Trugaredd dod i mi

Mae Trugaredd dod i mi yn emyn gan awdur anhysbys.


Trugaredd dod i mi,
Duw; o'th ddaioni tyner;
Tyn ymaith fy anwiredd mau
O'th drugareddau lawer.


A golch fi yn llwyr ddwys
Oddi wrth fawr bwys fy meiau;
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi
Rhag brynti fy nghamweddau.


Ag isop golch fi'n lân,
Ni byddaf aflan mwyach;
Byddaf fi o'm golchi fel hyn
Fel eira gwyn, neu wynach.


Pâr imi weled hedd,
Gorfoledd a llawenydd,
I adnewyddu Fesgyrn i,
A ddrylliaist ti â cherydd..