iawn ei le;
A Deifes mewn trueni, y truenusaf ŵr,
Yn methu cael, er begian, y defnyn lleia' o ddw'r.

Er byw 'n helaethwych beunydd, a'i fwrdd yn eitha' llawn,
A'i gwpan yn myn'd drosodd o foreu hyd brydnawn;
A gwisgo yn ardderchog mewn scarlad, fur, a la'n,[2]
Mae heddyw 'n analluog i ddofi gwres y tân.

Ond Lazar sydd â'i glwyfau oll wedi eu hiachau,
Yn nghanol môr o olud, heb eisieu ac heb drai;
Ei boen, ei gur, a'i drallod, ei gystudd yn y byd,
Oll sy'n cynyrchu elw tragwyddol iddo 'nghyd.


PERCON.—DUW a roddo ei fendith ar y Farwnad yna, i ddangos i rywun y trueni sydd o garu y ddaear yn fwy na'r nefoedd. Ond ewch at fywyd a marwolaeth Prodigalus ei gymydog, a mynegwch eich sylw ar lwnw, o'r pryd y daethoch i'w adnabod i'r pryd yr ymadawodd â'r byd hwn.

CANT.—Efe oedd o dylwyth uchel yn Midian; enw ei fam e oedd Cosbi, merch Sur, tywysog Midian; ond ei dad ef oedd Amoriad—un o'r Cenhedloedd a yrodd yr ARGLWYDD ymaith o flaen meibion Israel. Fe'i ganwyd ef yn nhir Nod, lle ffodd Cain o bresenoldeb yr ARGLWYDD am ladd o hono Abel ei frawd. Ei dad ef a grynhodd olud fel golud Cresus, trwy drais, cam, a gorthrymder, fel Avaritius ei hun; am hyny angen ydoedd eu gwasgaru hwynt gan rai o'r etifeddion —fel dywed yr hen fardd,—

Yr hyn a gesglir trwy gybydd-dra,
Y mab afradlon a'i gwasgara.

Ond Prodigalus, pan oedd eto ond bachgen, am nas mynai ei dad gostio wrtho, a gadwodd gwmpeini dynion anfoesol a drwg, y rhai yn ei ieuengctyd a'i cynefinodd â phob drygioni; ei gyfeillion ef oedd y meddwon, a hyny yn foreu iawn; eu llawenydd hwy oedd ei lawenydd yntau, a'u cân hwy oedd ei gân yntau; yn eu cwmpeini yr oedd y dulsimer, y delyn, a'r dawns: ond gwaith yr ARGLWYDD oedd bell oddiwrthynt. Yma y treuliodd Prodigalus arian fel gro yr afon, arian ag oedd ei hynafiaid wedi gadw iddo erbyn ei ddiwrnod; ac yma gollyngodd ei aur, er ys blynyddau mewn carchar, yn rhydd o'u caethiwed; a chyfoeth ag oedd ddyledus i'r gweiniaid a doddwyd yn awr yn ddiod gadarn; fe lyngcwyd codenau aur i lawr yn win melusaf; ac eto rhy fach o olud a gasglwyd iddo i borthi pob chwant. Ei geg oedd fel fflodiad y felin; nid oedd digon o wlybrwydd iddo gael tu yma i'r môr; fel y llwngc tir cras, sychedig ddwfr, felly llyngcai Prodigalus sudd y winwydden, heb fod ei syched ronyn llai; dydd at ddydd a gynyddodd ei feddwdod, nos at nos a chwanegodd ei flys, nes o'r diwedd iddo fyned yn ben ac yn arglwydd ar ei holl gyfeillion: yr olaf yn flaenaf, yr ieuangaf o flaen pawb; mor barod yw natur i ddysgu yr hyn sydd ddrwg. Erbyn hyn nid oedd na ffrae na chynwrf, gwaed na chlwyfau, nad oedd Prodigalus â'r llaw flaenaf ynddynt; a chymaint hefyd yr ymarferodd â hyn, nes daeth ymrafaelio fel bwyd i'w enaid. A hyn a'i dygodd ef i ymhyfrydu yn y gyfraith wladol, yr hon aeth bob yn ronyn yn bleser nesaf i'w fol iddo ef. Yn awr ni adawai efe na chwrt na brawdlys heb fod yn bresenol; ac nis cai ustus heddwch lonydd, ond ei flino âg achosion ymrafael o'r boreu i'r prydnawn. Anhawdd, y dyddiau hyny, cael un achos cyfraith yn ei ardal nad oedd ganddo ef law ynddo; cymaint pleser oedd ganddo i ymddial fel mai gwell oedd ganddo wario can' dryll o arian na dyoddef colli haner un o'r rhai hyny; a hyn a'i harweiniodd ef (fel y mae un pechod yn arwain un arall) i ymbleseru mewn anudoniaeth, yr hwn sy'n dilyn ymgyfreithio fel gogysgod yn dilyn gŵr. Ac nid digon iddo ei fod ef ei hun yn ymarferyd â'r bai ysgeler, ond rhaid ydoedd dysgu i ereill hefyd y weithred ysgymun, fel y b'ai ef a'i gyfeillion yn sicr o enill y treial, bid gam neu gymhwys; a dyfod allan gyda hwre oddi ger bron y barnwr, er bod y tlawd yn cael ei orthrymu yn chwerw-dost trwy y fath annghyfiawnder di-drugaredd. Ond hyn oll a berodd iddo wasgaru ei dda mor ddisymwth fel y dechreuodd tlodi ei gyfarch, a gorfu iddo wystlo yr etifeddiaethau llydain a gafodd ei hynafiaid ar wystl gan ereill, heb eu rhoddi byth yn eu hol. Fel hyn y daw yr afon yn mhen blynyddau yn ol i'w therfynau cyntaf; ond er hyn oll ni ddychwelodd efe o'i ffyrdd drygionus, ond aeth rhagddo yn gildynus, gan chwanegu eto bechod at bechod; tyngu a phuteinio sydd gyfeillion yn fynych i loddest a meddwdod: "godineb a gwin newydd sydd yn tynu y galon oddiwrth Dduw." Yntau a halogodd amryw o ferched diwair, ac a'u llithiodd bob yn ychydig ac yn ychydig i wystlo eu diweirdeb i'w drachwantau ef, ac a'u denodd i wared i ffordd dystryw, nes myned o honynt yn ddrewdod i'r byd, ac yn waradwydd iddynt eu hunain. Ond O druenus ddyn! Ni safodd Prodigalus yma chwaith, ond aeth rhagddo yn ddiatal i gyflawni pob drwg yn un chwant—malais, llid, cenfigen, hoced, celwydd, trais, puteindra, meddwdod, a chyfeddach, yn nghyda'r holl dorfeydd sydd yn eu canlyn o bechodau, a lanwodd ei ysbrydoedd fel y dyfroedd yn llanw y môr; ac nid oedd o'i fewn yn awr ond llety i ddiafol—ffau i holl fwystfilod rheibus y pwll diwaelod oedd ei ysbryd aflan ef.

PERCON.—A oedd ei olud eto yn para? Pa ddull yr oedd ei iechyd? Am ei enw, gwn ei fod wedi ehedeg ymaith fel aderyn.

CANT.—Ei olud yr awr hon oedd wedi treio fel llif nentydd y mynyddoedd, ei barch a ddarfu fel yr oedd y golud yn darfod; ac nid pell oedd iechyd oddiwrth ddianc arno ef; ac nid ychydig o gymydogion o'r un ysbryd ag Avaritius oedd bob dydd yn dysgwyl am ei gwymp, ac am lyngcu ei dyddynod, fel gwnaeth ei dad ef â thyddynod ereill, y rhai oedd eto yn rhoi arian gyda phleser, ac yntau mor ddall heb wybod eu bod hwy yn ei brynu ef â'i holl feddianau; y rhai hyn yn y diwedd gafodd fod yn etifeddion iddo, ac a wnaethant farsiandiaeth o'i dai, ei diroedd, a'r cwbl a feddai ef yn y byd ac yna darfu ei barch a'i anrhydedd gyda ei gyfoeth. Ond tuag at berffeithio y gwaith, ei ddrwg fuchedd a hauodd o'i fewn amryw glefydau marwol, y rhai a'i dygodd bob yn ychydig ac yn ychydig i lawr i'w fedd: ei segurdod a fagodd y gout, ei loddest a'i feddwdod y dropsi, jandis, a'r nerfows; ei fenyweta hefyd a ddygodd ei nerth, laddodd ei ysbrydoedd, fel yr oedd yn ymddangos cyn myned o'r byd yn fwy tebyg i ddrychiolaeth nag i ddyn yn gwisgo cnawd ac esgyrn.

PERCON.—Ond da fyddai genyf glywed pa ddull yr ydoedd yn ei glefyd ac yn ei farwolaeth.

CANT.—Dychrynllyd iawn ac ofnadwy; canys pan unwaith yr aeth ei glefyd ef yn drwm ac anfeddyginiaethol, fe ddaeth i'w gof ef ei holl afreolaeth, a'i bechodau a ymfyddinasant i'w erbyn—amgylchynasant ef fel gwenyn, heb nerth ganddo i'w gyru hwynt ymaith; ei gydwybod ag oedd yn cysgu o'r blaen—ac oedd, fel y tebygid, wedi marw yn awr a safodd ar ei thraed, ac a waeddodd, Gwaed, gwaed! hyny yw, mai ei bleserau a'i chwantau a wnaeth angeu mor agos iddo. Gwae fi yn awr, oedd ei ruddfanau a'i ocheneidiau—ïe, ysgrechfeydd ofnadwy oedd yn mygu allan o'i safn ef: melldithio ei hen gyfeillion, melldithio y gwin a'r gwin-dai y gwariodd ef ei amser gwerthfawr, heb enill ond cludo arno ei hun fynyddau o euogrwydd, tlodi annyoddefol, a chystudd oedd sicr i'w ddwyn ef i lawr i'w fedd. Nid oedd un o feiau ei fywyd, ag oedd yn aneirif, na ddaeth heddyw i'w gof fel pe buasent wedi eu gwneud y dydd o'r blaen; saeth lem oedd pechod y pryd hyn, a'r blas ag oedd ynddo gynt wedi troi yn wenwyn aspiaid; ffiaidd oedd ganddo feddwl am y cyfeillion a'u cyfeillach; y meddwdod, y gloddest, a'r ymlanw ddaethant gyntaf i'w gof, am mai y rhai hyn a roddodd achlysur i'r lleill i ganlyn. O!'r fath dân heddyw oedd yn ei arenau am anudoniaeth, celwydd, a thrais: brath cleddyf yn ei ymysgaroedd oedd ei anlladrwydd a'i buteindra; y fath ofn oedd arno farw, fel yr oedd agos i farw o ofn y dydd mawr cyn ei ddyfod. O'r crynu yr oedd pob asgwrn wrth weled dydd gras wedi myned heibio yr awrhon! heb le dysgwyl am drugaredd mwy ! Och fi eb efe, gwae fi erioed; pa le yr oeddwn tra fu ereill ar eu gliniau! ereill tan y gair, a minau yn y dafarn! ereill yn moli Duw mewn salmau, hymnau. ac odlau ysbrydol, a minau yn feddw ar fy ngwely; rhai yn darllen ac yn myfyrio ar air y bywyd ar y pryd yr oeddwn i yn carousio yn mhlith fy nghyfeillion rheglyd, meddw. O fel y treuliais lawer cant o Sabbothau heb feddwl mwy am DDUW na'r anifail a ddyfethir. Ond dyma'r dydd wedi dyfod o'r diwedd y dyfethir finau—fy haeddiant i yw hyn oll! O na buasai heb un Duw yn bod! neu na buasai Prodigalus yn rhyw greadur heb fod yn fab gwraig, yna mi ddiangaswn o'm holl ofid; ond dyn wyf fi (a gwae fi yr awr hon fy mod i felly) ag sydd yn gorfod cyn pen ychydig ddyddiau fyned i'r farn; y porth sydd wedi ei gau, a'r ffwrn o dân a brwmstan yn barod i dderbyn y troseddwr.—Yn wir, fy nghyfaill Percontator, chwi fuasech yn rhoi llawer am fod allan o swn ei ochain a'i ruddfanau anobeithiol ef: yn awr yr agorwyd ei lygaid, ac yn awr y cafodd olwg ar ei holl bleserau yn eu lliwiau duon eu hunain; ac i'r farn yr aeth—yn ol pob argoel —heb weled dim meddyginiaeth i bechadur truan; yn unig gweled rhyw ronyn arno ei hun yn bechadur, ac wedi dinystrio ei hun gorph ac enaid, meddianau a chyfan, a bod yn rhaid iddo ymddangos felly mewn barn, a'i droi ar law aswy Duw.

PERCON. Mi adwaen lawer, fy nghyfaill, o rai a dreuliasant eu bywydau yn mhob pechod, heb ddihuno nes yn eu clefyd diweddaf; a'r Duw mawr fel yn eu cydwybod y pryd hyny yn llefaru, ac yn gofyn y fath gwestiynau a hyn: Rho gyfrif o'th oruchwyliaeth—ni chai fod yn oruchwyliwr mwy. A chyda hyny, dychryn yn ei ddal fel swyddog yn dal lleidr i'w arwain at y bar i'w gondemnio; canys ni feddant air i ateb ond iddynt wneud camddefnydd ac afreolaeth ar holl drugareddau yr ARGLWYDD. Duw yn gofyn y pryd hyny pa beth a wnaethant o'r meusydd hyfryd a gawsant ganddo; a aeth rhan o'r rhai hyn i borthi ei dlodion Ef â bara; a ddilladwyd neb o'i noethion Ef â hwynt; a ddiodwyd neb o'i rai sychedig Ef â'u ffrwythau hwynt ? A'u cydwybod yn ateb, Naddo, ond yn cyhuddo yn eu hwynebau o flaen Duw, ac yn gorfod cyfaddef o flaen dynion iddynt eu treulio hwynt oll ar eu melus chwantau; ac yn awr eu bod yn haeddu y farn oedd ar syrthio arnynt, ond rhy ddiweddar yw hi ar y rhan fwyaf y pryd hyn i gymodi à Duw ag sydd wedi ei ddigio trwy holl ddyddiau eu bywyd trwy anufudd-dod. Ond yr wyf yn gobeithio i chwi, Cantator, wneud Marwnad i'r truenus ddyn hwn er rhybudd i ereill rhag myned i'r lle ofnadwy hwnw, am nad oes dim argoel llai nad gyda diafliaid mae ei nyth tragywyddol ef y dydd heddyw

CANT. Ei Farwnad sydd yn rhedeg fel hyn:—

Dacw loddest wedi darfod, dacw fedd'dod yn ei rym,
Ag a lediodd Prodigalus, heddyw wedi myn'd yn ddim;
Dacw 'r blaenor wedi trengu, 'drychwch ar y penaf un,
Wedi dodi 'r bwyd a'r ddiod goreu i'w ddinystrio ei hun.


Pwy bleserau 'n awr sydd ganddo? ai nid llais y delyn fawr?
Neu ynte swn y droed rygynog sydd yn jiggo 'r hyd y llawr?
P'un ai gwin, ai sac, ai brandi mae e'n yfed yn ei hynt?
A yw 'n llawen yn y cwmni? ac yn ddifyr megys cynt?

O nage! fe ddarfu hyny, yn lle gwin, euogrwydd trwm
Sydd yn llosgi ei goluddion megys y berwedig blwm,
'Screch cythreuliaid ydyw 'r delyn, dyna 'r dawns mae e'n fwynhau,
Myrdd o 'llyllon sydd yn boenwyr, a thrwy 'gilydd yno 'n gwau.

Dyma'r swper sy iddo heno, brwmstan todd yn danllwyth las,
Bwyta hwnw, hwnw 'n tarddu trwy rwyd-dyllau 'i groen i maes;
Yn lle cymysg pob rhyw licer, yfed llid tragwyddol sydd,
T'w'llwch dudew ellir deimlo, yn lle hyfryd oleu 'r dydd.

Dewch yn gryno, feibion pleser, yma dewch i lan y llyn,
Tros un fynyd gwrandewch ruddfan, gwelwch ddagrau 'r adyn hyn;
Rhowch ffarwel i bob pleserau, rhowch ffarwel, y mae 'n brydnawn,
'Mhen ychydig bach o ddyddiau chwi gewch berffaith daliad llawn."

Mae yn Eden well pleserau, uwch pleserau tan y groes;
Cariad ragor nag mewn natur sydd i wel'd yn angeu loes;
Mwy llawenydd, mwy digrifwch, ffeinach cysur, uwch ei ryw,
Nag a welwyd ar y ddaear, sydd yn mhresenoldeb Duw.


PERCON.— Ond deuwch, bellach, ac adroddwch ychydig am Fidelius y Cristion; canys mi wn y caf ryw bethau, os nid pob peth yn ei fywyd ef, yn hyfryd; ac nid y lleiaf o ryfedd- odau Duw yw cwrdd â Christion yn ngwlad yr Aipht, yr hon sydd erioed yn elynol i bob gwir Israeliad.

CANT.—Fidelius a anwyd yn nhir Canaan; ei fam ef oedd Hittees, a'i dad yn Amoriad, ac yntef ei hun a esgorwyd arno mewn lle digysur, ar ganol y maes; ni thorwyd ei fogail yn y pryd y ganwyd; nis cyweiriwyd ef hefyd â halen; nis golchwyd ef mewn dwfr i'w feddalhau; ac nis rhwymwyd ef â rhwymyn; ac oni buasai i Un ardderchog o nerth, a mawr iawn, a lluosog ei drugaredd ei gael ef yno, darfuasai am dano yn y dydd yr esgorwyd arno.. Ond y Gŵr hwnw a'i hymgeleddodd ef, a'i golchodd, a dorodd ei fogail, ac a'i cyweiriodd â halen, ac a'i dilladodd; ac felly tyfodd ac a aeth yn fawr. Ond pan gyntaf cynyddodd i faintioli, fe drodd, er ei holl driniaeth, yn ddyn pechadurus, fe annghofiodd ei Greawdwr, ac a gofleidiodd bob pechod yn un chwant; fe dorodd holl orchymynion ei DDUW, ac a dreuliodd ei dalentau, gan fyw yn afradlon, nes daeth amser serchawgrwydd a rhad ras i ddirwyn i fyny, ac arfaeth Duw i esgor ar awr o dru- garedd; yna galwodd y nefoedd ar ei ol â llais ag a orfu arno gyda Saul i wrando; fe ufuddhaodd i air y bywyd, ac a ddaeth adref i fyw dan aden efengyl gras. Ac am ei fod â'i drigfan yn ngwlad yr Aipht, yn gymydog i mi, a'm bod gydag ef yn fynych yn ei dristwch a'i wynfyd, ac iddo yn fynych ddadguddio i mi ei holl feddwl, ni allaf lai na'i osod allan fel y darlun mwyaf cymhwys ag wyf yn adnabod o Gristion, yn ol dull y Testament Newydd; ac O! na b'ai pawb dan yr enw hyny â'u grasusau mor glir, a'u hysbrydoedd mor wresog, a'u bywyd mor hardd a dysglaer a'i fywyd ef. Yr oedd Fidelius yr un dyn o fewn ag o faes; yr oeddwn yn gydnabyddus âg egwyddorion ei grefydd, yn ei brofiadau tumewnol, gwastadrwydd ei fywyd, yn nghyda'i holl weithredoedd o ffydd a chariad ag oedd ef yn eu hymarferyd o bryd i bryd, yr hyn, os caniata Duw, a osodaf allan i chwi, fy nghyfaill Percontator.

PERCON.—O ewyllys fy nghalon; ewch rhagoch.

CANT.—Fe ymneillduodd ei hun yn hollol oddiwrth gyfeillach yr Aiphtiaid ar ei ddyfodiad cyntaf i'w gwlad, ac yr oedd efe a'i deulu ar eu pen eu hunain, heb eu cyfrif yn nghyda'r Cenhedloedd; eto, pa bryd bynag y deuai neb o'r wlad anniolchgar hono i geisio unrhyw gymwynas gan Fidelius, ag y gallai efe ei rhoi heb wneud niwed i neb o deulu y ffydd, nid oedd neb yn fwy ewyllysgar nag ef yn holl dir Ham. Yr oedd efe am wneud daioni i bawb, ond yn benaf i etifeddion Seion. Pa wag hanesion bynag, pa sisial a chelwydd, pa wag glebar, neu arwyddion disail bynag fyddai ar led, ni chawd clywed erioed i un o honynt fyned allan trwy neu o enau Fidelius. Os un terfysg ac ymrafael fyddai yn yr ardal hono—os un cenfigen a drwg ewyllys fyddai gan neb, un yn erbyn y llall, ni chawd ei fod ef âg un llaw na bys ynddo; canys goleuni y nef a ddysgodd ei glust i wrando, a'i dafod i lefaru yn union ffyrdd yr ARGLWYDD; ond ceisiai drwy bob moddion ostegu pob peth annghysurus, a hoff oedd ganddo fod yn dangnefeddwr. Ond byth ni threuliai amser hir, ac ni ddywedai eiriau ofer; a derbyn wyneb fyddai yn mhell oddiwrtho yn y fath gyfeillach: ac yn eu lle byddai symlrwydd, ysbryd heddychlon, geiriau cariad, a datod llid, a rhyw areithiau melus am dragywyddoldeb a'r farn a fydd; yr hyn oedd yn awdurdodol ryfedd i ddarostwng terfysg, gostegu ysbryd gwyllt, ac addfedu dynion i heddychu y naill a'r llall. Rhai prydiau, cyn methu gwneud dyben ar derfysg, Fidelius a wobrwyai y cyndyn haerllug â'i arian ei hun, er mwyn i'r gwan gael llonydd gan ei ddanedd di-drugaredd. Ei fywyd ef oedd annghyffredin a rhyfeddol; ei deulu oedd brydferth, moesawl, a rhinweddol; ei weision a'i forwynion oeddent oll yn hyfforddus, fel yr eiddo Abraham; pan demtid un o honynt i'r radd uchaf, ni chaed clywed llw na rheg o'i enau ef, ond gwastad ac amyneddgar fyddai pawb o honynt yn eu holl ymdriniaethau â dynion poethion. Ei dŷ ef oedd yn deml i'r ARGLWYDD DDUW: yno yr oedd addoliad boreuol a phrydnawnol, fel yn mhabell yr ARGLWYDD; yr oedd yr holl deulu mor hyddysg yn Meibl y cysegr ag yw plentyn ysgol yn ei ramadeg: hyfryd oedd ei feibion a'i ferched yn ymbyncio o hono, ac yn bendithio Duw mewn salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol trwy gydol faith y dydd a'r nos; ei holl deulu ef oedd wedi eu dysgu yn egwyddorion y ffydd, a holl hanesion yr Ysgrythyr—Lân. Yn fyr, ei dŷ ef oedd megys coleg o dduwinyddion—pawb oedd yno yn ddarllenwyr, yn weddiwyr, yn athrawon, ac yn brophwydi; ac yr wyf yn meddwl nas gwelais mewn man dan y nef ragor o ffyddlondeb i benteulu, dysgyblaeth mwy manwl, na gwell rheolau, ac oll yn cael eu cadw i'r manylrwydd mwyaf. Chwi ryfeddech y fath drefn fanwl, ddoeth, ac adeiladol oedd yn y teulu hwnw; diau fod Ysbryd y Duw byw yn cyfarwyddo y rhai a'i gosododd hi. Yma yr oedd gwaith neillduol i bob un, a chymhwysder rhyfeddol yn mhob un at ei orchwyl. Yma yr oedd pwys a chaledi y gwaith yn ateb grym, oedran, a deall y gweithiwr. Nid oedd yma na chymysg nac annhrefn, nac un byth yn rhedeg i waith y llall; ond y fath gydsain hawddgar a rheolaidd i maes ac i mewn, fel yr oedd doethineb y nef i'w weled yn y gosodiad o honynt. Ac O y ffyddlondeb oedd yn mhob un i'w feistr,—yn hytrach i'r ARGLWYDD! Pawb y tu cefn i'r goruchwyliwr fel o flaen ei wyneb, a'u holl egni i ddwyn y gorchwyl hwnw yn mlaen. A phe buasech ond edrych arnynt dros ronyn yn eu haddoliad teuluaidd, yma yr oedd y fath harddwch, a blas, a phleser nas annghofiaf o hono byth. Pan gyntaf y tarawai y gloch yr awr weddi, deuai yr holl deulu—yn blant, yn wasanaethddynion, a dyeithriaid—yn nghyd i'r lle apwyntiedig o addoliad; yr oedd yr ystafell wedi ei haddasu i'r pwrpas hyn, yn mha le yr ymddangosent oll gyda difrifwch, pwyll, ac eithaf prysurdeb.[3]* Fidelius ei hun oedd yr offeiriad, a'i swydd a roed iddo gan yr Hwn sydd yn caethiwo caethiwed ac yn rhoi rhoddion i ddynion; efe a ddarllenai ran o air Duw yn ystyriol ac yn ddifrifol, ac a agorai y rhan hyny gyda gwres, profiad, a goleuni; a'i holl deulu yn ei dderbyn fel o enau yr ARGLWYDD. Yna Fidelius a daer weddiai ar yr ARGLWYDD dros ei deulu, yn nghyda holl ddynolryw, a'i weddi ef oedd fel diliau mél; ei afael oedd mor gryfed nas gollyngai o DDUw nes rhoi iddo ryw arwydd o fendith: ond ar ol y cwbl byddent sicr o ganu hymn, a thyma y canú goreu a glywais i erioed—torf o ddynion (canys teulu Fidelius oedd aml) â'u holl galon yn moli Duw, ac yn swnio ei glod nes rhoi calon y rhai llesg i ganu a bendithio. Ac yr awr hon, wedi Fidelius farw, mae ei holl dŷ ef eto yn dilyn yr ARGLWYDD yn ddiwahan; ac efe, trwy ei ymarweddiad da, ei gynghorion, a'i ysbryd, a genedlodd fywyd yn eu cydwybodau nas ymedy â hwynt tra fyddont fyw yn y byd, fel yr wyf yn gobeithio: canys ni fyn ei feibion na'i ferched y dydd heddyw, mwy nag yntau, i gyfeillachu dim â'r byd annuwiol. Ond fel plant Jonadab, mab Rechab, na fynai yfed gwin, er ei daer gymhell ef arnynt, am i'w tad orchymyn felly iddynt ; felly hwythau, nis gwnant gyfeillion mynwesol o neb ond y sawl sydd yn teithio tua mynydd Seion (y mae y fath effeithiau daionus gan siamplau da rhieni ar fywyd y plant), ond yn unig a fyddo o bur angenrheidrwydd mewn gwlad a chymydogaeth, er mwyn cadw i fyny gariad, heddwch, ac undeb, prynu a gwerthu, yr hyn a drefnodd yr ARGLWYDD er cynal bywyd dynolryw. Yr oedd Fidelius wedi derbyn llawer o'r byd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ei fendithio fel y bendithiodd Isaac. Ei dir oedd yn cnydio yn gan' dyblyg, fel nad oedd meusydd cyffelyb i'w feusydd ef trwy holl wlad yr Aipht: ond hyn oedd mor bell o'i roi ef yn gybyddlyd, fel yr oedd ei law yn estyn allan fel yr oedd llaw Duw yn dwyn i mewn. Nis gwelais â'm llygaid un mor haelionus, ac nis clywais â'm clustiau am un mor synwyrol a doeth yn cyfranu, yn adnabod ei amser i roi, a'i amser i beidio; gwrthddrychau cymhwys ac annghymwys, a pha roddion oedd oreu i bawb i'w cael. Dillad roddai efe i'r noeth, bwyd i'r newynog, arian i'r angenog, meddyginiaeth i'r claf, cerydd i'r afreolus, cynghor i'r dall a'r annghyfarwydd, rhybudd i'r ffol a'r cyndyn, cymorth, nerth, a dyddanwch i'r weddw a'r amddifad; yn fyr, tad pob gwan a rheidus, brawd pob llwfr a thrafferthus, ac amddiffynfa gadarn i'r hwn fyddai ar gael ei lyngcu gan fwystfilod rheibus y byd hwn, oedd Fidelius; ond eto dialydd ar y rhai oedd yn bwyta pobl DDUW fel y bwytaent fara; ac yn fynych y dygodd efe yr ysglyfaeth o law y cadarn, ac yr anrheithiodd efe y rhai oedd am ddamsang anwyliaid yr ARGLWYDD dan eu traed. Yr oedd y gŵr duwiol hwn yn adnabod ysbrydoedd dynion yn fwy rhyfeddol nag y gallech. gredu; fe dreiddiai ei lygaid i mewn i galonau i ddeall gwahaniaeth rhwng tlawd a thlawd, gonest a dichellgar; gwir wrthddrych elusen oddiwrth yr hwn nad oedd mewn eisieu. Rhifedi o weddwon a waredodd efe o ddwylaw eu gorthrymwyr, lluoedd o amddifaid a fagodd ac a feithrinodd efe ar ei draul ei hun; ei dŷ ef oedd yn dŷ amddifaid, a'i fwrdd oedd. bwrdd y rhai diymgeledd. Mae lluaws o blant heini, o feibion gwrol, ac o wŷr anrhydeddus heddyw yn nhir Ham ag a ddygodd Fidelius i fyny, wedi eu cael yn dlawa, yn noeth, ac yn hollol ddiymgeledd. O, pwy all rifo cynifer un ag a daflwyd allan o'u llety, ag y parotodd ef lety iddynt; fe gywilyddiodd ac a faeddodd eu gorthrym wyr trwy drugarhau wrth y rhai nad oedd rhwymedigaeth arno i wneud da iddynt ond er hyn oll, nid ydoedd ei sêl byth yn enyn i'r eithaf, na'i galon yn gwresogi byth i'r fath raddau wrth un weithred dda, na phan byddai yn rhyfela o blaid y saint. Nid oedd dyn llareiddiach na Moses tan y nef, eto gwelwch ei boethder dros waith yr ARGLWYDD, a daioni ei bobl. Fidelius fel yntau a enynai yn dân yn achos etholedigion Duw, ac a'u hamddiffynai fel pe buasai ei achos ei hunan; yr oedd yn edrych mai'r gwaith penaf a feddai efe ar y ddaear oedd gwneud daioni i eglwys DDUW; yr oedd holl gorph teml yr ARGLWYDD iddo fel un plentyn; a gosododd ei holl feddylfryd ar eu hamddiffyn a'u hachub rhag geiriau drwg, gorthrymderau, tlodi, gofidiau, a phob maglau ereill oddiwrth y byd a'r diafol, ag allai efe eu cadw rhagddynt. Yma y gwelais gyflawni yr Ysgrythyr am ofalu am y gwir weddwon, y rhai sydd nos a dydd yn gweddio Duw, yn amddifad o bob peth ond yr ARGLWYDD. Fe fedrai Fidelius adnabod gwahaniaeth rhwng y rhai hyn a'r rhai gwag siaradus, rhodresgar, ag oedd yn dwyn chwedlau o dŷ i dŷ, ac adrodd pethau nad oeddent weddus; y rhai sydd yn peri annghydfod, terfysg, ac ymrafael rhwng rhai anwyl Duw; ond y gweddwon oedd Fidelius yn dad iddynt, oedd wŷr a gwragedd analluog i weithio, ac wedi rhedeg i dlodi trwy orthrymder neu letygarwch, y rhai oedd yn dwyn gair da gan yr holl eglwys, ac wedi bod eu hunain yn gynorthwyol, ac yn golchi traed y saint; yn awr yn ufudd, yn dirion, yn addfwyn, ac yn ostyngedig, yn chwanog, yn ol eu gallu, i wneud eu goreu bobl yr ARGLWYDD; rhai o honynt yn hen ac oedranus, ereill o fewn terfynau oedran, fel gwyryfon pur yn gweithio â'u dwylaw, heb fod yn fodlon i fwyta bara segurdod. Fidelius oedd yn wastad, ar bob siwrnai, yn manwl holi am weiniaid y ffydd, gydag awydd i ddilladu y noeth o honynt, a phorthi y newynog, gan edrych arnynt yn mhob gwlad fel tylwyth ei dŷ ei hun; ei frodyr a'i chwiorydd, ei deidiau a'i famau y galwai efe y rhai a gredent yn yr ARGLWYDD; ni flinai efe ar eu cyfeillach, ac ni ddiffygiodd wneud da iddynt trwy ei holl fywyd. Mae llawer cant o honynt heddyw yn gynes yn ngwlan ei ddefaid ef; ac mae celyrnu rhai o honynt wedi cael eu cadw yn llawn blawd, a'u hystenau heb fod yn wag o olew, y naill wedi ei fedi ar ei feusydd ef, a'r llall wedi ei wasgu allan o'i olewydd-lanoedd ef. Dyma y ffordd yr ydoedd efe yn dewis i wneud â'i foddion, yn lle eu pentyru yn nghyd, fel Avaritius, erbyn dydd dinystr a cholledigaeth. Mae Mae yn wir fod ganddo aur ac arian lawer iawn, a'i olud ydoedd fel golud Job; ond yr oll o honynt oedd rydd ac agored i wasanaeth holl deulu y ffydd, pa bryd bynag y byddai Duw Jacob yn galw am danynt. Hynod uwch y cwbl oedd efe at weinidogion yr efengyl; yr oedd yn edrych ar y rhai hyn fel cenhadon wedi eu hanfon i waered o'r nef i borthi praidd Duw yn yr anialwch. Fe anfonodd amryw o honynt i wledydd pell ar ei draul ei hun, lle yr oedd y bobl mewn tywyllwch mawr, heb glywed erioed am air y bywyd, a'r iachawdwriaeth fawr yn ngwaed yr Oen; y mae rhai o ardaloedd yr India yn ei fendithio, ac yn dyrchafu ei enw hyd y nef, am mai efe oedd yr offeryn a gynhyrfodd yr ARGLWYDD i ddanfon atynt lusern iachawdwriaeth. Yn nydd cystudd ac erlid gynt yn nhir yr Aipht, pan ydoedd pregethwyr yr efengyl â'u bywydau yn eu dwylaw, y cuddiodd efe haner cant o brophwydi yr ARGLWYDD mewn ogof gydag Obadiah, ac y porthodd efe hwynt yno â bara ac à dwfr, ac a'u cadwodd rhag Jezebel, brenines gwlad yr Aipht, yr hon oedd yn yfed gwaed y saint fel dwfr, ac yn ciniawa bob dydd ar gnawd gweision Tywysog heddwch. Fe gai eisieu fod arno ei hun cyn cai eisieu fod ar brophwydi Duw; nid oedd ei feirch fyth wrth wasanaeth gwell yn ei olwg na phan y byddent yn hol neu yn hebrwng rhai o udgyrn yr efengyl i swnio allan yr iachawdwriaeth fawr yn ngwaed yr Oen. Clywais ef yn llefaru mor oleu a'r wawr fod y creadur yn ocheneidio wrth ddyoddef porthi blys, cyflawni trachwant, a digoni nwydau drwg gwrthgiliedig blant Adda, a'i fod yn awr wedi ei gaethiwo i aflendid dynolryw, ac yn gaethwas i enyn llid, malais, cenfigen, aflendid, balchder, a phob pleser yn un chwant; ond, medd efe, y creadur sydd yn ei le pan y byddo yn porthi, yn cynal, ac yn helpu dyn at wasanaeth y nef. A phwy bynag oedd gynefin â'i dŷ ef, fe gai weled fod holl drugareddau Duw yn cael eu treulio ganddo er harddwch, ac nid er gloddest a meddwdod; dillad er harddwch, ac nid er balchder; y cwbl er help i ymestyn yn mlaen tua'r nefoedd. Cyfeillach Fidelius oedd hyfryd a nefol; cariad oedd yn teyrnasu yn ngwedd ei wyneb; pob gair o'i enau oedd yn tueddu at wneud dynion yn well, yn dduwiolach, ac yn fwy rhinweddol. Os ceryddu, fe'i gwnai yn ddirgel; os cysuro, fe'i gwnai yn gyhoedd; os lladd, lladd er da; os codi, codi yr enaid yn nes i'r nef; ond pa un bynag a'i taflu lawr neu ddyrchafu i fyny, pob peth a wnai neu a ddywedai oedd oll mewn cariad.

PERCON.—Ond peth rhyfedd os nad oedd yn cael ei annghredu gan lawer gwrth—ddywedydd yn ei erbyn; ei erlid, ei wawdio, a'i ddibrisio; canys pwy bynag a fyddo yn byw yn dduwiol yn NGHRIST IESU a erlidir. Mae had y ddraig â gelyniaeth gwastadol yn erbyn Had y wraig; y ddau hyn a wrthwynebant eu gilydd hyd fyth. Peth rhyfedd os nad oedd llawer o wrthwynebiadau iddo, annghyfiawnderau, a gorthrymderau yn cael eu gosod arno am ei fod yn gwneud cyfiawnder dros enw y Duw byw. Nid ydych yn son din am ei groesau, ei gystuddiau, a'i brofedigaethau; pa fodd, atolwg, y cafodd y ffordd mor esmwyth a hyn i'r nef? Nid oes genych ond torfeydd o rinweddau allanol, tymherau hyfryd ag y gall llawer o honynt fod mewn natur na chenedlwyd erioed o Dduw. Dymunwyf gael clywed son am ei groes ef; canys y mae yn rhaid codi hono cyn y gellir cyflawn ddilyn yr ARGLWYDD: am hyny, os cafodd efe hwynt, pa fodd yr ymddygodd danynt? Ai maddeugar dan bob dirmyg, gwawd, ac erlid? Ai addfwyn dan bob croes, cystudd, a rhagluniaeth wrthwyneb, neu ynte fel arall?

CANT.—Nid oedd Fidelius yn rhoi achos i neb i'w wrthwynebu, nac ychwaith i roi drygair iddo; ond yr oedd ei haelioni, ei diriondeb, ei gymwynasgarwch, tebygid, yn abl gorchfygu pawb o'r byd; eto, rhwng y genfigen hon sydd yn blino am, ac yn llidio wrth y sawl a lwyddo yn y byd, ac a gynyddo mewn parch, golud, neu enw; yr elyniaeth hono sydd yn erbyn gwir ras yn mhob dyn wrth natur, yn nghyda'r llid hefyd sydd gan ddiafol at ddelw Duw yn. mhawb, a berodd enynu mewn llawer o bobl wrthwynebrwydd i Fidelius. Ond, fel Moses gwas yr ARGLWYDD, ei DDUW a'i hamddiffynodd ef; a'r golofn dân a safodd goruwch ei babell yn mhob cyfyngder a chaledi. Rhai a geisiasant dduo ei enw, ond trodd hyny allan er parch iddo; rhai a'i dirmygasant ef i'r radd uchaf, ond ni thynwyd cufydd oddiwrth ei faintioli trwy hyny. Pwy all gyfrif pa mor fynych y bu efe yn nod i saethau rhai anwir? Ni allaf lai na meddwl am Joseph wrth gofio am dano; gŵr oedd wirion, diwair, a ffyddlon, yn cael cam-achwyn arno fel pe buasai euog o'r camweddau duaf; ei enaid a roddwyd mewn heiyrn, a'i draed mewn cyffion, er na chafwyd twyll yn ei enau, nac annghyfiawnder yn ei fywyd. Felly Fidelius; drwg-ewyllys a malais oedd yn ei amgylchu fel goleu y dydd; ond nis beiddient wneud niwed iddo, nac yn fynych ddadguddio y drwg-ewyllys oedd yn eu calonau ato; canys Duw a osododd ei ben, ef uwchlaw ei elynion, a'i ofn ef oedd arnynt. Yn y tywyllwch yr oedd eu nerth, a thu cefn iddo yr haerent yr anwiredd. Yno y condemniwyd ef amryw weithiau am bethau. nas gwyddai oddi wrthynt; ond yma cafwyd gweled ei amynedd ef, ac yma y cafwyd prawf o'i ysbryd. Yn nydd y dirmyg ni roddodd ddant am ddant, a sen am sen; ond o'r tu arall, fe gauodd ei glustiau rhag gwrando sisial dynion segur, ac ni chredodd fod y chwedl mor ddued ag y mynegid iddo. Fe geryddodd y rhai oedd yn dwyn newyddion o dŷ i dŷ, ac a ddymunodd gael llonydd i wrando ar bethau mwy sylweddol, y rhai, medd efe, oedd i'w cael yn yr Ysgrythyrau, ac yn ei gydwybod ei hun; ac fe weddiodd yn daer dros ei erlidwyr-"O Dad, maddeu iddynt, canys nis gwyddant pa beth y maent yn ei wneuthur." Rhai oedd yn rhyfeddu os dyoddefai efe i'w ysbeilio yn llawen, ond hyn a wnaeth yn siriol er mwyn efengyl CRIST, pan nad oedd un ffordd i helaethu teyrnas Immanuel well na dyoddef talu y fees annghyfiawn; ac er ei fod yn ddigon abl i amddiffyn ei hun pan y byddid yn duo ei enw, eto, am achosion nad oedd gogoniant yr efengyl yn gorphwys arnynt, gwell oedd ganddo, pan y tarewid ef ar y rudd ddeheu, i droi y rudd aswy hefyd nag ymddial; a phan y dygid ei gochl ef, gwell ganddo, na blino ei ysbryd mewn cyfraith am werth cyn lleied, i ymadael â'i bais hefyd; canys yr oedd ei olwg ar ogoniant efengyl Duw. Rhyfeddodd Ultorius os dyoddefai dduo ei enw ac yntau yn ddieuog, ac yn ddigon abĺ i amddiffyn ei hun; ond er syndod iddo ef ac i bawb yn y gymydogaeth, fe gadwodd ei amynedd, ac a faddeuodd i'w ddrwg-ewyllysiwr; a pha gyntaf y daeth ar ei law i wneud cymwynas, fe'i bendithiodd ef, ac a wnaeth ddaioni annysgwyliadwy iddo, yr hyn a barodd i'r dyn cyndyn hwn i beidio cynyg gwneud drwg iddo mwyach. Rhedodd gair am Fidelius, os oedd neb am ddysgwyl cymwynas ar ei law ef, iddo wneud niwed iddo; ond eto mor faddeugar ydoedd am drosedd yn ei erbyn ei hun, ac er mor farw ydoedd i'w enw ei hun, eto nid oedd felly enw nac achosion ei frodyr na'r efengyl, yr hon oedd yn nes ato na'i einioes ei hun. Pan gododd pendefig ardderchog o'r wlad hono un tro yn ei erbyn ef, gan wahardd pregethiad y Gair o fewn i'w dŷ, yr hwn oedd ganddo fel teml agored i brophwydi yr ARGLWYDD, ac yn ganlynol i'w daflu allan o'r holl ardal hono, a gwneud i Fidelius dalu fees dau-ddyblyg am iddo dderbyn Gair y Ffydd o dan ei gronglwyd; y pryd hyny yr ymwrolodd efe yn yr ARGLWYDD, ac yn noethineb ei DDUW, gan osod yr achos o flaen yr uchel-swyddogion, ac a ddaliodd y peth yn wrol ac yn ddilwfr o blaid y ffydd, yn fodlon treulio a feddai yn y byd ar y fath achos ag oedd yn perthyn i iachawdwriaeth eneidiau dynion: ac yn gwybod bod cyfraith y llywodraeth o'i blaid, fe enillodd y dydd, ac a gafodd rwydd hynt i'r efengyl fyned trwy holl wlad yr Aipht. Byth nid oedd mor ddibris ac mor iach am achosion ereill ag am ei achosion ei hun, canys yna fe geryddai yn llym y rhai oedd yn duo eu henwau, ac a gosbodd amryw ag oedd yn treisio teulu y ffydd, ac a fynodd amserau mwy heddychlon, trwy gosbi drwg weithredwyr, a dial ar elynion yr ARGLWYDD, fel Dafydd, y gŵr oedd wrth fodd calon Duw. Ac i'r dyben hyn fe bwrcasodd iddo ei hun swydd oruchel ac arbenig yn y wladwriaeth, fel y gallai gael gwell llonydd i'r gwirionedd fyw, a gwell rhydd-did i bregethu Gair y deyrnas. Yn fyr, yr un peth oedd gwneud niwed i gredadyn ag i ganwyll ei lygad ef, mor gu oedd ganddo y saint o bob enw; ond fe adawai i amryw i'w felldithio ef ei hun, ac a ddywedai, "Gad iddo; yr ARGLWYDD a archodd iddo." Un digyffelyb ydoedd yn ei holl ymarweddiad—manwl, gwresog, a gwyliadwrus yn ei ddyledswyddau at DDUW; cywir, gonest, a didderbyn wyneb at ddyn; sobr, cymedrol, a hunanymwadol ato ei hun.

PERCON.—Rhinweddol a hyfryd oedd ei ymarweddiad a'i fywyd cymwynasgar a hawdd ei drin; caredig i'w gyfeillion, a maddeugar i'w elynion; a chredu yr wyf mai gŵr da a duwiol oedd Fidelius. Ond mae moesoldeb yn myned yn mhell, a hunan—gyfiawnder sydd yn myned yn mhellach; ac edrychwch ond ar Eglwys Rhufain—pa drysorau anfeidrol roddodd miloedd o'r rhai hyn at achosion eglwysig, i borthi tlodion, gweddwon, ac amddifaid, y rhai oeddent hwy yn dybied fod felly o leiaf? pa sel sydd ganddynt at eu heglwys eu hun? Pa gyflawnder a roisant at weddw—dai, mynachlogydd, a chapeli? Pa luaws o offeiriaid, monachod, a monachesau sydd heddyw yn bwyta bara o'u hydlanau hwy? Ond nid oes nemawr o'r rhai hyn yn adnabod gwaith gras ar eu calonau, nac yn adnabod yn deimladwy awelon Ysbryd Duw. Eu holl ddiwydrwydd yn eu haddoliadau, a rhifedi eu gweddiau sydd yn sawri yn rhy drwm o hunan-gyfiawnder, ac ymgais am brynu y nef. Ond er mai o ryw arall yr oedd Fidelius, eto da genyf fyddai clywed pa sut yr ydoedd am y cyfiawnder sydd o ffydd; ac a ydoedd efe yn ymwadu â'r hwn sydd o'r ddeddf.

CANT.—Ni welais nemawr yn rhagori arno yn y pwnc hwn; chwi debyg'sech, o ran ei fanylrwydd i ymwadu â hunan—gyfiawnder, mai Antinomian ydoedd efe, ac wrth ei ymegniadau mewn dyledswyddau a'i ddiwydrwydd i arferyd moddion gras, mai Arminian ydoedd; ac wrth wastadrwydd ei fywyd a'i foesoldeb allanol, mai un o'r hen philosophyddion a gododd oddiwrth y meirw oedd efe. Anhawdd oedd cael dyn trwy y fro hono ag oedd yn dyrchafu CRIST yn fwy nag yr oedd efe; ei ymffrost oedd bod CRIST yn gyfiawnder, sancteiddrwydd, yn ddoethineb, ac yn brynedigaeth. Ac yr oedd efe mor glir yn yr achos hyn fel yr oedd sylwedd ei gynghorion, bywyd ei athrawiaeth, yn nghyda holl lais ei weddiau, yn cerdded ar hyd llwybrau rhad ras a chyfiawnder y Croeshoeliedig. Dyma brif bwnc ei bleser ef, dyma'r tant chwareuai fynychaf arno; ac am y prif bwnc hwn yr oedd yn canmawl cymaint ar yr hen ddiwygwyr—Luther, Calfin, Huss, a Melancthon: yr athrawiaeth hon, meddai efe, oedd tegwch mwyaf yr hen Buritaniaid: mynych y clywais ef fy hun yn gosod allan yn rhyfedd oleu, mai o eisieu deall manylrwydd cyfraith Duw, yr hon sydd yn myned i mewn at yr arenau, ac yn barnu dirgel fwriadau y galon, oedd yr achos bod Cristionogion yn gosod i fyny eu gweithredoedd eu hun yn lle cyfiawnder y groes; ac am nad oeddent wedi cael golwg ar sancteiddrwydd yr Hollalluog, yr Hwn sydd mor bur fel y mae yn gweled ynfydrwydd yn ei angylion, ac nid oes dim yn bur yn ei olwg; a mynych iawn yr oedd yn dangos pechodau, dyledswyddau, gweddiau, ymprydiau, elusenau, a hefyd holl ordinhadau hyfryd yr efengyl, tuag at gael yr addolwyr ymaith o bwyso arnynt, heb ymddiried mewn dim, nac ymffrostio mewn dim, ond yn ngwaed yr Oen. O y melusdra ddywedodd ef iddo gael lawer gwaith yn yr Ysgrythyrau yma, Dat. viii. 3: "Ac angel arall a ddaeth (yr hwn oedd CRIST yr ARGLWYDD) ac a safodd ger bron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogldarth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddiau yr holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd ger bron yr orseddfaingc." Mat. i. 21: "Gelwir ei enw Ef IESU, oblegyd efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Jer. xxiii. 6: "A gelwir ei enw Ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder." Esay xlv. 24: "Yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth." Hyn oll oedd yn dangos ei fod ef yn uniongred yn yr athrawiaeth o rad ras yn NGHRIST.

PERCON.—Ond pa sect, pa enw o ddynion, pa ryw ddysgyblaeth, ac yn mha fath gynulleidfa yr oedd efe mewn cymundeb?

CANT.—Chwi ryfeddech ei ysbryd a'i farn ef am sectau; yr oedd hyd y nod yn ffieiddio yr enw ynddo ei hunan, bydded hen neu newydd; a llawer tro y clywais ef yn dywedyd mai balchder pregethwyr y gair, trwy eu bod am gael enw, yn fyw ac yn farw, oedd yr achos i amryw o hon— ynt dynu dynion atynt eu hunain, yn lle at ARGLWYDD mawr y cynhauaf; a bod dynion hwythau mor barod i wneud delw-addoliaeth o'u gilydd, os nid mwy parod, nag o un creadur arall pa bynag; a bod y cyffredin bobl, pa bryd bynag y clywont areithiwr da, a chael ond ychydig flas dan ei athrawiaeth, yn barod i'w osod ef i fyny fel Herod gynt, yn lle Duw, a'i galon yntau yn goglais cymaint yn y cyfryw ddyrchafiad, ac ymlyniad y bobl wrtho, fel y byddai yn ymfalchio ac yn ymchwyddo o'r enw newydd ag mae ef am godi, ac ereill mor wag a'i gyflwyno iddo. Yna barna ef a'i ganlynwyr fod y sect newydd hon yn well nag un o'r hen sectau ag sydd a'u henwau wedi rhydu. Ac o'm rhan fy hun nid wyf yn mhell o fod o'r un farn a Fidelius yn y pwnc hwn, pan wyf yn gweled gweinidogion ag sydd wedi eu codi ychydig i fyny o'r dom mewn doniau, pan enillont rai dynion i'w pleidio, yn gwresogi o blaid sect yn fwy nag o blaid efengyl Duw; ac am enill dysgyblion iddynt eu hunain yn fwy na dychwelyd eneidiau o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ac Ac yr oedd efe yn cadarnhau fy marn i o ddydd i ddydd, trwy ddangos nad oedd dim rhagor sel am un pwnc o'r ffydd, neu am doriad un gorchymyn o'r gyfraith, nag sydd am enwau, sectau, a barnau dynion. Pa bryd y twymo, eb efe, ac y gwresoga dyn ragor na phan y bo ei sect ef yn cael ei diystyru? nid oes na llw na rheg, na meddwdod na chyfeddach, na balchder na malais, nas maddeuir yn gynt na phechu yn erbyn yr enw hyny o ddynion ag a fo efe yn broffesu. Hyn, a chyffelyb i hyn, a berodd i Fidelius beidio cyfenwi ei hunan ar un enw mwy na'r llall; ac ni fynai chwaith yn hollol i roi ei hun i farn un difinydd neillduol mewn pwnc o athrawiaeth ; na chylymu ei hun wrth un gredo a gyfansoddodd Arminius, Baxter, Pisgator, Calfin, Luther, neu rai ereill o dduwinyddion mwy neu lai iachus na'r rhai hyn, am eu bod oll wedi rhedeg gormod ar ol eu deall eu hunain, a throi yr Ysgrythyrau at eu pynciau eu hunain ormod, a gwneud bob un wrhydion meithion o athrawiaethau, a rhoi enwau arnynt ag oeddent hwy yn tybied eu bod yn cytuno â'u gilydd, ac yna yn ceisio eu profi allan o air y gwirionedd. Ac at ddwyn hyn i ben y darfu iddynt ranu geiriau, briwio athrawiaethau, hollti yn ddau wirioneddau na holltodd gair Duw mo honynt. Yn fyr, yn lle goleuo y Beibl, ei dywyllu; ac yn lle ei ddwyn i fod yn dyst, ei wyrdroi at eu pynciau eu hunain; yn lle ymofyn eu pynciau o'r Beibl, ymofyn Beibli gadarnhau eu pynciau, bid hwy uniongred neu gyfeiliornus; hyn, meddaf, a osododd Fidelius i ddarllen gair Duw yn fynych ac yn fanwl, ac i dderbyn ei holl wirioneddau o enau Duw ei Hun, heb ymholi rhagor pa un a oeddent yn cytuno â'u gilydd ai peidio; ond credu y gair gyda thad y ffyddloniaid, yn unig am fod Duw wedi ei lefaru ef, a gadael yr Hwn a'i llefarodd osod un rhan i gydsynio a chydgordio â'r llall. Y Beibl mawr oedd corph difinyddiaeth Fidelius, ac ynddo yr oedd yn myfyrio nos a dydd. Ond am ei gymundeb eglwysig, yr oedd efe yn caru cymundeb lle yr oedd athrawiaeth y ffydd fwyaf goleu, ac ysbryd y nef yn disgyn ar y bobl fwyaf pwerus ac awdurdodol; ac am hyny efe a roddodd ei hun i eglwys un Polemistus, a gyfenwid felly am ei fod ei hunan megys yn ngwlad yr Aipht, yn rhyfela o blaid y ffydd, athrawiaeth pa un oedd o rad ras, ac ysbryd pa un oedd yn fywiog; ac nid oedd efe fyth yn eisieu yn y lle hwn nes byddai rhagluniaeth yn atal; eto fe gymunai yn awr a phryd arall pan oddi cartref gydag unrhyw gynulleidfa fyddai à ffydd yn NGHRIST, dan gredu nad oedd bendith yr ordinhad yn gorphwys cymaint ar deilyngdod y cyd—gyfranogion ag yr oedd hi ar heddwch a phresenoldeb Duw i'r enaid: pleser rhyfedd oedd gan Fidelius gymysgu ei gyfeillach â seintiau Duw o bob gradd, sect, ac enw dan y nef; am ei fod ef â'i holl egni am chwanegu cariad, a chryfhau rhwymyn tangnefedd. Nid oedd ef braidd fwy croes i ddim na'r ysbryd cul sydd gan Gristionogion at eu gilydd nas gallant feddwl cystal am neb ag am rai o'u sectau eu hunain. Mae hyn fel pla gwahanglwyf ag sydd yn glynu wrth ysbryd myrddiynau o bobl; ac yr oedd Fidelius yn ei ffieiddio ac yn ei geryddu yn mhawb ag y ffeindiai ef ei fod ynddo: a'i farn ef oedd mor gariadus, a'i ras mor dyner, fel os byddai i un syrthio i ryw fai, neu oeri yn ei ysbryd oddiwrth Dduw, nis gallai yr addfwyn ddyn ei roi ef i fyny, ond hir ymarhous oedd efe, yn dysgwyl bob dydd am ei ddychweliad, gan ei rybuddio a thaer weddio Duw drosto, ac ofni yn galed rhag iddo ef ei hun syrthio i'r unrhyw, neu i waeth magl ryw ddiwrnod. Y goreu un a welais i erioed oedd Fidelius i gadw dirgelion yr eglwys; yr un peth oedd dweyd cwnsel wrtho a dweyd wrth y mur ceryg; fe'i cadwai fel nas cai gwynt afael ynddo; am hyn llawer oedd yn dyfod ato i wneud eu hachwynion; fe gysurai rai, ac a gynghorai ereill, ac a weddiai dros bawb, ac amryw a gafodd waredigaeth o'u profedigaethau wedi achwyn wrtho ef; canys Duw a wrandawodd ei erfyniau drostynt, ac a fendithiodd ei gynghorion iddynt; ac am eu pechodau, eu profedigaethau, a'u gwendidau, fe'u celodd tra fu byw yn y byd.

PERCON.—Chwi adroddasoch lawer am ei fywyd allanol, ei athrawiaethau, ei ddysgyblaethau cartrefol, ei haelioni, ei gymwynasgarwch i ereill; ond a fuoch erioed yn ymddyddan àg ef am ei brofiadau tumewnol? am gysuron a dylanwadau Ysbryd y gras, nerthoedd y nefoedd, congcwest pechodau tumewnol, buddugoliaeth ar uffern yn rhyfela yn erbyn yr enaid; goruchafiaeth ar ofn angeu a marwolaeth; y llawenydd annrhaethadwy a gogoneddus, etifeddiaeth y saint, &c.? Mi wn nad oedd efe ddim yn amddifad o'r rhagorfreintiau hyn, eto pa gyflawnder oedd efe yn ei gael sydd arnaf chwant gwybod; a pha un a oedd yn ei gernodio yn galed gan ddiafol? Ac os ydoedd, pa ddull yr oedd yn cario y dydd?

CANT.—Rhy faith yw adrodd haner a ddywedodd efe wrthyf am y pethau hyn; ac mi wn nas dywedodd i mi y ddegfed, os dywedodd y ganfed ran o'i brofiadau yn y rhyfeloedd poethion yma. Nid oes fawr o un a glywais i son am dano ag a gafodd bicellau mwy tanllyd nag efe, heb son am ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'r curo fu arno gan Satan pan y galwyd ef allan o Ur y Caldeaid; trwy amheuaeth, annghrediniaeth, cabledd, calon-galedwch, a myrdd o wasgfeuon ereill oddiwrth yr ysbryd drwg; oddiwrth ba rai y cafodd ef ei wared pan y gwawriodd dydd arno, ac y cododd y seren ddydd ar ei ysbryd ofnus; ac y tystiolaethwyd iddo ei fod ef yn blentyn i DDUW, yn aelod i GRIST, ac yn etifedd i deyrnas nefoedd; heb son am y rhai hyn, meddaf, pa dorfeydd mawrion o ellyllon uffernol fu yn curo arno ar ei daith trwy yr anialwch mawr! Ar ol hyn yr oedd dychryn arnaf wrth ei glywed ef yn siarad am danynt; ond yr oedd efe yn addef wrthyf nad oedd efe yn abl adrodd ei wasgfeuon mwyaf, o ran eu bod tu hwnt i nerth dyn i ddal danynt. Fe ranodd ei brofedigaethau i mi yn dri math: sef yn gyntaf, y rhai oedd efe yn alw picellau tanllyd y gelyn Satan, y rhai sydd yn llymion ac yn gryfion fel saethau cawr, ac mor wenwynig ag y gall Satan eu gwneuthur; y rhai hyn sydd ddigyfrwng oddiwrth elyn dynolryw, ac yn gweithio ar y natur elynol i DDuw, ar annghrediniaeth, ar ddeall tywyll, nes gwneud terfysg di-gyffelyb; dyma y meddyliau cableddus sydd fel mellt yn trywanu trwy yr holl ymysgaroedd, yn ceisio temtio yr enaid i annghredu nad oes na Duw, na nefoedd, nac uffern, nac angel, na CHRIST, na Beibl nac iachawdwriaeth. Dyma y picellau sydd yn ceisio gan yr enaid felldithio Duw a marw! Oy fath boenau sydd yn y rhyfel hwn! Yma bu Fidelius yn chwysu yn galed wrth weddio yn erbyn myfyrdodau cableddus ag oedd yn difa mer ei esgyrn ef: dyma fath o demtasiynau ac y dywedodd wrthyf ddarfod iddo ddyoddef yn galed; ond deall yr oedd mai gwasgfeuon y gelyn oeddynt, ac ychydig raddau o'r cabledd anobeithiol sydd obry yn nghanol y fflamau tân; y rhai oedd yn codi i fyny fel gwreichion, ac yn cael eu gwthio gyda sawyr uffern i mewn i'w ysbryd lluddedig ef. Ond, ebe efe, nis caiff y rhai hyn eu cyfrif i mi, ond i'r diafol, ag sydd yn eu gyru hwynt o orchest, canys yr wyf yn meddwl nad oedd o'r cydsyniad lleiaf rhyngwyf â hwynt. Yr ail fath o brofedigaethau chwerwon a gafodd efe ydoedd oddiwrth y creadur—y byd hwn a'i wrthddrychau amrywiol. Prin, ebe efe, na lithrodd fy nhroed, ac na wyrodd fy ngherddediad, wrth fod harddwch, defnyddioldeb, gwerth fawrogrwydd, a gogoniant pethau presenol yn taro gyda gwres a bywyd ar holl serchiadau gwamal fy enaid; ac â'r rhan hyny o honof ag oedd yn gnawd, yn drachwant, ac yn wrthgiliedig, oedd yn blasu, yn ymhyfrydu, ac am gael rhagor o fwynhad o'r creadur yn y dull uffernol hyny. Llais, ystwr, a murmur y ddaear a ddoi i mewn i'm clustiau gyda blas; newyddion am ddyrchafiad, parch, a gogoniant ereill enynai ynwyf flys am fwynhau yr unrhyw, nes deuai Ysbryd yr ARGLWYDD fel dyfroedd melusach i yru y blas hwnw ymaith. Mi brofais, ebe efe, fod y llygaid yma yn fy mhen wedi eu halogi yn nghwymp Adda; ac yr awr hon eu bod yn cytuno â gwrthddrychau gwag y byd, ac yn enyn tân trwy holl droell naturiaeth; trwy y ffenestri hyn y daw torfeydd o elynion i mewn—chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd, mewn cydsain anwahanol; a hwy wthiant i mewn trwy y pyrth hyn, nes dodi holl natur fel marwor tân llosgedig am fwynhau y gwrthddrychau y byddo y llygad wedi eu dewis i fod yn bleser iddo ei hun. Galluoedd y nef, ebe efe, yn unig a'm cadwodd rhag fy chwant, a grym tragywyddol fu yn amddiffynfa i mi yn nydd y frwydr; nis deallais erioed cyn fy mhrofi fod cwymp dyn wedi gwneud y fath briodas rhwng natur a'r creaduriaid; ac yn awr nid rhyfedd genyf fod pob dyn heb adnabod Tywysog y Bywyd yn nglŷn wrth y creadur mewn rhyw ddull neu gilydd; mae y myrddiynau sydd o deganau yn y byd, ac o amrywiaethau yn y creadur, yn awr wedi eu troi i fod yn gynifer o rwydau a maglau i ddal eneidiau, rhag eu dychwelyd at yr ARGLWYDD. Nid oes dim a wel llygad dan y nef nad yw yn brofedigaeth iddo; a hyn a wnaeth i mi lawer pryd ddiflasu ar y byd hwn a'i holl weniaith, a brefu am fyned i wlad nad oes un palas goreurog, dim meusydd meithion, blodeuog, na gwastadedd, yn feichiog ar gnwd toreithiog i ddenu llygad ar eu hol; dim meirch a cherbydau, a phendefigion o'r radd uchaf yn marchog ynddynt, i enyn chwant i fod yn gyfranog o'r un pethau; gwlad heb y myrddiynau o wag wrthddrychau sydd yma i'w cyfarfod bob awr, gwlad sydd yn well na bryniau yn llawn defaid, dolydd yn Ilawn gwartheg, ac yn rhagori ddeng mil o weithiau ar luosogrwydd cyfoeth Job. Mae ynwyf, ebe Fidelius, yn drydydd, dorfeydd meithion o nwydau afreolus a drwg, y rhai sydd bob dydd yn cymeryd rhyw wrthddrychau allanol i mewn iddynt, y rhai sydd yn eu crasu, ac o'r diwedd eu henyn ar dân tân uffern; i garu yn annghymedrol boeth un gwrthddrych neu bleser, a chasau cymaint arall ar ryw wrthddrych gwrthwyneb; ymddiried yn, ac hyderu ar un creadur i'r radd uchaf; ac ofni, i'r gwrthwyneb, yn afresymol ryw greadur arall, ac nas rhaid ofni mo hono; fy serchiadau hyn sydd un pryd yn dymuno yn rhy danllyd un peth ag na f'o er lles i mi, a phryd arall yn ffieiddio yn ddireswm yr hyn allo wneud daioni i mi. O, fel yr wyf ar yr awr hon yn llawenhau am lwyddiant y creadur i mi; ac o ran fy mod wedi cael ei fwynhau i'r eithaf, a'm blys wedi cael ei borthi hyd ag yr oedd yn gofyn; ond yn y man yn tristau yn annghymedrol am iddo fyned yn eisieu arnaf, er ei fod yn well i mi ei golli na'i fwynhau. Fel hyn mae fy serchiadau i wedi ehedeg o'u lle yn y cwymp, ac wedi myned mor afreolus, terfysglyd, ac annhrefnus, nad ydynt ond enyn tân gwyllt a dyeithr oddiwrth yr holl wrthddrychau fu yn y byd; a phan y methont ffeindio gwrthddrych i maes ag allo eu henyn i lid, i gariad, i obaith, i lawenydd, i dristwch, hwy gofiant am wrthddrychau pell, neu hwy ddychymygant rai newydd ; ac felly lawer pryd enynant dân wrth eu gwres eu hunain. Ond yr ARGLWYDD, eb efe, a'm gwaredodd, nas cefais fod yn gaethwas i'm nwydau hyn; ond fel yr oeddent yn curo arnaf, felly Duw a'm nerthodd nas cefais fod yn hollol dan eu traed, ond a roddodd fuddugoliaeth yn ei werthfawr waed ei Hun. Ond gweled y nwydau hyn ynddo ei hun fu un o'r moddion cryfaf yn llaw yr Hollalluog, yr Hwn all droi pob drwg er daioni, i ddarostwng balchder Fidelius, ac i fagu ysbryd tirion, tyner, maddeugar, a hawdd ei drin ynddo at bob dyn; ac i'w roi ef yn berchen ar y cariad hwnw ag sydd yn credu pob dim, yn maddeu pob dim, yn ymaros â phob dim, ac yn gobeithio pob dim.

PERCON. O mewn, mae'n debyg, yr oedd y rhan fwyaf o'i brofedigaethau ef?

CANT. Yr ydych yn camsynied, canys cymaint, agos, gafodd ef o guro arno o maes; o herwydd nid yn unig llid, malais, a chenfigen yr annuwiol oedd am ei ddyfetha, ond hefyd rhagluniaethau croes a chystuddiau yn y corph, cystal a rhai yn ei enaid; a chafodd lawer o'r rhai hyn oddiwrth berthynasau, ac hyd y nod y dynion agosaf—tad, mam, brodyr a chwiorydd, gwraig, a phlant hefyd, yn gosod llwythau trymion o feichiau ar ei ysgwyddau yr un diwrnod. Fe fu Fidelius yn trafaelu y byd yn mhell ac yn agos, ac nid ychydig gystuddiau a threialon a gafodd ef o'r goror hwnw; fe fu ddwywaith neu dair ar fin priodas â rhai ag sydd heddyw yn y bedd, wedi i angeu eu tynu ymaith rai diwrnodau byrion o flaen y cwlwm. Fe gladdodd blant teg yr olwg, meibion a merched doeth a synwyrol, mewn hyfryd oed; fe ysgubodd y bedd ei deulu ef unwaith neu ddwy yn mron o ben bwy gilydd. Fe gwympodd unwaith wialen Duw ar ei anifeiliaid ef, fel anifeiliaid Job; ond yr ARGLWYDD a'i daliodd â'i law. Fe gafodd gystuddiau corphorol, fel y rhoddodd y physygwr ef i fyny fel heb obaith; ond mwy na'r cwbl, y loesion a'r gwasgfeuon a gafodd efe oddiwrth eglwys DDUW; hon oedd ei deulu, ac am hon yr oedd yn gofidio ei enaid gwerthfawr o ddydd i ddydd; gwasgfeuon a gafodd oddiwrth hon a'i gwasgodd ef i lawr i'r ddaear; ond eto, er y cwbl, fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd, ac a ddaeth allan o honynt fel aur wedi ei buro trwy dân.

PERCON.—Diau yw nad oedd rhyfelwr mor fawr ddim heb gael llawer o ddyddanwch y nef o'i fewn i'w ddal i fyny dan yr holl bethau a ddywedasoch; a da fyddai genyf pe mynegech rai o'i brofiadau tu—mewnol ef: pa awelon hyfryd, pa dystiolaethau cedyrn, pa heddwch tangnefeddus, pa oleuni dysglaer, a pha gysuron melus oedd efe yn eu cael gan ei DDuw yn erbyn yr holl wrthwynebiadau oedd yn gwasgu arno, o uffern a marwolaeth?

CANT.—Wrth siarad âg ef am y pethau hyn y cefais yr odfaon mwyaf hyfryd ag a brofodd fy enaid er pan ddaethum i adnabod awelon Duw. O! y fath flas wrth fynegu i mi yr holl gyfeillgarwch nefol fu rhyngddo ef a'r ARGLWYDD! Yr wyf yn cofio iddo ranu ei brofiadau tu-mewnol i bedwar math. Yn gyntaf, heddwch cydwybod gwastadol, yr hwn, medd efe, oedd yr ARGLWYDD yn ei adael iddo gan mwyaf trwy gydol y dydd a'r nos er ys llawer o amser aeth heibio; ond rai prydiau gwelodd ei hun yn gwyro o lwybrau Duw, ac fel cosb am ei anwyliadwriaeth, yr ARGLWYDD a symudodd ei heddwch a'i dangnefedd heibio dros ychydig amser; a'r heddwch cydwybod hyn, fel y dywedodd wrthyf lawer gwaith, oedd mor felus i'w enaid a dil mêl; hwn oedd yn tynu ymaith ofn gair drwg y bobl; pob gwawd, anair, dirmyg, a diystyrwch oedd yn myned yn ddim o flaen yr heddwch tawel yma; dyma y tangnefedd ag oedd yn gyru tuchan ymaith, fel y gyr y wawr oleuni o'i blaen, ac yn gwneud y bwyd garwaf yn felus, a'r dwfr glân fel gwin llysieuog; ac yr oedd efe am gadw yr ysbryd hwn fel ei drysor goreu; a thyma yr achos yr oedd yn cymeryd cymaint o ofal wrth siarad, wrth brynu, wrth werthu, neu unrhyw fasnach ddaearol, rhag iddo gam—ddywedyd neu gam—wneud, a cholli yr heddwch anwyl hyn, yr hwn oedd fwy parod erbyn awr o glefyd na'r aur melyn.

PERCON.—Mynegwch yr ail ryw o'i brofiadau tu-mewnol.

CANT.—Dylanwadau hyfryd o'r Ysbryd nefol, y rhai oedd ef gan mwyaf yn eu cael yn ordinhadau Duw, y Gair a'r sacramentau, gweddiau a mawl; ond yn benaf mewn rhyw gyfyngder caled, wrth ymdrechu â Duw, fel Jacob; y gofidiau oedd yn agor ei galon i dderbyn gogoniant y nef, ac yn ei ddodi yn felus anfeidrol iddo; yr oedd y fath fwynhad o DDUW iddo fel gollwng carcharor o'i garchar, neu fel yr hwn yr aethai barn marwolaeth drosto, yn cael ei ollyngdod gan y brenin; yr hwyl nefol hon oedd yn ei godi ef uwch swn y byd a'r creadur mor bell, na fyddai yn rhifo yr oriau, na meddwl am dymhorau y flwyddyn; ond yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, yn profi y llawenydd annhraethadwy a gogoneddus hwnw sydd yn nefoedd ar y ddaear; ac yn fynych ar ol tymhestloedd o amheuaeth, annghrediniaeth, tywyllwch, cabledd, a phrofedigaethau ereill o eiddo y fall, y byddai yr ARGLWYDD yn gwawrio arno y tymhorau hyfryd hyn, y rhai oedd felusach na goleu y dydd i'r pererin trafferthus a ddyrysodd yn yr anialwch trwy gydol faith y nos; neu y morwr a welo dir yn nghanol ei holl ofnau: dyma ysbryd a wnai ei holl alar a'i annghrediniaeth i droi yn llawenydd.

PERCON.—Y trydydd rhyw o'i brofiadau, bellach.

CANT.—Goleuni rhyfeddol oedd efe yn ei gael rai prydiau; nid yn unig yn ei galon ei hun, i'w hadnabod hi yn well, ond hefyd yn yr Ysgrythyrau, ac o galonau rhai ereill, i adnabod dyben ysbrydoedd dynion, ac i'w chwilio hwynt yn well nag y gallent eu chwilio hwynt eu hunain; fe godai y wawr-ddydd hyn arno yn fynych wrth ymddyddan yn yr eglwys; wrth holi ereill; neu dan bregethau awdurdodol Gair y bywyd; ac wrth ddarllen Gair y ffydd; wrtho ei hun mewn myfyrdodau, gweddiau, ac ymddyddanion yn fynych. Mi clywais ef yn cael cymaint goleuni i ddweyd am ei gyflwr ei hun, ac i holi ereill am eu cyflyrau, fel ag y credodd amryw yn ddiamheuol fod cyflawnder o DDUw gydag ef, ac mai y nef ei hun oedd yn llefaru trwyddo.

PERCON.—Mynegwch y pedwerydd rhyw o brofiadau oedd ganddo.

CANT.—Y rhai hyn oedd ysbryd o gadernid a nerth ag oedd y nefoedd yn roddi iddo wrth raid: cadernid ffydd i gredu yn sicr ei fod ef ei hun yn wir etifedd teyrnas nefoedd; cadernid i beidio llwfrhau a digaloni wrth yr holl wrthwynebiadau ydoedd yn eu cyfarfod, cadernid i ryfela yn erbyn gelynion o fewn ac o faes, ag oedd am ddinystrio ei enaid; yn fyr, cadarnhad o holl wirioneddau yr Ysgrythyr lân; pob addewid, pob bygythiad, pob gair, a phob sillaf; credai y delai y cwbl ag a lefarodd Duw i ben; yr ysbryd hwn oedd fel gwlith yn peri iddo ail wreiddio, egino, blodeuo, a dwyn ffrwyth toreithiog i ARGLWYDD y cynhauaf. Pan y byddai pob gwynt yn ceisio ei chwythu ef yn ol, hwn a'i tynai ef yn mlaen, yna ail ymaflai yn fwy bywiog nag erioed. Dyma i chwi rai o'r profiadau tu-mewnol ag oedd ef yn eu cael, trwy ba rai yr oedd yn ymladd ac yn ymdrechu o blaid y ffydd; ac fe ddaliodd yn y mwynhad o'r profiadau hyn, ac yn y bywyd a enwais uchod, yn nghyda choncwest ar ei feiau a'i nwydau, fel y clywsoch, hyd y diwedd; ac a derfynodd ei ddyddiau mewn heddwch. Ac am un peth y cofiaf ef yn fwy nag am ddim arall; sef y difyrwch oedd ganddo i ddyrchafu Tywysog heddwch; nid âi braidd air o'i enau na byddai rhyw gymal o hono yn moli Iachawdwr y byd. Ganwaith y dywedodd fod yr enw IESU fel dil mêl: fe a'i coffâi yn aml ar ol eu gilydd; ac nid oedd efe yn caru pregethau, hymnau, nac un araeth o dduwinyddiaeth, nad oedd yr ARGLWYDD IESU yn cael ei ddyrchafu ynddynt i'r radd uchaf; ni ysgrifenai ef lythyr at gyfaill na pherthynas, na fyddai yn arogli o'r iachawdwriaeth yn ngwaed yr OEN. Angeu y groes oedd prif bwnc ei fyfyrdod. O gyda'r fath felusdra yr oedd efe yn siarad am brynedigaeth dyn! am anfeidrol gariad Duw yn NGHRIST at bechaduriaid truain! a'r ddiangfa allan o drueni i glwyfau Tywysog Iachawdwriaeth ! Dyma i chwi fywyd un o'r rhai agosaf i'r nef ag a welais yn holl ffordd fy ymdaith; ac "fe ymdrechodd ymdrech deg, fe orphenodd ei yrfa, fe gadwodd y ffydd;" ac heddyw rhoddwyd coron cyfiawnder i'w gwisgo iddo, yr hon sydd yn ogoniant ar ei ben yn oes oesoedd.

PERCON.—O! ddedwydd ddyn! gwyn ei fyd ef heddyw! a gwyn ei fyd fyth! Ond y mae fy mlys yn rhedeg yn mlaen, a chwant sydd arnaf glywed pa sut yr ymadawodd â'r byd hwn. Pa gyfoeth adawodd ar ei ol? pa wahaniaeth oedd rhwng ei ewyllys ddiweddaf ef ag Avaritius a Phrodigalus ? Pa hyder, pa sicrwydd, a pha hyfrydwch oedd yn ei enaid ef wrth ymadael? Os gŵyr neb hyn, chwi yw y dyn; am hyny ewch rhagoch.

CANT.—Mi fum mor ddedwydd a bod yn ei dŷ ef y blynyddau olaf o'i fywyd; ac fel yr oedd yn agosau i'r bedd, yr oedd yn agosau i'r nefoedd; ac yr oedd yn meddwl cymaint am ei symudiad, fel yr oedd ei ewyllys ddiweddaf yn barod er ys blynyddau; ond ei fod yn gwneuthur ychydig gyfnewidiad ynddi bob blwyddyn, o ran nid yn unig am fod ei feddianau yn cynyddu neu yn lleihau yn fynych, ond am fod gwrthddrychau ei elusen yn cyfnewid rhai yn marw, rhai yn dyfod i'w olwg o'r newydd yn fwy cymwys; ac fel na byddai achos terfysg ar ei ol ef i neb o'i berthynasau am bethau y byd yma.

PERCON.—A adawodd efe ddim tiroedd neu arian parhaol at y weinidogaeth, ysgolion, gweddw-dai, cynulleidfaoedd, neu y fath achosion ag fyddai i barhau tra fyddai dwfr yn rhedeg mewn afon?

CANT.—Naddo; canys fe welodd nid yn unig yr esgeulusdra o gadw y rhai hyny yn eu lle, ond hefyd ganlyniadau drwg a ddygwyddodd yn fynych oddi wrthynt; megys yn Eglwys Rhufain, lle y daeth, wrth ymarferyd o fawrion y byd i wneud hyn yn aml, bedwaredd ran o diroedd Ynys Prydain i fod yn eiddo yr offeiriaid a'r monachlogydd; nes daeth pendefigion mwyaf y deyrnas i chwenychu cael gosod eu plant i mewn yn offeiriaid yr eglwys hono; ac nes, trwy gyflawnder cyfoeth, brasder, gogoniant, ac esmwythder, i'r monachlogydd a'r offeiriaid fyned yn fwy llygredig na neb o fewn i'r cymundeb hyny. A Fidelius hefyd welodd fod y drefn hyn o osod tiroedd neu arian parhaol at weinidogaethu yn niweidiol yn ei wlad ei hun; nid yn unig am eu bod hwy yn cael eu rhoi wrth bleidiaeth ddaearol, perthynas, neu gyfeillgarwch, i rai ag oedd a lleiaf o'u heisieu, ond hefyd am fod lluaws yn dyfod i mewn i'r weinidogaeth heb gael eu galw gan DDUW, ond o ddyben cyfoethogi, a gwneud eu hunain yn ogoneddus yn y byd hwn; ac felly fod y cyfryw foddion yn halogi y cysegr. Ond Fidelius, yn ei ewyllys ddiweddaf, a roddodd i'w wraig a'i blant yr hyn oedd gariadus, a'r hyn oedd ddigon, gyda bendith yr ARGLWYDD; ond nid annghofiodd ewyllys Duw y pryd hyny; canys fe gyfranodd arian, ymborth, a dillad, i aneirif o rai tlodion, a theiau i rai uwch eu penau tra fyddent byw yn y byd. Ac y mae y gwir amddifaid heddyw trwy holl wlad yr Aipht yn ei fendithio ef. Ond am ei glefyd diweddaf, hyfryd iawn ydoedd; canys pan gyntaf y clafychodd, fe gredodd ynddo ei hun fod ei amser ef yn terfynu, ei waith yn darfod, ei ganwyll yn mron diffodd; ond mor belled oedd efe oddiwrth aflonyddu neu lwfrhau yn ei ysbryd, fel yr ymaflodd yn fwy cadarn nag erioed yn addewidion bywyd; gwir yw, nid heb ymladdfeydd celyd âg uffern, angeu, a'r bedd, yr aeth ef drosodd i dir y bywyd; ond eto fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd. Addewidion pur y Beibl oedd ei gleddyfau mwyaf llymion yn ngwyneb angeu; "Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed; canys yr ydwyt Ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant." "Nid oes nac angeu, nac einioes, na phethau presenol na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, all ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw." "Canys yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy yr Hwn a'n carodd ni." Pan yr ydoedd ar drengu, yn lle rhyfela ei hun ag ofnau, cysuro ei wraig a'i blant oedd efe, a dangos fel y byddai Duw gyda hwynt hyd y diwedd, am ei fod wedi addaw bod. Ac yn fyr, yr oedd ei oriau diweddaf ef yn oriau pregethu, cystal ag oriau gweddi. O! y fath arogl hyfryd oedd yn ei holl ymadroddion y pryd hyny, ag oedd yn dodi blas ar dduwioldeb gan bawb ; ac felly yr hunodd yn yr ARGLWYDD. Ac fel y darfu i chwi ddymuno arnaf wneud Marwnad Avaritius a Phrodigalus, mi wnes hefyd gyda'r pleser mwyaf Farwnad i Fidelius; a'm hysbryd a enynodd yn fath fflam wrth ei chyfansoddi, fel methais lai na myned at fy achosion ysbrydol fy hun a'm brodyr. Hiraeth oedd arnaf am fod fel yntau; fy ngweled yr oeddwn yn fyr o'r grasau—y ffydd, y goleuni, yr ymarweddiad, a'r ffyddlondeb ag oedd yn eiddo ef. Ffarwel.

PERCON.—O, adroddwch y Farwnad.

MARWNAD FIDELIUS.

WEL, dacw fe, Fidelius, o'r diwedd yn ei le!—
Trwy 'r anial wedi dringo i mewn i deyrnas ne':
Heb ofn, ac heb flinder, heb foreu na phrydnawn,
A'r delyn aur yn canu am iachawdwriaeth lawn.

Ei nwydau oll sydd heddyw, heb derfysg yn gytun,
Yn gryno yn molianu Creawdwr nef yn ddyn;
Galluoedd maith ei enaid mewn digymysgedd hoen,
Sy 'n swnio 'r hymn dragwyddol i'r croeshoeliedig Oen.

Fe ddarfu wylo heddyw,—'d oes wylo yn y nef;
Fe sychodd Duw ei Hunan ei ddagrau gwlybion ef:
Llawenydd pur, digymysg,——mwynhad didrangc, didrai,
Yw gwledd dragwyddol hyfryd y cadwedigol rai.

Mae ef yn medi 'r awrhon yr had a ga'dd ei hau;
Nid oedd yr had ond 'chydig,—mae'r ffrwythau 'n amlhau:
Bydd coron o ogoniant yn eistedd arno ef
Tra paro Duw ei Hunan—tra paro nef y nef.

Rhif ei gyfeillion heddyw sy 'mhell uwch deall dyn,
Yn berffaith fel yr heulwen, heb frychau, bob yr un;
'R un lun; 'r un lais, 'r un ysbryd, 'r un elfen, a'r un dôn,
Yn cymysg pur ganiadau i'r croeshoeliedig Oen.

Y clod, y nerth, a'r enw, 'r anrhydedd, parch, a'r bri
Fo i'r Drindod mawr yn Undod, a'r Undod pur yn Dri;
Ei glod ehedo allan—ei glod anfeidrol Ef,
Trwy eangder annherfynol mesurau maith y nef.

Am iddo Ef greu daear, am iddo brynu dyn,
A gwisgo ei naturiaeth, a marw drosto ei Hun;
Am iddo gongcro angeu, a dadglo cloriau 'r bedd,
A dwyn ei briodasferch i mewn i'w nefol hedd.


Fidelius, bydd di ddedwydd, bendithia am nefol glwy';
Ni thâl i'r ddae'r dy geisio,—byth ni ddychweli mwy;
Diengaist ar dy ofid, ti êst i'r lan i'r ne',
A gwynfyd a'th ganlyno nes dyfod i'r un lle.

Gwynfyd i hwnw gaffo 'r un gras a thi, ryw ddydd,—
A gaffo d' edifeirwch, a gaffo'th gywir ffydd;
Gwyn fyd fel ti gongcwero y diafol, byd, a dyn,
Ei gnawd a phob rhyw chwantau a godo ynddo ei hun.

Hir iawn y bu y rhyfel, a ffyddlon gwnawd it' fod,
Ce'st nerth, er pob deniadau, i gyrchu at y nod;
Er 'stwr, a thwrf, a murmur y greadigaeth lawn,
Cyrhaeddaist dir y bywyd yn oleu cyn prydnawn.

Ti dreiddiaist trwy'r Iorddonen, er dyfned oedd y llif,
Ti gedwaist wàr y tonau, er cymaint oedd eu rhif;
Ni cha'dd y creigydd celyd mewn 'stormydd uwcha' eu rhyw
I gwrddyd dim â'th lestr, na rhoddi i ti friw.

Enillaist dir y bywyd,—y tir ro'wd i ti 'n rhodd;
Pob rhan o hono heddyw sy'n gyflawn wrth dy fodd:
Ce'st wel'd mai'r wlad addawyd, nad oes is nef o'i bath,
A'i bod hi fel y dwedwyd—yn llifo o fêl a llaeth.

O! na allai f' enaid forio trwy donau mawr eu grym,
Fel ti, tua thir y bywyd, heb ofni tonau ddim;
A d'od i'r hafan hyfryd, lle mae llawenydd llawn,
Cyn oero fy serchiadau, a dyfod y prydnawn.

Mae 'm cnawd yn brysio yno, fy ffydd i sydd yn wan,
Yn ofni fil o weithiau na ddeuaf fyth i'r lan;
Fy esgyrn sydd yn sierig gan rif y tonau maith
A gwrddais gynt, ac eto wy'n gwrddyd lawer gwaith.

Fy nghnawd, 'r wyt ti'n rhoi summons i mi o bryd i bryd,
Fod rhaid cyweirio 'm llety ar fyr i maes o'r byd;
Mae 'm llygaid wedi t'wyllu, yn arwydd myn'd i'r tŷ
Fyth na lewyrcha ynddo mo haul y nefoedd fry.

Mae f'esgyrn wedi oeri, fe ddarfu grym eu mer,
Yn argoel fod rhaid 'mofyn am fywyd uwch y ser;
Fy nghnawd sy fel yr eira, collodd fy ngwaed ei rin,
'D oes dim ag a'i cynesa ond danllwyth dwym o ddyn.

Cytuno 'r wyf â'r beddrod, y gwely oera 'i ryw,
Aiff pridd i'r pridd ar fyrder, nesau mae galwad Duw;
Pan gwrddo'm cnawd a'r ddaear, dan oerni fydd gytun;
A chyn pen 'chydig ddyddiau â'r pridd a minau 'n un.

Nodiadau

golygu
  1. Gwyn—eu dymuniad. Wrth wyn a'i caro y del adref—May he come home agreeable to the wish of such as love him.—Dr. O. Pughe.
  2. Lawn.
  3. Prysurdeb—difrifwch.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.