Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/139

Gwirwyd y dudalen hon

ddywedodd un gair, a hwnw oedd 'Elin.' "Diolch byth," meddai hithau, a "diolch byth" meddai pawb arall. Pan aeth Elin Jones at wely ei gwr, edrychodd arni, a dywedodd, "Elin bach," ac yna cauodd ei lygaid, a dyna oedd y geiriau olaf a ddywedodd am lawer o wythnosau. Amser blin a phryderus fu hi ar deulu y gof tra y bu ef yn hongian rhwng byw a marw. Cymaint oedd trallod y wraig druan fel nas gallai roddi ei meddwl ar ddim arall ond ar ei gwr. Nid oedd yr un o'r bechgyn yn ddigon hen i fyn'd i'r efail, ac nid oedd yr un o'r prentisiaid wedi cael digon o brofiad i gymeryd y gofal. Nid oedd Elin Jones chwaith yn dymuno cyflogi gweithiwr profiadol heb ymgynghori â'i gwr: felly 'doedd dim i'w wneyd ond cau yr efail. Peth chwith iawn oedd gwel'd Efail y Groesffordd heb fŵg yn esgyn i fyny o'r simddai, ac yr oedd plant yr ysgol bron a thori eu calonau wrth basio y lle; yr oeddynt wedi colli tân yr efail a gwyneb rhadlon a geiriau siriol eu hen gyfaill. Diwrnod i'w gofio yn nhý y gof oedd pan yr agorodd ei lygaid gyntaf ar ol i glefyd y 'menydd ei adael, ac y dechreuodd siarad tipyn. Pan glywodd plant yr ardal y newydd yr oeddynt yn falch dros ben. Yr oedd gan un gylch wedi tori, ac un arall eisieu hoelen i roi yn mlaen ei dop, ac amryw o fân jobsus yn disgwyl. Byddai Robat Jones yn gwneyd llawer o gymwynasau bychain i blant yr ardal. Yr oedd ganddo lawer iawn o gwsmeriaid bychain y thankee jobs. Pan aeth y gair allan fod Robat Jones yn debyg o fendio, ac y byddai yr efail yn agor cyn hir, yr oedd llawenydd mawr yn mhlith gweision y ffarmwrs trwy'r ardal, ac yr oeddynt yn dechreu hel pethau at eu gilydd i fyn'd a nhw i'r efail. Colled fawr iddynt hwy oedd colli ymgom ddifyr y gof. Yr oedd yn dda iawn hefyd gan wr Tyddynygwair glywed, oblegid gaseg ef oedd wedi anafu Robat, druan. A chwareu teg i'r ffarmwr tyner-galon, yr oedd llawer basgedaid o wyau, cywion ieir, a phwysi o fenyn yn cyrhaedd ty y gof er pan oedd yn gorwedd. Ac os oedd llawenydd yn mhlith cyfeillion,