Trwy India'r Gorllewin/Caethion Duon India
← Jamaica | Trwy India'r Gorllewin gan David Cunllo Davies |
Troi Adref → |
VIII. CAETHION DUON INDIA.
CEIR cyfeiriadau mynych yn emynyddiaeth Gymraeg at India'r Gorllewin a'i thrigolion, a hynny mewn ffurf o ddeisyfiadau am i'r Efengyl gael llwydd yn eu plith. Ac i ni, oedd wedi canu cymaint am danynt yng nghyfarfod gweddi dechreu y mis, dyddorol oedd eu gweled wyneb yn wyneb. Dyma rai dyfyniadau o'r llyfr emynau,
"Gad imi gael heddwch, y perl sy'n fwy drud
Na meddiant holl— India'r Gorllewin i gyd,"
&c.
"Fe'i car y negro tywyll du;
Yn hyfryd maes o law;
Pan t'wyno gwawr efengyl gras
I dir yr India draw."
"Daw caethion duon India,
Anwariaid gwledydd pell,
I blygu'n llu i Iesu,
Gan geisio gwlad sydd well."
Williams Pantycelyn bia'r ddau gyntaf, a Morgan Jones o Drelech (1768—1835) ydyw awdwr yr olaf. Canodd Williams eraill,—
"Doed yr Indiaid, doed barbariaid,
Doed y negro du yn llu," &c.
"Doed paganiaid yn eu t'wllwch,
Doed y negro dua'u lliw," &c.
Er mai dyfodiaid ydyw y negroaid, hwynthwy ydyw mwyafrif mawr trigolion Jamaica. Y mae yno lawer o Garibbeaid—preswylwyr cyntefig yr ynysoedd a gawsant eu difa o flaen y Spaniaid yn canrifoedd yr heigiai y moroedd hyn gan y fôr-ladron. Hefyd, y mae llawer o Indiaid melyn-groen i'w cael yn y tiriogaethau pellaf. Ond ceir y negro ymhob man, a hawdd ei adnabod oddiwrth asgwrn uchel ei wyneb, ei wefus dew, a'i wallt gwlanog. Siarada iaith perchennog ei wlad. Ffrancwr ydyw ym Martinique a Guadeloupe. Sieryd Saesneg yn Barbadoes a Jamaica; a chymysgedd o Ffrancaeg a Saesneg ydyw tafodiaith St. Lucia.
Cenedl a anwyd mewn un dydd ydynt. Ar ryddhad y caethion daethant i feddiant o freintiau a'u dyrchafodd i safle dynion am y tro cyntaf yn eu hanes; ac ar i fyny y maent yn myned mewn gwareiddiad, mewn addysg, a chrefyddoldeb. Llawer fu ymdrechiadau dyngarwyr i ryddhau y caethion ar hyd y blynyddoedd, a chymerodd dymor hir i argyhoeddi cydwybod y gwledydd o bechadurusrwydd y fasnach mewn negroaid. Un o'r cyntaf i ddadleu hawl y dyn du oedd George Fox, sylfaenydd y Crynwyr. Granville Sharp fu yn foddion i gael gan y llywodraeth gydnabod y caethwas yn ddyn rhydd wedi gosod o hono ei droed ar yr ynys hon.
Yn Ebrill, 1791, cynhygiodd Wilberforce, yn Nhy'r Cyffredin, benderfyniad yn galw ar y Wladwriaeth i rwystro ychwaneg o gaethion gael eu dwyn i mewn i diriogaethau Prydain Fawr ym mhob rhan o'r byd. Collodd ei gynhygiad, ond ni lwfrhaodd Wilberforce. Cododd y mater yn ystod pob Senedd-dymor. Tua'r flwyddyn 1805 yr oedd y werin bobl yn gyffrous ar y cwestiwn; ac ym Mawrth, 1807, gorchymynnodd y Llywodraeth yr hyn a gynhygiwyd droion gan Wilberforce. Yr oedd dwyn ychwaneg o gaethion i unrhyw wlad lle chwifiai baner Prydain yn weithred a gosbid â dirwy drom. Ar ymneillduad Wilberforce, cymerwyd ei le fel amddiffynydd y negro gan Thomas Buxton. Ym Mawrth, 1823, daeth a chynhygiad gerbron y Senedd yn datgan fod caethwasiaeth yn
wrthwynebol i egwyddorion y cyfansoddiad Prydeinig a'r grefydd Gristionogol, ac y dylid ei diddymu yn raddol yn nhiriogaethau Prydain. Ni phasiwyd y cynhygiad hwn, ond mabwysiadwyd penderfyniad yn cynnwys holl ysbryd cynygiad Mr. Buxton. Aeth y Llywodraeth mor bell ar ol hyn ag annog y Trefedigaethau i wellhau sefyllfa y caethwas, a pharodd hyn gryn dwrw ymysg y meistriaid. Ni chymerasant yr anogaeth yn yr ysbryd goreu; eithr lleddfwyd llawer ar y safle mewn canlyniad.
Yn 1833 gosododd Mr. Stanley Fesur gerbron Ty y Cyffredin er diddymu caethwasanaeth. Pasiodd yn bur hawdd, ac aeth y drydedd waith drwy Dŷ yr Arglwyddi ar y 19eg o Awst, 1833. Bu farw Wilberforce dair wythnos cyn hyn; ond yr oedd wedi byw yn ddigon hir i weled baner buddugoliaeth ar y maes a gymerodd. Yn ol Mesur Mr. Stanley, a ddaeth yn ddeddf ar Awst laf, 1834, yr oedd pob caethwas ag oedd dros chwech oed i gael ei osod yn egwyddor-was yng ngwasanaeth yr hwn a'i piodd. Yr oedd yr egwyddor-wasanaeth hon i orffen ar Awst laf, 1838, ynglŷn â'r crefftwyr a'r rhai a weithient yn y tai; ac mewn perthynas a'r rhai a weithient ar y tir ar Awst laf, 1840. Talwyd iawn o ugain miliwn i'r meistriaid am y caethion, a dydd rhyfedd oedd hwnnw y cyhoeddid eu cwbl ryddid arno. Clywsom hen wraig oedd yn bedwar ugain a phymtheg oed yn adrodd yr hanes. Pan darawodd y cloc hanner nos ar Awst laf, clywyd gwaedd orfoleddus o gwrr i gwrr i'r wlad. "Free, free, free," meddent, a hynny heb wybod ystyr rhyddid i'r graddau lleiaf; eithr y mae pob dyn yn pasio, fel Abram dros ei etifeddiaeth, heb wybod hynny cyn ei chael mewn gwirionedd.
Nid oedd enwau arnynt. Elai llaweroedd o honynt wrth eu rhif. Cymerent enw y meistr yn aml os byddai yn garedig wrthynt; brydiau eraill enwau Beiblaidd, ac enwau y cenhadon. Felly ceid cryn lawer o amrywiaeth, heb son am wreiddioldeb; ac nid syn gennym weled yr enw Angelina John Baptist ar ddynes ym Montserrat, a negro yn Jamaica o'r enw Jones. Dywedodd yr hen wraig a adroddai hanes y rhyddhad, mai y gwahaniaeth mawr rhwng bore Awst laf a phob bore cyn hynny, oedd na chanodd y shellhorn i'w galw at eu gorchwyl.
Oddiar hynny hyd yn awr y mae cenhadaethau y Bedyddwyr, yr Anibynwyr, y Wesleyaid, y Morafiaid, Eglwys Loegr, a'r Presbyteriaid, wedi gwneyd gorchestwaith i'w dwyn at yr Iesu yn lluoedd. Y mae rhai o honynt yn bur oleuedig a dysgedig; ac wedi gweled cipdrem ar waith cenhadol yn eu mysg, yr oeddem yn teimlo yn ddiolchgar iawn i'r Nefoedd am gariad digonol yng nghalonnau dynion i aberthu er mwyn y Gwr fu ar y groes er eu dwyn i afael rhyddid llawer gwell hyd yn oed na rhyddid o gaethiwed corff.
Ymysg y mwyaf anwybodus, ffynna ofergoeliaeth dywell iawn. Y mae yr Obeahman ac Obeahism yn meddu dylanwad cryf neillduol ar eu meddyliau. Math o swyngyfaredd ydyw, a chredant fod gan yr hwn a'i gweithreda awdurdod anffaeledig ar dynged dynion; ac er fod y Llywodraeth Brydeinig yn eu gosod i lawr a llaw drom, erys y gred yn ddylanwad pwysig ar fywyd miloedd yn India'r Gorllewin.
Pan blannir gwinllan o aur-afalau cleddir ynddi ryw swyn; ac weithiau arch fechan fydd; ond nid yw o fawr pwys beth ydyw, y peth mawr ydyw fod ysbryd yr Obeah yn trigo yn y gwrthrych. Yr offeiriad yr obeahman-sydd yn gallu trosglwyddo yr ysbryd hwn i wrthrych; a lle bynnag y trig yr ysbryd bydd ei ofn ar y negro, a rhaid wrth swyn i wrthweithio ei ddylanwad. Ychydig cyn ein hymweliad â phlwyf yn Jamaica yr oedd y ddeddf wedi gosod ei llaw ar swynwr, ac wedi ei garcharu. Aeth rhyw druan oedd mewn gofid ato i ddweyd ei gŵyn a cheisio am ddiogelwch oddiwrth bob math o elynion. Cafodd swyn ganddo, yn gynwysedig o botel fechan yn llawn o gymysgedd, llwy de, pecyn bychan yn cynnwys darn o bren wedi ei losgi a'i wnio yn ofalus mewn cadach; a dwy marble o wydr amryliw fel y rhai y chwareuem â hwynt yn yr ysgol flynyddoedd yn ol. Yr oedd i osod ychydig ddyferynau o gynnwys y botel yn ei botes neu gawl, a'i yfed â'r llwy. Cadwai hynny bob haint a phla i ffwrdd. Yr oedd i gladdu y pecyn o dan riniog ei dŷ. Cadwai hynny bob. gelyn i ffwrdd, a byddai y marbles yn cadw y ddeddf a'i swyddogion o'i blaid. Trigai ysbryd gwarcheidiol yn y pethau hyn wedi dyfod o honynt drwy law y swynwr; a chredai y negro ofergoelus yn ei anffaeledigrwydd.
Fel y cynydda goleuni Efengyl cilia y tywyllwch hyn; eto peth cyndyn yn marw yw pob ofergoeledd. Rhyw adlais ydyw o grefyddau teidiau y bobl hyn cyn eu caethgludo i India'r Gorllewin o ganolbarth Affrica—peth tebyg i grediniaeth yr hen Gymry yn eu dyn hysbys, y canwyllau cyrff, y goblinod, cwn annwn, a phob ffiloreg o'r fath. Y mae ochr well i'r genedl na hon-ei hochr grefyddol. Codwyd baner iddi, ac fel y daw caethion duon India dani, dont i fyny i safon uwch mewn gwareiddiad a moesoldeb.
Cawsom y fraint, braint werthfawr yn ein golwg, o bregethu amryw weithiau i gynulleidfaoedd mawrion o negroaid. Yn nhref Charlotte Amalie, fel y cyfeiriasom, y gwahoddwyd ni gyntaf i draethu y newyddion o Galfaria. Yng nghapel y Wesleyaid y bu hynny, ac yr oedd rhai cannoedd o wynebau duon o'n blaen. Gwrandawent yn astud; a chodai ambell "Amen" a "Praise the Lord" yn gynnes o'u calonnau. Yr oedd y mwyafrif mawr o wyr a gwragedd, a merched a bechgyn, yn ymddangos yn drwsiadus mewn dillad gwynion, a lliw rhuban eu hetiau yn amrywiol fel yr enfys. Yma a thraw gwelsom wyntyll fechan; ac o herwydd poethder yr hin ysgydwid hwynt a ni yn pregethu, er cael anadl o awyr ysgafn. Yr oedd hyn yn cydweddu mor hapus â'r holl amgylchoedd fel nas aflonyddai ddim ar lygad wrth graffu ar y gynulleidfa. Canent yn felus odiaeth; ac yr oedd llawer o fynd yn eu haddoliad.
A ni yn myned allan ar ol yr oedfa, safasant ar eu traed a tharawyd i ganu yn dyner God be with you 'til we meet again." Ysgydwasom law â rhai degau, a gwelsom fore mewn addewid y byddem yn cyfarfod o bob llwyth ac iaith a chenedl o gwmpas yr orsedd wen fawr heb wahaniaeth rhyngom—a'n cân yn un, lle na thyr ffarwel byth dros wefus un o honom. Y Sabboth canlynol yn nhref Bridgetown, Barbados, gofynwyd i mi bregethu gan weinidog o'r enw Mr. Payne—dyn hynaws, croenddu, o daldra angyffredin. Efe oedd yn porthi y praidd Wesleyaidd yn y Y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn dref. oedd, ac ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd cyfarfod gweddi dechreu y flwyddyn, undebol, rhwng y Morafiaid, y Presbyteriaid a'r Wesleyaid y cynhelid hwynt,—a'r cyntaf i gymeryd lle am bump o'r gloch y bore, y Llun canlynol.
Ar ol cyhoeddi darllenodd y gweinidog y" gwasanaeth cyfamodol." Cynhwysa y ffurf wasanaeth hon o waith Wesley yr hyfforddiant mwyaf dyrchafol a'r apeliadau mwyaf grymus at galon a chydwybod. "Gadewch i'r tair egwyddor hon sefydlu eu hunain yn eich calonnau; fod pethau tragwyddol yn fwy pwysfawr na phethau amser; fod yr anweledig bethau mor sicr a'r pethau a welir; ac mai ar eich dewisiad presennol yr ymddibyna eich tynged dragwyddol. Gwnewch eich dewisiad. Anturiwch gyda Christ-a rhoddwch eich hunain i fyny i Dduw yng Nghrist."
Darllennai y brawd yr ymadroddion hyn gydag awdurdod, a disgynnai ar ein clyw fel cenadwri o fyd arall. Wrth fwrw golwg yn ol ar yr hen flwyddyn a'i cholliadau, pruddaidd ddigon oedd ein hysbryd; ond teimlem awydd anturio yn hyderus gyda Meistr y tonnau am flwyddyn arall, faint bynnag ei throion a'i thywyllwch. Canai aderyn ar un o drawstiau nen y capel yn ystod y gwasanaeth difrifol; ond ni thynnodd sylw neb. Canai ei alaw unig yno; a bu yn foddion i'n hadgoffa o fanwl feddwl Tad am danom. Ni syrthiodd yr un o'r rhai hyn i'r ddaear heb yn wybod iddo Ef. Ar ol hyn gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd; ac wrth weled y dagrau yn rhedeg dros lawer grudd adroddai fy nghyfaill emyn Morgan Jones, Trelech,—
"A'r dagrau ar eu gruddiau,
Wrth gofio angeu loes;
Gan ddechreu canu'n beraidd
Am rinwedd gwaed y groes."
Nid oedd nerth y Parch. William Lewis yn caniatau iddo bregethu. Er fod awydd angherddol ynddo am wneyd, eto, doethineb oedd cofio a gweithredu yn ol cyngor y meddyg. Cynorthwyodd gyda'r gweinyddiad o Swper yr Arglwydd y tro hwn yn y lle agos hwn i'r nefoedd.
Pregethasom mewn cyfarfod diolchgarwch am y cynhaeaf yn Jamaica; ac o'n cwmpas yn y set fawr yr oedd tua deuddeg o wahanol ffrwythau, fel rhyw flaenffrwyth cynyrchiol o ddaioni yr Arglwydd i'r ynys. Cymerasom oedfa yng nghapel y Bedyddwyr yn Queen Street, Kingston (gweinidog, y Parch W. Pratt, M.A.). Y mae hwn yn adeilad mawr iawn. Dywedwyd wrthym fod ynddo le i ddwy fil o addolwyr i eistedd. Buom yn pregethu yng nghapel yr Anibynwyr ym Mandeville (gweinidog, y Parch. James Watson), ac yn annerch cyfarfod cenhadol yn nghylch yr un fugeiliaeth.
Yn Barbados gwahoddwyd ni gan y Parch. C. T. Oehler, gweinidog Eglwys y Morafiaid, i bregethu yn ei gapel. Yr oedd yno gynhulliad o dros chwe chant o addolwyr cynesgalon, a hawdd iawn pregethu iddynt. Ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd y byddent yn canu yr emyn weddi a arferent dros eu cyfeillion ar y môr yn eu cyfarfod eglwysig y nos Fercher ddilynol, a chan droi atom, ebe'r gweindog, "Ym mha le bynnag y byddwch am saith o'r gloch y noson honno, cofiwch y bydd cyfeillion yma wrth orsedd gras yn cofio am danoch. Byddwn yn canu yr emyn Saesneg,—
Eternal Father, strong to save,
Whose arm hath bound the restless wave,
Who bidd'st the mighty ocean deep
It's own appointed limits keep;
O hear us, when we cry to Thee,
For those in peril on the sea."
Bu hyn yn foddion i roddi lle dyfnach yn ein calon nag erioed i ganlynwyr John Hus. Nid oes enwad ar y ddaear a sel fwy brwd dros y cenhadaethau tramor na'r Morafiaid. Gosodant bwys mawr ar addysg; ac yn ein ymddiddan ag esgob India'r Gorllewin, holodd lawer ar fy nghyfaill am Ysgolion Sabbothol Cymru, a'u gwaith, a'u dosbarthiadau i rai mewn oed.
Y mae gan y Bedyddwyr Goleg Duwinyddol-Coleg Calabar yn Kingston, Jamaica o dan ofal Cymro-y prifathraw Arthur James, B.A. Yr oedd adeiladau newyddion i'r sefydliad yn barod i'w hagor; ac edrychai y llywydd arnynt fel sylweddoliad gobeithion llawer o flynyddoedd.
Y mae yn yr un ddinas ddau goleg i barotoi athrawon yr ysgolion elfennol-y Mico College i fechgyn a'r Shortwood College i ferched. Buom ar ymweliad a'r olaf; ac yr oedd yno chwech a deugain o fyfyrwyr. Arosant yn y coleg dair blynedd, ac yn ystod y flwyddyn gyntaf gwnant holl waith y sefydliad mewn glanhau a golchi. Rhoddir hyn o ddyledswydd arnynt er mwyn iddynt gyfarwyddo a chadw ty ac i fod yn foddion i ddysgu eraill, am yr edrychir ar yr ysgolion a'u hathrawon fel canolbwyntiau addysg a moddion derchafol ymhob cyfeiriad da. Y tu ol i'r coleg hwn safai cartref i blant amddifaid, yn fechgyn a merched; a phan y cerddem o gwmpas yr oeddynt yn brysur yn plethu hetiau gwellt. Rhoddir addysg grefyddol yn yr holl ysgolion, a synwyd ni yn fawr wrth wybodaeth y plant o brif ddigwyddiadau yr Hen Destament a'r Newydd.
A ni wedi gosod ein camera ar waelod bryncyn ar yr hwn y safai ysgol ddyddiol, un prydnawn, a phob peth yn barod i dynu darlun y plant pan redent o'r ysgol, meddyliasom am debygrwydd rhyfedd y darnau gwledig o Jamaica i'n gwlad ni. Yr oedd y trofeydd a'r cloddiau cerrig yn union yr un fath a phe buasem yng nghanol sir Feirionnydd. Pe buasai y dderwen yn lle y balmwydden, y pren afalau yn lle y pren orenau; a'r cyfnewidiadau eraill yn ychydig—dyma wedi hynny wlad debyg iawn i hen wlad y bryniau. A ni yn myfyrio fel hyn dyma sain hyfryd yr hen alaw "Ar hyd y nos" yn taro ar ein clust.
"Beth yw hyn?" meddem, a dechreuodd ein calon guro yn gyflymach. Distawodd yr alaw. Rhedodd y cantorion allan. Tynnais eu darlum, ac ymholais am yr alaw, ac ymddengys eu bod yn canu emynnau ar hen alawon ein gwlad, a chawsom addewid am glywed "Rhyfelgyrch Gwyr Harlech" y tro nesaf. Eithr y mae miloedd o filldiroedd o fôr rhyngom, a'r tro nesaf yn debyg o ddod. byth.
Y mae gan y negro lawer o ddiarhebion tarawiadol iawn. Dyma rai fel y dywedir hwynt yn Jamaica,-"Dog behind is dog; dog before is Mr. dog;" "Nebar call alligator big mouth 'til you cross ribar; "Ribar bottom never say sun hot; " Sojer's blood, but general's name.'
Nid yw yn credu llawer mewn gwelliantau amaethyddol. "Goglais y tir " yw ei ddesgrifiad o amaethu. "Duw wnaeth y ddaear ac nis gall dyn ei gwella ag achles," meddai yn bur awdurdodol. Y mae natur fel pe bai yn afradlon yng ngwasgariad o'i thrugareddau. Tyf pob dim heb fawr o lafur na gofal; a cheir cnwd ar ol cnwd yn ystod yr un flwyddyn.
Paradwys i ddynion diog yw y gwledydd hyn. Nid yw tymhorau y flwyddyn yn galw am egni. 'Does yno yr un gaeaf yn galw am ymdrech i lanw ysguboriau â chnydau haf. Y wraig a'r ferch yw y gweithwyr caletaf.
Cenedl yn dringo ydyw. Nid yw eto wedi meddiannu gyda llwyredd yr hyn a ddaeth iddi yn rhyddhad y caethion; eithr a'r dyn gwyn yn genhadwr ati, y feddwl iddi, ac yn arweinydd arni, daw yn uwch, a chyrhaedda ogoniant yn y man. Erys dau beth byth ynnom wedi ymgydnabyddu rhyw gymaint a'r negro, —y mae ein ffydd yng ngallu yr efengyl i godi dyn yn gryfach nag erioed; a gallwn weddio"deled Dy deyrnas gyda mwy o aiddgarwch na chynt wedi gweled gras wrth ei orchwyl yn ynysoedd y dyn du.