Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

CORWEN, TREF GLYNDWR.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Corwen
ar Wicipedia

GADEWAIS y darllenydd yn y benod o'r blaen, pan oeddwn wedi dadflino, ar ol noson o gwsg melus, oddiwrth y daith flinderus "O'r Bala i Gorwen;" a dyma fi yn awr yn barod i'w arwain ar ein taith yn ol trwy ardaloedd ereill. Ond rhaid yn gyntaf gael golwg ar hen dref Owen Glyndwr.[1] Ni awn ar ol cael boreufwyd blasus gan ein lletywr caredig a'i briod hynaws, ac wedi cael y "Ddyledswydd Deuluaidd,"— O! ie, yr hen "ddyledswydd." Y mae llawer un o ddarllenwyr yr "Adgofion" hyn yn cofio yr hen arferiad yn ddigon da, ar yr aelwyd gartref. Y mae y tafodau a erfyniai fendithion y Nef ar y teulu wedi hen dewi, ond y mae'r argraph a adawodd yr erfyniadau hyny ar lawer un yn aros, a hir y pery. Y mae rhywbeth adfywiol yn yr hen "ddyledswydd," sydd yn gwneyd un yn gryf i ymladd brwydr bywyd. Pell y byddo y dydd pan y bydd y tân wedi diffodd ar allorau aelwydydd Cymru. Lle caf fi yr olygfa oreu ar eich tref chwi, Mr. Lloyd?" meddwn wrth fy lletywr caredig. "O Ben y Pincyn," meddai yntau yn llon,"mi ddof gyda chwi. Felly fu, i ben Eiffel Tower Corwen yr aethom, ac ni cheir o ben Eiffel Tower prifddinas y Ffrancod olygfa fwy swynol nag a geir o ben yr hen graig, o ben yr hon y taflodd Owen Glyndwr ei bicell, ôl yr hon a welir hyd y dydd heddyw (medde nhw) ar gareg yn mynwent Corwen. Y mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu; y mae cynifer o bethau yn ymgynyg i'r meddwl. Y pwnc mawr ydyw ceisio dyweyd rhywbeth nad ydyw pawb yn ei wybod. Yn y pellder gwelir, ar ddiwrnod clir, y Wyddfa a'r holl fryniau oddi amgylch. Oddi tanom mae hen eglwys y plwyf, dan nawdd Mael a Sulien. Mae traddodiadau gwirion ffôl

  1. Da genyf ddeall fod awgrym Mr. Owen M. Edwards i gael Côfgolofn i Glyndwr yn cael derbyniad selog.