Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/151

Gwirwyd y dudalen hon

yn Hengler's Circus, Sasiwn y Sulgwyn. Pan darodd cloc yr Eisteddfod saith, cododd un o'r gweinidogion i roddi y mater i lawr, heb ganu, darllen, na gweddio, yr hyn a'm synodd yn fawr. Y mater ydoedd y priodoldeb o gael gan y frawdoliaeth i ddefnyddio y llythyren "v" yn lle "f," ac "f" yn lle "ff," rhag gwastraffu llythyrenau y wyddor a rhoddi trafferth diangenrhaid i'r argraphwyr. Y mae Eisteddfodwyr bob amser yn hynod o ofalus rhag rhoddi trafferth i'r argraphwyr !!!

Y mater arall oedd y priodoldeb o gael gair i sefyll dros y neuter gender. Wydde neb beth oedd y gair Cymraeg, Peth hyll iawn, meddai un o frodyr y seiat, ydi deyd y "fo" am fwrdd, a "hi" am gadair, neu y "fo" am y pocar, a "hi" am yr efail; y "fo" am bren, a "hi" am gareg. Cafwyd tair awr o ymdrafodaeth anmhwyllog, a methwyd a dyfod i benderfyniad, a therfynwyd y cyfarfod—nid trwy weddi —ond trwy—wel, tawn a son. Y mae dyddiau "Seiadau y Beirdd," fel dyddiau llawer o bethau ereill mewn cysylltiad â'r Eisteddfod, yn mhlith y pethau a fu, a heddwch i'w llwch.

TROI ADRE.'

Arhosais yn Eisteddfod Llangollen o'i dechre i'w diwedd, a bore ddydd Sadwrn gwnes fy mhac i fyny—'doedd hwnw fawr,—telais fy mil, a 'doedd hwnw fawr chwaith. Yr oeddwn wedi myn'd a thorth haidd, bara ceirch, darn o gosyn bychan mewn waled, a phwys o fenyn fresh a llun dafad arno,—dyna oedd ein preint ni. Wel, yn nghadach poced sidan fy nhad yr oedd rhywbeth arall, a be ddyliech chi oedd hwnw? O! yr hen fam anwyl oedd wedi rhoddi fy Meibl bach yno, rhag ofn i mi fyn'd i fy ngwely heb ddarllen penod fel y byddwn yn gwneyd bob amser gartref, ac ydw i byth wedi stopio gwneyd, a stopiai byth tra y medr yr hen lygaid yma wel'd, a phan y bydda nhw wedi pylu mae un o'r hogia yma yn ddigon parod i wneyd hyny drosta i. 'Doedd fy arian fawr lai, a dim mwy, oblegid ni