Tro Trwy'r Gogledd/Harlech

O Gylch Carn Fadryn Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards

Ty'n y Groes


IV. HARLECH

YR oedd ein ffordd o'r Penrhyn tua Harlech yn rhedeg yn llinell union hyd wastadedd glan y môr, ac nid peth welir bob dydd yw ffordd union ym Meirionnydd. Ar y llaw dde yr oedd Môr y Werddon; ar y chwith yr oedd y mynydd yn codi'n serth, weithiau'n llethrau coediog, dro arall yn greigiau. Unwaith gwelsom fryncyn bychan yn codi uwchlaw gwyneb gwastad y morfa. Dywedodd rhywun oedd yn cyd-deithio â ni mai ynys oedd y bryncyn hwnnw unwaith. Troais at wladwr oedd yn eistedd yn yr un cerbyd, a gofynnais enw'r ty oedd yn ymnythu yng nghesail y bryn ar y morfa.

"Glasynys," ebe yntau.

"Ai dacw gartref Bardd Cwsg?"

"Ie, yr oedd Elis Wyn yn byw yr ochr arall i'r bryn acw. Eu beudy nhw ydi'r beudy welwch chwi ai mynydd i fyny fan acw; ac mi fyddant yn dweyd y byddai'r Bardd Cwsg yn mynd i fyny ffordd acw'n aml."

Ni synnwn i ddim nad dringo'r llethr serth acw wnaeth ar ddydd haf hir-felyn tesog, pan ddaeth ei drwmgwsg ato, gyda'r holl weledigaethau rhyfedd hynny ar ei adenydd esmwyth. Ond dyma'r tren yn arafu, a'r rhan fwyaf o honom yn rhedeg at y ffenestr i weled Castell Harlech. Yr oedd yn ddigon hawdd ei weled, gwgai wrth ein pen.

Saif gorsaf Harlech, adeilad bychan digon anolygus, dan y Castell. Yn ochr y môr y mae morfa gweddol eang, ond y mae tywod-fryniau yn cau'r môr o'r golwg. Wedi i'r tren adael yr orsaf ar ei ffordd i gyfeiriad yr Abermaw, codasom ein llygaid i weled y castell. Ymgyfyd ei graig yn syth o fin y morfa, ac o bell y mae fel brân ddu neu ddarn o felldith rhyngom â'r goleu. Gwelem o'r orsaf ddau dŵr a mur rhyngddynt, a thŵr arall yn edrych dros y mur. Ac o dan y rheini yr oedd llethrau creigiog, rhai yn graig ddaneddog a rhai gyda gorchudd o laswellt. Gyda godreu'r graig yr oedd mur arall, a dau dŵr bychan, fel pe'n cerdded ymlaen yn herfeiddiol o flaen y tyrrau mawr. Yr oedd yr olygfa'n fawreddog, ac yn brydferth hefyd. Yr oedd glaswellt y mynydd yn dlws hyd y llethrau, a'r eiddew yn ymgripio dros lawer carreg hagr. Yr oedd ambell goeden griafol hefyd wedi cael lle i'w gwreiddiau yn agenau y graig; ac yn gwyro mewn lledneisrwydd prydferth ac mewn perffaith anwybodaeth mai ym mangre creulondeb a chyffro yr oedd ei dail yn dawnsio mewn heddwch yn awel yr haf. Yng nghanol yr olygfa, ger yr hen gastell marw,—ond marw a gwg haearnaidd ar ei wyneb,—yr oedd un peth byw iawn. Disgynnai rhaeadr ewynnol i lawr oddiar ddibyn y graig, gan redeg hyd agen ag ymylau glaswelltog iddi, cyn ymlonyddu ar y morfa. Boddai ei swn y su wan ddeuai o'r mor dros y morfa.

Y tu hwnt i'r castell ymgodai'r mynyddoedd Gwelem goed a rhedyn, ambell gae gwyrdd, a gwyneb gwyn—galchog ambell dŷ. Ar ol y castell, y peth nesaf dynnodd fy sylw oedd capel mewn lle gwyntog ac ystormus iawn. Gofynnais i wr oedd wedi dod i'r orsaf i holi am nwyddau,—capel pwy oedd y capel.

"Nid ein capel ni ydyw hwnacw, ond capel y Bedyddwyr Albanaidd. Mi glywsoch son am John Ramoth Jones?"

"Mi glywais son am John Richard Jones o Ramoth"

"O, mae'n debyg eich bod chwi yn un o honynt. Y maent yn addoli yn y fan acw fel yr oeddynt yn amser Robert Morgan a John Ramoth. Mae'r dynion a'r merched yn eistedd ar wahan. Mae'r merched yn eu hetiau silc, y rhai priod gyda'r cap gwyn o amgylch eu pen, a'r rhai di—briod a ruban piws ar eu bronnau. 'Ch'di' a chdithau' fyddant yn ddweyd wrth eu gilydd hefyd. Onid felly'r ydych chwi?" meddai wrth borter safai yng nghlyw'r ymddiddan.

"Ie, 'r hen bobol," ebe'r bachgen.

Gwelwn yn eglur y cawn ddigon o wybodaeth ddyddorol yn Harlech. Cymerais fy llety dan gysgod y castell, ac yn ei olwg. Y peth cyntaf a wneis tra'r oedd pobl y ty yn parotoi bwyd, oedd darllen mabinogi Branwen ferch Llyr. Tybiwn, wrth ddarllen y fabinogi, fod y môr yn dod at droed y graig yr adeg honno, ac y gallai mai ar y fan yr eisteddwn i y safai 'r Gwyddelod i siarad a'r brenin Cymreig oedd ar graig uchel uwch ein pen.

"Bendigaid Frân, mab Llyr, a oedd frenin coronog ar yr ynys hon. A phrydnawngwaith yr oedd yn Harlech yn Ardudwy. Ac yn eistedd yr oeddynt ar garreg Harlech uwch ben y weilgi. Ac fel yr oeddynt yn eistedd felly, hwy a welent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddeheu Iwerddon, ac yn cyrchu tuag atynt, a cherdded. rhigl ebrwydd ganddynt ar y tonnau. Ac wele un o'r llongau yn rhagflaenu y lleill, a gwelent godi tarian yn uwch na bwrdd y llong, a'i swch i fyny, yn arwydd tangnefedd."

Pan gyrhaeddais i'r fan yma ar yr ystori daeth hen wr i mewn, i ddweyd y byddai'r bwyd yn barod yn fuan iawn. Er mwyn tynnu ysgwrs, gofynnodd beth oeddwn yn darllen. Dywedais innau mai hanes Branwen ferch Llyr, fel y deuwyd i Harlech i'w chyrchu'n wraig i frenin yr Iwerddon, ac fel y daeth dinistr i Ynys y Cedyrn a marwolaeth i Fendigaid Frân o hynny. Dywedais fel y daeth pum gŵr dihangol a phen eu brenin gyda hwy o'r Iwerddon. ac fel y buont ar giniaw yn Harlech am saith mlynedd, ac adar Rhiannon yn canu iddynt.

"Y mae swyn mawr mewn canu," ebe'r hen wr, cyn i mi orffen yr ystori. "Leiciwch chwi glywed tôn?"

A chyn i mi gael amser i ateb, yr oedd wedi gosod ei hun mewn ystum canu, a chanodd gan ddirwestol gynhyrfus mewn llais rhyfeddol o felus a chlir.

"Ddyn," ebe fi wrtho ar ol iddo dewi, "ai un o adar Rhiannon ydych chwi? Nid un o frain Harlech ydych."

Daeth y bwyd cyn i'r hen wr orffen esbonio ei fod yn dod o'r un ardal a minnau, a'i fod yn canu tonau gyfansoddodd fy nhad, a'i fod wedi canu llawer mewn cyngherddau drwy Gymru, a fod ei fryd yn awr ar fynyddoedd yr Andes. Wedi'm nawnbryd, cychwynnais innau allan, gan feddwl dringo'r ffordd serth i'r castell a'r dref fry. Deuais o hyd i hen wr bonheddig oedd yn araf ddringo'r allt o'm blaen. Gan fod y llwybr mor serth, arhosem yn fynych i gael stori newydd, ac i gael golwg ar y môr oedd yn ymddisgleirio fel arian byw. Pan glywodd fy nghydymaith mai o Eifionnydd y deuais, gofynnodd a oeddwn wedi darllen gwaith Dewi Wyn. "Yr wyf yn ei gofio'n dod i aros i dŷ Edward Morgan y Dyffryn," meddai, "a minnau yn gwarchod gydag ef pan oedd y teulu wedi mynd i'r capel. Yr oedd yn cerdded yn wyllt yn ol ac ymlaen hyd yr ystafell. Y mae pobl y ty yma yn rhai caredig hynod,' meddai, 'ond wyddoch chwi beth? Mi fedrwn edrych ar bob un o honynt yn y tân yna. Y mae fy nerves i wedi ffwndro.' Ac mi ofynnais innau iddo ai nid efe oedd wedi canu am elusengarwch. 'Ie,' meddai, 'ond yr oeddwn i'n ddyn hollol wahanol yr adeg honno.'" A llawer hanesyn cyffelyb glywais ar yr allt am lenorion Cymru.

Adroddodd hanes ei daith gyntaf i Lundain tuag 1830. Yr oedd yno yng nghanol terfysg etholiadol 1832. Yr adeg honno yr oedd swyn y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon wedi colli ei nerth; anghofiodd y bobl am ogoniant Trafalgar, a Thalavera, a Waterloo; ond nis gallent anghofio y prisiau uchel, yr arian prin, yr yd drwg a drud, a holl ganlyniadau alaethus rhyfel. Torasant eu delwau mewn llid, y rhai oedd fwyaf poblogaidd gynt oedd gasaf yn awr. Arweinydd y dydd oedd Duc Wellington, y "duc haearn" a fynnai yrru popeth ymlaen yn y dull arferol drwy nerth braich ac ysgwydd a chledd a bidog a magnel. "Rhaid i lywodraeth y brenin fod mewn grym" meddai wrth amddiffyn gormes y buasai gormes Napoleon yn well nag ef. Ond yr oedd ei ddydd yntau ar ben, a llais crynedig gwrthryfel yn codi'n ysgrech. "Gwelais Dduc Wellington," ebe'm cydymaith, "yn High Holborn, a'r dyrfa yn ei luchio ag wyau drewllyd."

Yr oedd Bil 1832,—"Deddf Rhyddfreiniad y Bobl,"—o flaen Ty'r Cyffredin. Arweinydd y bil oedd Lord John Russell. Ei brif wrthwynebydd oedd Syr Francis Burdet,—tad y Lady Burdet—Coutts. Yr oedd y gŵr amryddawn a phenboeth hwn wedi bod yn un o brif arweinyddion y diwygwyr. Ei dreial ef achosodd y prif newid yn neddfau athrod. Yr oedd haid o feirchfilwyr hanner meddwon wedi rhuthro ar dyrfa heddychlawn ym Manchester, ac ysgrifennodd Syr Francis Burdet lythyr at ei etholwyr i ddynoethi'r traha. Rhoddwyd ef ar ei brawf am athrodi'r Llywodraeth; a gwrthodwyd iddo gyfiawnhau ei hun trwy ddangos mor anynol oedd ymddygiad y Llywodraeth. Caeodd ei ddrws, a bariodd ei ffenestri, y tro hwn neu ryw dro arall; a phan fedrwyd torri ei ddrysau, cafwyd ef a'i fachgen ar ei lin, yn dysgu egwyddorion Magna Carta. Yr oedd y treial mor anghyfiawn fel y newidiwyd y gyfraith. Yn ol Deddf Lord Campbell gellir cyfreithloni athrod yn awr ar ddau amod,—(1) ei fod yn wir, (2) ei fod wedi ei gyhoeddi er lles y cyhoedd. Yr un gŵr egniol fu'n ceisio pasio y naill fil Diwygiad ar ol y llall hefyd.

Erbyn 1832 yr oedd sel Syr Francis Burdet wedi oeri, ac yr oedd yn barod i amddiffyn y cam a gawsai gynt. "Gwelais ef yn codi ar ei draed yn y Senedd" ebe'm hen gydymaith ar riw Harlech. "Clywaf ei eiriau y munud yma,—There is nothing so hateful as the cant of liberty.' Cododd Lord John Russell ar ei ol, y fo oedd yn gofalu am y Bil wyddoch. Yr ydw i fel pe'n clywed ei lais ynte. 'There is one thing more hateful than the cant of liberty,' meddai, 'and that is the recant of it."

Ni chlywais ac ni ddarllennais yr hanesyn hwn yn unlle arall. Gwr athrylithgar oedd yr adroddydd, yn dod o deulu hoffus ac adnabyddus; bum yn gwrando mewn boddhad wedi hynny, mewn cyfarfodydd crefyddol a pholiticaidd, ar ei feddyliau byw ac anibynnol. Dywedodd lawer o bethau ereill am dano ei hun wrthyf ar yr allt, pethau fu'n broffwydoliaeth i mi, a phroffwydoliaeth chwerw iawn. Pe gwelwn ef yn awr, gwn sut i'w holi. Ond ni chaf ofyn cwestiwn iddo mwy.

Yng nghilfachau'r ffordd droellog aem heibio aml dy hen ffasiwn ar lan aber o ddwfr gwyllt, ac uwch ein pennau gwelem res o dai prydferth yn edrych ar y môr. Ac o'r diwedd, yn dra lluddedig, cyrhaeddais y dref ar ben y graig. Y mae'n anodd cael lle difyrrach, ac y mae llu o adgofion hanes yn perthyn iddo.

Y mae'r castell erbyn hyn yn ddi—aelwyd a di—breswylfod. Eto nid yw ef ond peth cymharol newydd yn hanes Harlech. Tua 1284 wedi cwymp Llywelyn, yr adeiladwyd ef. Ei waith oedd sefyll gyda'i gymdeithion o'r un oed, — Cricieth, Caernarfon, Beaumaris, a Chonwy,—i wylio noddfa olaf anibyniaeth Cymru, rhag i'r ysbryd Cymreig adfywhau. Mae iddo hanes mwy llawn a rhamantus nag odid gastell yng Nghymru. Heriodd Owen Glyndŵr am hir, ond cymerwyd ef. Heriodd frenin Lloegr wedyn, ond medrodd hwnnw ddod i mewn, a chymeryd merch Owen Glyndŵr a'i phlant yn garcharorion. Rhoddodd nodded i wraig anffodus Harri'r Seithfed, a bu'n olaf i ddal ei dir dros deulu Lancaster. Dan ei gysgod, hyd heddyw, y cyhoedda sirydd Meirionnydd pwy yrrir i'r Senedd i gynrychioli ei gwerin.

Y mae Harlech yn llawer hŷn na'r castell. O ba le, tybed, y daeth tylwyth y "brain," a beth oedd eu nodweddion? Pa ystyr sydd i ganu adar Rhiannon? Y mae'r adgofion bron anhyglyw sydd ynglŷn â'r rhain yn ehedeg ymhell iawn yn ol. A phryd y clywyd gyntaf seiniau cynhyrius "Gorymdaith Gwyr Harlech?" Ai milwyr Llywelyn, ynte Glyndŵr, ynte Harri Tudur a'i canodd hi?

Nodiadau golygu