Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/140

Gwirwyd y dudalen hon

gellwch feddwl bod llawenydd llawer mwy yn y teulu oedd yn ei garu mor fawr. Ond och! byr iawn fu y llawenydd pan ddywedodd y doctor y gallai Robat Jones ddyfod i sgwrsio ac i fwyta ac yfed, ond yr oedd yn gwestiwn a fedrai byth godi o'r gwely. Yr oedd y meddyg yn lled agos i'w le, oblegid gorwedd y mae y gof er's pum' mlynedd, ac y mae wedi myned trwy lawer iawn o helbulon.

Fel y dywedais yn y benod gyntaf, yr oedd Robat Jones wedi hel ceiniog lled ddel, ac yr oedd ganddo swm lled dda wrth ei gefn yn Manc y Maes, ac mewn lleoedd ereill; ond druan o hono, tra y mae y fraich gref a gurai gyda nerth ar yr engan wedi bod yn gorwedd yn farw wrth ei ochr yn y gwely er's pum' mlynedd, y mae y tipyn pres wedi diflanu. Mae'r efail a'r busnes wedi eu gwerthu er's llawer dydd i wr diarth o ardal arall; ac y mae dau fachgen hynaf Robat Jones yn brentisiaid yn hen efail eu tad.

Yr oedd amgylchiadau wedi myn'd a'r ysgrifenydd i fyw i ardal gryn bellder oddiwrth fy hen gyfaill o'r Groesffordd, ac yr oeddwn heb ei weled er's yn agos i flwyddyn. Fodd bynag, diwrnod Diolchgarwch diweddaf penderfynais fyn'd i dalu ymweliad â Robat Jones. Yr oeddwn yn teimlo ei bod yn llawn cymaint o grefydd i mi fyn'd i ymweled â'm hen gyfaill ag ydoedd myn'd i'r capel dair gwaith. Pan y bydd y Barnwr Mawr yn eistedd ar y cwmwl, y dydd diweddaf, ni ddywed, "Yr oedd cyfarfod diolchgarwch yn nghapel----," ond dywed wrth lawer, "Bu'm glaf, ond ni ddaethoch i ymweled â mi." Felly, yn fore ddydd Llun cychwynais gyda'r tren, ac yr oeddwn wedi synu yn ddirfawr gweled cynifer yn teithio gyda'r trens. Yr. oedd ugeiniau o fechgyn a merched o'r shiope, o'r chwarelau, ac o'r ffermydd i'w gweled yn ddigon penrhyddion a gwamal, yn cymeryd mantais ar y dydd gwyl i fyned i ymblesera yn lle myn'd i'r capel i ddiolch am eu "bara beunyddiol." Clywais yn Stesion Caernarfon fod canoedd wedi myn'd efo'r excursion i Fanchester.