Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

simddau efail y Groesffordd, nid Robat Jones sydd yn chwythu y tân. Y mae ef yn gorwedd byth, ac y mae wedi cael digon o seibiant i weled "dull y byd hwn," a beth sydd mewn crefydd a'r rhai sydd yn ei phroffesu. Y mae wedi darllen llawer ar ddameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron, ac yn deall yn lled dda ystyr y geiriau Lefiad a Samariad.

CYMYLAU.

Y diwrnod y ciciwyd Robat Jones gan y ceffyl gwyllt, safai ei wraig a'i blant oddiamgylch y gwely wedi haner d'rysu, ac yn disgwyl bob mynud wel'd llygaid y tad yn agor neu ei wefusau yn symud. Safai dau feddyg medrus o Gaernarfon (dau frawd) wrth ben y gwely.

Ydech chi yn meddwl y daw o trwyddi hi, doctor anwyl?" meddai y fam grynedig a phryderus.

"Yr ydym yn disgwyl yn fawr, Elin Jones. Yr oedd Robat yn ddyn sobor, ac wedi cymeryd gofal o hono ei hunan bob amser, ac y mae hyny yn ei ffafr yrwan. Mi wnawn ni ein goreu, Elin Jones, a gofynwch chwithe i'r Meddyg Mawr ddyfod yma i'n helpu ni. Yr ydech chi ag Yntau yn gryn ffrindie er's llawer dydd. Cerwch chwi i gyd i lawr yrwan: mae yn rhaid i ni gael lle reit ddistaw; mae o reit wael, ac yn feverish iawn."

Aeth y teulu i gyd i lawr i'r gegin, lle yr oedd llawer o bobl y capel wedi d'od yn nghyd i gael gwybod sut yr oedd gwr yr efail; ac yn eu plith hen wr duwiol o'r enw Shon Dafydd, fyddai yn arfer eistedd yn nghanol llawr y capel, ac yn weddiwr heb ei fath. Y mynud y gwelodd Elin Jones yr hen wr aeth ato a dywedodd, "Y mae Robat bach yn sâl iawn; ewch chi dipyn i weddi, Shon Dafydd, a gofynwch i'r Iesu o Nazareth ddyfod yma: y Fo ydi y Meddyg Mawr." Aeth yr hen Gristion ar ei liniau, a phawb arall gyda fo, a gweddiodd yn ddwys ac effeithiol. Ymaflodd yn rhaffau yr addewidion nes tynu y nefoedd am ei ben. Ar hyn daeth un o'r meddygon i lawr o'r llofft a dywedodd, Gwell i chwi fyn'd i fyny, Elin Jones: mae o wedi agor ei lygad am fynud, ac mi