Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

mwynhau boreufwyd blasus wrth fwrdd Mrs. Pritchard. Hen wreigan o'r sort oreu oedd mine hostess o'r "Harp." Y mae rhai o'i meibion wedi dringo i fyny i sefyllfaoedd uchel fel prif fasnachwyr Gwrecsam, ac y mae un arall yn amaethwr cyfrifol yn Nhrefalun, ger Rossett. Ond yr ydym wedi ymdroi ar y mwyaf, a chenym siwrnai fawr o'n blaen. Rhag i ni wyro ar y dde neu ar yr aswy, daeth ein lletywr i'n hebrwng dros bont Corwen sydd yn croesi y Ddyfrdwy, yr hon sydd erbyn hyn yn cyrhaedd cryn led. Ar ol croesi y bont, cadwn ar ffordd Caergybi, ffordd ardderchog Telford. Ar y llaw dde wrth Ty'n y Cefn, cychwyna ffordd Rhuthyn, trwy Gwyddelwern a Bryn Saith Marchog,—ffordd goediog brydferth, a'r creigiau calch fel mynor gwyn yn nghanol coed canghenog a gwyrddlas, yn disgleirio fel gemau gwerthfawr yn mhelydron tanbaid Brenin y Goleuadau. Ond nid ar y ffordd hon y mae y daith i fod yn awr. Awn yn mlaen ar ffordd Caergybi nes cyrhaedd y Ddwyryd, lle y cana ffordd Telford a ffordd y Bala yn iach i'w gilydd. Ond cyn cychwyn ar ffordd y Bala, rhaid i ni droi am fynud i hen balas

RHUG.

Hen gartref y Vychaniaid, o Nannau a Chorsygedol, ydyw. Meddienir yr ystâd yn awr gan Mr. Charles H. Wynn, un o feibion y diweddar Arglwydd Newborough, o Lynllifon, yn Arfon. Yn Rhug, gwelir yn yr ardd olion hen gastell, lle y carcharwyd Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, tua'r flwyddyn 1077, trwy iddo gael ei fradychu i ddwylaw Huw Lupus, cwnstabl Caerlleon, yr hwn hefyd a'i symudodd i gastell y ddinas hono mewn talm o amser, lle y bu yn garcharor am ddeuddeng mlynedd, hyd nes y rhyddhawyd ef trwy wroldeb mawr Cynffig Hir. Yr olaf o Vychaniaid y Rhug oedd Syr Robert Vaughan, hen Gymro Cymreig, a fedrai siarad Cymraeg, fel y medrai boneddigion yr oes hono, ac yr oedd hyny yn llawer gwell nag y medr eu holynwyr. Mae hen stori ar lafar gwlad yn yr ardal na fyddai