Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/162

Gwirwyd y dudalen hon

pheasant ynddi yn nghae y Bwthyn Gwyn. Wrth gwrs, ni fuasai y Twrna Cyffredinol ddim yn gallu gwrthbrofi tystiolaeth mor eglur; a chafodd Benja, druan, ei ffeinio i dair punt a'r costau-y cwbl yn bum' punt a saith a chwech.

MYN'D I AWSTRALIA.

Wrth gwrs, nis gallai Benja godi ei ben ar ol hyn. Er fod y rhai oedd yn ei adnabod oreu yn credu ei fod yn ddieuog, eto yr oedd pob peth yn glir yn ei erbyn. Trowyd ef o'r chwarel a throwyd ef hefyd o'r seiat. Rhyw noson oleu, toc wedi'r Pasg, gwelid dau yn rhodio yn araf i fyny y ffordd yn ymyl lle y saif yn awr orsaf Pontrhythallt. Safasant fynud o dan yr hen dwmpath drain. Susi bach," meddai'r bachgen, "ydach chi yn credu mod i yn ddieuog? Atebodd hithau trwy godi ei gwyneb ato, a rhoddi cusan ar ei foch. Wel, fy nghariad bach, gan eich bod chi a nhad a mam yn coelio hyny yr ydw i yn ddigon hapus. Ffarwel, Susi anwyl; byddwch yn driw i mi pan fydda i yr ochr arall i'r byd." Yr oedd Benja wedi penderfynu myn'd i wlad yr aur i Awstralia. Noson hir-gofiadwy oedd y noson cyn i Benja gychwyn. Yr oedd teulu Congl y Lon wedi dyfod yno i gael swper. Ar ol bwyta cafwyd dyledswydd. Yr oedd tad Benja yn gweddio yn daer am i Ragluniaeth daenu ei haden dros ei anwyl fachgen. Erfyniai tad Susan am i ddieuogrwydd Benja gael ei amlygu rhyw ddydd. Aeth Benja i ddanfon Susi adre'; a gweddus yw tynu y llen ar gysegredigrwydd y ffarwelio. Hebryngwyd Benja gan ei dad a chyfaill caredig i Bont y Borth, lle y cafodd long i Lerpwl, ac oddiyno hwyliodd i Awstralia. Tra gwahanol oedd myned o Lerpwl i Awstralia y dyddiau hyny. Cafodd ein harwr fordaith hir a blin, a bu yn agos i bedwar mis cyn cyrhaedd Melbourne. Ymunodd Benja â gang oeddynt a'u gwynebau i'r un cyfeiriad ag yntau, sef y mwngloddiau aur. Nid ydym am ei ddilyn yno. Digon yw dyweyd ei fod, ar ol llawer