Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

ADGOFION ANDRONICUS.


TIPYN O FY HANES.

NID ydwyf ar un cyfrif yn bwriadu ysgrifenu Hunan-gofiant, nid oes dim yn fy mywyd a fyddai o ddyddordeb yn y byd i neb o'm darllenwyr ei wybod. Ond enwaf rhyw ychydig o land marks sydd yn fy hanes i fel yn hanes pob dyn cyffredin arall.

Ni fyddai chwaith o un dyddordeb i neb wybod y dydd a'r awr, y mis a'r flwyddyn, y cyrhaeddais y byd pechadurus hwn. Digon yw dweyd fod llawenydd mawr pan wnaeth y mab cyntafanedig ei ymddanghosiad ar lwyfan byd o amser. Tra yr oedd eraill yn llawenhau ar yr amgylchiad, wylo wnai y baban. Gobeithiaf pan yn ymado â'r fuchedd hon y bydd y llawenhau o'm hochr i, beth bynag am y wylo o'r ochr arall. Caiff y darllenydd wybod cyn myn'd yn mhell iawn pa le y ganwyd fi, oblegid mewn llyfr o Adgofion y peth mwyaf naturiol ydyw i ysgrifenydd son am fangre ei febyd.

Y CWMWL CYNTAF.

Y cwmwl cyntaf a ddaeth uwch fy mhen yn nyddiau fy mebyd oedd colli brawd bychan pan oeddwn tua chwech oed. Aeth y bychan yn llaw ei dad rhyw foreu i dŷ ei nain, ac ni ddychwelodd byth mwyach i gyd-chwareu â mi, oblegid bu farw yn ddisyfyd o'r clefyd coch. Nid anghofiaf byth y loes a gefais pan glywais fod Llewelyn bach wedi myned i'r Nefoedd, yr "Ephraim" bach yr oeddwn i wedi helpu i'w ddysgu gerdded. Ni buaswn yn son o gwbl am yr amgylchiad hwn oni bai fod un peth lled bwysig i Ymneillduwyr wedi cymeryd