Parhau i fyn'd i'r hen gapel ddarfu Ned am rai misoedd ar ben ei hunan, a chafodd lawer o hwyl gyda John a Charles Wesley a'r Hwn oedd wedi dyfod i'r "canol." Ond daeth y dydd yr oedd yn rhaid cau drws y capel Wesley y tro olaf. Yr oedd yn rhaid talu trethi a'r llog arian, a feddai Edward druan mo'r arian. Y diwrnod ar ol ffair G'lanmai oedd y " Sul ola'." Mae llawer un heblaw yr hwn sydd yn ysgrifenu yr ysgrif fechan hon yn cofio yr hen wr haner dall, "Edward llygad bach," fel ei gelwid, yn myn'd i'r capel Wesley am y tro olaf. Byddaf yn meddwl yn aml am ei wynebpryd pan yr oedd yn cloi drws am y tro ola'." Yr oedd amryw ohonom ni blant y dref wedi hel o gwmpas y drws, a'r hen gyfaill ffyddlon Evan, yr oedd yntau wedi dyfod yno i'w arwain adref. Wel, Ned, gawsoch chwi dipyn o gynulleidfa acw heno?" gofynai Evan.
Llon'd y capel yn llawn, Evan bach. Yr oedd acw lawer yn gorfod sefyll, wel'd di."
"Pwy oedd acw, Ned? welest ti Sentars ne Fethodus?
"Yr oedd hi fel dydd y Pentecost. Yr oedd y Parthiaid a'r Mediaid a'r Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia a'r India," &c.
"Welest ti neb oeddet ti yn nabod, Ned?" (Fedrai Ned ddim gwel'd neb).
"Do nenw'r dyn. Yr oedd John a Charles Wesley ono, ac wedi dwad a George Whitfield efo nhw, a Thomas Charles, Williams o'r Wern, a Christmas Evans, efo'i lygad bach," medde Ned.
Wel, pwy bynag oedd yno, yr oedd Edward wedi cael gwledd. Yr oedd yn ei feddwl ef John Wesley wedi dyfod yno i draddodi y funeral oration, a Charles Wesley i ganu y requiem.
Y nos Fercher dilynol, gwelid Edward yn myn'd tua'r Capel Mawr yn mraich Evan i gynyg ei hunan i'r Calfiniaid. Yr oedd yn perthyn i'r Capel Mawr ddau "brophwyd" mawr, a thua haner cant o feibion y