Tro Trwy'r Gogledd/Llan ym Mawddwy
← Ty'n y Groes | Tro Trwy'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards |
Pen y Bryn → |
VI. LLAN YM MAWDDWY.
"Llawn im oedd Llan ym Mawddwy, |
"PEN Bwlch y Groes! Hwre! Dyma ni ar y ffordd uchaf yng Nghymru"
Dyna eiriau cyfaill afiaethus pan gyrhaeddasom ben Bwlch y Groes, wedi dringo'r ffordd sy'n dirwyn i fyny drwy gwm hirgul Cynllwyd, ac wedi gadael Craig yr Ogof ddanheddog o'n hol. Nis gwn ai gwir ei ddywediad ein bod ar y ffordd uchaf yng Nghymru, ond yr oedd awyr adfywiol y mynydd, fel gloew win puredig, yn ddigon i gryfhau dychymyg bachgen deunaw oed i ddweyd pethau mwy anhygoel. Eisteddais ar gar mawn llwythog, oedd un o bobl Mawddwy wedi ei adael yno hyd amser cyfaddas i'w lusgo i lawr, ac eisteddodd fy nghydymaith llawen ar ochr y ffordd, er mai adeg oer y Nadolig ydoedd. Yr oedd yr awyr yn glir, yr oedd y ffordd yn galed gan rew, ac yr oedd yr haul yn gwenu'n ddisglair ac yn oer ar y mynyddoedd.
Y mae'r olygfa o ben Bwlch y Groes yn ardderchog, haf a gaeaf. Ar un ochr y mae'r Aran frenhinol, ac ar yr ochr arall y mae bryniau afrifed Maldwyn. O'n holau yr oedd Cynllwyd, o'n blaenau yr oedd caeau gwastad Mawddwy ymhell odditanodd, a mynyddoedd gleision yn ymgodi y tu hwnt iddynt. O'r fan yr eisteddwn i, ni welwn ond y mynyddoedd, yr oedd Mawddwy yn rhy isel wrth eu traed.
Llecyn unig a distaw ydyw, ym mhresenoldeb dwys y mynyddoedd tragwyddol. Ond y mae hanesion am fywyd byr dyn ynglyn ag ef. Clywais ddarlunio'r llecyn ar lawer noson dymhestlog, pan yn hel o gwmpas y tân i wrando ystraeon. Weithiau hanes John Jones Treffynnon fyddai testun yr ysgwrs. Darlunnid John Jones yn gweled gŵr yn Llanuwchllyn a chryman yn crogi oddiwrth reffyn gwellt oedd am ei ganol. Yna gwelem mewn dychymyg yr hen bregethwr yn dringo'r Bwlch, ac yn gweled y dyn a'r cryman yn cerdded o'i flaen mewn lle nad oedd na thy na thwle yn y golwg, lle y cai llofrudd ddigon o amser at ei waith. Yna doi gweddi'r pregethwr, a'i ymgais i dynnu sgwrs â'r angel. Yr oeddym wedi clywed yr hanes laweroedd o weithiau, ond yr oedd yn newydd o hyd. Dro arall hanes y Gwylliaid Cochion gaem; a diwedd eu hanes hwy fyddai desgrifiad o honynt yn golchi eu dwylaw llofruddiog yn y ffynnon ar ochr y Bwlch, ffynnon y mae ei dwfr yn goch hyd y dydd hwn. A dyma'r ffynnon, o fewn ychydig lathenni i'r fan yr eisteddwn, eto'n goch. Noson wedi hynny caem hanes yr hen bererinion yn penlinio wrth y groes fyddai ar ben y Bwlch. Nid oes na chroes na phererin yma'n awr, ond gwelir ar ffyrdd Llydaw yr hyn fu unwaith ar y ffordd hon.
Ond pe'r arhosem i alw ar gof yr oll a glywsom am hanes a chymeriadau Mawddwy, ai'r dydd gaeaf byrr cyn inni gyrraedd y caeau sydd ar y gwaelod. Rhed y ffordd i lawr yn serth hyd un ochr i'r cwm,-cwm heb waelod iddo ond yr afon wyllt, sydd bron yn rhy bell i lawr i ni glywed ei swn. Yr ochr arall iddi y mae mynyddau uchel a serth iawn, er nad ydynt yn greigiog; weithiau y mae eu hochrau'n wyrddion, dro arall yn ddaear noeth. Ar ol gwlawogydd bydd ffrydiau lawer yn rhedeg o'r mynyddoedd dros y grib uchel acw, a disgynnant yn genllifoedd gwynion dros ael y mynydd. Llawer gwaith y cyffelybwyd hwy yn eu disgynfa i gymylau mwg yn esgyn.
Dyna lais bugail yn adseinio o fynydd i fynydd trwy'r awyr glir,—"Pero, dal dra-a-a-w!" Anaml y gwelais ddau gi tlysach, rhai du a gwyn, yn deall pob goslef yn llais eu meistr. Cerddasom yn gyflym hyd y ffordd, er ei serthed, nes y gwelsom hi'n rhoi tro, ac yn cyfeirio, debygem, yn union i ddannedd y creigiau. Wedi dod yn nes ymlaen, gwelem fod cwm newydd yn agor i'r cwm oeddym ynddo. Daeth amaethwr a llais tanbaid ganddo i'n cyfarfod, a chawsom hanes y fro yn bur gyflawn ganddo. Cwm yr hen sant Tydecho oedd y cwm, a'r afon Llaethnant welem yn disgyn o hono dros y creigiau a than goed. Draw ymhen y cwm hir mynyddig y mae Aran Fawddwy'n edrych yn ddwys ac yn ddu arnom.
A dyma gwm Tydecho sant. Y mae hanes am Faelgwn Gwynedd yn dod i'w ormesu, ac yn cael ei orchfygu gan y sant; fel y cafodd gan gynifer o saint ymhob man, os credwn y Bucheddau. Pan oedd ychen y sant yn aredig y cwm unig acw, daeth Maelgwn Gwynedd ac aeth a'r ychen i ffwrdd. Ond yr oedd yn rhaid i'r sant aredig ei dir, a rhoddodd ddau garw gwyllt wrth yr aradr drannoeth, a medrodd berswadio blaidd i dynnu'r og ar eu holau. Wrth weled y ddau garw, a'r blaidd ar eu holau, a'r hen sant yn hau rhwng yr aradr a'r og, chwarddodd Maelgwn Gwynedd. "Peth doniol," ebe ef ynddo ei hun, fuasai gollwng fy nghwn gwynion ar y wedd ryfedd acw, i weled y ceirw a'r blaidd yn mynd." Eisteddodd ar garreg ar ochr y cwm; ond pan geisiodd godi gwelodd mai yr hen sant gai fwyaf o ddifyrrwch, oherwydd wele, yr oedd llodrau'r brenin Maelgwn Gwynedd, os oedd ganddo lodrau, wedi cydio yn y graig. Esbonnir yr enw Llaethnant, wrth gwrs, gan ramadegwyr y fro. Trodd Tydecho yr afon yn llaeth,—
Y dŵr rhwydd o odre'r rhiw
Fe'i gwnaeth yn wynllaeth unlliw,
ac am hynny y galwyd hi yn Llaeth Nant. Hen frodyr doniol a chymhwynasgar oedd yr hen saint, rhyw hanner swynwyr, a hanner cenhadon Cristionogol. Medrent godi cythreuliaid, medr saint wneyd hynny y dyddiau hyn,—a'u gostwng.
Wrth i ni fynd ymlaen i lawr dyffryn Dyfi ieuanc yr oedd y tir yn frasach a ffrwythlonach,—
"Heldir a gweindir gwyrda
Eto er dwyn ytir da."
Gofynasom enw ty welem, ac atebwyd ni mai ty Simon Sion Prys. Un enwog yn ei fro oedd Sion Prys, tad Simon. Llawer pennill o'i awen barod sydd eto'n fyw ym Mawddwy, ac yn difyrru to ar ol to o bobl ieuainc. Gŵr hardd oedd, yn dal, ac yn syth fel saeth. Nid oedd ei garedicach yn fyw, ac yr oedd pawb yn yr ardal fynyddig hon yn hynod hoff o hono. Byddai gwên ar ei wyneb bob amser, a chydymaith difyr oedd i bwy bynnag a'i cyfarfyddai. Yr oedd ei awen yn barod ar darawiad, a chofid ei wawd,—
A Thwm ein gwas ninne
Fu neithiwyr yn rhywle
Yn fudron ei facsie,
Mi dynga, wrth ryw dy;
Ni chadd wedi myned
Ond hir rythu'i lyged
A bod wrth ei phared yn fferru.
Medrai adrodd hanes ar gân yn rhigil a llyfn iawn, fel honno sy'n dechreu,—
Yn Harbwr Cork yr oeddwn ryw fore gyda'r dydd,
A phawb oedd yno'n llawen, 'doedd yno neb yn brudd;
A "Richard" medde Robin, a "Robin" medde Twm,
"A gawn ni rigio'r hwylie, cyn daw hi'n dywydd trwm?"
Byddai Sion Prys yn mynd ar ei spri weithiau, fel beirdd ereill yr oes honno. A phan
ddoi i dref, byddai llu o'i gwmpas, yn gwrando
ar ei ffraethineb mewn penhillion difyfyr. Ryw
ddiwrnod digwyddai fod yn y Bala, ac yr oedd tyrfa o'i amgylch.
Pwy ddigwyddodd ddod heibio
ond Price y Rhiwlas, yr ysweinyn yr
oedd tra—arglwyddiaethu ar y Bala a'i phobl yn
etifeddiaeth iddo. Gorchymynnodd iddo beidio
casglu pobl ar y stryd, ond cafodd ateb tafodlym.
"A wyddoch chwi," ebe'r yswain digofus,
"mai myfi yw Price y Rhiwlas!"
A wyddoch chwi," ebe'r bardd, "mai myfinnau yw Price o Fawddwy!!"
Y mae llawer o hen anibyniaeth ym Mawddwy, er na chryfhawyd ef gymaint gan y Diwygiad ag a wnawd mewn ardaloedd ereill. Y mae llawer o olion hen anibyniaeth Cymru yn arglwyddiaeth Mawddwy, ac y mae lle i obeithio y bydd y court leet yn dal i gyfarfod hyd nes y ceir Cyngor Lleol a Llys Tir.
Drwy lawer canrif, er amser Bleddyn ab Cynfyn a chynt, cadwodd Mawddwy rywbeth tebyg i anibyniaeth. Ni wnawd hi'n rhan o sir yn 1284, fel Cymru i'r gorllewin iddi hi; ni ddaeth yn arglwyddiaeth Normanaidd, fel Cymru i'r dwyrain iddi. Arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig, gan newid ei ffurf i ffurf maenor. Yr oedd ym meddiant ei hen deulu pan aeth Pennant drwyddi yn nechreu'r ganrif hon. Er ei bod wedi colli braint ar ol braint,—meddu maer, rhoi rhai drwg yn y feg fawr, rhoddi trwyddedau i dafarnau.—y mae eto olion
o'i hen anibyniaeth ar y sir. Cyferfydd y court leet ddwy waith yn y flwyddyn; a bu hwn rywdro yn fath o lys tir, lle y cedwid hawl y tenant yn ogystal a hawl y meistr. Y mae'n wir fod y tenant dan lawer rhwymedigaeth ddigon chwerw, megis talu dirwy am briodas merch,—ond yr oedd ganddo hawl i'w dir. Pan ddiddymir court leet hynafol Mawddwy, er mwyn gwneyd lle i Lys Tir, gobeithio y caiff y tenant ei hen hawliau, tra y bo ewyllys y bobl, fel ei cynrychiolir yn y Senedd, yn cymeryd lle ewyllys yr hen arglwydd.
Ond, tan ysgwrsio am hen hanes Mawddwy, dyma ni yng ngolwg y llan. Daethom drwy goed, croesasom aber Pumrhyd, a dyma'r persondy a'r eglwys. Yma y bu Ab Ithel yn astudio llenyddiaeth Gymreig; yma y bu Silvan Evans ar ei ol, yn ymgolli yn yr un gwaith, ond gyda llawer mwy o allu a llwyddiant. Troisom i mewn i'r fynwent, i edrych ar yr hen ywen fforchog ac ar feddau'r ganrif o'r blaen. Yr oedd yn ddiwrnod gaeaf hyfryd iawn, ac yr oedd tawelwch a mawredd o'n cwmpas,—mynyddoedd dan eu barrug yn edrych ar yr ywen, yr unig beth oedd wedi cadw gwyrddlesni'r haf. Bechan iawn yw'r eglwys, a newydd. Byddai'n hynod flynyddoedd yn ol am ei charolau, a chyrchai rhai iddi o bellderoedd dros y mynyddau ar foreu Nadolig. Ni welsom ddim hen ynddi, ond hen fedyddfaen a hen gader. Gwelsom yno ysgrifen ar bres am ddiweddar ddeon Bangor. Yma y ganwyd ef; ac os nad wyf yn methu, yma y ganwyd ei frawd, esgob Llanelwy. O leiaf cyfarfyddasom un ddywedai ei fod wedi ymladd llawer â'r esgob pan oedd y ddau yn blant.
Daeth gwraig lygatddu heibio, a chawsom beth hanes ganddi.
"Cymraeg, dyn a'ch helpo, 'does yma ond Cymraeg," meddai.
"Ai Cymraeg bregethir yn yr eglwys?"
"Ie yn y gaeaf, a phob amser o ran hynny, ond pan fydd byddigions yn y Plas."
Druan o'r hen Gymraeg, dyna ei hanes hi o hyd, Cymraeg yng ngaeaf ymdrech ac adfyd, a Chymraeg i'r werin; ond Saesneg pan weno ffawd ychydig, a Saesneg, ar gost gwlad gyfan, i fyddigions y Plas. Fel mewn pob gwlad lle ceir cariad at yr hyn sydd hen, y mae parch eithafol yng Nghymru i foneddwr; ond gwyn fyd na fyddai Cymro'n rhy anibynnol i aberthu ei iaith a'i grefydd, beth bynnag arall abertho, wrth ymgreinio o flaen un yn siarad iaith ddieithr.
"Ymhell y bo dy Gymraeg di," ebe'm cydymaith byrr ei amynedd, "dyna ni wedi gadael i'r ddynes fynd heb ofyn lle mae bedd yr hen Wilym Llwyn Gwilym; a hwyrach na ddaw neb trwy'r pentref eto am ddarn diwrnod."
Yr oeddym wedi addaw i'm tad y gofynnem lle'r oedd bedd yr hen Wilym. Crwydrodd lawer o fynydd i fynydd i hela, ac o dafarn i dafarn i ymddiddan a chanu. Un mwyn iawn ei ysgwrs oedd, yr oedd o ymddanghosiad tywysogaidd, a chai groesaw mawr ymhob man. Y mae llawer o hen bobl yn cofio mor fwyn y canai ymysg ei gyfeillion lliosog,—
O na byddem ni modd ag y buom
Cyn gweled ein gilydd erioed,
Neu ynte ein bod heb ein geni,
Os oes ymadawiad i fod,
I fod, i fod,
Os oes ymadawiad i fod.
Unwaith, pan yn hela yn y Creigiau Bach, daliwyd ef gan gipar. Yr oedd yn ddigon mawr a
nerthol i daflu'r cipar dros y gwrych, yn lle
hynny gwahoddodd ef i eistedd ar dwmpath
brwyn, a rhoddodd iddo licer o gostrel oedd yn
ei boced, gyda haelioni mawr. Cyn pen ychydig
yr oedd y cipar yn cysgu'n ddedwydd ar y mynydd, a'r hen Wilym Llwyn Gwilym yn clecian
saethu'r petris o'i gwmpas.
Daethom o'r fynwent i'r pentref, a chawsom ymddiddan â nifer o blant bach bywiog a deallgar, anaml y gwelais eu cyflymach yn unlle. Erbyn hyn yr oedd yn bryd meddwl am ymborth, ac yr oedd ein harosiad yn y fynwent wedi oeri tipyn ar ein gwaed. Gwelais fod yr unig westy wedi newid er pan welais ef ddiweddaf. Byddai arwydd Cymraeg wrth ben ei ddrws, o gyfansoddiad Ab Ithel meddir, fel hyn,—
Trwyddedwyd Rhisiart Rhys
i werthu cwrw a phorter.
Ond erbyn heddyw y mae'r hen westy wedi troi yn Sun Inn. Yn fuan iawn yr oedd y tecell yn berwi uwch ben tân mawr glân, ac yr oedd llian gwyn ar y bwrdd; a diflannodd ein newyn a'n hanwyd ar fyrder.
"Beth ydyw ystyr yr ymadrodd 'gwibed Mawddwy?'" ebe'm cydymaith.
"Hen totem y llwyth o bobl oedd yn byw yma ydyw'r gwibedyn. Tybiai'r llwyth ei fod yn disgyn o'r totem. Mochyn yw totem Mon, y ci yw un Dinbych, y carw yw un Dyffryn Tanad, yr ysgyfarnog yw un Pennant Melangell Bu'r enwau yn enwau anrhydedd, yna daethant yn llysenw; yn awr nid ydynt y naill na'r llall."
"Pam y mae mor ychydig o feirdd ym Mawddwy rhagor fu? Mae yma lai o ganu a difyrrwch o lawer."
"Un rheswm yw ysbryd gweithgar goludgarol yr oes. Ond ni fu Mawddwy erioed heb feirdd. Un o'i beirdd hi ganodd, yn oes ein tadau, un o emynnau goreu'r iaith Gymraeg,-"O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn." Athrylith Tafolog, yn ein hoes ninnau, oedd y fwyaf tarawiadol yn llenyddiaeth Cymru am allu i ddarlunio'n eglur ac yn fyw; rhyfeddem at dlysni a cheinder iaith pan fyddai ef yn ei defnyddio. Ac y mae beirdd yn aros ym Mawddwy, er fod ei rhydd-ddalwyr yn prinhau, a'i hen aelwydydd yn mynd yn anghyfannedd y naill ar ol y llall.
Aethom i edrych am hen gyfaill i'w annedd brydferth ar ochr y bryn gerllaw. Wedi gwers am fynd i'r gwesty yn lle mynd yno, cawsom lawer iawn o hanes hen Lan ym Mawddwy. Yr oedd ef wedi gweled llawer tro ar fyd, ac yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau newydd a hen.
"Bydd pob cynhebrwng ym Mawddwy yn un mawr iawn oni fydd?"
"Bydd yn siwr. Bydd dau o bob ty braidd ymhob un. 'Faint aiff,' ebe pob teulu, faint o honyn nhw oedd yn ein claddedigaeth ni?' Byddant yn rhoi'r arian ar y garreg offrwm, neu ar raw'r clochydd. Byddai'r teulu cyfnesaf i'r corff yn sefyll wrth y garreg offrwm, a byddai'r un wrth eu clochydd yn talu diolch i bob henwau."
"Y mae tipyn o gost gyda chladdu mawr fel hyn?"
"Oes; ond byddai dyn tlawd yn sefyll y tu allan i'r fynwent, ac yn dal ei het, a byddai ei gymdogion yn taflu rhywbeth iddi i'w helpu i ddwyn y draul."
"Oni fyddai meddwi mewn hen gynhebrwng?"
"Wedi claddu ai pawb i'r dafarn. Ai un a bowlen a phlat o gwmpas i hel pres; safai un arall mewn cornel i gymeryd yr enwau ar y papur siot. Wedi gorffen dywedai hwn,—Mae'r ty'n rhydd! Yna doi'r ddiod boeth a'r gacen gladdu i mewn. Cwrw a spices ynddo oedd y ddiod boeth, a rhyw dorth fraith oedd y gacen gladdu."
"A ydyw hwn yn myned ymlaen o hyd?"
"Mae meddwi eto, ond dim siotio."
Daeth yr hen wr drwy'r pentref i'n danfon adref, a heibio'r Bryn, plas Syr William Roberts, mewn lle prydferth wrth draed y mynyddoedd. Canmolai Syr William, gan adrodd hen ystraeon bob yn ail. Wedi ysgwyd llaw ag ef, buom yn gwylio ei droediad ysgafn gwisgi drwy'r coed, ac yna gwelsom fod yn rhaid i ni gyflymu er mwyn croesi'r Bwlch cyn iddi dywyllu. Yr oedd Tap yr Eryr yn edrych yn ddu fygythiol o'n blaenau, fel pe'n gwylio dechreu'r ffordd hir a serth sy'n arwain i Fwlch y Groes. Cerddasom yn gyflym drwy'r awyr denau oer, a phan gyrhaeddasom ben Bwlch y Groes yr oedd ffrwd o oleuni'r lleuad ar y creigiau a'r mynyddoedd mawreddog a'n hamgylchynent. Nis gallem siarad â'n gilydd gan syndod ac edmygedd, wrth adael yr olygfa fythgofiadwy o'n hol.
Y mae Pen Bwlch Groes yn dod a thair ysgwrs i'm meddwl. Yr oedd y gyntaf yn y bore gyda hen wr, yr ail yn y prydnawn gyda gŵr canol oed, a'r drydedd ar noson oleu leuad, debyg iawn i hon, gyda gŵr ieuanc.
Ryw fore yn yr haf, lawer blwyddyn yn ol, yr oeddwn yn eistedd yn blentyn ar ochr y ffordd ar ben y Bwlch. Wedi dod gyda'r codwyr mawn yr oeddwn. Cawn segura oherwydd nas gallwn eto ladd mawn, er y medrwn eu codi a'u gwneyd. Gwelwn hen berson yn dringo'n araf o gyfeiriad Mawddwy. Yr oedd yn dal iawn, a cherddai'n wisgi a chyflym. Pan ddaeth ataf gwelwn fod ei wallt yn wyn, ond yr oedd ei lygaid yn dduon a chwareus. Eisteddodd yn fy ymyl, gan sychu ei chwys. "Pa un ai chwi ynte fi gafodd y ffordd hwyaf i ddod yma?" gofynnai. "Y mae eich ffordd chwi'n serthach, a fy ffordd i'n hwy," meddwn. "Ffordd yw'ch gair chwi," meddai, "ac nid wtra." A rywsut, llithrasom i son am eiriau. Dywedodd hefyd sut yr oedd gwneyd ffordd hir yn ffordd ferr. "Tynnwch ysgwrs a'r bobl welwch," meddai. "Holwch hwy. Cewch enw rhyw dŷ, neu ryw air, wna i chwi fyfyrio'n hyfryd nes y dowch at rywun arall." Daniel Silvan Evans oedd efe.
Bum yn eistedd bron yn yr un fan ar brydnawn. Yr oedd plismon yn eistedd wrth fy ochr. Ei waith ef oedd cadw'r heddwch ym Mawddwy, ac yr oedd wedi dod i derfyn ei randir i gyfarfod ei gyd-swyddog o Benllyn. Yr oedd wedi ymdaflu i adrodd ei hanes ei hun. Cwynai ar ei ffawd. Beiai ei fam na roddasai addysg iddo. Dywedai mai nid plismon a ddylasai fod, ond gŵr cyfoethog yn ymroddi i lenyddiaeth. Ymunodd â'r heddlu er mwyn cael dyrchafiad. Tybiai, ond codi yn uchel yn ei reng, y cai fynd i ymyl llyfrau ac y cai fwy o seibiant. Ond drylliwyd ei gynlluniau pan oedd yn rhoi'r cam cyntaf i fyny. Yr oedd yn yr Abermaw yn disgwyl am y prif—gwnstabl. Tybiodd y byddai'n well iddo gryfhau, os nid llonni, ychydig arno'i hun trwy yfed ychydig gwrw. Rhoddodd rhyw elyn whisci yn ei gwrw, neu ryw wirod niweidiol arall. Cododd y gymysgfa afiach i'w ben, a chollodd bob rheol ar ei feddyliau ac ar ei dafod. Yn lle derbyn ei ddyrchafiad gan ei uch—swyddog, rhoddodd iddo wers lem am ei ddiffygion ei hun. Wrth draethu, nid anghofiodd ddim achlod a glywsai am y prif—gwnstabl. Ni ddaeth dyrchafiad. Yn lle cael ei hun ar y ffordd i ryw ddinas fawr, lle cai dreulio ei oriau hamdden mewn llyfrgell. alltudiwyd ef i Ddinas Mawddwy. Nid oedd ganddo lygad at fawredd natur, na theimlad i'r tyner mewn llenyddiaeth. Ffaith yn unig apeliai ato,—dyddiad llyfr, lliw ei gas, ehangder poblogrwydd emyn, nifer argraffiadau traethawd. O dawelwch Bwlch y Groes, hiraethai am dref boblog; ymysg y grug, hiraethai am lwch llyfrgell. Na, nid mewn dinas fawr yr oedd i dreulio ei fywyd. Cofiaf byth am y siom oedd ar ei wyneb hirgul wrth gyfeirio pedwar bys hir a bawd o ddiystyrwch at y fro hyfryd odditanom, "Ond dyma'r Ddinas ges i." Efe oedd Charles Ashton.
Ar noson loergan fel hon,—adeg lleuad Medi mi gredaf, safwn gyda bachgen ieuanc tal goleubryd. Dod o Ddinas Mawddwy yr oedd yntau, ac yr oedd wedi bod yn areithio yno ar wleidyddiaeth. Wedi'r ddarlith yr oeddym wedi cyrraedd Pen y Bwlch rywbryd rhwng hanner nos ac un. Yr oedd yn oleu fel dydd. Yr oedd y lleuad yn llawn, ac nid oedd cwmwl ar fron yr awyr dyner, oleu, glir. Draw ymhell, uwchlaw ei gartref ef, gwelem lyn fel gem ar fronnau'r mynyddoedd, yn fflachio gan oleuni'r lleuad lawn. Tybiem mai Llyn Careini oedd. Ond prin yr adnabyddem unlle. Yr oedd pob man fel pe wedi ei droi'n ysbrydol. Yr oedd yr Aran, Craig yr Ogof, yr Arennig, a'r llu y tu hwnt iddynt, dan oleu tynerach na goleu yr un dychymyg. Gallasem dybio mai huno'n drwm yr oedd y mynyddoedd yn y dydd; ond eu bod yn awr wedi deffro, a'u bod yn fyw. "Welwch chwi, Owen," ebe'm cydymaith, "dacw Gymru wedi ei gweddnewid o'n blaenau. Gawn ni'n dau fyw i'w gweld wedi ei gweddnewid mewn gwirionedd?" Thomas Ellis oedd hwn.