Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/141

Gwirwyd y dudalen hon

O ran fy hunan, nid oes genyf fawr o feddwl o'r cheap trips yma. Mae pobl yn cael eu denu i fyned i ffwrdd i wario eu pres yn lle talu eu dyledion yn y shiope, ac yn prynu pethau yn Lerpwl a Manchester, ac yn aml yn rhoddi mwy am danynt nag a fydde yn rhaid iddynt. Heblaw hyny, mae fod hogia a hogenod ieuainc yn teithio mewn cerbydau heb oleuni ynddynt ar hyd y nos yn beth ag y dylid sefyll yn gryf yn ei erbyn. Dyna chwi, bregethwyr a blaenoriaid, bwnc teilwng o ymdriniaeth arno yn eich cyfarfodydd. Ond dyma fi wedi myn'd oddiwrth fy nhestyn; ond nid y fi ydyw y cyntaf i grwydro oddiwrth y pwnc (rhyw dipyn rhwng cromfachau, fel y bydd yr areithwyr mawr yn dyweyd). Erbyn cyrhaedd ty Robat Jones yr oedd pawb wedi myn'd i'r capel ond y wraig. Y mae pum' mlynedd o bryder a helbulon wedi gwneyd eu hol ar Elin Jones. Y mae golwg ddigon llwydaidd arni, eto, trwy'r cwbl, yr ydym yn ei chael yn siriol; ac y mae yn hawdd gwybod ei bod yn cael cysur o rywle heblaw oddiwrth bethau y byd yma. Yn wir, y peth cyntaf a welwn ar y ford gron ar ol myned i fewn oedd hen Feibl Peter Williams yn agored. Hwn oedd Hen Feibl mawr ei mam." Yr oedd llawer o ôl bodio, ac yn wir ôl dagrau, arno. Yr oedd y Beibl yn agored ar lyfr Job, a'r benod olaf. Mi fyddwch yn cael cryn dipyn o gysur yn yr Hen Lyfr, Elin Jones," meddwn wrthi.

'O byddaf yn wir; dyma y lle y byddaf yn troi bob amser pan y bydd yn gyfyng arnom. Yn hwn y byddaf yn cael hanes am y cyfaill a lŷn yn well na brawd.' Pan y bydd hi yn dywyll iawn arnom—fel y bydd hi yn aml iawn—byddaf yn cael llawer o gysur yn yr Hen Feibl yma ac yn hymns Ann Griffiths. Wn i ddim be' nawn i hebddyn nhw. Yr ydan ni wedi ei chael i yn arw iawn er's pum' mlynedd; ond wyddoch chi be', yr ydw i yn meddwl fod Robat yn troi ar fendio. Fella nad oes neb arall yn sylwi; ond y fi sydd efo fo o hyd. 'Rwy'n dechra meddwl y caiff o fendio eto, ac wed'yn bydd pobpeth yn iawn. Mi gawn i yr hen efail