Tro Trwy'r Wig/Coch y Berllan

Cynhwysiad Tro Trwy'r Wig

gan Richard Morgan (1854-1939)

Priodas y Blodau

COCH Y BERLLAN.
Dyna i chwi gyfoeth o liwiau fel ym meinwe'r enfys. Mae yn edn hardd. A ymfalchia efe, tybed, yng ngheinder ei bluf? A ymhyfryda efe yn nhlysni lliwiau ei wisg ysblenydd?"
Tud. 21.

TRO TRWY'R WIG.

COCH Y BERLLAN.

"Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth yr amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad."

 R bwys Ty'r Ysgol, lle caf yr anrhydedd o breswylio drwy oddefiad,—y mae gwig o gyll, mieri, a drain gwynion, gydag aml i fasarnen, onnen, bedwen, a chriafolen yn codi eu pennau yma ac acw. Dyma gyniweirfan adar. Yma yr ymgymharant, y nythant, y magant eu cywion; ac yma y canant. Llawer awr ddifyr a dreulir gennyf yma i chwilio am eu nythod, i astudio eu harferion, ac i wrando ar eu cân. Ceir yma y bronfraith, yr aderyn du, llwyd y gwrych, y brongoch, y peneuryn, yr yswigw, y dryw, y llinos, ehedydd y coed, yr asgell arian, yr eurbinc, y rhawngoch, y bullfinch, ac amryw adar ereill.

Beth yw yr enw Cymraeg ar yr aderyn prydferth a elwir gan y Sais yn bullfinch? Yng ngeiriadur y Canon Silvan Evans, dan yr enw, ceir "y rhawngoch," "rhonellgoch," "llostruddyn," a "tingoch "—enwau cwbl amhriodol, canys nid coch neu rudd, ond du melfedog ydyw cynffon [rhawn, rhonell, llost] yr aderyn. Yn yr un geiriadur defnyddir yr un termau Cymraeg yn union a'r uchod am aderyn clŵs arall, sef redstart neu redtail y Sais—yn ddiau termau cymhwys ddigon ar yr aderyn yma, canys rhonell goch yw yr eiddo ef. Ond paham y cymhwysir yr un a'r unrhyw dermau at ddau aderyn o dylwythau gwahanol, a'r enwau hynny, mewn un achos, yn hollol anghyfaddas a chamarweiniol? Mae y naill, sef y bullfinch yn perthyn i dylwyth y pincod [fringillidæ], ac o wehelyth y canary melynwyn, y linos lwydfelen, a'r eurbine—yr harddaf o deulu y llwyn—a'r oll yn adar cân. Gyda llaw, gelwir yr eurbinc yn y fro yma, sef Bryniau Iâl, yn Nico.' Yng ngogledd Ceredigion a dan yr enw ysmala o "Sowldier bach y werddon."[1] Dilys mai ysplander ei bluf amliwiog a awgrymodd yr enw "sowldier;" "y werddon" sydd dreigliad o "gwerddon," a golyga yma—nid yr Iwerddon, fe allai,— ond gwaen, rhos, dôl neu weirglodd, fel yn y llinell, "Pencerdd adar y werddon." Felly y cyfuniad, o'i gyfieithu i'r Saesneg, fyddai, "The little soldier of the glade." Os wyf yn camsynied, cywirer fi. Ond beth yn y byd yw "Nico?" Ai estron air ydyw, ai beth? Pwy all ei ddehongl? Pwy fydd gennad o ladmerydd i ddangos ei ystyr? Y mae yn Ial, yn ddiameu, fel ymhob cwmwd arall, oraclau,—dyma gyfleustra iddynt ddisgleirio; dyma gyfle iddynt gwacydda."

Ond i ble y crwydraf? Perthyn yr aderyn arall, sef y redstart, i dylwyth y Telorion [sylviada] teulu y gân felus; a charennydd agos ydyw i'r brongoch, y penddu [black-cap], a'r eos, pencerddes. Beth! a ydyw y bron- goch a'r eos yn gyfneseifiaid? Ydynt. A glywsoch chwi y brongoch yn telori? Do? Onid oes yna dinc yn ei gân fer, nwyfus, sydd yn awgrymu ei fod o fonedd y gân? Na ddiystyrred neb y brongoch, gan hynny, canys edn ucheldras ydyw ef. Cân ef ym marrug, a rhew, ac eira, a chaddug y gaeaf pan fo'r eos yn ceisio "gloewach nen" mewn gororau

"Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir."

Ond son yr oeddwn am y bullfinch, onide? Yn y geiriaduron ceir dau enw Cymraeg, heblaw yr uchod arno, sef, "coch y berllan," a "chwibanydd." Chwibanydd? Nid cymhwys yr enw, canys nid yw nodau ei gân naturiol ond cyfres o ffrillion neu yswitiadau isel, tyner, lleddf, fel tinciadau seinber eurgloch fechan mewn pellder. Ond arhoswch! Gall fod rhyw rheswm dros yr enw hefyd, canys gellir chwibanydd rhagorol o hono drwy ei hyfforddi yn ofalus. Yn yr Almaen dysgir nifer mawr o'r adar hyn, yn flynyddol, i chwibanu alawon, ac anfonir lliaws o honynt i wledydd ereill i'w gwerthu. A nodir hwynt, tybed, â'r nôd ystrydebol,—"Made in Germany?" Ond "coch y berllan." O'r holl enwau, dyma, i'm tyb i, yw y cymhwysaf. Rhuddgoch yw y lliw mwyaf amlwg arno. Yn niwedd gaeaf a dechreu gwanwyn, pan na cha hadau, mynycha berllannoedd i ymborthi—yr aderyn bychan barus—ar flagur a gwillion coed afalau, eirin, gerllyg, eirin gwlanog, a choed ereill. Dyma ynte enw sydd yn ei daro i'r dim. Ond arhoswch, arferir hwn. eto am y rhawngoch! Waeth be fo. Mae gan hwnnw, fel epil pendefig, ddigon o enwau yn barod. Na warafuner i'r bullfinch, ynte, yr enw prydferth a chyfaddas, "coch y berllan.

A adwaenoch chwi'r "coch?" Awn allan i'r wig. Mae'r adar, mewn afiaeth, yn ym gymharu ac yn nythu,—

"Mae'r adar oll yn telori cerdd
Priodas yr Asgell Fraith."

Rhywle, oddirhwng cangau diddail yr onnen gerllaw, mwynbyncia y bronfraith ei serchgan. Nis gellir, yn hawdd, ganfod yr aderyn, canys cyfliw ydyw a brigau y pren. Ond y bronfraith ydyw; mae ei gân yn ei gyhuddo. Y fath chwibanogl! Gwrandewch! Shir, shir, shir, shir-yp shir-yp, shir-yp! Yna chwibaniad clir, perorol. Wedyn cyfres o chwibaniadau byrsain, clochog, buain. A ol hynny, trill —dirgryna, cwafria y llais—mae pob nodyn fel pe yn dawnsio, yn llemain, yn ysboncio yn nwyfus. Shir, shir, shir, shir-yp, shir-yp shir-yp! Chwibaniad treiddiol eto. Tryliad drachefn a thrachefn, nes ein synnu a'n swyno. 'Run pryd ar frigyn draenen draw, pyncia'r 'deryn du ei gathl yntau. Hawdd ydyw ei ganfod ef yn ei wisg loewddu. Mae ei big, o liw'r eurafal, fel pibell aur mewn cerfwaith o eboni, ac o honi dylifa ffrwd o'r beroriaeth fwyaf hudolus. Nid yw ei chwibaniad ef mor dreiddiol, ystwyth, a nwyfus, ag eiddo ei gyfathrach, y bronfráith, mae'r ddau o dylwyth cerddgar y mwyeilch (merulidae) er hynny, mae yn felus odiaeth, fel sain dyner, lawn, loddedig mosbib yr organ. O, adar! pwy a roddes i chwi eich cerddi anghydmarol? Pwy gyweiriodd dannau eich telynau? Pwy a'ch dysgodd i'w canu? Cenwch adar! Eich tymor nwyfus chwi ydyw, tymor cyfareddol carwriaeth a chân. Ni phery eich gwynfydedd yn hir. Cenwch tra gellwch. Eiliwch garolau i wrthrychau eich serch, plethwch riangerddi deniadol iddynt. Mae'r gân a'u swyna hwy yn ein gwynfydu ninnau. Cenwch!

Symudwn ymlaen i chwilio am ein haderyn. Mae'r wig yn fyw drwyddi o adar-rhai yn diwyd gasglu eu lluniaeth; rhai, fel y bronfraith a'r aderyn du, ar frigau'r gwŷdd yn canu, canu; rhai yn gwib-hedeg, dan chwitian, chwitian o lwyn i lwyn; tra ereill ar yr aden, yn cydgam â'u gilydd, ac yn nwyfchware fel cariadon ieuenctid-a'u hyswitiadau ysgeifn, tyner, fel cyfrin sibrydion serch.

Ond pa le mae'r "coch?" Aderyn swil, cilgar ydyw, a chyfrwysed fel y rhaid wrth ochelgarwch a chyfrwystra, o'n tu ninnau, er cael onid cipolwg arno. Ond, beth yw'r aderyn bychan cochlwyd yna sydd yn hwbian ac yn hedeg mor aflonydd, o gangen i gangen, ym món y gwrych, weithiau'r ochr yma, weithiau'r ochr draw? Ust! mae yn ein gweled, mae yn tarfu, cymer ei aden, eheda yn isel, a disgynna nid nepell oddiwrthym, i fón y gwrych eto fyth, ac oddiar bincyn yno, yng ngwyll y cangau uwchben, anadla i'r awyr gyngan ferr, felus, gwynfannus, fel plentyn gorthrymder yn canu yn y cysgodion. Beth yw'r aderyn mwyn, diniwed? Beth hefyd ond llwyd y gwrych, ac er llwyted ei wisg, a gwyleiddied er foes, per- thyn hwn eto, fel y brongoch a'r eos, i deulu y gân felus. Yn y rhan yma o'r wlad a o dan yr enw "gwrachell"-enw digon hyll. Adna- byddir ef yng nghartrei fy maboed fel gwas y gog," am y tybir yno mai efe yw yr aderyn bychan hwnnw sydd yn dilyn y gog,[2] fel trotwas boneddiges, ac mai yn ei nyth ef y gesyd y gog ei hwy i'w ddeori ganddo.[3]

Oddiarno, ar frig y pren, mewn goleuni di-gysgod, fe byncia'r asgell arian[4] gân yn y cywair llon, mor sionc, mor hoenus! Ysgafned yw ei alaw ef a'r chwa sy'n chware â'i bluf; hoenused yw ei ddyri a chân gŵr yng ngwenau hinon a hawddfyd. Y fath wahaniaeth sy rhwng cathlau y ddau aderyn. Fel y mae eu tymer, felly eu cân—melusgân y gwaelodion a'r cysgod yw y naill, hyfrydlais yr entrych a'r heulwen yw y llall. Ond welsoch chwi nyth llwyd y gwrych? Chwiliwn am dani! Dyma hi—hon eto ym môn perth. Welwch chwi hi? Mae wedi ei gwau, a'i phlethu, a'i chyfroded du o fwsogl, a gwlan y ddafad; ac wedi ei hulio yn ddestlus o'r tu fewn â rhawn o ronell y march. Onid yw yn dwt ac yn glyd? A'r wyau! Edrychwch. Ddeled, sirioled ydynt ar waelod y nyth! Mor hyfryd i'r llygad yw eu lliw gwyrddlas difrychau, dihalog, fel gwyrddlesni tyner deilflagur yr yspyddaid ym mha un yr ymgysgodant! Onid yw yn rhyfedd fod aderyn mor lwydwawr yn dodwy wyau mor ysblennydd eu lliw? Pwy a'u lliwiodd? Gofynner, pwy baentiodd y lili a'r rhosyn? Pwy ond yr Hwn a liwiodd y nefoedd yn asur, y ddaear yn werdd, a'r cefnfor yn ddulas? Pwy ond yr Hwn sydd yn rhosliwio y wawr, ac yn ymylu cymylau ag aur melyn?

Ond pa le mae'r "coch," unwaith eto? Cerddwn ymlaen i chwilio am dano. Ust! dyna rugldrwst yn y prysglwyn gerllaw. Yr ydym wedi aflonyddu ar aderyn du—yr ofnusaf o'r adar—sydd yno yn casglu ei luniaeth. Gwarchod ni! rhuthra allan yn orwyllt—wedi brawychu drwyddo,—ac eheda, gyda'r ddaear, bendramwnwgl i rywle am ddiogelwch—y creadur gwirion! Mae'r wig yn darystain gan ei "whit!" "whit!" "whit!" trystiog, brysiog, cynhyrfus. Mae yn disgyn yn y fan draw, a chan dybied ei fod yn ysgyfala mae'n ymdawelu. Sythgoda ei gynffon lydan, ysgydwa hi fel gwyntyll—o lawenydd feddyliwn—a diflanna o'n golwg i'r prysgwydd—yno i ddiweddu ei arlwy. Paham y diengi, aderyn mwyn?

Pwy a'th ddychrynnodd? 'Does yma neb a wna niwed i ti, gantwr melusber. Cân i ni. Gwell gennym dy fawl-gân na'th waeddolef gyffrous. O'n blaen yn ei blodau melynwawr cynnar mae helygen grynddail wrryw. Mae'n ddiddail, ond mae'n dlos! Ymddengys pob brigyn fel yn addurnedig â boglynau o aur dilin. Ymysg y cangau mae aderyn bychan, glasliw, nwyfus yn ysgogi'n ddibaid. Sylwch! mae'n hwbian yn ysgafndroed o frigyn i frigyn; mae'n hedeg yn hoew o gangen i gangen; mae'n dringo yn heinyf ar hyd y pren; mae'n hongian wrth y briger—gerfydd ei ewinedd bachog cryfion—a'i ben i lawr, ac yn cael ei siglo yno gan yr awel; mae'n nydd-droi ac yn croes-droi ei hun i bob agwedd a llun—ystwythed ydyw â chysgod cwmwl. Mae yn esgeiddig—bitw bychan—mae yn fywyd i gyd. Gyflymed yw ei ysgogiadau â fflachiad pelydryn, ysgafned â'r goleuni. Yn sydyn cymer ei aden, ac ehed i goeden arall, dan wich-leisio yn wyllt, fel cecren mewn nwydau. Beth yw'r aderyn? Dyma'r yswigw[5] neu'r "swigw lâs fach"—un o adar bychan mwyaf ymladdgar y goedwig. Taioged ydyw ei dymer ag ydyw ei lais o arw. Ymgiprys ag adar mwy nag ef ei hun, ac ymrafaelia, heb betrusder, â'i gydryw-peth lled anghyffredin ym myd yr adar. Mae fel dyn gwrthnysig. Ymgecra hwnnw â'i fwy, ymgeintach â'i lai, a chroes-dynna â thylwyth ei dŷ ei hun. Pan welaf ŵr felly, yn fy myw nis gallaf na feddyliwyf am y swigw las fach—leiaf. Nodweddir yr aderyn bychan yma hefyd gan ddewrder. Aflonyddwch arno pan ar ei nyth. A ffy efe? Dim perygl. Ymgynhyrfa ei holl natur. Ymchwydda; cwyd ei bluf; hysia fel neidr; a neidia i'ch llaw os cyffyrddwch â'i nyth—canolbwnc ei serch a'i ddyddordeb ar y pryd. Chware teg i'r bychan; Os yw yn gecrus, mae yn ddewr. Nid yn aml y ceir y cyfuniad yma mewn dyn.

Nid ydym, hyd yn hyn, wedi gweled "y coch," na chlywed dim oddiwrtho. Pa le y mae? Cerddwn ymlaen gyda'r gwrych cauadfrig. Mae'r clawdd pridd sydd yn ei fon—yn y cysgod—wedi ei hulio â gwyrddlesni cynaraf y flwyddyn. Yma y ffynna Pidyn y Gog.[6] gyda'i ddail disgleirly fn—rhai yn wyrdd unlliw, ac ereill wedi eu manu yn hardd â chochlâs tywyll. Cydrhyngddynt y tyf Bresych y Cŵn,[7] a'u blodau gwyrdd taselog, a Chrâf y Geifr[8] drygsawr; ac yn eu cysgod y llecha y Mwsglys[9] eiddil a gŵyl, gyda'u blodau hynod. Yn pipian o'r ddaear yn y fan draw mae blaenau dail y Farddanadlen Ddu,[10] Clych y Perthi,[11] Sisli Pêr,[12] a Thegeirian Coch y Gwanwyn.[13] Dacw Lygad Ebrill[14] melyn-liw wedi agor, a'i fflurddail fel pelydr seren. Dyma hoff flodyn Wordsworth, ac i hwn y canodd,—

Pansies, lilies, kingcups, daisies,
Let them live upon their praises;
Long as there's a sun that sets,
Primroses will have their glory;
Long as there are violets,
They will have a place in story;
There's a flower that shall be mine,
'Tis the little celandine."

Wrth ei ochr mae blodyn gwyn tyner yr Anemoni[15] yn edrych ym myw llygad yr haul,—

Ust "wit!"—swit!"—"swiit!"—"swit!" O'r diwedd, dyna dinc dyner y deryn coch. Gwrandewch,—"Swit!"—"swit!" "sw-i-i-t!"—" swit!" Mae'r ffrillion fel chwibaniadau isel, leddf, neu dinciadau ysgeifn, melusber aurglochig yn cael eu cludo o bell, ar aden yr awel. Dyna "swit" yn ateb "swit." Mae yna ddau aderyn-feallai fwy. Pa le y maent? Nid nepell. Edrychwn i'r ddraenen uchel sy gyferbyn â ni. Dyna aderyn yn codi o honidyna un arall—ac yn hedfan— welwch chwi wyn eu cytiau?—ac yn disgyn mewn yspyddaid arall yn nes i ganol y wig. Dyna'r adar coch. Pâr gweddog ydynt. Dilynwn hwynt. Awn ymlaen yn ochelgar drwy y mân goed sydd rhyngom a'r adar. Ust! Ara bach. Wchw! Be sy'n bod? "Whirr-r-r-r!" "Whirr-r-r-r!" dyna ddwy betrisen yn codi o ymyl ein traed ac yn tasgu ymaith ar frys gwyllt, gan leisio yn drystfawr a dychrynedig. Neidiwn yn ol—ninnau wedi brawychu gan ddieithrwch a sydynrwydd y dadwrdd. Edrychwn i'r llwyn. "The birds have flown!"—hwythau wedi tarfu. "Y petris—!" Caiff y diffyglin sefyll am yr ebychiad. I ble 'raeth yr adar? Chwiliwn am danynt. Clustfeiniwn. Ust! Dyna'r clychau aur. "Swit!" "Swit-swit!"—"sw-i-i-t!"—" swit!" Awn i gyfeiriad y seiniau—Welwch chwi rywbeth yn symud, symud, fel cysgod, yng nghanol y ddraenen obry? Dacw nhw. Mae eu hysgogiadau yn eithriadol ddi-drwst. Nesawn atynt, gan gadw yng nghysgod y berth. Troediwn yn reit ddistaw, rwan. Swit!"" swit-swit!" "Swit!" "swit!" Ust! Dyna ni yn eu hymyl ond fod llwyn di-ddail rhyngom a hwy. Sylwch. Dacw'r ceiliog yng nghanol y ddraenen yn hwbian yn aflonydd gan droi atom, yn eu tro, wahanol rannau ei gorff. Cymerwn hamdden i syllu ar "degwch ei harddwch ef." Mae ei ben, ei gynffon, a'i edyn, chwi welwch, yn ddu disgleiriol, fel muchudd caboledig. Ei gwman a'i fol sy' wyn eiraog. Mae rhan uchaf ei gefn o liw'r onnen. Rhuddgoch disglaer ydyw ei fron, a'i wddwg, a'i ystlysau. Ar draws ei edyn rhed bar llydan cymysg o binc a gwyn. Dyna i chwi gyfoeth o liwiau fel ym meinwe'r enfys. Mae yn edn hardd. A ymfalchia efe, tybed, yng ngheinder ei bluf? A ymhyfryda efe yn nhlysni lliwiau ei wisg ysblenydd? P'le mae'r iâr? Dacw hi yn yr un llwyn a'r ceiliog, yn prysur bigo, bigo—mor-ddistaw! Sylwch, nid yw ei lliwiau hi mor danbaid ag eiddo ei chymar; nid yw y coch cyn goched, na'r du, feallai, cyn ddued. Er hynny, mae hithau yn ddillyn, ond gwylaidd ydyw ym mhresenoldeb ei harglwydd, fel y gweddai iddi fod. Yn nheulu'r adar, y gwrryw, fel rheol, yw y teleidiaf. Mae ei liwiau yn fwy llachar—yn fwy showy—nag eiddo y fenyw. Paham hynny? Feallai y cawn draethu ar hyn eto.

Ond dyna. Cawsom olwg iawn ar yr adar. Symudwn. Codant eu pennau gloewddu i fyny, ac edrychant o gwmpas. Maent yn ein gweled. "Swit!"—" Swit-swit!"—"swit!"— "swit!"—"swit!" Rhuthrant i ochr bellaf y llwyn, llamant megis i'r awyr, ac ehedant o'n golwg. A glywch chwi eu tinc yn y pellder? Gwrandewch!

Nodiadau

golygu
  1. Gelwir ef weithiau yn "Teiliwr Llunden."
  2. Barn rhai naturiaethwyr ydyw mai y corhedydd (meadow pipit) ydyw trotwas y gog.
  3. Gwyddys nad yw y gog yn gwneyd nyth iddi ei hun. Dodwya ar y llawr,-fel y tybir,—caria ei hwyau yn ei phig, a gesyd hwynt yn nythod adar ereill—un yn y nyth yma, ac un mewn arall—i'w deor gan yr adar rheini. Dyma ei gweision, ac y maent yn llu mawr iawn—fel gosgordd hen farwn—llwyd y gwrych, y frongoch, yr aderyn du, y dryw, y rhawngoch, y gwddf gwyn, telor yr helyg, telor yr hesg, sigl ei gwt, y penfelyn, y llinos, y llinos werdd, yr ehedydd, ac yn enwedig y corhedydd grybwyllir uchod.
  4. Enw prydferth ar y gwinc neu y winc (chaffinch). Gelwid ef gennym pan yn blant yn "ji-binc!" oddiwrth ei nodau "ji-binc!" "ji-binc!" "ji-binc!" Un o'r adar mwyaf byw a nwyfus ydyw, am hynny dywed y Ffrancwr,"Gai comme Pinson," mor llawen a'r winc. Mor llawen a'r gog ddywedwn ni, onide? Clywais ddywedyd hefyd, am rywun sionc iawn, Mae fel y ji- binc."
  5. Mae llawer math o yswigiaid:—
    (1) Yr yswigw neu y penloyn mwyaf (Parus Major).
    (2) Yr yswigw copog (Parus cristatus).
    (3) Yswigw neu penloyn y gors (Parus Palustris).
    (4) Yr yswigw cynffon hir (Parus Caudatus).
    (5) Yr yswigw las fach neu y lleian (Parus Coeruleus).
    Yr olaf a ddesgrifir uchod.
  6. Arum Maculatum, neu Wake-robin, Lords and Ladies, Cuckoo-pint.
  7. Mercurialis Perennis, Dog's Mercury.
  8. Allium Arsinum, Ramson, Broad-leaved Garlic.
  9. Adora Moschatellina, Common Moschatel.
  10. Ballota Nigra, Black Horehound.
  11. Campanula trachelium, Canterbury Bells, Nettle-leaved Bell-flower.
  12. Myrrhis odorata, Sweet Cicely.
  13. Orchis Mascula, Early purple Orchid.
  14. Ranunculus Ficaria, Lesser Celandine, Pilewort. Mae y blodyn hwn wedi ei gerfio ar feddfaen fynor y bardd.
  15. Anemone Nemorosa, Wood anemone, Wind-flower.