Tro yn Llydaw/Gyda'r Cenhadwr

Dros y Mynyddoedd Duon Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Yr Eglwys Gam

XV.

GYDA'R CENADWR.

Y MAE Quimper yn un o'r lleoedd tlysaf, gwelsom hynny ar unwaith. Y mae'r afon Odet yn rhedeg tan gysgod bryn serth coediog, ac ar lan yr afon, wrth droed y bryn, saif y dref. Wrth ddod o'r orsaf, gwelem ystryd hir yn rhedeg tua'r de, a'r afon yn rhedeg gyda'i hochr, — yn rhedeg ar hyd-ddi ddylaswn ddweyd, — oherwydd nid oes dai rhwng yr afon a'r ystryd. Rhwng yr afon a throed y bryn y mae rhes o dai, a phont yn croesi o'r ystryd at bob un o honynt. Yr ochr arall i'r heol, y mae rhes o fasnachdai a gwestai, tai prydferth a'u ffenestri yn llawn o flodau. Dros y rhai hyn, gwelem dai'r ystrydoedd eraill, — y mae Quimper yn dref bwysig, yn meddu dros bymtheng mil o drigolion. Uwchlaw popeth, ymddyrchafa dau bigyn uchel yr eglwys gadeiriol, — fel dwy glust mul,” ebe Victor Hugo.

Troisom o ystryd yr afon tua chanol y dre, a phenderfynasom mai'r Hôtel de Bretagne fyddai ein gwesty. Gŵr byr, pryd du, yn meddu'r enw priodol Le Bihan, oedd gwr y tŷ, a choffa da am dano, bu'n garedig iawn wrthym. Wedi cael lluniaeth a gorffwys, gofynasom iddo a wyddai rywbeth am genhadwr o Bryden Fawr oedd yng Nghuimper. Gwyddai'n dda, yr oedd pawb yn y dre yn gwybod am “M. Shincin Shòns," chwedl yntau. Da oedd gennyf glywed mai fel "y bugail Calfinaidd" yr adnabyddid Mr. W. Jenkin Jones, oherwydd Calfiniaid y gelwid hen arwyr Protestanaidd Ffrainc, Coligni, La Noue, Agrippa d’Aubigné, Duplessis Mornay, — rhai o'r dynion ardderchocaf welodd y byd. Anfonwyd plentyn gyda ni i ddangos lle'r oedd Mr. Jones yn aros, nid oedd y tŷ ond rhyw ychydig o gamrau o'r Hôtel de Bretagne. Gwelem oddiwrth yr enw, — Olgiati, — ac oddiwrth ymddanghosiad glân a chwaethus ffenestri'r siop, fod pobl y tŷ'n Swisiaid ac yn Brotestaniaid. Nid oedd Mr. Jones i mewn, ond nid oedd ymhell, a welem yn dda ddod i fyny i'w ystafell, ac eistedd nes y doi? Eisteddasom mewn ystafell brydferth gysurus, a thra'r oedd Ifor Bowen yn sylwi ar ddarluniau'r pregethwyr Methodistaidd oedd ar y muriau, rhyfeddwn i a fyddai W. Jenkyn Jones wedi altro llawer er pan oeddym yn cydefrydu yn Aber Ystwyth wyth mlynedd yn ol. Yr oedd ef ar adael yr athrofa pan oeddwn i'n dod yno o'r Bala. Bum yn cydymdynnu ag ef mewn arholiad, ac nid myfi enillodd, er y gallwn gysuro fy hun fy mod wedi curo pawb arall. Yr wyf yn cofio yr adeg y cychwynnai i Lydaw, a'r argraff dda a roddwyd ar y bechgyn gan waith ysgolhaig goreu'r coleg yn mynd allan yn genhadwr.

Daeth i mewn, ychydig oedd wedi newid, er fod ganddo farf a'i fod wedi ymdebygu rywfodd i'r Llydawiaid. Ni wyddwn a fuasai yn fy adnabod i, gan fy mod wedi heneiddio llawer mewn wyth mlynedd, a dywedais fy enw. Atebodd yntau, —

"Yr wyf yn eich cofio'n dda iawn. Mi wyddwn eich bod yn d'od drosodd, ond nis gwyddwn pryd. Damwain hollol ydyw fy mod yng Nghuimper heddyw, ac mae yn falch gen fy nghalon fy mod yma. Y mae'n wyliau arnaf fi yn awr, ond ces deligram oddiwrth gyfaill ddoe yn dweyd fod Roberts, Waverton, wedi dod yma i edrych am danaf. Dois innau adre ar fy union, ond yr oedd Roberts, Waverton, wedi mynd, ond mae'ch gweld chwi'n gwneud i fyny am y brofedigaeth."
"Ym mhle'r oeddych yn treulio'ch gwyliau ?"
"O, gyda'r Beibl gludwyr, buom yn teithio'r wlad i'r de oddiyma, hwy'n gwerthu Beiblau a minnau'n siarad â'r bobl."
"Ffordd ryfedd o dreulio gwyliau, gwaith fuasai'ch gwyliau chwi i lawer o honom. Beth yw eich rhagolygon yn Llydaw'n awr ? "
"Llawn o obaith, mae hi'n dechre gwawrio arnom ni'n awr. 'Doedd dim posibl cael Llydawiaid Quimper i ddod i'n capel, ond yn awr yr ydym wedi cael ystafell, ac y maent yn dod i honno'n lluoedd."
"Beth ydyw'ch meddwl am y syniad sy'n ennill tir yng Nghymru y dylid rhoi'r genhadaeth yn Llydaw i fyny ?
"Yr wyf yn teimlo'n sicr na rydd Cymru mo Llydaw i fyny byth. Affolineb mawr fyddai ei rhoddi i fyny'n awr, ar ol blynyddoedd caled o weithio, pan mae'r ffrwyth ar ymddangos.
"Beth yw'r arwyddion welwch o hynny ?"
"Y maent i'w gweled ym mhob man. 'Roedd Pabydd deallgar yn dweyd wrthyf ychydig yn ol fod ar yr offeiriaid ofn yn eu calonnau weled Pabyddion yn dod i'n hymofyn i gladdu eu meirw; a phan wnant hyn, bydd gallu'r offeiriaid ar ben. Ond chwi gewch weled yr arwyddion eich hunan gyda hyn."
"A oes gennych lenyddiaeth Lydewig Brotestanaidd go dda? Trwy'r emynnau, mi gredaf, yr enillir y Llydawiaid."

Dywedodd y cenhadwr beth sydd wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn, aeth yn bur frwdfrydig, a chanodd un o emynnau James Williams, ar yr Hen Ddarbi, gydag arddeliad,–

"Discennet er Crist deus en nenfou,
Efid clascet ar re gollêt,-
He galon oe leun o drugares,
Ar falla so bet safeteệt,
Eur becheres bras oe pardonet,
Dre feritou prisus he ouad,
He chalon cen lous so bet goalchet,
He chenchet a gren he goall stad."

Gofynnais a oedd Pabyddiaeth ddim wedi dysgu'r bobl i weled prydferthwch llenyddiaeth a natur a chrefydd. Y mae llawer o dlysni yn hen grefydd Rhufen, a bu ei dylanwad ar fywyd yn fawr.

"Yr wyf yn cofio darllen erthygl o'ch gwaith,"ebe ynte, "yn profi nad ydyw crefydd a'r celfau cain yn cydflodeuo. Clywais lawer o gondemnio arnoch, ond gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir. Beth feddyliech chwi mae celfau cain Eglwys Rufen wedi wneud i'r Llydawiaid hyn? Pan ddeuais i'r wlad gyntaf, meddylient mai dweyd wrthynt am addoli'r delwau yn yr eglwys yr oeddwn."
"A ydyw'n anodd eu cael i feddwl drostynt eu hunain?
"Ydyw, yn amhosibl bron. Y mae Pabyddiaeth wedi lladd eu meddwl; rhaid i minnau ddechre trwy fod yn rhyw fath o offeiriad iddynt. Daeth gwraig ataf y diwrnod o'r blaen i ofyn i mi a wnawn ei chyffesu,— y mae'r offeiriaid wedi eu cynefino â gorffwys ar bobl eraill am bob peth."
"A oes llawer o frwdfrydedd dros eu heglwys ymysg yr offeiriaid? "
"Dim. Y maent yn gweled fod eu dydd ymron ar ben, ac y maent yn gwneud eu goreu i gadw eu gafael ar y bobl, tuag at eu cadw mewn anwybodaeth."
"A ydyw'r offeiriaid yn cydymdeimlo â dyhead cenedlaethol y Llydawiaid?"
"Y maent wedi lladd hwnnw ers talm. Rhaid i chwi gofio nad ydyw Llydaw fel Cymru. Nid ydyw'r deffroad cenedlaethol wedi cyrraedd yma eto. Pan ddywedodd Le Bras y diwrnod o'r blaen y dylai'r Llydawr fod yn falch mai Llydawr ydyw, chwarddasant am ei ben. Ond beth feddyliech chwi am droi i weled y dre' ar y prynhawn braf yma?"

Dringasom y bryn y saif Quimper wrth ei droed, yr oedd y coedydd yn gysgod hyfryd, a gwelem yr hen dre ramantus trwy'r dail pan eisteddem i orffwys. Danghosodd y cenhadwr yr holl ysgolion ac ysbytai oedd yn nwylaw'r offeiriaid, —ysgolion elfennol, ysgolion canol, mynachlogydd, lleiandai, meddygdai ymron heb rif. Dywedais y buaswn i'n digalonni wrth feddwl am bregethu Protestaniaeth mewn lle mor Babyddol a hwn.

"Byddaf inne'n digalonni weithiau, ond dro arall bydd rhyw nerth yn fy nghodi i uchelfannau'r maes.
"A oedd dod yma i ddechre ddim yn beth digalon iawn?"
"Na, yr oedd yma gyfeillion Ffrengig yn disgwyl am danaf, a chefais groeso calon."
"Ond onid ydyw'n ddigalon iawn i ddechre siarad yn unlle? Ai sefyll ar gornel y stryd y byddwch? "
"Na, bydd y bobl yn disgwyl am danom braidd bob amser, bydd ein gelynion wedi cyhoeddi ein bod yn dod."

Yr oedd y prynhawn yn hyfryd gynnes, a suai awel dyner o ganoldir Llydaw drwy'r coed. Aeth yr ymddiddan yn ymddiddan am Gymru, hyd nes y gwelsom oddiwrth hyd cysgodau'r coed fod yn bryd i ni fynd yn ol. Yr oeddym yn ciniawa gyda theulu Protestanaidd, — M. a Mme. Orière, — hyhi o Switzerland ac yntau o Ddeheudir Ffrainc. Dywedai Mme. Orière am ei hiraeth am fynyddoedd y Grisons ac am Brotestaniaid diwyd yr Alpau. Yr oedd yn siarad yn rhy gyflym i mi ddeall ei holl ystyr, ond deallais yn eglur fod Protestaniaeth yn newid dyn drwyddo. Dywedai'r cenhadwr am bysgotwyr Pont l'Abbe, nad ydynt wedi ymuno eto, ond y maent ar y ffordd, — darllennant y Beibl, gwisgant ruban glas dirwest, gwnant eu dyletswydd, "y maent yn aeddfedu ohonynt eu hunain." Deallais fod sel rhai wedi troi'n ddibendraw braidd, — siaradant nos a dydd gydag eraill, ar y lan ac ar y môr, i'w cael at y Gwaredwr. Clywsom am bysgotwyr eraill, — "Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd Simon." Gofynnais i'r cenhadwr a oedd arno ddim hiraeth am y cyfarfodydd yng Nghymru. Rhoddodd yntau hanes cyfarfod yn Llydaw, cyfarfod y methent gael pen arno, oherwydd fod rhywun a chwestiwn i'w ofyn o hyd, amser y tren yn unig roddodd ben ar y cyfarfod melys hwnnw." Adroddodd Ifor Bowen hanes Joseff Thomas yn pregethu ar y nefoedd yn Sasiwn Dolgellau; ac wrth weled pobl yn prysuro ymaith er eu gwaethaf pan oedd y bregeth ar ei melysaf, dywedodd, — "Bobol, fydd ono 'ddun tdden yn y nefoedd."

Tarawiadol iawn oedd clywed gymaint ddisgwylia Protestaniaid Quimper wrth Gymru. Dylai Cymru anfon, nid un, ond deuddeg o genhadwyr. Fel y byddai'r hen eglwys Brydeinig yn gwneud,-gyrru cwmni o genhadwyr gyda'i gilydd. Y mae'r muriau'n crynnu yn Llydaw, meddent, un ymosodiad dewr rydd y wlad yn eiddo Crist.

Ar ol cinio, yr oedd yn braf wedi gwres llethol y dydd,— aethom i lawr gyda glan y dŵr i gwr y dref, ac eisteddasom lle mae'r afon yn rhoi tro am odrau'r mynydd. Doi arogl hyfryd y gwair o'r caeau gerllaw, gwelem luniau'r tai gwynion a'r coedydd duon yn y dŵr, a gwelem y Seren Hwyrol yn gwylaidd oeraidd syllu arnom. Dywedodd Jenkin Jones ei drallodion yn Rosporden, a chawsom ryw syniad am yr anhawsterau y rhaid i genhadwyr ymladd yn eu herbyn. Trodd yr ymgom at gangen-ieithoedd Llydaw,— ieithoedd Leon, Treguier, Cornouaille, a Vannes. Wrth i Ifor Bowen a minnau droi tua'n gwesty, tybiem o hyd mai yng Nghymru yr oeddym, ac mewn breuddwyd.