Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/117

Gwirwyd y dudalen hon

Iolyn, ger Pentrefoelas, ac a drigodd mewn anedd-dy a alwyd Llwyn Iolyn. Y llall oedd Bedo. Aeth y ddau benaeth i ymladd a'u gilydd, a lladdwyd y diweddaf yn y bwlch cyfyng sydd yn ymyl Coed y Bedo. Rhyw filldir o'r tyddyn hwn y tardd yr afon Hafesp, ac heb fod yn mhell o'i tharddiad y ganwyd Bedo Hafesp, a'r ochr arall i'r afon, mewn bwthyn tô gwellt, y ganwyd Dewi Hafesp, yr englynwr dihafal. Bu'm yn darllen y llythyr diweddaf a ysgrifenodd Dewi y dydd o'r blaen, ac yr wyf yn deall fod y cyfaill a'i gyrodd i mi am ei anfon gyda thipyn o hanes y bardd trancedig i'r wasg. Ar lan Ar lan yr afon Hafesp, onitê, rhyw haner milldir o hen eglwys Llanfor, y lladdwyd Llywarch Hen a'i feibion, yn ol traddodiad. Rhed yr afon fechan trwy Lanfor a chroesa y ffordd filldir o'r Bala rhwng Penucha'r Llan a'r ficerdy, a chyn iddi ymarllwys i'r Ddyfrdwy Sanctaidd, golchwn ein ysgrifell ynddi ar ol ysgrifenu cymaint am dywallt gwaed, ac awn yn ol am enyd i gapel bychan prydferth Cefnyddwysarn. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1868, blwyddyn fawr yr etholiad fythgofiadwy. Perthyna i'r capel bychan fynwent, ac y mae erbyn hyn yn faes Macpela hanesyddol. Yma y claddwyd Ellis Roberts, Fron Goch, un o ferthyron cyntaf brwydr etholiadol 1859. Claddedigaeth i'w gofio oedd claddedigaeth Ellis Roberts; daeth tyrfaoedd o bob cyfeiriad i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth, ac i ddangos eu hedmygedd o'r gwron oedd yn ddiddadl wedi colli ei fywyd dros ei egwyddorion. Yma hefyd y gorwedd llwch Ellis Dafis, Ty'n y Coed, a Marged ei wraig. Gwr ydoedd Ellis Dafis a deilynga gyfrol o'i hanes. Yr oedd yn perthyn i "upper ten duwiolion Penllyn. Yma hefyd y gorwedd Ellis Jones, Llandrillo, masnachydd yn ol ei urdd, ond yn gywrain mewn amrywiol bethau; ac yma hefyd y gorphwys llwch Mari Jones ei fam. Mae'r darllenydd yn cofio mai Mari Jones oedd partneres "Edward Jones o'r Wenallt," am yr hwn y buom yn son mewn penod flaenorol.