Trwy India'r Gorllewin/Gadael Cartref
← Cynhwysiad | Trwy India'r Gorllewin gan David Cunllo Davies |
Ar y Môr → |
Trwy India'r Gorllewin.
I. GADAEL CARTREF.
"Ar ddyfroedd fyrdd, ei efryd
Wna bwyntio yno o hyd."
—ISLWYN.
AR yr wythfed o Ragfyr, 1903, gadawodd dau honom—y Parch. William Lewis o Bontypridd, a minnau, y wlad a'n magodd; ac yr oedd ein gwyneb ar diriogaeth gostwng haul yn India'r Gorllewin. Yr oedd fy nghyfaill yn hen deithiwr profiadol. lechweddau yr Alpau. Gwyddai am Chwedleuai am ei brofiad yng ngwlad y dyn du. Bu ar hyd ystrydoedd rhai o brif drefydd Cape Colony a Natal, yn Delagoa Bay, yn ninas hynafol Rhufain a dinasoedd eraill yr Eidal; ac yn ymlwybro mewn ymchwil am iechyd yn Teneriffe, Orotava, Las Palmas a Madeira. Gŵr dibrofiad oeddwn innau am y môr. Gwyddwn fwy am fynyddoedd a llynnau ac afonydd; ac o dawelwch aelwyd y bum hyd hynny yn gwrando ar anthem y gwynt. Canasom yn iach i'r rhai a garem; ac ar ol ychydig ddistawrwydd, a rhywbeth yn poeni y gwddf heblaw anwyd, dechreuasom ymborthi mewn dychymyg ar ramant yr hyn oedd o'n blaen.
Daeth teimlad pererin drosof. Ceisio gwlad yr oeddwn, ac wrth feddwl am dani teimlwn ei swyn, a chyn pen awr sylweddolwn fod pob modfedd o honof yn deith- iwr. Taflai y profiadau newyddion eu cysgodau drosom, a hyfryd oedd peraroglau y gwledydd draw. Wedi breuddwydio am noson yn Llundain, cawsom ein hunain yn fore drannoeth yng ngorsaf Waterloo yng nghymdeithas ein cyd-deithwyr. A rhyfedd y gymysgedd oedd yno. Clywsom bedair neu bump o wahanol ieithoedd; ac amrywiol iawn oedd lliw croen y rhai fyddai gyda ni rhwng ystlysau y llong bellach am yn agos i bythefnos. Yr oedd llythyrau y Nadolig yn myned allan gyda ni, a syn oedd gweled y fath gruglwyth o sypynau. Pa sawl newydd prudd gynhwysent? I sawl mynwes y dygent obaith gwyn? Byddent yn cael eu darllen mewn cabanau ar lan afonydd De America—yn swn yr Orinoco a'r Magdalena; mewn plasdai yng nghysgod palmwydd yn Jamaica a Trinidad; mewn ffermdai unig yn Antigua a Dominica; ac yn masnachdai Kingston a Caracas. Rhwydd hynt i'w neges, a'n dymuniad oedd am i bob sypyn a phob llythyr ddwyn y ddaear yn agosach i'r nef ar ddydd pen blwydd Gwaredwr. Yr oedd yno dyrfa o bobl ieuainc o drefedigaethau Prydeinig y gorllewin yn dychwelyd adref—rhai am ysbaid a rhai am byth o golegau ac ysgolion Lloegr. Yno hefyd yr oedd y peirianydd ieuanc ar ei ffordd i weithiau copr Bolivia, ac i chwilio am aur ac arian yn Venezuela. Chwilio am iechyd yn awelon y Werydd yr oedd rhai, ac ymawyddai eraill am bleser ac anturiaeth.
Prynasom bapur newydd, a dau beth yn unig o'i gynnwys sydd yn aros ar ein meddwl. Yr oedd Herbert Spencer wedi marw, ac yr oedd proffwydoliaeth am ystorm yng ngholofnau y tywydd. Ar ol taith bleserus cyrhaeddwyd Southampton, a chawsom ein hunain a'n heiddo ar fyrr o dro ar ddec llydan yr agerlong Atrato, llestr braf perthynol i linell y Royal Mail Steam Packet Co.
Danghoswyd i ni ein ystafell a'n gwely cul ynddi ar ochr aswy i'r llestr; ac aethom o gwmpas er cynefino a'r byd oedd yn derfyn i ni ar y donn aflonydd am ysbaid bellach. Yr oedd yno ugeiniau wrth yr un neges a ninnau,—rhai a'u genau yn llawn chwerthin yn cerdded yn frysiog ol a blaen, ac ambell un yn welw a thrist a deigryn ar olchi dros y geulan. Dyma'r capten! Gwr hynaws ei wedd ydyw, ac awdurdod ym mhob ysgogiad, a'i lygad yn disgyn am y waith gyntaf ar y rhai fyddai dan ei ofal ar y fordaith. Efe fydd ein pen—llywydd, a sicrhawyd ni gan ei wyneb y byddem yn gartrefol yn ei deyrnas. Cerddai yn hamddenol o gwmpas am rai munudau; ond yn sydyn dyna gloch yn canu. Rhedai swyddog ol a blaen. Brysiai y rhai a'n hebryngasant draws y fynedfa. Ar bob llaw clywid cyfarchiadau am daith hapus a rhwydd hynt, ac yma a thraw gwelid ffarwel ddistaw. Nis gall y galon ddweyd ei phethau dyfnaf, ac ni fynega anwyldeb ei chyfrinion mewn geiriau. Canodd y gloch eil waith—a'r drydedd waith. Codwyd y rhodfa. Datodwyd y rhaffau. Symudodd y peiriannau, ac, wele, yr oeddem wedi cychwyn. Chwifiwyd cadachau gwynion oddiar y cei, a'r peth olaf a welsom ni oedd cap coch Cymro ieuanc yn troi, a llais yn yr hen aeg yn gwaeddi—"Llwyddiant i'r daith."
Bob ochr gwelsom longau Affrica a China. Dadlwytho eu trysorau yr oedd rhai, a pharotoi i daith yr oedd eraill.
Hyfryd oedd Southampton Water a'r Solent. Meddem wrthym ein hunain,—"Peth braf ydyw morio." Eithr ni chofiem ar y pryd ein bod rhwng y glannau a chysgod ynys ar yr aswy, a Hampshire a'i choedwig ar y ddeheulaw. Trodd y llywiadur a'i agerfad yn ol a'n llythyrau gydag ef, ac yn ei blaen yr ai ein llestr gan aredig y dyfnder, a chysgodion nos yn araf ledu dros y ffurfafen.
I rywrai oedd yn ein plith oedd yn ffarwelio a'u gwlad am flynyddoedd, ac i eraill o blant gwledydd pell oedd wedi dysgu caru ein hynys, yr oedd rhyw dynerwch yn y trefniant i'r nos ymdaenu dros brydferthwch Prydain cyn iddynt fyned o'i golwg. Byddai ymadael yng nghanol swynion y goleuni yn gwneyd i delyn y galon roddi miwsig ei thannau lleddfaf; eithr a'r tywyllwch o'n cwmpas, a lampau y nefoedd yn gynneu, ymagorai swyn ac eangder y greadigaeth o'n blaen, a hawddach meddwl y pryd hwnnw am a ddaw nag am a fu.
A ninnau, a'n gwynebau ar wlad o fythol haf, a gydymdeimlem a'n cyfeillion yng Nghymru oer a'r gaeaf wedi eu dal.