Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

prophwydi. Ar ol i un o "feibion y prophwydi " ddechreu y seiat, gofynai y pen blaenor, "A oes yma rywun o'r newydd yma heno, neu rywun a phapyr o eglwys arall?

Cododd Evan ar ei draed, a dywedodd, "Mae Edward Richards wedi dwad yma i gynyg ei hunan i ni."

"Oes geno fo bapyr, Evan?"

"Sut y ca'i y creadur, druan, bapyr; 'doedd ono neb i roid un iddo fo. Yr oedd o ono ar ben ei hun fel cyw jac do er's talwm."

Yr oedd y prophwydi a meibion y prophwydi erbyn hyn bron yn methu dal, ac meddai yr hen flaenor, "Dr. ———, ewch chi i ymddiddan â'r hen frawd."

Gyda gwyneb siriol aeth y doethawr anwyl at Edward, a dywedodd,—

"Wel, Edward bach, ydech chi yn meddwl y medrwch ch'i wneyd eich cartre' efo ni?"

"Wn i ddim yn wir, syr; fydda i ddim eisieu cartre yn rhyw hir iawn eto; mi gaf fi fyn'd at yr hen deulu cyn hir."

"Pwy ydi' yr hen deulu,' Edward?"

"O, pobl John Wesley ydi fy nheulu i; mae yn dda iawn gen i am yr hen Wesleys."

"Ydech chi yn meddwl, Edward, y medrwn ni wneyd Calfin ohonoch ch'i?'

"Na fedrwch byth; Wesley fydda i tra y bydda i byw, a Wesley fydda i hyd dragwyddoldeb.

Wel, wel, Edward bach, pob peth yn dda; i'r un fan yr yden ni yn treio myn'd i gyd."

Mae Edward wedi myn'd at ei deulu" er's llawer dydd, ac y mae'r anwyl Ddoctor Parry wedi myn'd ar ei ol. Wn i ddim i ba gapel y mae y ddau yn myn'd, oblegid "yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfanau,” ac os oes yno gapel Wesley gallwn fod yn ddigon siwr mai gyda'i deulu y mae Edward Richards. Edward oedd the last of his race o "deulu" y Wesleyaid yn hen dref Galfinaidd y Bala.