Tro Trwy'r Wig/Nyth Deryn Du
← Priodas y Blodau | Tro Trwy'r Wig gan Richard Morgan (1854-1939) |
Bore Teg → |
NYTH DERYN DU.
AROSASOM yn hir gyda'r blodyn. Cyn symud ymlaen edrychwn unwaith eto ar y teirdalennau heirdd sy'n hulio'r fan ac ar y blodau chweg sy fel dibyndlysau o arian cabol neu lein-emau o oleuni yn gwawladdurno mangre'r cysgodion! Dyna. Bellach awn rhagom.
Ar ein ffordd yr ydym yn pasio masarnen[1] dalfrig, braff-geinciog, lydan-ddail.
Safwn am ennyd dani. Mae bagad o wenyn minfelus yn siffrwd,—yn suoganu,—yn y cangau tra'n casglu'r neithdar o'r blodau bagwyog. Onid yw'r miwsig yn ddieithr o swynol? Gwrandewch! Sigyngan foddlon llafurwyr diddig a diddan ydyw. Tynnwn un o'r fflur-sypiau dibynaidd. Rhoddwn ef wrth ein ffroenau-mae'n arogli fel diliau mel. Archwaethwn ef—cawn flas mel ar ein min.
Dacw dderyn du—yr iar—a chynronyn, titbit i'w chywion-yn ei chylfin. Mae'n disgyn ar y clawdd cerrig cyfagos. Mae ei nyth heb fod nepell-naill ai yn y ddraenen wen, ai ynte yn y gelynen werdd gerllaw. A hoffech chwi weled ei nyth? Ac mi wnaech? Gwyliwn yr iar, ynte. Ciliwn ychydig o'r neilldu rhag ein gweled ganddi. Mae ar y look-out. "Whit!"—"whit!"—" whit!"-araf, clochog, subdued. Hush! Mae yn ein clywed, canys dyna'r arwydd. Codwn yn reit ddistaw a llonydd rhag tarfu o honom hi. Ysbiwch Mae ar y clawdd cerrig eto. Aflonydded ydyw! Mae'n mynd i gychwyn rhydd herc i'w phen i lawr, a thòs i'w chynffon i fyny. Gwna osgo i hedegmae'n ysgwyd ei hedyn-a dacw hi ymaith! Welwch chwi hi? Mae'n soddi, fel pelen o gyflegr, i galon y gelynen. Mewn chwipyn hed allan—heb yr abwydyn. Yn y gelynen y mae ei nyth. Awn yno, ynte. Dacw hi, a'i sylfaen ar fforch gref, ddisigl, yng nghraidd y pren, a'r cangau cylchynol fel ategbyst i'w pharwydydd o fan wiail, a main wreiddiau, a mwsogl. Maeswellt sych, rhywiog, sy'n wynebu'r ystafell sy gryned â chwpan. Mor ddiddos! Pe darniem. y nyth-ac nid gorchwyl hawdd fuasai hynny—caem weled haenen o laid—galeted a chymrwd —rhwng y plethwaith allanol a'r lining tumewnol. Trwy hyn mae y nyth yn wind-proof ac yn water-proof, ac wedi ei chyfaddasu i ddiogelu yr wyau[2] a'r cywion rhag curwlaw ac oerni gwanwyn cynnar—pryd, fel rheol, y nytha ac yr epilia yr adar duon.
"Clwc!" "clwc!" "clwc!" a'u tinc fel cloch. Trown ein golygon i gyfeiriad y crinid cân. Ha! dacw'r ceiliog eurbig, disglaerddu—cydwedd yr iar-ar y lasdonnen, yn hwbian yn aflonydd rhwng yr irwellt a'r blodau. Mae yn ein drwgdybio. Onid ym yn ymyrryd â'i nyth? Mae yn anesmwyth. Cymer ei aden yn ebrwydd a hed i'r prysgwydd. Clywch ei
DERYN DU.
"Ha! Dacw'r ceiliog eurbig disgleirddu. Mae yn anesmwyth. Cymer ei aden yn ebrwydd, a hed i'r prysgwydd. Clywch ei drydar pryderus yno! Taw, taw am ennyd, aderyn mwyn cariadus. Ni niweidiwn na'th nyth na'th gywion."
Tud. 41.
drydar pryderus yno! Mae'r ddolefgloch ymhellach—mae'n nes. Mae yn y llwyn, mae ar y pren, mae ar y llawr. Taw, taw, am ennyd, aderyn mwyn, cariadus. Ni niweidiwn na'th nyth na'th gywion. Na wnawn yn wir. Yn unig gad i ni edmygu dy waith ac edrych ar dy gywion. Taw Clwc! clwc! clwc!"—Wel, wel; 'does dim a'th dawela. Awn oddiyma'n union. Wna hynny dy foddio? Am funud, 'rwan, aderyn mwyn.
Sylwch. Yn ystafell gynhes-glyd y nyth y mae un, dau, tri, pedwar, pump, o gywion newydd eu deor—newydd ddod o'r plisgyn. Yr ednogiaid bychain, eiddilaidd! Mor ddisut yr edrychant—mor legach-mor llymrig? Mae eu croen melynliw, lliprynaidd, i'w weled rhwng tuswau o flewiach hirion, anhrefnus, diaddurn, a dyfant arno. Gelwid y cudynau afler yma gennym, yng Ngheredigion, pan yn blant yn "flew witch." Dychymygid yno fod blew felly yn tyfu ar wynebau rhychog, crofenllyd, melyn-ddu rheibwragedd a gwiddanesau. Mae dychymyg Shakespeare wedi creu witches. Dywed fod ganddynt "choppy-fingers,"[3] "skinny lips;" ond ni sonia air am eu cudynau cedenog. Dichon fod crebwyll y Cardies aflonydd yn fwy hedegog nag eiddo y prif-fardd.
Ond stop! 'Rwyf yn crwydro. Dall ydyw'r cywion eto, a pharhant felly am yspaid diwrnodau. Mor ddiymadferth yr ymddangosant fel y tybiech nad oes ynddynt nerth i symud na migwrn, nac asgwrn, na chyhyr. Ond arhoswch! Cyffyrddwch â'r llwyn. Meddyliant ddyfod o'u mam a thamaid iddynt, y gwirioniaid diniwed! Mewn eiliad i fyny a'u pengliniau. Estynnant eu gyddfau, ac agorant eu pigau yn safnrwth am y golwyth ddisgwyliedig. Edrychwch yn wir! Bron nad yw blaen y naill fant yn gydwastad—on a level—a blaen y mant arall. Yr ydych yn gwenu. 'Does ryfedd. Mae'r olygfa yn ogleisiol—chwerthinus. 'Rol hir ddisgwyl yn ofer, blinant, a syrth eu pennau dan wegian yn ol i esmwythder y nyth.
Mor fwyteig, mor wancus ydynt ! Mor ddygn-ddiwyd eu porthir gan eu rhiaint gofalus, cariadus! Dygani iddynt, o'r plygain hyd y cyfnos, seigiau melusion o gynron, maceiod,[4] trychfilod, a—malwod, â la francaise!—blasusfwyd o'r fath a garant. Yng ngrym y fagwraeth foethus yma dadblygant yn ddiatreg, magant bluf, daw nerth i'w hesgyll a hoender i'w hysbryd, ac, ar fyrder, ehedant, o'r nyth i'r eangder, oni ddifethir hwy cyn hynny gan hoglanciau barus, neu amaethwr crintach, y naill o ddireidi a'r llall o ddygasedd. Gyda llaw, nis gwn paham y difroda'r amaethwr adar duon a bronfreithod. Nid yw y cyfryw adar yn bwyta grawn. Difäant, mae'n wir, y ffrwythau aeddfetaf, dewisolaf, ond y mae y gwasanaeth anhybris a wnant drwy ysu pryfetach dinistriol y berllan, a'r ardd, a'r maes, yn gwneyd i fyny, a llawer rhagor, am y golled. Pa bryd y dysg ein ffermwyr ddoethineb?
Dyna. Gadawn y nyth a'r cywion a symudwn ymlaen. Ar y naill law i ni y mae onnen feindwf, dal, luniaidd. Ei cholfennau estynedig, drooping, sy guddiedig bron gan ddeilwaith plufog o'r fath deleidiaf. Ysgafned yr ymdonna—y chwery—y pluf-ddail yn awel falmaidd yr haf! Ar y llaw arall y tyf y fedwen firain, fân-ddail. Arian-liw yw ei phaladr unionsyth. Sylwch,—mae lliw arian y cyff i'w weled yn ysmicio, fel lloergan, rhwng glesni y deilfrig. A geir hygared cyferbyniad rhwng lliwiau yn unman? Mae'r briger-gangau, deilemog, yn ymlaesu ac yn ymhongian mor ddillyn —mor graceful—a hir-gudynau sidanaidd un o'r Naiadau, neu un o iesin Dduwiesau y Gelli. Yn ddilys ddiameu, y fedwen lednais ydyw "Arglwyddes y Goedwig." O'n blaen y cyfyd criafolen. Byr yw ei boncyff hi. Mae ei cheinciau yn hirion a hyblyg. Ffurf asgell sy i'r dail; llathraidd a thyner-wyrdd ydynt; a chydrhyngddynt, fel lloer drwy asur, y gwena ac y lleuera gwullsypiau ysnodenog wynned a distrych y don. Erbyn yr Hydref bydd gwyn cannaid y ffluron wedi rhoi lle i ysgarlad ffloew'r aeron-ffrwyth.
Yr ydym yn mynd drwy rodfa (avenue) gul, yn cael ei ffinio o'r deutu gan gyll, mieri, rhedyn, drain gwynion a duon, rhoswydd gwylltion, a dyrysien bêr[5]—pob un o honynt wedi ymwisgo. mewn goliw gwahanol o wyrdd dymunol. Mae perarogl yr olaf, ar ol y gwlithwlaw, yn dylenwi awyr yr hwyr. A glywch chwi'r arogl? Aroglwch! O bereiddied! Onid yw'r persawr yn llanw eich ffroenau fel cysewyr haf neu arogl oddiar "welyau y perlysiau?" Ai dymunolach arogl "powdr yr apothecari" na sawyr yr eglantine? Ai pereiddiach y nardus, y thus, a'r myrr, na mieri Mair? Unwaith eto,—aroglwch!
O bobtu i ni, ym mon y mangoed, ymysg y ceinciau, ac ar y briger, y mae llu o adar mân yn ffrillian, ac yn trydar, ac yn cogor, yn ddidor, ddiorffwys. Mae'r llwyn yn gyforiog o fywyd newydd-ieuanc! Dyma chwareule cywion o wahanol rywogaethau 'rol gadael o honynt eu nythod, a dyma eu training-ground. Yma, yng nghysgod y tewgoed cauadfrig, ac yn neillduedd tawel y glaslwyn, y dysgir hwy, gan eu rhieni, i 'hedeg, i ddethol eu tamaid, ac, efallai, i gyweirio tannau eu telynau. Gwelwch! Maent yn hedeg, maent yn gwibio, maent yn tasgu, maent yn picio,—fywioced ag arian byw, nwyfused a'r awel, sydyned a gwreichioniad seren, o gangen i gangen, o lwyn i lwyn, ac weithiau i'r awyr, dan switian, switian mewn gorhoenusrwydd. A yw dail y llwyn, dywedwch, yn cyfranogi o ysbrydiaeth yr adar? Gwelwch, maent yn cwhwfan, cwhwfan, fel baneri o bali gwyrdd, siderog, yn yr awel dawel dirion. Drwy'r ymarferiadau chwimwth hyn o eiddo'r cywion, cryfheir eu hesgyll, a pherffeithir eu hediad. Cyn hir hedant i'r nwyfre, ymhyfrydant yn eu hedyn tra deil tes yr haf a heulwen y cynhaeaf. Ond daw'r gaeaf. Yr adar tyner! Beth a wnewch chwi y pryd hwnnw pan y bydd y gwigfeydd cysgodfawr wedi eu dihatru o'u deilwisg gan farrug a rhuthrwyntoedd yr Hydref? Ni chewch i glwydo arno onid brigyn diddail, ac ni chewch gysgod namyn llwyn moel neu bren noethlwm. Ni wel miloedd o honoch yr haf nesaf.
Yr ydym yn dod i laslannerch rhwng y glasgoed—mor siriol, mor dlysgain. Wel, eisteddwn am ychydig ar y boncyff llorweddog yma. Hardded yw'r carped emerald! Try frithir ef, gwrr bywgilydd, gan doraeth, gan orthwf—o ffluron serenog, perlog, amryliw, a dafnau'r gwlithwlaw arnynt yn fflachio fel cabolwaith o risial. Y llecyn arddunol! Mae wedi ei oreuro, a'i ariannu—fel brithwe ysblenydd—â blodau'r ymenyn,[6] y creigros,[7] y meillion melyn bychain,[8] y pumnalen,[9] melyn yr eithin,[10] llygaid y dydd emrynt arian,[11] yr aspygan fulygad,[12] a chnau'r ddaear[13] sy a'u blodau ffedonaidd fel clysdwr o ser arian! Yn y fan draw harddir ef gan duswau o flodau asur—cyn lased a'r wybren—megis y llaethlys eddïog,[14] llysiau Llywelyn, [15] a glesyn y coed;[16] ac yn y fan draw gan siobynau rhosliw-wridgoched â'r wawrnid amgen y meillion cochion,[17] ydbys y waen,[18] cribellau cochion [19] a'r tegeirian peraroglaidd talsyth![20]
Dyna. Mae'r dydd ar ddarfod. Mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn, ymestyn. Hired yw cysgod y coed ar y fron draw! Mae'r aspygan yn cau ei emrynt arian ymyl-goch am y llygad aur. Ymorffwys tair dalen y suran ar felfed y goesig. Huna'r feillionen. Chwibiana'r bronfraith ei hwyrgan oddiarnom, ar frig yr onnen, a chlywir cân gosper y deryn du, fel sain leddf mosbib-draw, draw yn y pellder. Mae'r eurbinc, a'r asgell arian, a'r llinos, a gwas y gog, yn ymbarotoi i glwydo rhwng y gwyrdd-ddail, tra y cyweiria'r ehedydd ei wely rhwng y blodau, ar lawr y weirglodd. Cyrhaeddodd yr haul ei gaerau yn y gorllewin. Mae ar fachlud. Fflamgoched ydyw! Gwelwch! Mae yn cusanu trum y mynydd. Gwrida'r gorwel fel rhosyn ! Mae'r belen eiriasgoch yn suddo, suddo. Mae o'r golwg. Teflir mantell y cyfnos dros fryn, dyffryn, a dôl, a diflanna'r cysgodau pan y maent hwyai. Brydferthed yw'r wybren! Entrych nef sy loew-las fel fflach y saphir. Ond O, y dwyrain! Edrychwch! Mae'n goelcerth! Mae yn banffaglu! Mae'r gwrid rhosliw gynneu wedi dyfnhau i ysgarlad, ac i borphor, a carmine. Mae ymyl-weoedd eddiog y cymyl bychain, ysgeifn, sy'n nofio ar y gorwel wedi eu haddurno ag aur, ac ag arian, ac a vermilion. Ogoneddused yw'r olygfa! Ond ni phery'n hir. Mae'r lliwiau llachar yn edwino ac yn diflannu. Gwelir ambell seren wen yn gwreichioni drwy'r asur. 'Mhen ychydig bydd milfil o honynt, fel gwlith y bore, yn boglynu crymgant y Nefoedd!
"Numerous as gems of morning dew,
Or sparks from populous cities in a blaze,
And set the bosom of old Night on fire!"
Nodiadau
golygu- ↑ Acer pseudo-platanus: Greater Maple neu Sycamore. Mae ym mlodau y goeden hon gyflawnder o fêl. Ymdyrra'r gwenyn iddi yn fil ac yn fyrdd i hel y melusfwyd dan ganu.
- ↑ Llwydwyrdd yw'r wyau, wedi eu mannu a'u brychu a chochlwyd goleu.
- ↑ "You seem to understand me By each at once her choppy finger laying Upon her skinny lips."—Shakespeare.
- ↑ Caterpillars: Llindys, pryf y dail, pryf melfedog. Galwai hen wr o'r wlad yma hwynt yn "capten pillars." Tybiai'r hen law ei hun yn oracl gwlad anffaeledig, er yn anllythyrennog. Mae llawer cyffelyb iddo eto. Gwyddant fwy am y gyfraith na chyfreithiwr; mwy am feddyginiaeth na doctor; a llawer rhagor nag ysgolfeistr am y Côd Addysg. A gwae a'u gwrthddywedo.
- ↑ Rosa rubiginosa,—Sweet Brier, Eglantine; rhoslwyn pêr, mieren Mair, eglantein.
- ↑ Ranunculus bulbosus,—Bulbous buttercup. Chwys Mair, egyllt.
- ↑ Helianthemum Vulgare, Rock-rose. Cor-rosyn, Rhosyn y Graig, heulrôs.
- ↑ Trifolium Filiforme,—-Lesser yellow trefoil. Gwefelen.
- ↑ Potentilla Anserina, Pumbys, Pumdalen, Tinllwyd, Gwyn y Merched. Cinquefoil, Silver-weed.
- ↑ Tormentilla officinalis,—Common tormentil, Tresgl y Moch, Tresgl Melyn, Melyn Twynau.
- ↑ Bellis Perennis,—Daisy. Swynfri.
- ↑ Chrysanthemum Leucanthemum—White Ox-eye. Esgob gwyn.
- ↑ Bunium Flexuosum,—Common Pig-nut. Daeargneuen, Bywien.
- ↑ Polygala Vulgaris,—Common milkwort. Amlaethai, Llysiau Crist.
- ↑ Veronica Chamaedrys,—Germander Speedwell. Rhwyddlwyn.
- ↑ Ajuga reptans,—Bugle. Golchenid, Llysiau Mair.
- ↑ Trifolium Pratense,—Purple clover.
- ↑ Lotus Corniculatus,—Bird's foot trefoil.
- ↑ Pedicularis Sylvatica,—Dwarf red-rattle.
- ↑ Gymnadenia Conopsea,—Sweet-scented orchis. Arian cor