Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/153

Gwirwyd y dudalen hon

SASIWN Y PLANT.

SEFYDLIAD pwysig yn ardal Penllyn, Sir Feirionydd oedd y Sasiwn Plant a gynhelid yn y Bala. Yr ydwyf bron yn sicr mai y gyntaf i mi gofio oedd yr hon a gynhaliwyd yn y flwyddyn 1848, ac y mae er yr adeg hono chwe' mlynedd a deugain. Ychydig ydyw nifer heddyw y rhai oeddynt yn eistedd ar lawr yr hen gapel yn gwrandaw ar, ac yn ateb holiadau yr hen Robert Owen, Nefyn. Yr oedd lluoedd o blant wedi dyfod i'r dref mewn gwageni, fel y mae pobl Llandderfel, Parc, a Chefnddwysarn yn dyfod a'r plant yn awr. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd yn niwedd mis Mai, ac fel yr oedd y plant yn dyfod o Lanuwchllyn un ochr i'r llyn, a phlant y Glyn yn dyfod yr ochr arall trwy Langower, yr oedd eu lleisiau swynol wrth ganu yn ymgymysgu â pheroriaeth y corau asgellog yn nghoedwigoedd Glanllyn a Brynhynod. Un o hoff gerddi y plant yr adeg hono oedd,—

"Afonig fechan fywiog fâd
Pa le 'r äi di?
Af adref, adref at fy nhad
Môr, môr i mi."

Clywai plant y Glyn leisiau plant Moelgarnedd, a chlywai plant Uwchllyn leisiau plant Glyngower, oblegid mae Môr y Bala yn nodedig am ei allu i gario lleisiau ar ei wyneb llyfn. Ydw i ddim yn siwr iawn na fyddai yn bosibl i ddyn yn sefyll ar y Bryniau Goleu, glywed llais dyn arall yn gwaeddi oddiar ffriddoedd Fron Feuno. Rywbeth yn debyg i Ebal a Gerazim, gyda'r unig wahaniaeth na fyddai dim melldithion yn cael eu cyhoeddi mewn ardal ag sydd wedi cael cymaint o fanteision crefyddol ag ardal y Bala.