Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

y ddau Wyddel eisieu lle i gwffio—paffio ddywedodd o, dyna air Penllyn—heb fod ar yr Ynys Werdd, yr oedd digon o le iddynt ar yr Ynys Sanctaidd, lle yn awr y saif Caergybi (Holyhead)." Tybed mai nid yn y fan yma y darfu i ychydig o hen "ben gryniaid" ardal Llandderfel "ddewis i gyfarfod" yn amser yr erledigaethau chwerwon y cawn hanes am danynt yn "Methodistiaeth Cymru?"

Dyma ni yn awr wedi dyfod at y Fron Heulog, cartref Mr. John Davies, cyfaill mynwesol Mr. Charles, o'r Bala, a llywydd cyntaf y Feibl Gymdeithas yn Nghymru. Gwel y darllenydd gip ar y Fron Heulog yn y coed gerllaw o ben Pont Llandderfel. Dyma ni yn awr yn myn'd i lawr allt serth, dyma lle y syrthiodd Elias o Fon oddiar gefn ei geffyl yn adeg un o Sasiynau y Bala nes tori ei goes, a methu myn'd i'r Bala i bregethu. Os ydym yn cofio yr hanes yn gywir, myn'd i roddi pregeth yn Llandderfel y nos Lun cyn y Sasiwn yr oedd John Elias pan ddigwyddodd yr anffawd. Ar y llaw dde, yn y fan hon, gwelwn balasdy gorwych a adeiladwyd gan y diweddar Mr. Henry Robertson, cyn aelod dros Feirion. Enw y palasdy hwn ydyw

Y PALE.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Neuadd y Palé
ar Wicipedia

Dyma lle y bu ein grasusaf Frenhines yn aros am ychydig o ddyddiau Awst, 1889. Hen gartref y Llwydiaid oedd yr hen Balé am dros wyth gant o flynyddoedd, a dywedai y diweddar Forys Hedd Llwyd, yr olaf ond un o'r llinach, mai ystyr y gair Palé ydoedd "lle gwlyb." Mwynhaodd ein brenhines Buddug ei hunan yn ardderchog yn y Palé, ac aeth gyda hi yn ol ddau beth, sef ewyllys da ei deiliaid yn Meirion a ffon Gymreig o wneuthuriad Mr. Hugh Ellis, un o flaenoriaid capel y Methodistiaid yn Llandderfel. Dyma, hyd y dydd heddyw, ydyw hoff ffon yr hon sydd yn eistedd yn nheyrngadair y deyrnas fwyaf pwysig yn y byd—y deyrnas na fydd yr haul byth yn machludo ar ei thêr-