Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

o blant y Bala am y "cadach poced sidan." Dr. Lewis Edwards oedd y beirniad, ac yn y fan hon rhoddaf ei feirniadaeth. Yr wyf yn ei chodi o'i lawysgrif ei hunan; mae'r tipyn papyr yn gysegredig yn ein teulu, a dyma eiriau fy hen fam anwyl wrth ei anfon i mi y dydd o'r blaen: "Cofia gymeryd gofal o hono to, 'machgen i. Yr ydwyf wedi ei gadw yn ofalus er's chwe blynedd a deugain."

"BEIRNIADAETH Y PENILLION A'R ENGLYNION."

"Heblaw prydferthwch iaith a meddylrych, dylai penill neu englyn coffadwriaethol gynwys cymaint ar a ellir o gyfeiriad at amgylchiadau neillduol yn hanes y gwrthrych. Ac y mae yn ymddangos hefyd y dylai arwain meddwl y darllenydd at athrawiaeth yr Adgyfodiad, neu o leiaf at hanfodiad yr enaid mewn byd arall. Nid yw cyfeiriadau o'r fath yma yn ddigon ynddynt eu hunain; ond os bydd pob teilyngdod arall yn gyfartal y maent yn fwy na digon i droi y fantol.

"Ar farwolaeth Llewellyn Jones, derbyniwyd Penillion gan Sala, Dafydd, Gwerfil las, Priddellwr, Multum in parvo, Aderyn y corph, Ehedwr, a Llywarch yr ail; ac englynion gan Cyfaill, Galarwr, Crwydryn, Guto Gôf, Lwyd, Galarwr, Llywarch, Cymro Cochddu, Dafydd, Diawen, Beuno, Anwgan, a Cyffredin Dirodres. Yn y dosbarth uwchaf gellir rhestru Multum in Parvo, Aderyn y Corph, Ehedwr, Galarwr, Llywarch, Diawen, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail.

"Y mae englyn Cymro Cochddu yn gyfansoddiad campus; ond nid yw yn cyfeirio at hyder y Cristion. Nid oes ynddo un syniad nas gallasai ddyfod oddiwrth un o'r hen feirdd Paganaidd. Englyn da yw eiddo Dafydd o ran meddylrych, ond y mae pob llinell yn llawn o feiau yn erbyn rheolau cynghanedd. Y tri goreu o'r cwbl ydyw Llywarch, Cyffredin Dirodres, a Llywarch yr ail, ac y mae yn ymddangos i mi mai y goreu o'r tri ydyw Llywarch yr ail. Y mae ei benill yn ddadganiad syml o'r amgylchiad ac o'r teimladau a gynyrchid ganddo yn meddwl y tad a'r fam alarus. Yn ei grybwylliad am y fam y mae yn symud y tu hwynt i bob un o'r lleill. Y mae y symudiad disymwth hefyd yn niwedd y drydedd llinell o'r penill yn dra phrydferth. Ond dylasai fod llinell fer rhwng y gair 'sydyn' a'r geiriau tawn a son' i arwyddo cyfnewidiad mater fel y canlyn, —

'O dy ei dad cychwynai i'r Gilrhos yn dra llon;
Cusanai 'i fam gan feddwl dod eto 'n ol at hon;
Ond gerwin oedd ei golli mor sydyn—tawn a son;
Uwch poen mae'r bach penfelyn yn awr yn mynwes Ion.'
"Os nad wyf yn camsynied, hwn sydd yn haeddu y wobr.

L. EDWARDS."