'Steddfod; yr oedd ef y pryd hyny yn agos i driugain oed, ac y mae heddyw yn fyw, iach, a heini. Yr oedd yno hefyd Alltud Eifion, yn gweu ei benillion fel y bydd Eifionydd yr oes oleuedig hon. Un arall sydd yn fyw ag a gymerodd ran bwysig yn Eisteddfod 1858 ydyw fy hen gyfaill anwyl Llew Llwyfo, ac fe ddymunwn o'm calon gael ysgwyd palf "yr hen Lew am unwaith eto. Yr oedd yno hefyd Eos Llechid, mae yntau yn fyw, ac yn cadw mewn hwyliau Eisteddfodawl. Yno y clywais Llew yn canu "Morfa Rhuddlan" yn hwyliog dros ben. Carwn ei glywed eto. Dyma yr Eisteddfod gyntaf i Edith Wynne ganu ynddi; ac fe ddywedodd y Llew yr amser hono y byddai y gantores ieuanc yn anrhydedd i Gymru rhyw ddydd, ac felly y bu.
Yn mhlith y rhai a hunasant oeddynt bresenol yn Eisteddfod Llangollen, cawn enwau Caer Ingil, Ab Ithel, Cynddelw, Glasynys, Ceiriog, Taliesyn o Eifion, Idris Vychan, Pererin, Cadifor, Eos Iâl, a'r Estyn yn fywiog fel y gôg. O, ie, ac Owain Alaw yn gwefreiddio y bobl efo'r berdoneg, ac yn canu "Mae Robin yn swil," a darnau ereill. Mae llu ereill wedi myned yr ochr draw, nas gallaf eu cofio ar ol cynifer o flynyddoedd.
CADEIRIO'R BARDD.
Wel, o bob peth, dyma oedd yr atdyniad mwyaf i mi i'r Eisteddfod, ac felly y mae i mi hyd y dydd heddyw, ac felly y bydd yn Eisteddfod Caernarfon eleni, pob parch i'r Tywysog a'i hoff briod. Anghofia i byth mo'r olygfa, am mai dyma y tro cyntaf i mi weled dim o'r fath. Ar ol i'r beirdd gymeryd eu lle ar alwad Corn Gwlad o amgylch ogylch y Gadair, dyma Ab Ithel yn darllen beirniadaeth Hiraethog, Nicander, a Chaledfryn ar destyn y Gadair, sef "Maes Bosworth." Nid oedd y beirniaid yn cytuno. Pryd y gwelsoch chwi hwy yn gwneyd hyny yn gydwybodol? Mynai dau mai "Rhys Penarth" oedd y goreu, tra y daliai y llall mai arall oedd y goreu. Felly, "Rhys Penarth" a orfu. Da i mi mai llencyn talgryf oeddwn, yn mesur