Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/161

Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Jenkins; fydda yn dda iawn gen i gael myn'd o'r fangre yma: mae nhw gymaint o grefyddwrs a thitotlars: 'does dim chance am job; ac os na chewch chi job, chewch chi ddim promotion. Dowch i mi glywed, syr yr ydw i yn glust i gyd." "Wel, Mr. Philip, yr ydach chi yn nabod Benja y Bwthyn Gwyn, ond ydach chi? Wel, roeddwn i mewn shop yn Stryd y Llyn, yn y dre, nos Sadwrn, a phwy oedd yno ond y fo; a be ydach chi'n feddwl oedd o yn brynu?" 'Fedra i ddim dychmygu, Mr. Jenkins." "Wel, rhwyd fel fydd genyn nhw yn dal adar. Ac yr ydach chi yn gwybod, offisar, y bydd pheasants yn myn'd yn aml iawn i gae y Bwthyn Gwyn." "Thanciw, Mr. Jenkins bach; mi fydda i ar watch y gwalch drwg; chaiff ddim noson basio; mae yn dda gen i, syr, gael cymdeithasu â boneddwr o'r De, yn lle efo hen snêcs y North yma. Byddaf yn nghae y Bwthyn Gwyn ‘cyn codi cŵn Caer,' a'r cipar efo fi.”

O FLAEN Y 'STUSIAID.

Yn foreu dranoeth, a hi eto yn dywyll, yr oedd offisar Philip a'r cipar yn nghae y Bwthyn Gwyn, a'r peth cyntaf a welsant oedd rhwyd ac ynddi pheasant. Yr oedd hyn yn fêl ar fysedd y plisman a'r cipar. Pan aeth y ddau at y ty, yr oedd ddau at y ty, yr oedd y tad a'r mab wedi cychwyn i'r chwarel, a Betsan Tomos wrthi yn corddi. Pan ddywedodd y neges wrthi bu agos iddi syrthio i lewyg; ac ofer oedd dyweyd mai celwydd oedd. Pan ddaeth Benja yn ol o'r chwarel gyda'r nos yr oedd y plisman yno yn ei ddisgwyl. Yr oedd o wedi bod yn y dre, a chael summons iddo dd'od o flaen yr ustusiaid ddydd Sadwrn. Yr oedd y llys yn llawn o gyfeillion Benja, ac nid oedd neb yn coelio ei fod yn euog. Yr oedd Morgan Jenkins hefyd yno yn profi ei fod wedi gweled Benja yn prynu y rhwyd oedd gerbron y llys, a'r siopwr yno yn erbyn ei ewyllys i brofi ei fod wedi gwerthu rhwyd i'r carcharor; a hefyd yr offisar a'r cipar yno i brofi eu bod wedi cael y rhwyd a