Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/150

Gwirwyd y dudalen hon

treulio llawer o "Oriau Hwyr" gyda Cheiriog, ac "Oriau Eraill" o ran hyny; ac os na ddarfu i chwi, gwnewch yn ddioed. 'Does dim llyfrwerthydd yn eich hardaloedd nad allant eich helpu i wneyd hyny. Ni raid dyweyd wrth ddarllenwyr craff a darllengar yr ADGOFION hyn mai arwr ac arwres rhiangerdd Ceiriog ydyw Hywel a Myfanwy, a bod dwy galon ar y Beithinen a "Myfanwy yn nghanol un galon, a Hywel yn nghanol y llall." Do, fe glywodd pob Cymro trwy'r byd am Ceiriog anwyl. Glasynys oedd "Myfenydd," ac nid rhaid dyweyd fod ei riangerdd yntau yn dda.

SEIAT Y BEIRDD.

Yr oeddwn yn methu yn lân a dyfalu yn mha le y cynhelid "Seiat y Beirdd." "Yn y capel Methodist, yn siwr i chwi, chwi," meddai gwraig y ty login, "achos dyna fydda nhw yn ddeyd. 'Cwrdd' ddywedwn ni, y Sentars; ac y mae gwraig y ty nesa' yma yn perthyn i'r Wesle', ac i'r class y bydd hi yn myn'd. Wn i ar wyneb y ddaear be ddywed y Batus, rhyw gyfrinach grefyddol' ne rwbeth fyddan nhw yn ddeyd." Ond i wneyd yn sicr, aethum at rhyw ddyn weles i ar hen Bont Llangollen, un o saith ryfeddodau Cymru, wyddoch chi. Mi nes yn siwr mai Methodis oedd o; yr oedd yn dal ei ben yn gam, ac yn edrych yn athrist. Ond Annibynwr oedd o; a'r achos ei fod o yn edrych mor athrist oedd am ei fod o wedi treio gwneyd englyn i "Gastell Dinas Bran," ac wedi ei gyru hi i'r gystadleuaeth, a rhywle tua'r "hen ganfed" oedd o ar restr yr ymgeiswyr, a rhyw swnian canu yr Hen Ganfed yr oedd o pan aethum ato. Fodd bynag, bu mor garedig a dyweyd wrthyf mai yn "Mhabell y Cyfarfod" y cynhelid "Seiat y Beirdd," am saith o'r gloch (fel pob "seiat" arall). Ar ol i mi ro'i coler lân a gofalu nad oedd un blewyn yn troi ar i fyny ar fy nhalcen, ymaith a fi i'r "seiat," gan ddisgwyl cael gwledd grefyddol. Yr oedd cynulleidfa lled gryno wedi dyfod yn nghyd, ond dim llawn cymaint a'r "Seiat Fawr"