Tudalen:Adgof am Ieuan Glan Geirionnydd.djvu/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hardd yw bronnydd, hardd yw bryniau
A'r blodeuog ddeiliog ddolau
A'r creig odiaeth sy'n grogadwy
Goruwch cynwrf rhuad Conwy.

Trwm i fenyw roi gwrandawind,
I'r pridd sy'n swnio ar arch ei chariad;
Ond mil trymach i'm oedd tramwy
O ganol canaid ddyffryn Conwy.

Er rhodio hyfryd lannau Hafren
A chael cyfeillion mwyn a llawen;
Mae i'm hiraeth annirnadwy
Yn barhaus am ddyffryn Conwy.

A dyna i ti fel y mae hi ar Ieuan, druan, wedi'r holl ganu a bod yn llawen. "Po mwyaf y llanw mwyaf y trai,"—

Dyn dŵl sy'n meddwl am oes,
Duw a ran hyd yr einioes. —W. Llŷn.

Nid oes genyf ddim rhyfedd i'w fynegi i ti. Cofia di gymeryd gofal gyda thi dy hun, rhag rhoddi gormod o draul ar dy gorph drwy redeg gormod ac ar bob achlysur, heb son am draul arall; ac os parhau yn gyndyn a wnai i'r cyngor difrifol hwn rhaid yn ddiau roddi attalfa arnat. Ond cyn i ti arafu yn dy gamrau rhed a'r pennillion hyn i Ddewi Sion y Goelas, ac yna ymbwylla,—

Dy gymhorth, Arglwydd, dod
I rodio er dy glod
A byw drwy ffydd o ddydd i ddydd
Gan estyn at y nod;
Cael treulio'm hoes i Grist a'i groes,
Er pob rhyw loes a chlwy,
A byw heb wâd i roi mawrhad
I gariad rhad, fy Iesu mad,
Fydd fy nymuniad mwy.

Mae'm rhedfa is y rhod
Yn nesu at y nod,
I'm hymdaith hon, is awyr gron,
Mae diwedd bron a dod:
Fy mbabell frau sydd yn llosghau
Ac yn gwanhau o hyd,
Ac yn y man daw'r amser pun
Fydd f'enaid gwan yn fywiol ran,
Mewn anherfynol fyd.

Gogoniant boed drwy'r byd
I'r Tad a'r Mab un fryd,
I'r Ysbryd Glan yn ddiwahan
Rhown fawl ar gân i gyd;
I'r Un yn Dri cydunwn ni
I roddi parch bob tro,
Llefwn un floedd i gyd ar goodd
Megis yr oedd, yn oes—oesoedd,
Y bydd—boed felly bô.


Nid ydynt o'r rhyw oreu; ond yr wyf yn tybio y deuant ar y mesur yn weddol. Mae y nod ar y gair anherfynnol (pen. 2) ar y cyntaf yn lled gas i'w glywed; ond yr wyf (yn credu) y daw yn lled lithrig gydag ymarferiad. Nid oes genyf fymryn o amser yn awr i feddwl am ddim, fel yr Atheniaid, ond syfrdanu fy mhen gyda Groeg a Lladin. Byddai yn dda genyf gael llinell oddiwrthyt, os cei di gymaint a hynny o bwyll ac arafwch i ysgrifennu llythyr,— o'r hyn lleiaf, ymdrecha.

Cofia fi at Henry Elias,
Ac at Dafydd Jones y Goelas,
At John Evans, y Ty Newydd,
A Dafydd Williams o Fryn Morfydd.


Bellach, bydd wych. Hyn o linellau, ar frys mawr, oddiwrth dy gyfaill, mewn bro estronol.

—EVAN EVANS.

Arallwedd—Ieuan Glan Geirionnydd.

NODIAD.

Medi 1, 1822.—Yr oedd Ieuan ar y pryd yn 27 oed, ac yn aros, fel efrydydd, gyda'r Parch. Thomas Richards, yn Berriew. Yn niwedd y mis hwnnw yr oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Aberhonddu, ar nifer o englynion i "Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog."

Y mae un o benhillion yr emyn a anfonid yn y llythyr, i Dafydd Jones y Goelas, wedi dod yn dra adnabyddus.—

Mae'm rhodfa is y rhod
Yn nesu at y nod."


Ceir hwn yn ei weithiau, mewn undeb a'r pennill poblogaidd,—

"O Dduw, rho i'm dy hedd."

Yn y pedair llinell gyfarchiadol ar ddiwedd y llythyr, ymddengys fod y bardd wedi cam—gofio enw un lle. Y mae rhywun wedi rhoddi y gair "Ty Ucha," yn lle Ty Newydd. At John Evans, y Ty Ucha." Dyna, mae'n debyg, oedd yn gywir, ond y mae wedi dinistrio yr odl.

Dymuna y bardd gael ei gofio at Henry Elias. Ymddengys mai efe a gadwodd y llythyr. Ymysg ei bapurau ef yr ydoedd, ac felly y daeth i feddiant y gwr caredig sydd yn cadw i fyny "ysbryd" Elias ym Mhlas y Glyn. Yr oedd Henry Elias yn gallu ysgrifennu yn odidog—fel copper—plate. Am lawysgrifen Glan Geirionnydd, yn y llythyr hwn, nid oes ynddi lawer o hynodrwydd, llawysgrif lled fin, ond eglur, a chryn dipyn o'r addurniadol i'w ganfod yn ffurfiad y prif—lythrennau. Y mae yr inc wedi colli ei liw bron yn llwyr mewn rhai mannau, a pha ryfedd? Ond y mae y water mark yn y papur mor glir a phe buasid wedi ei osod yno yr wythnos ddiweddaf.—

T. W. & B
Bothfield.

Tybed fod y cwmni, neu yn hytrach, y weithfa yna, yn bod yn awr? Beth bynnag am hynny, y mae y llythyr yn aros, a phan geir Amgueddfa Gymreig, caiff ei anfon iddi yn ddioed. Yn y cyfamser, y mae yn dda gennyf gael caniatad i'w gopio, a'i anfon drwy y wasg, i ddyddori llawer darllennydd, sydd, fel fy hunan, yn hoff iawn o hen lythyrau.

R. D. ROWLAND (Anthropos).