Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/137

Gwirwyd y dudalen hon

mi ddeuda i ti beth na i efo ti. Oes gent ti Destament, dywed?"

"Nac oes, Robat Jones; yr ydw i wedi colli hwnw roth mam, druan, i mi pan oeddwn i yn gadael cartre."

"Wel hwde, dyma i ti chwech i brynu un newydd yn Stryd Llyn pan ei di i G'narfon. Ac yna, os bydd arnat eisia pladur newydd at y cynheua gwair—os byddi di wedi dysgu allan y pymtheg penod cynta yn Ioan— mi ro i y bladur ore sydd geni i ti, os doi di ata i yn ffair Llanllyfni. Gwna, Wil bach, er mwyn dy hen dad a dy hen fam dduwiol. Mae nhw yn y nefoedd, ac os wyt ti am fyn'd atyn nhw, rhaid i ti beidio hel â'r ddiod yma."

Aeth gwas bach y Buarth Mawr adref gyda'r rhaw ar ei ysgwydd, a dagrau yn ei lygaid.

Fel yna y bydde Robat Jones y Go' yn pregethu. Er nad oedd yn cael myn'd i'r seiat bob wythnos, ac er nad oedd yn bregethwr na blaenor, yr oedd yn gwneyd llawer iawn o les yn y cylch yr oedd yn troi. Yr oedd ei bregethau at y pwrpas bob amser—'roedd rhyw fachau ynddynt. Byddai yn hoff dros ben o blant, a hoff waith y gof oedd gwrando arnynt yn dyweyd eu hadnodau cyn myn'd i'r seiat. Yr oedd yn holwr plant heb ei fath yn yr ardal, a dyna yr unig swydd a gafodd erioed yn yr eglwys na'r Ysgol Sabbothol, ac nid diffyg cymhwyster, ond ei fod yn digwydd gwisgo barclod lledr a chrys brith.

Trwy ddiwydrwydd a chynildeb yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel cyn bod yn haner cant oed. Yr oedd wedi prynu ei dy a'r efail. Yr oedd ganddo shares yn llongau William Thomas, a swm go lew yn manc y Maes. Ond pan ar ben haner cant cyfarfyddodd â damwain wrth bedoli merlyn gwyllt yn perthyn i wr Tyddynygwair. Anafwyd ef gymaint fel ag y bu mewn perygl mawr o golli ei fywyd. Dyna yr amser y dechreuodd ei helbulon. Y mae pum' mlynedd o amser er hyny. Ni fu byth yn chwareu tôn â'i forthwyl ar yr engan ar ol hyny. Os gwelir mwg yn esgyn i fyny o