Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

o denantiaid y Rhiwlas. Y pentref cyntaf y deuwn ato ar ol cefnu ar y Bala ydyw Llanfor, neu Llanfawr. Gadawn yr hen eglwys ar yr aswy lle claddwyd Llywarch Hen, cawn son am dani ar y daith yn ol. Ond rhaid cael dyweyd gair am Gareg y Bîg, anedd-dy bychan ar gyfer Penisa'r Llan. Cynhaliwyd moddion crefyddol yn Nghareg y Bîg, lle trigai Marged Rolant, hen wreigan dduwiol, nain Mr. Rowlands, ysgolfeistr caredig Brynsiencyn, Môn, am lawer o flynyddoedd bob Sabboth gan y Methodistiaid Calfinaidd cyn codi capel yn y pentref. Y mae hen fyfyrwyr y Bala sydd yn fyw yn cofio yn dda am y lle. Gofalid am bregethwr gan yr hen flaenor hunan-etholedig, Edward Rolant y gwehydd, Bala, a gofalid am y degwm gan yr hen foneddiges grefyddol o'r Tan'rhol hyd ei marwolaeth. Swllt oedd y degwm am bregeth ar brydnawn Sabboth i bregethwr mawr a bach, hyd o fewn ychydig o amser i agoriad y capel, pryd y cododd i "ddeunaw," pris Cefndwygraig. Pan glywai yr hen flaenor fod y pregethwr wedi dyfod i'r Bala, elai ato i'w lety i ofyn iddo fyn'd i Lanfor brydnawn Sul. Digwyddodd un tro fod "pregethwr mawr" o Lerpwl yn pregethu yn y Bala; aeth Edward Rolant ato, gan ddyweyd,"Ddowch chi i Lanfor fory, Mr. ———" "Mae arnaf ofn nas gallaf Edward Rolant, ydw i ddim yn teimlo yn ryw hwylus iawn y tywydd poeth yma," atebai y pregethwr mawr." "O dowch yn wir, Mr. ——— bach, yr yden ni yn rho'i deunaw acw 'rwan." Wel, oherwydd ei daerineb fe aeth y gweinidog caredig ac anwyl, ac nid oherwydd fod y degwm wedi codi i "ddeunaw." Y mae yn cael ei dâl ar ei ganfed heddyw yn y Drydedd Nef. Rhyw haner milldir yn mlaen y mae y Dyfrdwy yn rhoddi tro chwyrn i ymyl y ffordd fawr, ac yno y mae llyn dwfn a du a elwir" Llyn y Geulan Goch." Ofnai plant a phobl yr ardal yn fawr fyn'd heibio y Geulan Goch wedi iddi dywyllu yn y nos, oblegid yr oedd yno "ysbryd." Dyma y stori,—Yr oedd ysbryd ar ffurf "hwrdd corniog" yn blino eglwys