Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/164

Gwirwyd y dudalen hon

cariad fwy nag unwaith; ond yr oedd nodyn bychan Benja yn mynwes Susan o hyd. Galwodd Morgan Jenkins gyda hi un tro, ac yr oedd un tro yn llawn ddigon yn ol y derbyniad a gafodd.

AR OL SAITH MLYNEDD.

Erbyn hyn yr oedd Benja yn meddwl ei fod wedi hel digon o bentwr i droi tuag adref i briodi Susan ac i wneyd yr hen deulu yn gysurus am eu hoes, Ac ysgrifenodd adref i ddyweyd y byddai yn cychwyn yn ol yn mhen y chwe' mis. Ysgrifenodd drachefn i ddyweyd y byddai yn cychwyn o Melbourne ar ddiwnod penodedig gyda'r llong Royal Charter. Aeth i Melbourne, cymerodd bassage gyda'r llong hono. Yn wirionffol rhoddodd ei holl arian mewn cist fechan, a'i ddillad mewn un arall. Rhoddodd yr address a ganlyn ar y ddau focs:—

Benjamin Thomas,
(Passenger by the Royal Charter),
Bwthyn Gwyn,
Llanddeiniolen,
Carnarvonshire,
N. Wales.

Aeth a'r bocsus ar fwrdd y llong y noson yr oedd yn myned i hwylio yn brydlawn. Cychwynodd y Royal Charter tua haner nos, ac ni chlywyd gair am dani hyd onid aeth yn ddrylliau ar draeth Moelfre.

MYN'D I GYFARFOD BENJA.

Boreu prysur oedd hi yn y Bwthyn Gwyn pan yr oedd William Tomas a Susan yn cychwyn i Lerpwl i gyfarfod Benja. Yr oedd yn rhaid cerdded i Fangor i gyfarfod y trên chwech yn y boreu; ac felly yr oedd yn rhaid cael tamaid yn foreu iawn, a hwylio tamaid i fwyta ar y ffordd. Y peth cyntaf a glywodd William Tomos a Susan wedi cyrhaedd station Bangor oedd fod