Tro yn Eryri
← | Tro yn Eryri gan Robert Roberts (Silyn) |
→ |
A mi ar noson loergan haf,
Dan lwyth fy mhrudd feddyliau,
Yn araf grwydro'n drist fy nhrem
Hyd ddisathr wylltion lwybrau
Ymdroellant rhwng y creigiau crog,
Ym mynwes lorn Eryri,
Lle'r heria eco groch y graig,
Y wen ewynnog genlli;
Ar erch y my lon gwylltion gant
Rhaeadrau hyfion chwarddent;
A thros binaclau'r trumau'n chwim
Corwyntoedd beilchion ddawnsient.
Urddasol lys y Wyddfa yw
Cadernid yr Eryri,
Lle'r eistedd mewn tragwyddol rwysg
Ar orsedd o glogwyni.
I Gymro cordial wella'i gur
Yw anadl y mynyddoedd;
Deffroi fy nheimlad marw, swrth,
Wnai awel iach y cymoedd;
A chyda pharch y sangwn i
Ar lethrau Arfon arw, —
Ar hyd-ddynt arwyr Cymru gynt
Fu'n gwaedu ac yn marw.
Ysbrydion y gwroniaid fu
Lefarent o'r awelon,
Gan alw ar feibion Cymru sydd
I fod i Gymru'n ffyddlon ;
Taranu hyn wna'r rhaeadr gwyn,
A sisial hyn wna'r afon;
A dyma sibrwd blodau'r grug
Yng nghlustiau'r cerryg mudion.