Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

yn anyddorol, efallai. Cymerai Syr Robert lawer o ddyddordeb yn ei ddefaid. Adnabai bob un ohonynt, ac adnabyddid ei lais yntau, fel llais bugail da, gan y defaid. Un diwrnod collodd un o'r praidd, ac aeth i chwilio am y golledig. Ryw dipyn o ffordd o'r palas, cyfarfyddodd ag un o'i denantiaid, a gofynodd iddo, John, welis ti yr un ddafad a V ar ei chefn hi?" "Naddo'n wir, Syr Robert, welis i yr un ddafad chwaith fase yn medru eich cario chi." Fe ddywedir mai haner y rhent fu raid i'r tenant dalu yr haner blwyddyn. hwnw, cymaint oedd Syr Robert wedi mwynhau ei ffraethineb. Cofus genyf aml dro wel'd cerbyd Syr Robert yn myn'd ac yn dyfod trwy y Bala ar ei ffordd o Nannau ac yn ol. Yr wyf yn cofio hefyd yn dda ei gladdedigaeth, pan y dangosodd pobl yr ardaloedd barch mawr i'w goffadwriaeth. Ond dyma ni ar

Y FFORDD UCHA' I'R BALA.

Dyma y ffordd y byddai yr hen goaches, y troliau, a'r cerbydau yn myn'd ac yn dyfod i'r Bala, nid am ei bod yn ffordd mor brydferth a rhamantus a'r ffordd drwy Landrillo, oblegid nid ydyw felly ar un cyfrif. Ond y mae filldir yn ferach, ac yn ffordd well. Ffordd ddigon anial oedd y "ffordd ucha' mewn rhai manau, hyd oni ddelom at Gefnddwysarn, ac y mae yn lled sicr ei bod yn fwy anial fyth yn awr pan nad oes fawr o dramwy arni. Gadawn Bettws Gwerfil Goch dipyn i'r dde, ac awn drwy bentref bychan Llawr y Bettws yn lled frysiog, ar ol cael golwg ar yr eglwys a adeiladwyd ar gynllun Syr Gilbert Scott, yr archadeiladydd enwog. Yn yr ardal yma y mae Hengaer Isa' a Hengaer Ucha',—yr hyn a ddengys fod rhyfel a thywallt gwaed wedi bod yn yr ardal anghysbell hon. Dyma ni yn awr yn Bethel. Mae yma gapel, gefail gôf, a thafarndy dan arwydd y "Boot." Capel Annibynol sydd yma, a theithiodd yr hybarch Fichael Jones lawer yma, oblegid bu dan ei ofal am flynyddoedd, a gwnaeth ei fab, M. D. Jones, yr un peth.