Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

i eglwys Llangar eto ei thraddodiad fel pob eglwys arall, a dyma fo,—Bwriedid adeiladu yr eglwys yn ymyl Pont Cynwyd sydd yn croesi y Ddyfrdwy; ond, trwy weledigaeth neu freuddwyd rhag—rybuddiwyd yr adeiladwyr fod yn rhaid iddynt adeiladu yr adeilad cysegredig ar y llanerch lle codai carw gwyn mewn helfa, ac ar y llanerch lle yn awr y saif eglwys Llangar y cododd y carw gwyn."

Mae'r haul bellach wedi suddo i'w wely yn nyfnderoedd y gorllewin, ac wedi tynu y "cyrten coch " ardderchog o amgylch ei orweddfa, ac y mae lleni yr hwyr yn prysur orchuddio hen dref Owen Glyndwr, a thra yn cerdded yn nghyfeiriad y gwesty a elwir ar enw yr hen wron Cymreig daethom ar draws Postfeistr Cyffredinol Corwen a'r ardaloedd, sef ein cyfaill hoffus Mr. Owen Lloyd, mab—yn—nghyfraith i'r diweddar Barch. Dafydd Dafis o'r 'Bermo, yr hen weinidog anwyl, yr hwn gyda'i lais treiddgar a melus a yrodd lawer cynulleidfa ar dân yn adeg Diwygiad Mawr 1859. Wel, 'doedd byw na marw na arhosem dan gronglwyd ein cyfaill am noson. Cawsom lety cysurus a phob tiriondeb gan y gwr hoff a'i briod dirion. Ar ol cael cysgu noson yn ngwely y pregethwrs teimlem ein hysbryd cellweirus wedi ei nawseiddio a'n calonau wedi adfywio, ac yn barod eto i gychwyn yn ol y ffordd arall "O Gorwen i'r Bala," hanes pa daith a roddwn yn nesaf.