Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/165

Gwirwyd y dudalen hon

y Royal Charter wedi myn'd i lawr, a phawb wedi boddi. Nid oes ysgrifell a all ddarlunio teimladau yr hen ŵr a'r ferch ieuanc drallodus. Nid oedd wiw myn'd i Lerpwl; ac O! y troi yn ol heb Benja. Tynwyd y blinds i lawr yn y Bwthyn Gwyn pan gyrhaeddwyd adref. Gwnaf finau yr un modd, a gadawaf y teulu trallodedig yn yr unigedd sydd yn gweddu oreu o dan y fath amgylch— iadau. Mewn rhyw wythnos wed'yn daeth un o focsus Benja i'r lan, a gyrwyd ef yn ddiogel i'r Bwthyn; ond nid y bocs yr oedd yr arian ynddo, mwya'r piti. Galarwyd am Benja fel am un colledig, a rhoddwyd beddfaen fechan o goffadwriaeth iddo. Yr oedd Morgan Jenkins wedi gadael y chwarel a myn'd i'r South er's blynyddau; a phan glywodd am drallodion y Bwthyn Gwyn, a bod Benja wedi colli yn y Royal Charter, ysgrifenodd at yr hen deulu lythyr edifeiriol, a chyfaddefodd mai efe oedd wedi gosod y rhwyd yn y cae, a bod Benja yn ddieuog; a dyna yr olaf a glywsom am y gwalch drwg.

LLYTHYR O MELBOURNE.

Anwyl Dad a Mam,—

Mae yn debyg eich bod chwi eich dau a Susan yn meddwl fy mod i yn ngwaelod y môr; ond ydw i ddim fel y gwelwch, diolch i'r Arglwydd mawr. Fel y gwyddoch, yr oeddwn i wedi cymeryd fy mhas i ddwad adre' gyda'r Royal Charter, ac yr oeddwn i wedi myn'd a'm dau focs ar y bwrdd yn ddigon buan. Wel, rhyw awr cyn cychwyn cofiais fy mod wedi gadael rhyw becyn bychan ar y bwrdd yn y gwesty, ac aethum i'w nol. Fel yr oeddwn yn croesi y stryd daeth cerbyd yn frysiog, a rhedodd drostof, a bu agos iawn i mi gael fy lladd. Yr oedd fy mhen wedi ei anafu gymaint fel yr oeddwn yn berffaith ddideimlad. Aed a fi i'r hospital a bu'm yn gorwedd yno am bedwar mis heb agor fy llygaid. Ar ol dyfod ataf fy hun daeth pob peth i'm cof, Clywais am suddiad y Royal Charter; ac wrth gwrs yr oeddwn yn gwybod fod fy