Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/163

Gwirwyd y dudalen hon

siomedigaeth a llafur caled, yn mhen y saith mlynedd, wedi enill digon o arian i droi yn ol i'r hen wlad.

YR HEN DEULU GARTREF.

Yr oedd yn agos i ddwy flynedd cyn i William a Betsan Tomos glywed un gair oddiwrth Benja. Yr oedd y llythyr cyntaf a ysgrifenodd adref wedi colli ar y ffordd. Pan ddaeth llythyr oddiwrtho o'r diwedd, yr oedd nodyn bychan ynddo i Susan, yn adgoffa iddi gytundeb Pontrhythallt. Cadwcdd yr hogan y nodyn yn ei mynwes am flynyddoedd. Aeth i weini at deulu parchus yn y dref, a bu yno am flynyddau. Y mae ei hen feistres yn fyw eto, ac y mae ganddi air da i Susan byth. Daeth profedigaeth chwerw i gyfarfod teulu Cornel y Lon ryw flwyddyn wedi i Benja fyn'd i Awstralia. Syrthiodd darn o graig ar Dafydd Morus, a lladdwyd ef yn y fan; a gwelwyd gorymdaith bruddaidd yn myned tua chyfeiriad Cornel y Lon. Pa sawl gwaith y bu ein llygaid yn llanw â dagrau wrth edrych ar gyffelyb orymdaith yn Talysarn a Bethesda a manau ereill? Yr oedd cyfaill wedi myned i dori y newydd i Elin Morus, a gwraig i un o'r blaenoriaid wedi myned i Gaernarfon i 'nol Susan, druan. Ni fu y fath gynhebrwng er's llawer blwyddyn a phan y claddwyd Dafydd Morus. Yr oedd Elin wedi bod yn gynil iawn, ac wedi cadw tipyn o arian yn yr Hen Fanc; a chyda llogau y rhai hyny, gyda thipyn o help gan Susan, yr oedd ganddi ddigon i fyw fel yr oedd arni hi eisieu. Drwg iawn gyda'r crydcymalau oedd Betsan Tomos o hyd; ac o'r diwedd penderfynodd ofyn i'w hen gyfeilles Elin Morus ymadael o Gornel y Lon a myned i'r Bwthyn Gwyn i fyw, ac felly y bu; a buont yn hapus iawn. Tyfodd Susan i fyny yn ferch ieuanc brydweddol a rhinweddol. Elai yn gyson i hen gapel Moriah, ac nid oedd neb yno yn fwy ei pharch na hi yn perthyn i'r eglwys. Yr oedd amryw o'r bechgyn oedd yn y sêt ganu a'u llygaid arni. Yr oedd hithau yn perthyn i'r côr, ac yr oedd ganddi lais fel yr eos. Cafodd gynyg