Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

fynau. Darllenais mewn newyddiadur sydd i fewn nghyfrinion y Palas Brenhinol y dydd o'r blaen, mai y ffon Gymreig a ddefnyddia Victoria i dramwy trwy ystafelloedd ei phalasau, a'r ffon hon oedd yn ei llaw yn Mhalas Buckingham fis Mawrth diweddaf, ac nid "teyrnwialen aur," pan yn rhoddi derbyniad i'w gweinidogion, ei hesgobion, a phendefigion mwyaf ei theyrnas. Gellir felly ddyweyd mai ar y ffon Gymreig, yr hon a gafodd gan y gwr da o Landderfel, y mae holl bwysau Ymherodraeth Prydain yn gorphwys.

Cyn troi dros Bont Llandderfel rhaid i ni droi ar y chwith i bentref bychan destlus Llandderfel, hen fangre hanesyddol, lle y ganwyd llawer bardd o enwogrwydd, ac yn eu plith

EDWARD JONES, BARDD Y BRENIN.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edward Jones (Bardd y Brenin)
ar Wicipedia

Ar ein ffordd i'w dŷ, darlun o ba un sydd gerbron y darllenydd, awn heibio i "Trafalgar Square," ac y mae y trigolion yn meddwl llawn cymaint o'i sgwâr ag y mae y Llundeinwyr yn feddwl o'u sgwâr hwythau o'r un enw. Nid ymholais pa un ai pobl Llandderfel roddodd yr enw ar eu heol hwy ar ol heol Llundain, ai ynte pobl Llundain ddarfu enwi Trafalgar Square ar ol sgwâr Llandderfel. Ond dyma ni yn ymyl hen gartref hen Fardd y Brenin, sef yr "Henblas." Mae pob Cymro yn gwybod mwy neu lai o hanes yr hen delynor, felly ni raid i ni ddyweyd ond ychydig am dano. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn gerddor cywrain, a dysgodd gerddoriaeth i bedwar o'i feibion. I Edward y dysgodd chwareu y delyn Gymreig. Pan yn ddwy ar hugain oed symudodd ein harwr i Lundain, lle y cyrhaeddodd enwogrwydd o dan nawddogaeth rhai o brif foneddigion Cymru. Dysgodd i lawer o foneddigesau perthynol ir bendefigaeth chwareu telyn Gwlad y Bryniau. Yn 1783 penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru, wedi hyny Sior y Pedwerydd. Cyhoeddodd amryw lyfrau, ac yn eu plith y Bardic Relics yn y flwyddyn 1794, yn cynwys llawer o