Tro yn Llydaw/Eglwys ar Fryn

Llydawiaid yn Addoli Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Min Nos Saboth

X.

EGLWYS AR FRYN.

YR oedd Sian a Francoise yn ein disgwyl o'r eglwys, a dechreuasant ein holi ar draws ei gilydd.

"Sut yr oeddych yn leicio'r gwasanaeth?"
"Yr oedd yn darawiadol iawn, ac yn bur brydferth."
"A oeddych yn ei ddeall?"
"Nag oeddwn i, Lladin oedd."
"A fedrwch chwi ddarllen? "
"Medraf ddarllen Ffrancaeg, a siarad Llydaweg, ond ni fedraf ddim Lladin na Saesneg."
"Fedrwch chwi ddim darllen Llydaweg?"
"Na, 'does neb bron yn medru darllen Llydaweg, ond y mae pawb yn Lannion yn ei deall. Darllennwch chwi'r llyfr Llydaweg yna, mi ddywedaf finne beth ydyw yn Ffrancaeg. 'Does neb yn dysgu Llydaweg yn yr ysgolion, dim ond Ffrancaeg."
"Pwy sy'n dysgu'r Beibl i chwi?"
"O, gyda lleianod y bum i, yn Roche Darrien. Mi wn i lawer o'r Beibl. Mi wn enwau plant Jacob, ac enwau brenhinoedd Juda, a hanes Dafydd, a hanes dyn y gwallt hir, — beth oedd ei enw hefyd? — Absalom, a llawer o bethau eraill."
"Wyddoch chwi hanes y proffwydi?"
"Na wn, ddim. Ond mi wn hanes brenhinoedd Ffrainc."
"Wyddoch chwi hanes Llydaw?"
"Na wn, ddim."
"Fydd yr offeiriaid ddim yn pregethu i chwi am y proffwydi ac am yr efengylwyr?"
" Yr offeiriaid ! Na fyddant hwy, 'does arnynt hwy ddim ond eisiau arian. Arian am bob peth. Os bydd eisiau bedyddio plentyn, pymtheg swllt. Os bydd eisiau claddu'r marw, tri chan swllt. Ac fel y talech chwi, felly caech eich claddu. Ac os bydd arnoch eisiau gweddïo dros eich perthynasau i'w cael o'r purdan, talu am hynny. O, mae'r offeiriaid yn gyfoethog iawn."
"Faint sydd ohonynt yn Lannion?"
"Mae llawer iawn, dros gant. Mae ugain yn yr eglwys y buoch chwi ynddi'n unig. Mae Lannion yn lle ceidwadol iawn, a brenhinol, am fod cymaint o bendefigion yn byw oddiamgylch, ac y mae yr offeiriaid a'r boneddigion yn cyd - fynd bob amser."
"A ydyw gwerin bobl Lannion ar delerau da â'r offeiriaid? "
" Yn y dref 'dydi'r bobl yn hidio fawr amdanynt, ond y mae pobl y wlad yn credu ynddynt eto, byddant yn cario popeth iddynt; gwin, osia, tatws, gwenith, ffrwythau, popeth. Mae'n gywilydd fod pobl sy'n gweithio dim yn cael cymaint o bethau."
"A oes yma ddim Protestaniaid?"
Oes, ddau deulu. Swisiaid ydynt, a daeth pregethwr i aros gyda hwynt unwaith. Pregethodd, ac aeth pawb, pawb, i'w glywed. Ac yr oedd o 'n pregethu'n dda. Ond yr oedd yn dweyd nad oes eisiau cyffesu. Fyddwch chwi'n cyffesu?"
"Byddwn."
"I bwy? I'r bugail Calfinaidd? "
"Nage, i Dduw."
"O, mae hynny'n llawer gwell."

Teimlai Sian mai trwy rywun yr oedd hi'n mynd at Dduw. Rhedodd ymaith, a daeth a Josephine gyda hi'n ol. Yr oedd Josephine yn hoffach o holi na Sian, a nyni oedd yn gorfod ateb. Pan glywsant nad oedd gan y Protestaniaid ond nefoedd ac uffern, heb yr un purdan, yr oeddynt yn meddwl fod hynny'n well o lawer. Teimlem eu bod yn credu nad oedd y gwirionedd ganddynt hwy, eu bod wedi colli eu ffydd yn eu hoffeiriaid, a'u bod yn barod i grefydd arall.

Ar ol cinio aethom i fyny'r bryn o Lannion i eglwys Brelevenez, a chawsom olygfeydd prydferth cyn cael ein hunain ar y platfform uchel y saif yr hen eglwys arno, gyda'i thŵr ysgwar a'i ffenestri Normanaidd hirion. Yr oeddym yno ymhell cyn dechre, a rhoisom dro drwy'r fynwent sydd o amgylch yr eglwys i ddarllen yr enwau sydd ar y beddau. Gwelsom fedd plentyn Seisnig fu farw yma, a charreg gof i ryw Gabrielle le Yaudet, un o Lannion, fu farw yn "ei lleiandy yng Nghaersalem," wyth mlynedd yn ol. Yng Nghymru darlunir gwragedd ar gerrig beddau fel gwraig hwn a hwn," yn Llydaw darlunir y gwŷr fel 'gŵr hon a hon." Gwelsom lle gorwedd corff Yues Tyneve (Owen Tynewydd), gŵr Miriamme Bruv," yn ogystal ag "Isabella Yvonne Euen, gwraig Yues Person." Ni waeth pa mor bwysig oedd dyn, boed glochydd neu faer, gofelir dweyd pwy oedd ei wraig, — "Louis Brevet, clochydd Brelevenez, a gŵr Perrine Guegon"; "Joseph L'Hévède, maer Camlez, gweddw Marie Gabec; " "Isabella Piriou, gweddw Louis Ruic, a gwraig Jean Morvan." Gwelsom fedd syml un dyn y tybiai Ifor Bowen ei fod yn ddyn dedwydd, — "Jean Guyomar, hen lanc."

Eisteddasom ar wal y fynwent tan darawai'r cloc ddau, yr oedd yno gysgod coed ac awel, tra'r oedd pobl Lannion odditanom ymron deddfu gan y gwres. Clywem sŵn esgidiau pren y Llydawiaid yn dod i fyny'r grisiau cerrig, ac wrth edrych i lawr gwelem gapiau gwynion y merched a choryn hetiau'r dynion. Y mae cantel het Lydewig mor fawr, fel na welem, oddiuchod, ddim ond y hi, er y gwyddem fod dyn dani. Wedi cyrraedd, eisteddai'r dynion, yn ieuanc ac yn hen, ar fur y fynwent, i orffwys ac i weled y lleill yn tynnu i fyny. Aethom i'r eglwys, wedi gwrthod prynnu ffrwythau gan hen wraig oedd yn eu gwerthu wrth y drws, a chawsom hamdden i edrych o'n cwmpas cyn i'r gwasanaeth ddechre. Rhwng y bwau cerrig diaddurn gwelem aml rodd i sant yr eglwys, — llong gan ryw forwr fu mewn enbydrwydd ar y môr, blodeuglwm gan rywun gafodd waredigaeth ar dir, — a rhwng y colofnau yr oedd darluniau mawrion o olygfa ddwyreiniol, ond nid oedd yn eu mysg ddarlun i'w gymharu â'r olygfa welem drwy'r drws. Rhwng coesau merhelyg gwelem Lannion yn gorwedd yn dawel ar y gwastadedd odditanom, a'r haul poeth ar ei hystrydoedd, ond yr oedd yn oer hyfryd y tu fewn i furiau trwchus yr eglwys. Yr oedd corff yr eglwys yn llawn o ferched, yn gorffwys ac yn gweddio ar ol llafur caled yr wythnos, torri cerrig a medi a dyrnu. Cyn hir dechreuodd y dynion ddylifo i mewn, ac yr oedd galw mawr ar y dwfr santaidd. Yr oedd pawb wedi ymdawelu pan ddechreuodd y gwasanaeth, ac edrychasom oll tua'r allor. Gwelem y pulpud pren cerfiedig a'r capeli o farmor coch a gwyn ; y côr prydferth a darlun o Fair ynddo, yng ngwisg merched ffasiynol amser balch Louis XVI.; y canhwyllau cwyr meinion hirion, o bob lliw, a goleu bychan coch ar bob un, fel pe baent gynifer o flodau'r haul. Yr oedd gwisg yr offeiriad yn arddunol i'r eithaf, — sidan gwyn ac ymyl aur, a choron emog ar ei gefn; yr oedd gwisg bechgyn y côr o sidan glas, a surcot ridyllog wen arni. Darllennai'r offeiriad â llais crynedig, a gallwn feddwl yn hawdd, oni bai am y dillad gorwych, mai hen Gymro oedd. Arweinid y gân gan ddyn a basûn enfawr, a rhyfedd y sûn fedrai mor ychydig o fechgyn gadw. Wedi'r gwasanaeth, yr hwn oedd yn wir darawiadol drwyddo, aethant allan yn rhes, — yr hen offeiriad crand, offeiriad ieuanc, a'i gnawd fel siglen dongen, dyn y casgliad, dyn y basûn, a'r bechgyn gleision. Rhuthrodd y dynion allan, ond arhosodd y gwragedd ar ol. Ymhen hanner awr edrychasom i mewn, ac yr oedd llawer ohonynt yn aros yno.

Pan ddaethom i lawr i'r dre, gwelsom fod y prif heolydd yn llawn, oherwydd yr oedd y dydd yn ddydd gwyl Ann Santes. Yng nghanol tyrfa ger y bont, gwelem y dyn dall oedd yn begio wrth ddrws yr eglwys y bore. Yr oedd yn canu baledi'n awr; ac yr oedd dyn meddw, a thrwyn mawr cam, a cheg fel bwcwl esgid, yn ceisio dal y gragen iddo. Fel hyn y mae o hyd, — yr offeiriaid wrth ben eu digon, a'r gler ar newynu. Pawb at y peth y bo, yr offeiriaid i ddiolch am dynerwch Rhagluniaeth, a'r clerfardd sychedig i ganmol yr hwn fedd win a chalon hael. Ni fedrwn ddeall y gân, oddigerth ambell air. Ond yr oedd tyrfa astud yn ei deall yn iawn, ac yn ei mwynhau fel y byddai Cymry'r ffeiriau'n mwynhau cerddi Jac Glan y Gors. Y mae het y Llydawiaid yn union fel het person, neu het ambell sprigin o bregethwr heb basio arholiad y Cyfarfod Misol; a golygfa digon rhyfedd oedd gweled cynulleidfa o bobl dan y fath hetiau yn gwrando'n geg agored ar faledwr pen ffair Nid oedd gennyf fi fawr o ffansi o'r baledwr ymgrymai i'r saint wrth yr eglwys ac a roddai ei fys ar ei gap i'r lleill wrth y bont, — nid hoff gennyf bobl fo’n goleuo'r ddau ben i'w canwyll, ond cwynwn er hynny na fedrwn ddeall ei gân. I fy nghysuro, canodd Josephine gân hiraeth hen Lydawr am ei wlad, a gadawodd i mi ei hysgrifennu. Dygais hi adre, a chyfieithwyd hi gan gyfaill i mi. Ystyrir ef yn fardd gan ferched ieuainc ei ardal, y mae wedi ennill droeon mewn cyfarfodydd llenyddol, a dywedodd y beirniad craff Ap Sebon unwaith y gellir bardd o honaw. Dyma'r gân, —

Hen gastell fy nhad, man crud fy mabandod,
Nyth tawel fy mebyd a fuost i mi,
Ymhell oddiwrthyt heneiddiais, yng nghryndod
Fy henaint rwy' heddyw yn canu i ti.

Daw atgof am danat fel llais pell obeithion,
Clywaf furmur dy ddyfroedd a su dy awelon,
Clywaf adlais yr adar o'th ddwfn goedydd duon,
Wrth nythu y gwanwyn yn dy dawel gysgodion.
A theimlaf d’unigedd yn gordoi fy ysbryd,
Unigedd rydd heddwch ac anghof o'm blinfyd.

Yng nghanol y ddawns, lle mae gwisgoedd yn disgleirio,
Gan emau tryloywon fel mellt wrth fynd heibio,
Lle teifi y coronau ar lygaid llawn cariad
Eu heuraidd gysgodion, — daw meddyliau am danad.

Wrth weled brenhines y ddawns yn ei thlysni,
Daw meddyliau am flodyn sy'n harddach na hi,
Lili aur Llydaw, mae hon yn teyrnasu
Ar flodau'r mynyddoedd, cyfoedion i mi.

Dychmygaf fod eto ar fryniau f’hen Lydaw
Yn casglu y gwinwydd yn blentyn fel cynt,
Ymysg fy nghyfoedion rwy'n gwrando hen alaw,
Yn dawnsio'n ysgafn — droed a'm gwallt yn y gwynt.

Mae'm traed yn cyflymu drwy'r glaswellt aroglus,
Drwy liliau tal eurfron, drwy lygaid y dydd;
Anghofiais fy henaint, a’m hofnau pryderus,
Mae f’enaid yn Llydaw! Mae f’enaid yn rhydd !


Nid wyf yn hoffi rhyfeddnodau. Gwn am ŵr doeth fydd yn osgoi pob cân a brawddeg lle y gwel ryfeddnodau ar eu diwedd. Ond Ap Sebon ei hun a’u dododd yn y gân hon, ac ni feiddiaf fi osod bysedd anghysegredig arnynt, na’u halogi ag ysgrifbin nad ysgrifennodd i Eisteddfod erioed. Y maent yn y gwreiddiol hefyd, ond nid yw hynny goel yn y byd, gan fod caneuon Ffrengig mor llawn o ryfeddnodau ag ydyw dôl o lygaid y dydd ym mis Mehefin.