Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/160

Gwirwyd y dudalen hon

y Llyn. Pan oedd wrthi yn bargeinio, pwy ddaeth i fewn ond Morgan Jenkins i brynu bacha' 'sgota. Ni fu ddim sgwrs rhwng y ddau, bid siwr. Ar ol i Benja fyn'd allan sylwodd Jenkins wrth y siopwr, "Bachgen drwg ydi hwna; 'does arno fo ddim eisio y rhwyd yna i ddim daioni; ond i botchio, mi wna lw." "Waeth gen i prun," meddai'r siopwr, "ydi hyny ddim i mi: gwerthu sydd arna i eisio." Ar ol gorphen ei neges cychwynodd Benja tua chartref, yn llwythog gan barseli. Yr oedd erbyn hyn yn llwyd—dywyll. 'Doedd dim son am drên Llanberis y pryd hyny; felly 'doedd dim ond y "cerbyd deudroed" i gyrhaedd adref. Fel yr oedd Morgan Jenkins yn myned adref yn lled fuan ar ol Benja, yntau hefyd ar ei ddeudroed, tarodd ei droed wrth rywbeth. Ar ol ei godi, gwelodd mai parsel papyr llwyd oedd: agorodd ef, a gwelodd mewn mynud mai rhwyd Benja Tomos oedd. Fel y daeth y diafol i galon Judas Iscariot, felly y daeth i galon Morgan Jenkins, "All right", Benja bach," meddai, "mi gei di dalu am roddi y glustan hono i mi." Y nos Lun ganlynol, pan yr oedd teulu y bwthyn yn y cyfarfod gweddi, cychwynodd Jenkins tua'r fan. Yr oedd ganddo barsel o dan ei fraich; ac aeth yn syth i gae ei elyn, a gosododd rywbeth ar lawr, ac a aeth adref, heb neb ei weled—yr oedd yn noson mor dywyll. Tua naw o'r gloch aeth i dy tafarn cyfagos, lle y gwyddai y byddai plisman yr ardal yn myn'd bob nos tua'r adeg hono i ofalu am gadwraeth cyfraith y tir a heddwch y fro, ac i gael glasiad bach yr un amser. Nid oedd plismyn yn ditotals yr amser hono fel y maent yn awr. Llawer tropyn bach oedd Jenkins wedi ei gael gyda Philip y plisman. Yr oeddynt yn gryn ffrindia; yr oedd un yn dyfod o Sir Benfro a'r llall o Sir Aberteifi. Ar ol cael dau lasiad bob un yn y "Rwbel Arms," aeth y ddau gyfaill tuag adref; ac ar y ffordd dyma Jenkins yn deyd "Yma chi, offisar (bydd plisman bob amser yn hoffi cael ei alw yn offisar), wn i am job reit dda i chi, sydd yn sicr o arwain i bromotion." "Thanciw mawr,