Tro yn Llydaw/Mynd i'r Môr

Rhagymadrodd Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Ynysoedd Dedwydd

TRO YN LLYDAW.

I.

MYND I'R MÔR.

" Y mae'r byd a'i droeon dyrys,
Yn debig iawn i'r môr gwenieithus,
Weithiau'n drai ac weithiau'n llanw,
Weithiau'n felys, weithiau'n chwerw."
Ieuan Glan Geirionnydd.

YR oedd defnynnau breision o wlaw braf yn disgyn ar laswellt cras llethrau Llanuwchllyn pan oeddwn yn cychwyn, cyn diwedd Gorffennaf, i edrych am fy nghefndryd yn Llydaw. Yr oedd wyneb Llyn Tegid, fu'n loyw a llonydd am wythnosau, fel môr arian tawdd, wedi crychu a duo i wynebu drycin. Er cynhared oedd, gwelwn fod y cnwd ysgafn o wair wedi ei hel oddiar finion y Ddyfrdwy, oddigerth ambell i renc neu fwdwl o olion. Ac ar yr adlodd coch llosg yr oedd defnynnau mawr y glaw cynnes maethlawn yn disgyn yn ddibaid.

Pan lithrodd y tren i Riwabon, gwelwn Ifor Bowen yn fy nisgwyl. Rhoddasom ein hychydig gelfi, — sebon a chrib a dau ddilledyn lliain neu dri,— mewn ysgrepan, yr unig ysgrepan feddem i'r daith, ac yr oedd hon mor ysgafn fel y medrem ei thaflu hi a'i chynnwys i'n gilydd o'r naill ochr o'r orsaf i'r llall. Gwyddwn trwy brofiad na fai'n edifar gennym am ysgafnder ein clud.

Yr oedd y gwenith yn dechre llwydo ar Ddyffryn Maelor pan oedd mynyddoedd Berwyn yn cilio o'n golwg. Ar ein cyfer yn y tren yr oedd dwy hen wraig a hen ŵr. Un dew dawel oedd un o'r gwragedd, a wyneb mawr fel cloc hen ffasiwn, yn gwenu o hyd, ond yn dweyd dim. Nid oedd y llall yn gyffelyb iddi. Wyneb hir main oedd gan hon, dwylaw gwynion esmwyth a bysedd hirion llonydd, gên ystwyth ryfeddol, a thafod na ddichon un dyn ei ddofi. Yr oedd y wraig dew wedi gosod ei hun yn y gornel, a'i hwyneb i mewn i'r cerbyd, a'i dwylaw celyd ymhleth, mewn agwedd gwrando. Yr oedd y wraig deneu wedi eistedd ar ymyl y fainc a'i hwyneb at y llall, a'i chefn at yr hen ŵr, mewn agwedd siarad. Llifai'r geiriau allan yn ffrwd ddidor, yr oedd yn medru siarad hyd yn oed wrth gymeryd ei gwynt. Yr oedd ar yr hen ŵr, — hen wraig ddylai fod, — awydd cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Hen Gymro oedd, bychan o gorff, — meddai gorff teiliwr a bysedd crydd, — mewn trowsus du gloywddu cwta, hosanau lliain gyda mwy o dyllau na'r rhai y rhoddai ei draed drwyddynt, esgidiau isel clytiog, cot ddu seimlyd, a het wellt wen ysgafn heb fod o'r defnydd goreu. Pe bai fawr a'i lais yn gryf, medrai wneud i'r ddwy wraig wrando arno, ond yr oedd cryndod yn ei ên, ac ni allai yn ei fyw hawlio gwrandawiad. Treiai roi ei rwyf i mewn yn awr ac eilwaith, ond buan y boddid ei lais gan y llais arall.

"Ut us feri drei weddar in Wêls,"-
"And as I was telling you, my dear, he told me on his deathbed that the house was to be mine, but that I must paint it and keep it tidy. I couldn't paint it under ten pounds, and I hadn't ten shillings. Now, what could I do?"
Ddi crop of he us feri lutl in Ingland,'
"So I determined to let them have it, and I left Liverpool for good, and I went up to Thlangothlen."
"Se ut agien, mam, se ut agien !"

Yr oedd cymaint o awdurdod yn llais yr hen ŵr y tro hwn fel y trodd y ddwy wraig ato,—

"Whêr dud iw se, mam?"
"Thlangothlen."
"Llan Gollen, se ut leic ddat."
"Thlan Gothlen."
"Ha! Iwar mywth usnd ffinisd, iw Inglis pipl, leic ddi Wels."

Os at siarad y mae ceg wedi ei gwneud, yr oedd ceg y wraig honno wedi ei hen orffen. Ond os dylai fod yn ddistaw ar brydiau, fel trwy ddamwain, yn sicr yr oedd ei pheiriannau llafar yn anorffenedig, gadawyd iddynt redeg cyn rhoi'r stop, a rhedeg y maent byth.

Yr oeddym yn newid ein tren yn y Mwythig, a'r golygfeydd, a'n cwmni. O wastadedd hen Faelor, troisom i'r de, a dechreuodd y tren redeg yn chwyrn gyda godre mynyddoedd Cymru tua Henffordd. Wrth basio Church Stretton gofynnodd Ifor Bowen i mi a oedd bosib cael golygfa dlysach yn yr Alpau, ond cyn i ni gyrraedd Llwydlo yr oedd ei gyd-deithwyr wedi tynnu ei sylw, ac ni ches gyfle i adrodd dim ar a wyddwn am yr hen le y llywodraethid Cymru o hono yn y dyddiau gynt. Ar ein cyfer yr oedd pedwar o fodau, yn llenwi'r fainc. Yn agosaf at un ffenestr yr oedd hen amaethwr corffol, yn meddu wyneb plentyn direidus. Yn nesaf ato yr oedd coediwr neu glocsiwr, yn meddu'r gwefusau hwyaf a welodd Ifor Bowen a minnau erioed. Y mae pobl godre Sir Drefaldwyn yn hynod am hyd gwefus, ond ni welais i debig hwn yn Llansilin na Llanfyllin. Nid o ran fod ei geg yn fawr, — gwelsom ar ein taith ddynion a chegau fel blychau tybaco, ond yr oedd llawnder a hyd yn ei wefus wnai ei wên yn ddigrifol iawn. Yn nesaf at Jon y Geg yr oedd person eglwys, a wyneb fel arch. Dyn hir ydoedd, mewn dillad duon, fel hen gloc derw. Nis gwn beth a wnai ei wyneb mor hagr, — feallai mai'r cyferbyniad rhwng ei wep welwlas angeu a'r cnwd o flew duon a dyfai ar ei ddwy gern. Ofnai Ifor Bowen iddo fod yn fwy o ddychryn na’r un deryn corff i lawer dyn claf. Rhyngddo a'r ffenestr yr oedd gweithiwr tyn ffroenuchel, tebig i'r rhai fydd yn cadw llygad beirniadol ar y blaenoriaid yng Nghymru, a chadwen efydd felen ar ei wasgod rips. Ni ddywedod neb ac nid oedd yn awr ond ychydig o amser i syllu ar y pedwar wyneb hyn. Wedi gweled eglwys gadeiriol Henffordd am y tro olaf, ni sylwasom ar ein cyd-deithwyr, yr oedd Sir Fynwy mor dlos. Ymagorodd dyffryn yr Wysg ar ein de, gwelem ei brydferthwch diarhebol dros gastell Aber Gafenni. Gadawsom yr afon yn Llangadog, a chroesasom i ddyffryn afon arall, mor dryloyw a'r Wysg. Ar ein de yr oedd hanner cylch o fryniau, a gofynnodd Ifor Bowen a oeddwn yn disgwyl cael golygfa mor brydferth a hon hyd nes y gwelem hi drachefn wrth ddod yn ol. Cyn i mi orfod ateb yr oeddym wedi cyrraedd Caerlleon, dinas Arthur Fawr, ac wedi cyfarfod yr Wysg eto, nid yn dryloyw fel o'r blaen, ond yn goch wedi crwydro ar hyd daear feddal wastad Gwent. Yr oedd cawod o wlaw'n orchudd dros Gasnewydd, ac ni chlywsom y tren yn arafu nes oedd wedi croesi'r Hafren drwy dwll odditani, ac wedi ymgyflymu drwy gwr o Sir Gaerloyw tua Bristol. Cawsom heulwen ar Fath, ac amser i fwyta ychydig o fefus Gwlad yr Haf. Yr oedd Ifor Bowen yn llawen, ac yn canu'n ddibaid. Yr oeddwn i'n gysglyd, ac nid wyf yn cofio ond ychydig am y prynhawn, — Bradford yn ymnythu yng nghesail bryn, llun ceffyl gwyn ar ryw fynydd, cwpanaid o de da yn Westbury, gwlad o ŷd a choed, chwyrniad y tren, a thôn ar y geiriau,

“Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd.”

Yr oeddwn yn ddigon effro i weled olion caerau Prydeinig Dorchester, a phrin yr oedd wedi dechre nosi pan gyrhaeddasom Weymouth. Nid oedd ein llong yn cychwyn dan ddau o'r gloch y bore, a buom mewn tipyn o benbleth pa fodd i dreulio'r oriau hyd hynny er budd ac adeiladaeth i ni. Cerddasom yn ol ac ymlaen hyd finion bau ardderchog Weymouth, cyrchfa miloedd o bobl wael a di briod ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr oedd tri atyniad ar fin y môr, — seindorf dannau, Punch and Judy, a chyfarfod diwygiadol. Yr oedd cerbyd, — rhywbeth hanner y ffordd rhwng cerbyd sipsiwn a wagen hela Syr Watcyn, — wedi dod yno o rywle, a'r geiriau "Bible Carriage" mewn llythrennau melynion ar ei thalcen. Ynddi yr oedd dau ddyn, a chymerodd y rhai hyn eu dameg, ac anerchasant y dyrfa. Albanwr oedd y cyntaf, a dywedai wrth y Wesleaid trwsiadus oedd o'i flaen nad oedd dim haeddiant mewn mynd i'r capel, a chadw Ysgol Sul, a rhoi at y Genhadaeth, a gwisgo ruban glâs, os nad oeddynt wedi teimlo eu hunain yn cael eu hysgwyd uwch ben ufîern, ac ymron cyffwrdd â'r fflamau. Dywedai hyn oll âg un law yn ei boced, mor oeraidd a phe bai n dadleu rhagorion pelennau neu ryw feddyginiaeth fydenwog arall. Pan oedd yn tynnu at yr Amen, clywid tinc y delyn yn y pellter, a gwich Judy. Buan yr heliodd Satan ei blant i'w cynefin, ac ni adawyd i ganu ar ddiwedd y bregeth ond ychydig o'r ethol deulu sy'n edrych ar y rhan fwyaf o fywyd y byd hwn fel gwagedd a blinder ysbryd. Wedi canu, ymddanghosodd y pregethwr arall, dyn eiddil, yn gwichian brawddeg, ac yna'n distewi am ennyd cyn gwichian un arall. Yr oedd dull ymadrodd hwn mor erchyll fel yr oeddym yn hiraethu am yr un fu'n siarad o'i flaen. Rhoisom dro i edrych sut yr oedd plant y byd hwn yn mwynhau eu gwagedd; ac erbyn i ni ddod yn ol, yr oedd y pregethwr bach yn dal ati'n ffyddlon o hyd. Un gwrandawr oedd yn aros, ac yr oedd hwnnw'n graddol gilio ymaith i'r tywyllwch oedd erbyn hyn yn cuddio'r ddaear a'r môr. Bu plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth y min nos hwnnw na phlant y goleuni; yr oedd eu stori'n fyrrach ac yn fwy bywiog, ac wrth i ni droi tua'r llong, nid adrodd y pregethau wnai Ifor Bowen, ond dal i ganu beth ddywedwyd wrth yr adar am y gwanwyn hardd.