Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/123

Gwirwyd y dudalen hon

EGLWYS LLYWARCH HEN.

TROEDIGAETH DAU BECHADUR.

YR ydym yn awr bron ar derfyn y daith, a dim ond tair milldir rhyngom a gorphwysdra. O'r deuddeng milldir o "Gorwen i'r Bala," dyma y tair milldir mwyaf swynol, oblegid yr ydym yn cael bryniau coediog y naill du, a miwsig afonig y rhan fwyaf o'r ffordd i'n difyru. Ar y llaw dde, tua haner y ffordd, mae Tomen Gastell, un o'r triawd tomenyddawl a godwyd, mae'n debyg, i wylio mynedfeydd i'r Bala. Dyma Domen y Bala fel gwylfa i Ddyffryn Edeyrnion a Dyffryn y Tryweryn; Tomen Pen y Bont fel gwylfa i'r mynedfeydd o Faldwyn dros y Berwyn ar y naill law, a mynedfa Bwlch y Groes ar y llaw arall, a dyma Domen Gastell eto i wylio y mynedfeydd o gyfeiriad Llawr y Bettws, a hefyd y cwmwd trwy'r hwn y rhed yr Aber Afanc, sydd yn ymuno â'r Feloch ger Tomen Gastell, ac yn ymarllwys i'r Ddyfrdwy ger Melin Meloch. Gyda golwg ar yr enw Aber Afanc, dywedai y diweddar Ioan Pedr, ac nid oedd gwell awdurdod ar hynafiaethau Penllyn na'r cyfaill hoff a hynaws hwnw, mai yr achos i'r afonig gael yr enw hwn oedd am y byddai llaweroedd o'r creaduriaid bychain a elwid afancod yn llochesu yn y cwmwd trwy'r hwn y rhed. Ond y mae yr afanc er's llawer blwyddyn wedi gadael Cymru, fel lluaws o greaduriaid ereill, am ryw reswm neu gilydd.

Dyma ni eto wrth fynegbost y ddwy ffordd gyfarfod (y finger post). Awn heibio i Lyn y Geulan Goch yn ddigon tawel, gan gredu, fel y soniasom o'r blaen, fod yr ysbryd wedi boddi, neu wedi myn'd i'w le ei hun. Ar ol pasio Penisa'r Llan deuwn at Eglwys Llanfor. Mae'r hen eglwys wedi rhoddi lle i un newydd, ac nid cyn yr oedd eisieu. Yr oedd Yr oedd yr hen eglwys a phobpeth