Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/121

Gwirwyd y dudalen hon

ymddengys mai teulu anuwiol iawn oeddynt, yn ymhoffi yn erledigaeth y crefyddwyr. Bu un ohonynt foddi wrth ddyfod adref o ddawnsfa a gynhelid mewn palas yr ochr arall i'r afon, ac fe fu farw yr olaf ohonynt yn berson yn Llangwm, ac fe gyrchwyd ei weddillion i feddrod y teulu yn Llangower, lle y gwelir heddyw feddfaen mawr yn dynodi y llanerch.

Oddeutu 120 mlynedd yn ol syrthiodd yr etifeddiaeth i ddwylaw rhyw berthynas iddynt, a rhoddwyd y lle i fyny. Cymerodd un o'r enw Ellis Cadwaladr y plas a'r tir i'w amaethu, a newidiwyd yr enw i Ty Cerig. Bu gan Ellis Cadwaladr fab o'r enw Edward, a galwyd ef yn ol yr hen ddull Cymreig yn Edward Ellis, a mab iddo ef ydyw Thomas Ellis, Cynlas Fawr, tad Mr. Tom Ellis. Tua chan' mlynedd yn ol daeth teulu y Ty Cerig at grefydd, a dechreuasant roddi eu holl yni a'u sel i wasanaeth y Gwaredwr. Bu eu ty am lawer o flynyddoedd yn agored i weision yr Arglwydd. Gan fod y Ty Cerig mewn lle cyfleus ar ochr Llyn Tegid rhwng Llanuwchllyn a'r Bala byddai y pregethwyr fyddai yn teithio rhwng y De a'r Gogledd, trwy Ddolgellau a thros Fwlch y Groes, yn nghyda phregethwyr Sabbothol, yn lletya yno am dros 50 mlynedd; a thrwy fod teulu caredig Cynlas yn parhau i agor eu ty ac i roddi croesaw i'r Cenhadon Hedd hyd y dydd heddyw, gellir dyweyd fod eu ty wedi bod yn "gartref oddi cartref" i'r rhai sydd yn efengylu er's dros gan' mlynedd. Bu farw Edward Ellis yn y Ty Cerig 47 o flynyddoedd yn ol. Fe wêl y darllenydd, er nad ydyw teulu y Cynlas yn hanu o hen deulu y Wyniaid, y rhai oeddynt yn ymffrostio yn eu "gwaed glas" a'u hynafiaid, y maent yn hanu o linach mwy urddasol, a gallant olrhain eu hachau i bendefigion teyrnas yr Iesu o Nazareth.

Yr wyf yn cofio un prydnawn Sabboth y digwyddais fod yn y Ty Cerig pan yn fachgen bychan iawn. Yr oedd y teulu oll wedi myn'd i'r Ysgol Sul i Gapel y Glyn, a minau gyda nhw. Ar ol dyfod yn ol beth welai