Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/152

Gwirwyd y dudalen hon

enillais wobr o gwbl. Lle prysur oedd hi y bore hwnw yn Llangollen—pawb yn troi adre' mewn cerbydau, ar feirch, ac ar eu traed. 'Doedd dim stesion yn nes na Rhiwabon. Cefais ddigon o amser i feddwl ac i synfyfyrio ar y ffordd adref. Yr oeddwn yn teimlo yn falch o gael fy hunan mewn unigedd wrth droedio y Berwyn ar y ffordd adref. Yr oedd brefiadau y defaid, "pi-witiad" ansoniarus y cornchwiglod yn llawn mwy swynol i mi na dwndwr y seindyrf pres, a thawelwch unigedd y Berwyn yn fwy hudolus i mi na thrwst yr Eisteddfod Genedlaethol. Paham? Wel, am fy mod yn nesau at fy mro enedigol, ac yn cael anadlu awyr iach y bryniau.

Fel y nesawn at fy nghartref codais fy llygaid a gwelwn fy mam yn sefyll wrth lidiart y mynydd yn disgwyl am danaf; gwelodd hithau finau a chychwynodd i'm cyfarfod. Ond yr hen gi defaid oedd y cyntaf i'm croesawu: yr oedd ef wedi llamu dros y llidiart, ac yn dipyn ieuengach na'r hen fam, ac yn llawer mwy chwim ei droed. Rhoddodd mam ei breichiau am fy ngwddf a dywedai, "Benjamin anwyl, chysgais i yr un wincied er's pan es ti i ffwrdd; wyt ti yn siwr dy fod di wedi bod yn 'Seiat y Beirdd,' machgen i?"

Gyda hyn dyma fy nhad yn dyfod atom: yr oedd wedi clywed cyfarthiad croesawol y ci defaid.

"Ge'st ti wobr, Benjamin?" gofynai fy nhad.

"Ddo'st ti a chader, neu goron, neu dlws arian adre', ne rwbeth? Ddaru ti yfed llawer o gwrw Llangollen?"

Naddo, 'nhad, dim un dyferyn, a 'does gen i na chader na thlws, na choron chwaith.

"Hidia ddim, 'machgen anwyl i," gwaeddai fy mam; "hidia ddim yn eu cadeiriau, eu tlysau aur, na'u coron; wyt ti ddim wedi yfed cwrw, ac yr wyt ti wedi bod yn 'Seiat y Beirdd.' Bendigedig, a diolch byth, yr wyt ti wedi dwad adre' a dy goron ar dy ben. Tyr'd i'r ty, Benja bach, mae'r uwd yn barod yn y crochan, a llon'd powlen o lefrith newydd ei odro ar y bwrdd yn disgwyl am danat."