Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/116

Gwirwyd y dudalen hon

ffrwd fechan yn rhedeg, ac felly yn y pen agosaf i Gefnddwysarn, ac yr oedd sarn yn croesi pob un, felly y cawn Sarnau a Chefnddwysarn. Y mae llawer o bethau hynafol yn ardal Cefnddwysarn, ac er mwyn i mi beidio camarwain fy narllenwyr, trown i fewn i Grynierth i gael ymgom ddifyr gyda Mr. Robert Evans, yr hwn sydd, fel ei frawd Mr. Daniel, Fourcrosses, yn awdurdod ar hynafiaethau y fro. Wel, dyma ni yn Nghrynierth, a thra yn mwynhau cwpanaid o dê cawsom dipyn o hanes yr ardal. Nid oedd Mr. Evans erioed wedi clywed fod Tylwyth Teg wedi bod yn chwareu eu pranciau ar gomins y Sarnau, yr oedd yn lle rhy noethlym iddynt, meddai. Hysbyswyd ni mai ystyr yr enw Crynierth ydyw Cyn yr ierth, yr hyn sydd o'r un tarddiad a Cynlas neu "Cyn y loes.' Mae esboniad arall arno medd Mr. Daniel, yn yr hyn y cydolyga tywysog yr hynafiaethwyr Cymreig, sef y Doethawr John Rhys, a hwnw ydyw "Crwn Arth," neu Garth Gron. Cawn hefyd yn yr ardal hon Caerbach, Maes y Clawdd, Cefn y Byrlos (cefn y byr loes). Dengys hyn yn amlwg fod llawer brwydr wedi ei hymladd yn y fro dawel hon eto yn amser Cymru fu, ac fe ddichon fod llawer o waed Rhufeinig wedi ei golli ar y llechweddau lle yn awr y pora y defaid mewn tawelwch, a llawer un o filwyr llengoedd Cesar wedi eu lladd ar y dolydd lle yn awr y mae y gweision amaethyddol yn "lladd y gwair." Ar lechwedd y bryn y tu deheuol i gapel Cefnddwysarn mae caerfa henafol, a gwarchgloddiau i'w gweled yn amlwg hyd y dydd heddyw. Dywedai Ioan Pedr mai oddiar y caerau hyn y byddai yr hen Gymry yn rhoddi hysbysrwydd pan fyddai y gelyn yn dyfod i'r wlad, trwy oleu tân mawr arnynt, ac y mae ôl y tanau hyny i'w gweled yn amlwg. Yr oedd caerau hefyd ar ben Cader Idris, Moel Famau, a bryniau ereill, ac fel hyn yr hysbysid newyddion (fel y gwyr y darllenydd yn ddigon da) o un ardal i'r llall.

Bu dau o hen benaethiaid Cymru yn byw yn yr ardal hon. Un oedd Iolyn, a ddaeth yma o Blas