Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

lle ddydd ei gladdedigaeth yn mynwent Llangower, ar lan Llyn Tegid. Yn y flwyddyn 1848 yr oedd hyn, ac ni raid i mi ddweyd nad oedd Deddf Gladdu Osborne Morgan wedi ei phasio, ac felly nid oedd rhyddid i weinidog Ymneillduol gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Fodd bynag, er na chai Dr. Lewis Edwards halogi awyrgylch mynwent Llangower â'i lais, yr oedd y Duweinydd enwog yn ddigon gwrol, ac yn Ymneillduwr digon pybyr, i ufuddhau i gais taer fy nhad a darllen rhan o'r Beibl, a gweddio oddiallan i'r "tir cysegredig a sanctaidd." Yr oedd yr hen Reithor Jones yn hen wr caredig a rhyddfrydig ei feddwl, ond yr oedd yntau "dan awdurdod," ac yr oedd yn `rhaid iddo ufuddhau i'r cyfreithiau Eglwysig, neu yr ydwyf yn sicr na fuasai gan yr hen foneddwr ddim gwrthwynebiad o gwbl i Lewis Edwards, Athraw y Coleg Methodus, i gael darllen y gwasanaeth, ac i bregethu hefyd o ran hyny. Pe buasai hyny wedi cymeryd lle buasai muriau hen Eglwys Llangower y pryd hyny wedi cael haner awr o Dduwinyddiaeth na chafodd "gynt na chwedyn;" pob parch i'r gwyr da a fu neu y sydd yn llanw y pwlpud.

Ar ol marwolaeth Llewelyn, cynygiodd fy nhad wobr i aelodau Cymdeithas Lenyddol y Bala o "gadach poced" Indian Silk am y beddargraph goreu i'r bychan oedd yn gorwedd is yr hen "ywen ddu ganghenog" yn mynwent Llangower. Y mae yna ddynion yn y Bala heddyw yn cofio yn dda yr hen Gymdeithas Lenyddol a gynhelid yn llofft yr hen Goleg, yr hen Gymdeithas Lenyddol a ddechreuwyd o dan y pren gwyrddlas yn nghae y Rhiwlas, ac wedi hyny mewn cut mochyn ac ystabl, fel y bu rhyw ysgrifenydd yn ceisio rhoi yr hanes dro yn ol yn Cymru Owen M. Edwards. Wel, fe gynhaliwyd cyfarfod arbenig noson gwobr y "cadach poced." Yr oedd ugain o feirdd y Bala wedi gyru eu cyfansoddiadau i'r gystadleuaeth (ugain sylwch, a'r dyn fu yn ysgrifenu hanes y Gymdeithas Lenyddol yn Cymru wedi dweyd nad oedd yno ddim ond un neu ddau o feirdd yn y Bala, ffei o hono). Do, fe ymgeisiodd ugain